Mae dysgu plant am arian pan fyddant yn ifanc yn eu helpu i ddatblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arnynt fel oedolion. Mae ‘Siarad Dysgu Gwneud’ yn adnodd am ddim i gefnogi rhieni a gofalwyr:
- siarad â phlant tair i 11 oed am arian – beth ydyw, o ble mae'n dod a'r gwahaniaeth rhwng dymuniadau ac anghenion
- Helpu plant i ddysgu am arian drwy sgyrsiau a chymryd rhan mewn penderfyniadau am wario a chynilo
- syniadau i wneud gemau a gweithgareddau hwyl gyda phlant – mae annog ymarfer gydag arian yn eu helpu i ddysgu sut i wneud penderfyniadau da pan fyddant yn hŷn.