Beth gewch chi
Bydd y teclyn hwn yn rhoi cynllun gweithredu ymddeol i chi gyda:
- gwybodaeth allweddol i’ch helpu i ddeall eich opsiynau
- camau awgrymedig i wneud y gorau o'ch pensiwn
- offer defnyddiol i amcangyfrif faint o incwm ymddeoliad y gallech fod ei angen arnoch ac a ydych chi ar y trywydd i gyrraedd eich nodau
- ble gallwch gael cymorth a chefnogaeth gyda’ch penderfyniadau.
Ni fyddwch yn gweld eich holl bensiynau na’ch union incwm pensiwn. Fel arfer gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth hon trwy fewngofnodi i gyfrif ar-lein eich darparwr pensiwn neu drwy gysylltu â nhw.
Sut mae’n gweithio
Byddwn yn gofyn am fanylion amdanoch chi a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys:
- y mathau o bensiwn sydd gennych
- pa mor bell o ymddeoliad ydych chi
- os ydych chi’n bwriadu ymddeol y tu allan i’r DU.