Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Problemau ariannol
  3. Help gyda chostau byw
Problemau ariannol Help gyda chostau byw

Blaenoriaethwr biliau: cael help gyda’ch biliau

Gall ein Blaenoriaethwr biliau eich helpu i ddeall mwy am eich biliau. Mae’n rhoi arweiniad cyffredinol a’n cynnig gwybodaeth ar beth ddylech chi ei wneud cyn fethu taliad.

Biliau heb eu talu a goleuadau traffig
Dechrau’r teclyn Blaenoriaethwr Biliau
Biliau heb eu talu a goleuadau traffig

Beth os ydw i y tu ôl yn talu fy miliau

Os ydych chi wedi methu talu bil neu daliad neu os ydych chi’n poeni am ddyled, mae’n well gweithredu nawr a chael cymorth cyfrinachol am ddim gan ddefnyddio ein teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion.

Beth yw biliau â blaenoriaeth?

Biliau a thaliadau â blaenoriaeth yw’r rhai a all achosi’r problemau mwyaf difrifol os nad ydych chi'n eu talu. Gall y rhain effeithio ar eich cartref, eich iechyd neu arwain at gamau cyfreithiol.

Dyna pam mae’n bwysig delio â nhw yn gyntaf.

Sut ydw i’n defnyddio’r teclyn Blaenoriaethwr biliau?

  • Cam 1: dewiswch y biliau rydych chi’n poeni amdanynt.
  • Cam 2: gweler rhestr o filiau a sut i gael help.

Dywedwch wrthym beth rydych chi’n poeni amdano

Ydych chi’n ei chael hi’n anodd cadw rheolaeth ar yr holl wahanol daliadau sydd gennych bob mis? Rhowch wybod i ni pa rai rydych chi’n cael trafferth gyda nhw a gallwn ni roi’r help sydd ei angen arnoch cyn i chi fethu taliad.

Dewiswch y biliau rydych chi’n poeni amdanynt

Biliau cartref

Benthyciadau a chredyd

Dyledion ac ad-daliadau

Dirwyon a chosbau

Gweler eich rhestr o filiau a sut i gael help

I gael cymorth penodol ar filiau sy’n berthnasol i chi, dewiswch o’r Blaenoriaethwr Biliau uchod

Dyma eich biliau

Dewiswch y biliau rydych chi’n poeni amdanynt

  • Treth Cyngor neu Gyfraddau
  • Rhent
  • Morgais
  • Biliau ynni
  • Cynhaliaeth plant
  • Trwydded Deledu
  • Dirwyon llys
  • Treth Incwm neu filiau TAW
  • Taliadau treth i CThEF
  • Ad-dalu arian i’r DWP
  • Ad-daliadau benthyciad myfyriwr
  • Cytundebau hurbwrcasu
  • Cyllid car
  • Bil dŵr
  • Dirwyon parcio
  • Cardiau credyd
  • Gorddrafftiau
  • Benthyciadau personol
  • Benthyciadau diwrnod cyflog
  • Taliadau prynu nawr, talu yn nes ymlaen
  • Cardiau siop
  • Bil ffôn symudol
  • Bil band eang
  • Gwasanaethau ffrydio teledu a cherddoriaeth
  • Arian wedi’i fenthyg gan ffrindiau neu deulu
  • Benthyciadau gwystlwr

Treth Cyngor neu Gyfraddau

Mae’r Dreth Gyngor, neu Ardrethi yng Ngogledd Iwerddon, yn fil â blaenoriaeth y mae’n rhaid i chi ei dalu. Gall methu un taliad, hyd yn oed, fod yn ddifrifol. Gallech wynebu:

  • dirwyon a chamau cyfreithiol
  • ymweliadau beilïaid
  • didyniadau cyflog neu fudd-daliadau, neu
  • carchar, os ydych chi’n parhau i anwybyddu taliadau.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol am gymorth

Dywedwch wrth eich cyngor lleol am eich sefyllfa cyn gynted â phosibl. Mae gan bob cyngor gynlluniau i’ch helpu i reoli eich taliadau mewn symiau llai.

Efallai y bydd eich cyngor lleol yn gallu cynnig:

  • cynlluniau talu hyblyg – lledaenu taliadau dros 12 mis yn hytrach na 10 mis
  • seibiannau talu - er enghraifft, cymryd seibiant o daliadau ym mis Chwefror a Mawrth - ond mae hyn yn golygu y bydd eich taliadau sy’n weddill yn cael eu gwasgaru dros lai o fisoedd, felly bydd pob un ychydig yn uwch. Mae’n opsiwn, ond gwnewch yn siŵr ei fod yn gweithio i’ch cyllideb.
  • gostyngiad a rhyddhad – os ydych chi’n derbyn budd-daliadau neu ar incwm isel
  • Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, neu Ardrethi – os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun neu os ydych yr unig oedolyn yn eich cartref.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth gan y llywodraeth i helpu gyda chostau cynyddol.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol:
Dewch o hyd i’ch cyngor lleol yn LloegrYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Dewch o hyd i’ch cyngor lleol yn yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot
Dewch o hyd i’ch cyngor lleol yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV. CYMRU
Dewch o hyd i’ch cyngor lleol yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect
Nol i’r brig

Rhent

Mae rhent yn daliad â blaenoriaeth. Os na fyddwch chi’n talu eich rhent, gallech:

  • gael eich troi allan o’ch cartref
  • colli eich blaendal
  • cael cofnod credyd gwael
  • cael trafferth rhentu mewn mannau eraill.

Siaradwch â’ch landlord neu gymdeithas dai

Rhowch wybod iddynt cyn gynted â phosibl os na allwch dalu ar amser. Efallai y byddwch yn gallu cytuno ar gynllun talu.

Os ydych chi’n disgwyl i’r sefyllfa barhau a byddwch chi’n cael trafferth talu, siaradwch ag ymgynghorydd dyled am ddim cyn gynted â phosibl. Gall ymgynghorydd dyled eich helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen, hyd yn oed os yw arian yn dynn.

Os oes angen help arnoch gyda beth i’w ddweud wrth eich landlord, defnyddiwch y llythyr templed hwn gan Shelter i’ch helpu i drafod gostyngiad rhentYn agor mewn ffenestr newydd

Gwiriwch a allwch hawlio cymorth ychwanegol gan y llywodraeth

Efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau fel Credyd Cynhwysol neu Daliad Disgresiwn at Gostau Tai (DHP) i helpu i dalu rhent.

Darganfyddwch a allwch hawlio taliadau disgresiwn at gostau taiYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Beth i’w wneud os ydych chi’n wynebu troi allan

Cewch gyngor tai ar unwaith i ddeall eich hawliau a’ch opsiynau. Darllenwch am:

  • droi allan a’ch hawliau os ydych chi’n byw yn LloegrYn agor mewn ffenestr newydd ar Shelter
  • droi allan a’ch hawliau os ydych chi’n byw yn yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar Shelter Scotland
  • droi allan a’ch hawliau os ydych chi’n byw yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd ar Shelter Cymru
  • droi allan a’ch hawliau os ydych chi’n byw yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.
Nol i’r brig

Morgais

Mae taliadau morgais yn flaenoriaeth. Os na fyddwch chi’n talu’ch morgais, gallech:

  • beryglu colli eich cartref trwy ailfeddiannu
  • difrodi eich sgôr credyd
  • talu ffioedd ychwanegol neu gostau llys
  • ei chael hi’n anoddach cael credyd neu forgais yn y dyfodol.

Cysylltwch â’ch benthyciwr

Mae’n bwysig cysylltu â’ch benthyciwr cyn gynted â phosibl. Rhaid i’ch benthyciwr eich trin yn deg ac efallai y bydd yn gallu cynnig opsiynau fel rhoi mwy o amser i chi dalu drwy ymestyn eich morgais. Mae estyn allan yn gynnar yn rhoi mwy o gyfleoedd i chi gael help.

Talwch yr hyn y gallwch, mae hyd yn oed swm bach yn well na dim, i leihau ôl-ddyledion.

Meddyliwch am pryd y gallwch chi ddychwelyd i wneud taliadau llawn neu daliadau ychwanegol i ddal i fyny.

Os ydych chi’n cael trafferth, mae mwy o help yn ein canllaw Help gyda thaliadau morgais

Adolygwch eich cyllideb

Yn ogystal â siarad â’ch benthyciwr, cael cefnogaeth gan un o’r nifer o elusennau a sefydliadau cyngor ar ddyledion am ddim. Gallant eich helpu i siarad trwy eich sefyllfa a darparu gwybodaeth am ddatrysiadau.

Gwiriwch am ddiogelwch yswiriant

Efallai y bydd gennych yswiriant diogelu morgais sy’n cwmpasu taliadau os ydych allan o waith oherwydd damwain, salwch neu ddiswyddiad. Darganfyddwch fwy am wirio a oes gennych yswiriant.

Nol i’r brig

Biliau ynni

Mae biliau ynni yn flaenoriaeth. Os ydych chi’n syrthio ar ei hôl hi ar eich biliau ynni, efallai y bydd eich cyflenwr yn cymryd camau i gasglu’r ddyled. Gallai hyn gynnwys eich newid i fesurydd rhagdaledig, neu, mewn rhai achosion, datgysylltu eich cyflenwad.

Sefydlu cynllun talu

Mae’n bwysig siarad â’ch cyflenwr yn gynnar, gan fod yn rhaid iddynt weithio gyda chi i gytuno ar gynllun fforddiadwy, gan gynnwys:

  • adolygu cynlluniau talu presennol
  • seibiannau neu ostyngiadau talu
  • mwy o amser i dalu
  • mynediad at gronfeydd caledi neu grantiau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw: Help os ydych yn cael trafferth i dalu’ch biliau

Cymorth i helpu i leihau biliau ynni

Mae cap ar brisiau Ofgem bellach yn £1,862 y flwyddyn. Newidiodd hyn ar 1 Gorffennaf 2026.

Mae’r cap ar brisiau ynni yn gyfyngiad ar faint y gall gostio fesul uned o nwy neu drydan pan fyddwch ar dariff amrywiol safonol eich cyflenwr. Mae’r ffigur blynyddol uchod yn seiliedig ar yr hyn y mae aelwyd gyfartalog yn ei ddefnyddio wrth dalu drwy ddebyd uniongyrchol.

Mae'r ffigur blynyddol yn seiliedig ar yr hyn y mae aelwyd gyffredin yn ei ddefnyddio. Gallwch dalu mwy neu lai na hyn, yn dibynnu ar eich defnydd ynni.

Darganfyddwch fwy am y pethau y gallwch eu gwneud i gadw’ch costau mor isel â phosibl yn ein canllawiau:
  • Sut i leihau eich biliau ynni
  • A ddylwn i sefydlogi fy mhrisiau ynni?

Gwiriwch a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ychwanegol gan y llywodraeth

Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer:

Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Gallech gael £150 oddi ar eich bil trydan o dan y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. I fod yn gymwys ar gyfer y gostyngiad, rhaid i chi naill ai gael Credyd Pensiwn neu fod ar incwm isel a derbyn rhai budd-daliadau prawf modd. Gallwch barhau i fod yn gymwys ar gyfer y gostyngiad os ydych chi’n defnyddio mesurydd trydan rhagdaledig neu dalu wrth fynd. Nid yw’r gostyngiad ar gael yng Ngogledd Iwerddon. I’r mwyafrif, mae’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn cael ei gymhwyso’n awtomatig i’ch biliau yn yr hydref bob blwyddyn.

Os ydych chi’n gymwys ac yn byw mewn cartref parc neu’n byw yn yr Alban ac yn gymwys oherwydd incwm isel, bydd angen i chi wneud cais am y gostyngiad, mae mwy o fanylion am y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar gyfer yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar gael ar GOV.UK.

I ddarganfod a ydych chi’n gymwys, gallwch ffonio llinell ffôn Gostyngiad Cartrefi Cynnes y llywodraeth ar 0800 030 9322. Ar GOV.UK mae mwy o wybodaeth am y Cynllun Gostyngiad Cartrefi CynnesYn agor mewn ffenestr newydd

Taliad Tanwydd y Gaeaf

Os cawsoch eich geni ar neu cyn 27 Gorffennaf 1960 gallwch gael rhwng £100 a £300 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi. Dylai hyn gael ei dalu’n awtomatig. Nid oes angen i chi ei hawlio. 

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, dim ond os:

  • rydych chi’n hŷn nag oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd, a’n
  • hawlio budd-dal prawf modd fel Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol.

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell budd-daliadau i wirio’n gyflym a ydych chi’n gymwys i gael unrhyw fudd-daliadau neu grantiau.

Yn yr Alban, bydd pawb sy’n gymwys i gael Taliadau Tanwydd Gaeaf yn cael yr un cymorth o dan y Taliad Gwresogi Gaeaf Oedran Pensiwn newydd.

Os nad ydych eisoes yn hawlio Credyd Pensiwn, gallwch ddarganfod a ydych yn gymwysYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Darganfyddwch sut i wneud cais am Daliad Tanwydd GaeafYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Taliad Tywydd Oer

Efallai y byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais. Byddwch yn cael taliad os yw’r tymheredd cyfartalog yn eich ardal yn cael ei gofnodi fel, neu rhagwelir ei fod yn sero gradd Celsius neu is dros saith diwrnod yn olynol. Byddwch yn cael £25 am bob cyfnod o saith diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth.

Gwiriwch a allwch gael taliad tywydd oer yn eich ardalYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch a ydych chi’n gymwys i gael Taliad Tywydd Oer a sut i wneud caisYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.

Cymorth os ydych chi ar fesurydd rhagdaledig

Os na allwch ychwanegu, gofynnwch am gredyd brys gan eich cyflenwr. Mae rhai banciau bwyd hefyd yn darparu talebau ychwanegiad ar gyfer mesurydd (bydd angen atgyfeiriad arnoch gan leoedd gan gynnwys canolfannau cynghori lleol, eich meddyg teulu neu weithiwr cymorth).

Cymorth Gwresogi Gaeaf Plant yr Alban

Ar gyfer 2026/27, mae Cymorth Gwresogi Plant yn y Gaeaf yn daliad blynyddol o £265.50 i helpu plant a phobl ifanc anablYn agor mewn ffenestr newydd o dan 19 oed a’u teuluoedd sy’n byw yn yr Alban.Yn agor mewn ffenestr newydd o dan 19 oed a’u teuluoedd sy’n byw yn yr Alban. Os oes mwy nag un plentyn neu berson ifanc yn gymwys yn y cartref, mae pob un yn cael taliad.

Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl

Darganfyddwch sut i wneud cais am Grant Cyfleusterau i’r AnablYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am Grantiau Cyfleusterau i’r AnablYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.

Help ychwanegol yn y ffordd rydych chi’n derbyn gwasanaethau

Efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau’r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth os:

  • oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd
  • ydych yn oedrannus
  • ydych yn feichiog
  • oes gennych blant ifanc
  • oes gennych allu cyfyngedig i siarad neu ddarllen Saesneg.

Darganfyddwch fwy am y Gofrestr Gwasanaethau â BlaenoriaethYn agor mewn ffenestr newydd a pha gymorth y gallech ei gael ar wefan Ofgem.

Defnyddiwch Uned Gymorth Ychwanegol Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd Gallant helpu gydag anghydfodau biliau neu broblemau eraill i dalu eich bil.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr

Ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth am ddim ar 0808 223 1133, o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm.

I gysylltu ag ymgynghorydd sy’n siarad Cymraeg, ffoniwch 0808 223 1144.

Os oes gennych golled clyw, gallwch ddefnyddio Relay UK i ffonio’r llinell gymorth defnyddwyr gan ddefnyddio ap neu ffôn testun. Darganfyddwch sut i ddefnyddio Relay UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych chi’n byw yng Nghymru

Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn grant i helpu i dalu am gostau hanfodol fel nwy a thrydan os ydych chi:

  • yn profi caledi ariannol eithafol
  • wedi colli eich swydd
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf.

Gallwch wneud cais i’r Gronfa Cymorth DewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.WALES.

Os ydych chi’n byw yn yr Alban

Gallwch ddefnyddio gwasanaeth Advice Direct ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd ar energyadvice.scot neu eu ffonio am ddim ar 0808 196 8660. 

Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon

Os ydych yn fregus, gall Rhwydweithiau Trydan Gogledd Iwerddon gefnogi a gwneud yn siŵr eich bod yn cael yr help sydd ei angen arnochYn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch hefyd ddarganfod rhagor o wybodaeth am ynniYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan NI Housing Executive.

Nol i’r brig

Cynhaliaeth plant

Mae taliadau cynhaliaeth plant yn cael eu hystyried yn filiau â blaenoriaeth. Os nad ydych chi’n talu cynhaliaeth plant, gellir cymryd arian o’ch cyflog neu gyfrif banc, a gallech wynebu dirwyon, achos llys neu hyd yn oed carchar mewn achosion difrifol.

Siarad â’r rhiant sy’n ei dderbyn

Os oes gennych drefniant teuluol, ceisiwch ddod i gytundeb yn gyntaf gyda’ch cyn-bartner.

Byddwch yn onest am eich cyllid a thrafodwch leihau taliadau dros dro, gyda chynllun i ddychwelyd i normal yn nes ymlaen. Os na allwch ddod i gytundeb, gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant helpu. Darganfyddwch fwyYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Cofiwch, mae’n bwysig rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau trwy gysylltu â’r CMSYn agor mewn ffenestr newydd

Beth i’w wneud os yw’ch incwm wedi gostwng llawer

Os yw’ch incwm wedi gostwng 25% neu fwy, cysylltwch â’r CMS fel y gallant ailasesu’ch taliadau. Maent yn codi ffi am y gwasanaeth hwn.

Os nad yw’ch incwm wedi gostwng llawer, rhaid i chi barhau i dalu’r swm llawn.

Nol i’r brig

Trwydded Deledu

Mae Trwydded Deledu yn daliad â blaenoriaeth, ond os ydych chi’n cael trafferth, mae yna opsiynau. Rydych chi’n peryglu erlyniad a dirwy am beidio â chael Trwydded Deledu ynghyd ag unrhyw gostau cyfreithiol a/neu iawndal y gallech gael eich gorfodi i’w dalu.

Cysylltu â TV Licensing

Os ydych chi’n poeni am dalu eich Trwydded Deledu, bydd TV Licensing yn eich helpu i sefydlu cynllun ad-dalu fforddiadwy.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael cyfradd ostyngedig os ydych dros 75 oed neu’n ddall.

Ffoniwch nhw ar 0300 555 0300 neu gwiriwch  TV LicensingYn agor mewn ffenestr newydd

Canslo eich Trwydded Deledu

Cyn i chi ganslo, byddwch yn ymwybodol na fyddwch yn gallu gwylio’r teledu byw na’r BBC iPlayer gartref. Gwiriwch y rheolau ar yr hyn y gallwch chi ei wneud ac na allwch ei wneud heb Drwydded DeleduYn agor mewn ffenestr newydd

Os oes angen i chi ganslo eich Trwydded Deledu, ffoniwch TV Licensing ar:

  • 0300 790 6068 – os ydych chi’n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu ar un tro.
  • 0300 555 0300 – os ydych chi’n talu gyda cherdyn TV Licensing.

Os nad ydych chi’n gwylio’r teledu (neu’n gwylio unrhyw beth ar BBC iPlayer) ac yn gwrando ar y radio yn unig (gan gynnwys radio y BBC), nid oes angen Trwydded Deledu arnoch. Ar gyfer popeth arall, rydych chi’n ei wneud. Cofiwch fod gwylio’r teledu heb drwydded yn anghyfreithlon.

Os gwnaethoch dalu am eich Trwydded Deledu yn llawn, llenwch y ffurflen ad-dalu ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Dirwyon llys

Mae dirwyon llys ynadon neu siryf yn daliadau â blaenoriaeth. Gallai ei anwybyddu arwain at:

  • arian yn cael ei gymryd o’ch cyflogau neu fudd-daliadau
  • beilïaid yn cael eu hanfon i gasglu’r ddyled (os nad ydych chi’n ymateb o gwbl)
  • y ddirwy yn ymddangos ar eich cofnod credyd am bum mlynedd
  • carchar, os ydych chi'n parhau i anwybyddu’r ddirwy.

Gofynnwch i’r llys newid eich cynllun talu

Os ydych chi’n cael trafferth talu, gallwch wneud cais i newid gorchymyn y llys. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddwch chi’n gallu:

  • talu mewn rhandaliadau llai, neu
  • rhoi’r gorau i daliadau yn gyfan gwbl os ydych wedi colli eich swydd (bydd angen prawf).

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y swyddog dirwyon ar eich llythyrau llys.

I gael help yng Nghymru neu Loegr, ffoniwch y National Compliance and Enforcement Service ar 0300 123 9252 (dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 5pm) neu e-bostiwch [email protected]
 
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, ewch i wefan Scottish Courts & TribunalsYn agor mewn ffenestr newydd
 
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r Courts and Tribunals Service – Fine Collection and Enforcement Services ar 028 9072 8802 neu e-bostiwch [email protected]

Mynychu unrhyw wrandawiad llys

Weithiau efallai y gofynnir i chi fynychu gwrandawiad llys i benderfynu beth i’w wneud. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu fel arall gallent gynyddu’r ddirwy, anfon beilïaid neu gamau gorfodi eraill.

Cysylltwch â Chyngor ar Bopeth am gymorth arbenigolYn agor mewn ffenestr newydd os na allwch dalu’r ddirwy yn llawn cyn y gwrandawiad
 
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd, ewch ar nidirect
Nol i’r brig

Treth Incwm neu filiau TAW

Mae biliau Treth Incwm a TAW yn daliadau â blaenoriaeth. Os nad ydych chi’n talu eich Treth Incwm neu TAW, gallech wynebu taliadau ychwanegol, casglwyr dyledion, cymryd arian o'ch cyfrif, achos llys neu hyd yn oed carchar mewn achosion difrifol.

Os na allwch fforddio talu ar amser

Ffoniwch CThEF cyn gynted â phosibl os ydych chi:

  • wedi methu dyddiad cau treth
  •  yn gwybod na fyddwch yn gallu talu ar amser.
Gwasanaeth Cymorth Taliadau CThEF: 0300 200 3835 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4pm)
 
Gwasanaeth Cymorth Taliadau Busnes CThEF: 0300 200 3825 (ar gyfer hunangyflogedig a busnesau)

Cyn ffonio, diweddarwch eich cyfrif treth personol trwy ap CThEFYn agor mewn ffenestr newydd neu’ch cyfrif treth personol neu fusnesYn agor mewn ffenestr newydd ar-lein.

Sut i baratoi ar gyfer gofyn i CThEF am help

  • Cyfrifwch eich incwm ac unrhyw risgiau iddo.
  • Gwnewch gyllideb sy’n cwmpasu hanfodion a dyledion sydd â blaenoriaeth.
  • Penderfynwch beth allwch chi fforddio ei dalu bob mis.
  • Cyfrifwch pa mor hir y bydd yn ei gymryd i dalu’r ddyled.
  • Casglwch fanylion dyledion a chynilion eraill.

Os bydd CThEF yn gwrthod eich cynllun, byddant yn awgrymu trefniant ad-dalu arall.

Os ydych chi ar incwm isel, ewch i wefan TaxAid am helpYn agor mewn ffenestr newydd Os ydych dros 60 oed ac ar incwm isel, mae Tax Help for Older PeopleYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig help a chyngor.

Os na allwch dalu eich bil Hunanasesiad

Gallwch sefydlu cynllun Amser i Dalu drwy Borth y Llywodraeth os ydych chi:

  • wedi cyflwyno eich ffurflen ddiweddaraf
  • gorfod talu nôl llai na £30,000
  • o fewn 60 diwrnod i’r dyddiad cau
  • yn gallu ad-dalu o fewn 12 mis.

Os oes dros £30,000 yn ddyledus gennych neu os oes angen mwy o amser arnoch chi, ffoniwch:

Llinell Gymorth Hunanasesiad: 0300 200 3822 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4pm)
 
Gallwch fewngofnodi gan ddefnyddio Porth y LlywodraethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK i reoli taliadau
Nol i’r brig

Taliadau treth i CThEF

Mae taliadau treth i CThEF yn daliad â blaenoriaeth. Os nad ydych chi’n talu, gall CThEF:

  • ychwanegu llog a chosbau
  • cymryd arian yn uniongyrchol o’ch cyflog neu fanc
  • atafaelu asedau neu anfon beilïaid
  • mynd â chi i’r llys neu eich gwneud yn fethdalwr.

Gofynnwch i CThEF leihau eich ad-daliadau

Os yw ad-dalu credydau treth yn achosi chi i fethu â thalu costau hanfodol neu ddyledion eraill, gallwch ofyn am leihau a lledaenu eich taliadau.

Darganfyddwch fwy am beth i’w wneud os na allwch fforddio ad-daliadau credyd trethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Herio penderfyniad gordalu

Os ydych chi’n meddwl bod CThEF wedi gwneud camgymeriad, gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol o fewn 30 diwrnod i’r penderfyniad. Mae hyn yn berthnasol os:

  • gafodd eich credydau treth eu gwrthod, eu stopio neu eu tandalu
  • dywedwyd wrthych eich bod wedi cael eich gordalu pan nad oeddech chi
  • roedd eich cais wedi’i ôl-ddyddio'n anghywir.
Gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol trwy lenwi ffurflenYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
 
Cyn i chi lenwi’r ffurflen, darganfyddwch beth sydd ei angen arnoch a sut i ofyn am ailystyriaeth orfodolYn agor mewn ffenestr newydd ar Gyngor ar Bopeth
Nol i’r brig

Ad-dalu arian i’r DWP

Mae talu arian yn ôl i DWP yn flaenoriaeth. Gweithredwch yn gyflym gan y gall DWP gymryd arian o’ch cyflog neu basio’r ddyled i asiantaeth gasglu.

Gofynnwch i’r DWP leihau eich ad-daliadau

Os nad ydych yn gallu talu costau hanfodol, gofynnwch i’r DWP eu lleihau neu eu hoedi.

Efallai y byddwch yn cael seibiant tri mis ar gyfer cais newydd neu fis ar gyfer newid mewn amgylchiadau.

Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein ac ychwanegwch nodyn i'ch dyddlyfr neu ffoniwch Rheoli Dyled DWP.

Canolfan gyswllt Rheoli Dyled DWP

Ffoniwch Rheoli Dyled am ddim ar: Ffôn: 0800 916 0647 | Ffôn testun: 0800 916 0651 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm)

Herio penderfyniad gordalu

Os ydych chi o’r farn bod DWP wedi gwneud camgymeriad, gofynnwch am ailystyriaeth orfodol o fewn mis i’r penderfyniad. Mae angen hyn arnoch cyn i chi allu apelio.

Mae’r rheolau’n amrywio ar gyfer rhai budd-daliadau – darllenwch ein canllaw Sut i apelio yn erbyn penderfyniad am fudd-daliadau
Nol i’r brig

Ad-daliadau benthyciad myfyriwr

Nid yw benthyciadau myfyrwyr yn cael eu hystyried fel taliadau â blaenoriaeth. Rydych ond yn ad-dalu os yw'ch incwm yn uwch na throthwy penodol.

Os na allwch fforddio’ch taliadau

Mae taliadau’n dod i ben yn awtomatig os bydd eich incwm yn gostwng o dan y trothwy, er enghraifft, os ydych chi’n colli eich swydd.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, rhowch wybod am eich benthyciad myfyrwyr ar eich ffurflen dreth. Mae eich ad-daliadau yn seiliedig ar gyfanswm yr incwm.

Os bydd gordaliadau’n parhau ar ôl clirio’ch benthyciad, gofynnwch y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am ad-daliad.

Darganfyddwch fwy am ad-dalu eich benthyciad myfyriwrYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK a savethestudent.orgYn agor mewn ffenestr newydd

Cofiwch, nid yw benthyciadau myfyrwyr yn mynd ar ffeiliau credyd. Ond os ydych chi’n cymryd benthyciad mawr, fel morgais, bydd benthycwyr yn gofyn a oes gennych un wrth asesu fforddiadwyedd.

Nol i’r brig

Cytundebau hurbwrcasu

Mae cytundebau hurbwrcas yn cael eu hystyried yn daliadau â blaenoriaeth. Os ydych chi’n osgoi talu, gallech:

  • gael eitemau wedi’u cymryd wrthych
  • orfod talu taliadau neu log ychwanegol
  • cael cofnod credyd gwael
  • cael eich cymryd i’r llys am y ddyled.

Cysylltwch â’r cwmni HP

Efallai y byddant yn gadael i chi ymestyn y cytundeb neu ad-dalu ôl-ddyledion dros amser.

Rhaid i fenthycwyr gefnogi cwsmeriaid sy’n cael trafferth ariannol. O dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr, os ydych chi’n syrthio tu ôl gyda thaliadau, rhaid i’ch benthyciwr:

  • rhoi amser i chi ddal i fyny cyn gweithredu
  • anfon datganiadau rheolaidd a hysbysiadau ôl-ddyledion.

Beth sy’n digwydd os ydych chi’n rhoi’r gorau i dalu a pheidio â chysylltu â’r cwmni HP

Os ydych wedi talu llai na thraean, gall y benthyciwr gymryd yr eitem yn ôl.

Os ydych chi wedi talu mwy na thraean, mae angen gorchymyn llys arnynt i adfeddiannu neu wneud i chi dalu.

Gall taliadau a fethwyd hefyd arwain at rybudd diffyg, gan effeithio ar eich sgôr credyd.

Defnyddiwch ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion am ddim a chyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu yn agos at ble rydych chi’n byw

Eisiau dod â’r cytundeb i ben?

Gallwch ddychwelyd y nwyddau ar unrhyw adeg drwy ysgrifennu at eich benthyciwr. Gan ddibynnu ar yr hyn rydych chi wedi’i dalu:

  • 50% neu fwy: dim taliadau pellach.
  • Llai na 50%: efallai y bydd angen i chi dalu o hyd.
  • Dim ad-daliadau am daliadau a wnaed eisoes.

Ond mae’n rhaid i chi ddod â’ch cytundeb i ben yn wirfoddol. Efallai yr hoffech ofyn am gyngor cyn gwneud hyn.

Eisiau cadw’r nwyddau ond methu talu?

Gallai hyn fod yn bosibl ond gall siarad ag ymgynghorydd dyled hyfforddedig a phrofiadol am eich sefyllfa eich helpu i weld beth yw’r penderfyniad gorau ar eich cyfer. Dewch o hyd i ymgynghorydd dyled am ddim yn eich ardal chi.

Am help, mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig templed llythyr i orffen hurbwrcasYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Cyllid car

Gellir ystyried cyllid car yn daliad â blaenoriaeth os oes angen y car ar gyfer defnydd hanfodol. Os na chaiff ei dalu, gallech:

  • gael y car wedi’i ailfeddiannu
  • cael ffioedd ychwanegol sy’n ddyledus
  • cael cofnod credyd gwael
  • cael eich cymryd i’r llys am y ddyled.

Gwiriwch pa fath o gyllid car sydd gennych

Dechreuwch drwy ddarganfod pa fath o gytundeb cyllid car rydych chi arno. Mae ein canllaw, Os na allwch fforddio eich taliadau car, yn esbonio’ch opsiynau gan gynnwys:

  • help gyda chyllidebu a dyled
  • sut i siarad â’ch cwmni cyllid ceir
  • dod â’ch cytundeb cyllid car i ben yn gynnar
  • dod â phrydles Llogi Contract Personol (PCH) i ben yn gynnar
  • beth i’w wneud os byddwch chi’n colli taliad
  • sut i ofyn am ad-daliad neu iawndal.
Nol i’r brig

Bil dŵr

Ni ellir torri eich dŵr fel trydan, ond mae’n dal i fod yn fil blaenoriaeth. Os nad yw’n cael ei dalu, gall eich cwmni dŵr:

  • mynd â chi i’r llys i wneud i chi ei dalu
  • cymryd arian o’ch budd-daliadau i dalu eich biliau a’ch dyled.

Cysylltwch â’ch cwmni dŵr

Nid yw byth yn rhy hwyr i ofyn am gefnogaeth. Dewch o hyd i’w manylion cyswllt ar eich bil neu wefan. Gall cymorth gynnwys:

  • seibiannau neu ohirio talu
  • tariffau cymdeithasol ar gyfer aelwydydd incwm isel
  • cynlluniau talu wedi’u haddasu
  • cyngor ar fudd-daliadau a rheoli dyledion
  • mynediad at grantiau elusennol
  • paru dyled – lle mae cwmnïau dŵr yn paru eich ad-daliadau i glirio dyled.
Rhowch eich cod post i ddarganfod pwy yw eich cyflenwr dŵrYn agor mewn ffenestr newydd drwy ymweld â Water UK 

Cael mesurydd dŵr

Talwch am yr hyn rydych chi'n ei ddefnyddio yn unig. Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer cartrefi sy’n fwy ond gyda llai o bobl.

Defnyddiwch gyfrifiannell y Cyngor Defnyddwyr DŵrYn agor mewn ffenestr newydd i weld a fydd newid i fesurydd yn arbed arian i chi. Os penderfynwch newid, cysylltwch â’ch cwmni dŵr.

Mae Cofrestru Gwasanaeth â Blaenoriaeth yn gynllun am ddim i’r rhai sydd ag anghenion iechyd, mynediad neu gyfathrebu. Cysylltwch â’ch cyflenwr i wirio cymhwysedd.

Am fwy o awgrymiadau, darllenwch ein canllaw Sut i leihau eich bil dŵr

Gwiriwch a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol

Yng Nghymru a Lloegr, os ydych chi’n derbyn budd-daliadau penodol gyda mesurydd dŵr, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad. Dewch o hyd i ragor o gymorth gyda biliauYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan CCW.

Yn yr Alban, mae dŵr fel arfer yn cael ei dalu trwy’r Dreth Gyngor. Gweler mygov.scot i ddarganfod mwy am ostyngiadau, eithriadau a gostyngiadauYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Dirwyon parcio

PMae PCN (Hysbysiad Tâl Cosb) a FPN (Hysbysiad Cosb Benodedig) yn ddyledion â blaenoriaeth. Os ydych chi’n ei anwybyddu, mae’n debygol y byddwch chi’n cael eich cymryd i’r llys, derbyn dirwy fwy a bydd yn rhaid i chi dalu’r costau llys. Nid yw Rhybudd Tâl Parcio yn cael ei ystyried fel dyled â blaenoriaeth gan y gellir eu herio’n aml.

Gwiriwch pa ddirwy parcio sydd gennych

  • Mae PCN (Hysbysiad Tâl Cosb) yn cael eu cyhoeddi gan y cyngor ar dir cyhoeddus, er enghraifft, meysydd parcio’r cyngor.
  • FPN (Hysbysiad Cosb Benodedig) yn cael eu cyhoeddi gan yr heddlu.
  • Mae Rhybudd Tâl Parcio yn cael ei gyhoeddi gan weithredwyr preifat, yn aml mewn canolfannau siopa.

Siaradwch â chyhoeddwr eich dirwy parcio

Cysylltwch â’r cyngor neu’r gweithredwr parcio os ydych chi’n cael trafferth talu. Gall cynghorau gynnig estyniadau neu gynlluniau talu.

Os ydych chi wedi cael mwy nag un dirwy parcio, gall cynghorau sefydlu cynllun talu. Esboniwch beth allwch chi ei fforddio.

Apelio yn erbyn y penderfyniad

Os ydych chi’n meddwl bod dirwy yn annheg, gallwch apelio o fewn 28 diwrnod. Os ydych yn apelio o fewn 14 diwrnod, dim ond hanner y ddirwy y gallwch dalu.

Gellir apelio yn erbyn dirwyon preifat i’r Apeliadau Parcio ar Dir Preifat (POPLA)Yn agor mewn ffenestr newydd

Dilynwch y camau ar eich tocyn gan y gall rheolau apelio amrywio.

Os oes angen help arnoch i wneud eich apêl, dewch o hyd i ganllaw am ddim gyda llythyrau templedYn agor mewn ffenestr newydd ar MoneySavingExpert 
Nol i’r brig

Cardiau credyd

Teimlo fel eich bod chi’n boddi gyda biliau cardiau credyd? Dyma beth i’w wneud i’ch helpu i reoli eich taliadau.

Cynllun i ad-dalu eich cerdyn credyd

  • Stopiwch ddefnyddio eich cerdyn.
  • Crëwch cyllideb i weld a allwch chi ryddhau unrhyw arian parod.
  • Sefydlwch Ddebyd Uniongyrchol ar gyfer o leiaf yr isafswm taliad.
  • Osgowch ddefnyddio’ch cerdyn ar gyfer tynnu arian parod neu sieciau cardiau credyd.
  • Os oes gennych sgôr credyd dda, edrychwch i weld a allwch drosglwyddo’ch balans i gerdyn gyda chyfradd llog 0% neu rhatach.

Blaenoriaethu cardiau llog uchel

Os ydych chi’n ddyledus ar fwy nag un cerdyn credyd, talwch y cerdyn gyda’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf. Gall siarad ag ymgynghorydd dyled hyfforddedig a phrofiadol am eich sefyllfa eich helpu i weld beth yw’r penderfyniad gorau ar eich cyfer. Darganfyddwch ble i gael cymorth cyfrinachol am ddim nawr.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i dalu o leiaf yr isafswm taliad ar bob cerdyn. Fel arall, bydd taliadau a gollwyd yn arwain at ffioedd ychwanegol a gallai niweidio eich sgôr credyd.

Mae yna bethau y gallwch eu gwneud i leihau eich dyled cerdyn credyd. Gweler ein canllaw Rheoli credyd yn dda

Trosglwyddo eich balans i gerdyn rhatach

Mae trosglwyddo’ch balans yn eich caniatáu chi i symud credyd sy’n ddyledus o un cerdyn i’r llall fel eich bod chi’n:

  • talu llai o log neu dim llog ar yr hyn sy’n ddyledus gennych ar hyn o bryd
  • symleiddio eich cyllid drwy gyfuno taliadau misol lluosog yn un.

Efallai na fydd hyn yn opsiwn da os oes gennych sgôr credyd gwael gan na fyddwch yn cael cynnig cytundeb 0% neu os oes gennych ddyledion eraill sy’n ddyledus.

Os ydych chi’n meddwl ei fod yn opsiwn, cyn i chi wneud cais, gwiriwch:

  • pan ddaw’r cyfnod cyfradd llog is i ben
  • os oes unrhyw gyfyngiadau i’r swm y gallwch ei drosglwyddo
  • os bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd.

Sut i newid

Gwnewch gais am gerdyn credyd llog isel neu 0% newydd. Gofynnir i chi a hoffech drosglwyddo balansau o gardiau eraill pan fyddwch chi’n cael eich derbyn neu ofyn i’ch darparwr cerdyn credyd presennol drefnu trosglwyddiad.

Bydd angen:

  • manylion y cerdyn rydych chi eisiau ei drosglwyddo
  • rhif y cerdyn a’r darparwr
  • y balans rydych chi am ei drosglwyddo.
Ystyriwch drosglwyddo balans eich cerdyn credyd drwy ddarllen a yw’n iawn i chi yn ein canllaw Trosglwyddo balans eich cerdyn credyd

Siaradwch â’ch darparwr

Os ydych chi’n cael trafferth talu, efallai y byddant yn cynnig cynllun talu realistig drwy:

  • newid eich dyddiadau talu dyledus
  • lleihau’r gyfradd llog ar eich cerdyn
  • ymestyn y tymor ad-dalu.

Cofiwch y gallai’r cymorth hwn effeithio ar eich cofnod credyd a’ch gallu i gael credyd yn y dyfodol.

Nol i’r brig

Gorddrafftiau

Os ydych chi’n agos at eich terfyn gorddrafft neu nad ydych yn llwyddo i’w glirio, dyma awgrymiadau ar beth i’w wneud.

Cadwch lygad ar eich balans

Gall taliadau am ddefnyddio gorddrafft fod cymaint â 40% o log ar yr hyn sy’n ddyledus gennych. Cadwch olwg ar balans eich cyfrif i osgoi taliadau gorddrafft.

Gallwch:

  • lawrlwytho ap eich banc os oes gennych ffôn clyfar
  • sefydlu rhybuddion ar gyfer pan fod eich balans yn isel
  • defnyddio bancio ffôn
  • gofyn am ddatganiad bach gan ATM neu eich cangen leol
  • darllen yr holl lythyrau o’ch banc.

Mae’n bwysig gwirio pob llythyr, gan y gallai’r banc fod yn ysgrifennu i ddweud wrthych am newid i’ch terfyn gorddrafft neu gynnydd i’ch cyfradd llog gorddrafft.

Am ragor o wybodaeth am ddeall gorddrafftiau, gweler ein canllaw Egluro gorddrafftiau. Hefyd, gyda chymaint o wahanol gyfrifon banc ar gael, gweler ein canllaw Sut i agor, newid a chau cyfrif banc

Cymharu cyfraddau llog gorddrafft a newid banciau

Gallwch newid eich cyfrif banc a’ch gorddrafft i ddarparwr newydd gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Current Account Switch.

I ddarganfod mwy am y broses newid, ewch i Current Account SwitchYn agor mewn ffenestr newydd

Siaradwch â’ch banc

Os ydych mewn perygl o orddrafft, cysylltwch â’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Esboniwch eich sefyllfa, yn enwedig os ydych chi’n fregus.

Eisiau dod o hyd i ffyrdd o ryddhau arian parod a lleihau costau? Gweler ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Nol i’r brig

Benthyciadau personol

Osgowch fethu taliadau gan y gallai hyn arwain at gosbau, ffioedd ychwanegol, a sgôr credyd wedi’i ddifrodi.

Cysylltwch â’ch benthyciwr

Rhaid i fenthycwyr weithio gyda chi i greu cynllun ad-dalu cyn i chi fethu taliad. Gall eich benthyciwr:

  • leihau neu atal llog ar ôl-ddyledion
  • bod yn hyblyg gyda symiau neu delerau ad-dalu
  • caniatáu i chi dalu llai neu dim am gyfnod
  • eich helpu i sefydlu cynllun talu.

Cofiwch, gall unrhyw drefniant effeithio ar eich sgôr credyd.

Ystyriwch ad-dalu benthyciadau gyda chardiau credyd

Os oes gennych sgôr credyd dda, efallai y byddwch chi’n trosglwyddo balans eich benthyciad i gerdyn credyd di-log neu log isel.

Byddwch yn ofalus o ffioedd a gwnewch yn siŵr y gallwch dalu’r balans cyn i’r gyfradd llog gynyddu, a allai arwain at ddyled uwch nag o’r blaen.

Osgowch wario ar y cerdyn, gan fod tynnu arian parod yn gostus.

Os oes angen i chi fenthyg arian, mae ein teclyn yn dangos yr ystod o opsiynau credyd sydd ar gael i chi

Efallai na fydd yr opsiwn hwn yn gweithio os yw’ch sgôr credyd yn wael.

Nol i’r brig

Benthyciadau diwrnod cyflog

Os ydych chi’n cael trafferth ad-dalu benthyciad diwrnod cyflog, gweithredwch yn gyflym.

Siaradwch â’ch benthyciwr

Rhaid iddynt gynnig help, gan gynnwys:

  • eich cyfeirio at gyngor ar ddyledion am ddim
  • caniatáu amser ychwanegol i ad-dalu, ac
  • o bosibl rhewi llog neu daliadau.

Meddyliwch cyn canslo taliadau

Siaradwch â’ch benthyciwr yn gyntaf. Os na fyddant yn helpu ac rydych chi’n cael trafferth fforddio hanfodion, gallwch ganslo’r taliad trwy ddweud wrth eich banc nad ydych yn cytuno ag ef mwyach.

Gallai hyn arwain at daliadau ychwanegol, ond gall eich helpu i ddiwallu eich anghenion sylfaenol.

Os yw’r taliad yn cael ei dalu ar ôl i chi ei ganslo, cwynwch i’ch banc a gofynnwch am ad-daliad.

Osgowch rolio drosodd eich benthyciad 

Mae ymestyn eich benthyciad yn cynyddu taliadau a llog. Yn lle hynny, ceisiwch gyngor ar ddyledion ac archwiliwch opsiynau ad-dalu eraill.

Cadwch gofnodion

Cadwch negeseuon e-bost, llythyrau, a manylion galwadau fel prawf cyfathrebu rhag ofn y bydd angen i chi wneud cwyn.

Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth gyda dyledion
Nol i’r brig

Taliadau prynu nawr, talu yn nes ymlaen

Nid yw llawer yn sylweddoli bod Prynu Nawr Talu Wedyn yn gredyd. Gall taliadau hwyr olygu ffioedd, llog, a sgôr credyd is.

Siaradwch â’ch credydwr

Cysylltwch â’ch credydwr cyn methu taliad. Gallant gynnig:

  • cymorth cyn i chi fethu taliadau
  • opsiynau ad-dalu hyblyg
  • ystyriaeth o’ch sefyllfa ariannol lawn
  • amser ad-dalu teg heb bwysau
  • diogelwch rhag dyled sy’n cynyddu
  • cefnogaeth arbennig os ydych chi’n fregus.
Gallwch ddarganfod mwy am y gwahanol fathau o gynlluniau yn ein canllaw Beth yw Prynu Nawr Talu Wedyn?

Osgowch gymryd credyd pellach

Gall ymrwymo i nifer o gytundebau 'Prynu Nawr, Talu Wedyn' ar yr un pryd ei gwneud hi'n hawdd colli golwg ar yr hyn sy'n ddyledus gennych a methu dyddiadau ad-dalu. Ceisiwch gadw nifer y cytundebau i'r lleiafswm a'u defnyddio ar gyfer pryniannau hanfodol yn unig.

Os ydych chi’n eu defnyddio oherwydd na allwch ddefnyddio opsiynau credyd eraill, gweler ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig am ffyrdd o leihau costau.

Nol i’r brig

Cardiau siop

Gellir defnyddio cardiau siop i dalu am nwyddau mewn siop benodol neu grŵp o siopau yn unig. Mae gennych 14 diwrnod i ganslo os byddwch chi’n newid eich meddwl ar ôl cofrestru. Mae rhai cardiau siop yn ‘cardiau tâl’ sy’n golygu bod yn rhaid i chi dalu’r swm llawn bob mis. Os na wnewch chi, byddwch chi’n wynebu taliadau ychwanegol.

Ceisiwch dalu mwy na’r isafswm

Ceisiwch dalu mwy na’r isafswm balans bob amser i glirio’ch dyled yn gyflymach a lleihau costau llog. Gall talu’r isafswm yn unig hefyd niweidio eich sgôr credyd.

Os ydyw’n bosibl, sefydlwch Ddebyd Uniongyrchol i osgoi ffioedd hwyr. Os yw’ch incwm yn amrywio, ystyriwch wneud taliadau â llaw i atal taliadau Debyd Uniongyrchol sydd wedi methu.

Trosglwyddo i gerdyn credyd 0%

Mae gan gardiau siop gyfraddau llog uchel, felly gall symud eich balans i gerdyn credyd 0% neu log isel helpu, os oes gennych sgôr credyd da.

Cymharwch gytundebau, gan fod cyfnodau hirach o 0% yn aml yn dod â ffioedd trosglwyddo.

Dewiswch gerdyn sy’n rhoi digon o amser i chi ad-dalu gyda’r ffi isaf.

Talwch y balans cyn i’r cyfnod 0% ddod i ben er mwyn osgoi taliadau llog.

Nol i’r brig

Bil ffôn symudol

Os ydych chi’n cael trafferth talu eich bil ffôn symudol, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i gadw mewn cysylltiad.

Cysylltwch â’ch darparwr

Os oes angen help arnoch, dywedwch wrth eich darparwr cyn gynted â phosibl.

Gall llawer o ddarparwyr eich helpu drwy:

  • newid dyddiad eich bil
  • sefydlu cynllun ad-dalu fforddiadwy, neu
  • eich symud i dariff gwahanol.

Os ydych chi’n ystyried gadael eich contract symudol yn gynnar, darganfyddwch a oes rhaid i chi dalu ffi. Gallwch anfon neges destun INFO i 85075 i ddarganfod a ydych chi mewn contract o hyd.

Mae rhai darparwyr yn cynnig cynlluniau cost isel i’ch helpu i wneud galwadau symudol a mynd ar-lein os ydych chi’n cael manteision penodol. Darganfyddwch fwy gan reoleiddiwr y diwydiant, OfcomYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Bil band eang

Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch bil, ni ddylai’ch darparwr eich datgysylltu. Isod mae rhai ffyrdd y gallwch chi gael help.

Cael help gan eich darparwr band eang

Ni ddylai’ch darparwr eich datgysylltu os ydych chi'n cael trafferth. Cysylltwch â nhw a gallant:

  • newid dyddiad eich bil
  • cynnig cynllun ad-dalu
  • eich symud i dariff rhatach
  • tynnu capiau data.
I ddod o hyd i’r darparwr rhyngrwyd gorau ar eich cyfer, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i fargeinio’r pris Mae gan MoneySavingExpert restr helaethYn agor mewn ffenestr newydd
 
Mae canllaw defnyddiol ar ganslo contract ffôn, teledu, rhyngrwyd neu ffôn symudolYn agor mewn ffenestr newydd ar Gyngor ar Bopeth

Band eang a tariffau cymdeithasol symudol

Mae rhai darparwyr yn cynnig cynlluniau cost isel i’ch helpu i wneud galwadau symudol a mynd ar-lein os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol, gan gynnwys:

  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Am y diweddaraf am dariffau cost isel sydd ar gael, ewch i OfcomYn agor mewn ffenestr newydd

Band eang am ddim os ydych chi’n chwilio am waith

Os ydych chi’n chwilio am waith, gallwch wneud cais trwy eich anogwr gwaith am daleb i’w chyfnewid am fand eang am ddim gan TalkTalk. Gofynnwch i’ch anogwr gwaith Canolfan Byd GwaithYn agor mewn ffenestr newydd a allwch wneud cais.

Help gyda biliau rhyngrwyd

Mae UK National Databank yn cynnig data rhyngrwyd symudol am ddim am hyd at 12 mis i bobl nad ydynt yn gallu ei fforddio ac yn aml hefyd yn profi llawer o anghydraddoldebau.

Dewch o hyd i ragor o gymorth ar wefan Good Things FoundationYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Gwasanaethau ffrydio teledu a cherddoriaeth

Dyma ein canllawiau cam wrth gam ar sut i leihau cost eich tanysgrifiad (au) neu ei ganslo am byth.

Siaradwch â’ch darparwr

Gallant gynnig:

  • cynllun talu
  • lleihau eich bil
  • rhoi mwy o amser i chi dalu
  • cynyddu’ch terfyn data neu lawrlwytho
  • eich symud i gontract gwell.
Darganfyddwch fwy am ffyrdd o arbed arian ar eich gwasanaeth teleduYn agor mewn ffenestr newydd ar MoneySavingExpert

Canslo eich tanysgrifiad

Os na allwch fforddio gwasanaethau fel Netflix neu Spotify, gwiriwch delerau eich contract - efallai y byddwch chi’n gallu canslo heb gosb.

Nol i’r brig

Arian wedi’i fenthyg gan ffrindiau neu deulu

Awgrymiadau ar sut y gallwch chi ddechrau sgwrs lletchwith â rhywun y mae gennych arian yn ddyledus iddynt a pharhau i fod yn ffrindiau iddynt.

Siaradwch â’r person y mae gennych arian yn ddyledus iddynt

Byddwch yn onest ac osgoi anwybyddu’r mater. Efallai y byddant yn cynnig help neu amser ychwanegol.

Crewch gyllideb i ddangos beth allwch chi ei fforddio a chytunwch ar gynllun ad-dalu sy’n addas i’r ddau ohonoch chi.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gael sgwrs am arian

Os ydych chi’n teimlo dan fygythiad

Os yw’r person yn codi llog gormodol, yn gwneud bygythiadau, neu’n cadw eitemau fel eich pasbort neu gerdyn banc, maent yn gweithredu fel benthyciwr arian didrwydded. Gofynnwch am gymorth cyfrinachol gan Stop Loan Sharks ar 0300 555 2222.

Am ragor o wybodaeth, gweler Stop Loan Sharks am daliadau llog afresymol neu ymddygiad bygythiolYn agor mewn ffenestr newydd
 
Mae rheolaeth ariannol yn gamdriniaeth. Os yw rhywun yn rheoli eich arian, gallai fod yn gamdriniaeth ariannol. Dysgwch fwy yn ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel
Nol i’r brig

Benthyciadau gwystlwr

Os na allwch dalu benthyciad gwystlwr yn ôl, efallai y byddwch chi'n colli eich eitem wystlo.

Gofyn am estyniad

Efallai y bydd y gwystlwr yn cytuno i ymestyn y dyddiad cau, ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny.

Os gwnaethoch chi fenthyg hyd at £75: mae’r eitem yn perthyn yn awtomatig i’r gwystlwr os na fyddwch yn ad-dalu.

Os gwnaethoch chi fenthyg mwy na £75: gall y gwystlwr werthu’r eitem ond mae’n rhaid iddo geisio cael pris teg. Os ydyn nhw’n ei werthu am fwy na’r hyn sy’n ddyledus gennych (ar ôl costau), rhaid iddynt roi’r arian dros ben i chi.

Os oedd y benthyciad yn fwy na £100, rhaid iddynt roi gwybod i chi cyn ei werthu.

Beth i’w wneud os ydych wedi colli eich derbynneb

Ar gyfer benthyciadau hyd at £75, gofynnwch i’r gwystlwr am ‘ffurflen safonol’ i gadarnhau perchnogaeth.

Ar gyfer benthyciadau sy’n fwy, efallai y bydd angen i chi lofnodi datganiad statudol, a allai gynnwys ffioedd.

Gwybod gwerth yr eitem cyn i chi ei gwystlo

Os ydych chi’n credu bod eich eitem wedi’i gwerthu am swm isel, casglwch dystiolaeth o’i werth a chwynwch yn ysgrifenedig i’r gwystlwr.

Os na fydd wedi’i ddatrys o fewn wyth wythnos, ewch â’ch cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol (FOS)Yn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch hefyd fynd i’r Llys Hawliadau Bach, ond mae hyn yn cynnwys ffioedd a risgiau. Os na fydd wedi’i ddatrys o fewn wyth wythnos, ewch â’ch cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol (FOS)Yn agor mewn ffenestr newydd

Mae benthyciadau gwystlwr yn gostus a gallai olygu colli eitem werthfawr. Dysgwch fwy yn ein canllaw Beth yw gwystlwyr?
Nol i’r brig

Cymorth pellach

Os ydych chi’n cael trafferth cadw rheolaeth ar eich gwariant, mae ein Cynlluniwr cyllideb yn ei gwneud hi’n hawdd rhestru a threfnu eich treuliau, fel biliau cartref a siopa groser, fel y gallwch weld yn union ble mae eich arian yn cael ei wario.

Os ydych chi’n byw ar incwm isel neu wedi cael sioc incwm, defnyddiwch ein Cyfrifiannell budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo.

Dewch o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â’r costau byw cynyddol, yn ogystal â’r cymorth ychwanegol y gallwch ei hawlio, gan ddefnyddio ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig.

Ydych chi wedi methu taliad?

Eicon biliau ac ebychnod mewn triongl rhybudd melyn

Os felly, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion

  • Mae am ddim ac yn gyfrinachol

  • Yn rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a’ch arian

  • Yn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir

Darganfyddwch fwy am gyngor ar ddyled
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012