Os ydych mewn perygl o gael eich diswyddo neu wedi colli eich swydd yn ddiweddar, gallwn eich helpu i ddeall eich hawliau cyflogaeth a thâl diswyddo. Hefyd, sut i reoli eich arian a gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer unrhyw daliadau budd-dal.
Diswyddo a cholli’ch swydd
Gwybod eich hawliau cyflogaeth a sut i gael cymorth
Os ydych yn wynebu colli swydd, rhaid i’ch cyflogwr eich trin yn deg. Mae’n bwysig deall ble rydych yn y broses, gwirio goblygiadau unrhyw ddewisiadau eraill a gynigir i chi a ble i gael cyngor cyflogaeth os oes ei angen arnoch.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Gwiriwch eich statws cyflogaeth
Mae p’un a ydych yn gymwys i gael tâl diswyddo yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth. Fel arfer, os ydych yn weithiwr, mae gennych hawl i dâl diswyddo statudol os ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr am ddwy flynedd neu fwy.
Ond os ydych yn weithiwr asiantaeth neu’n gweithio yn yr economi gig, yn benodol contract oriau sero, gall fod yn anoddach diffinio'ch statws cyflogaeth. Er enghraifft, efallai y bydd eich cyflogwr yn dweud eich bod yn hunangyflogedig ac nad oes gennych hawl i dâl diswyddo, pan ydych yn weithiwr mewn gwirionedd.
Os nad ydych yn siŵr am eich statws, mae’n bwysig ei wirio a gwneud yn siŵr nad ydych yn colli allan ar dâl diswyddo.
Darganfyddwch fwy am dâl colli swydd cytundebol a thâl colli swydd statudolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyngor ar Bopeth.
Gwiriwch eich statws cyflogaeth yn ein canllaw Gwahanol fathau o statws cyflogaeth
Gwiriwch fod y broses ddiswyddo yn deg
Os dywedir wrthych eich bod mewn perygl o golli swydd, y peth cyntaf i'w wneud yw gwirio bod eich cyflogwr yn dilyn y broses yn deg.
Rhaid i’ch cyflogwr yn gyfreithiol roi cyfnod rhybudd statudol i chi cyn gofyn i chi adael y cwmni. Ni chaniateir iddynt wahaniaethu wrth ddewis pwy i ddiswyddo.
Rhaid i’ch cyflogwr bob amser:
- ymgynghori â chi i weld a oes ffyrdd o osgoi diswyddo
- ysgrifennu atoch ynghylch eich hawl i dâl diswyddo statudol
- rhoi’r cyfle i chi apelio yn erbyn y penderfyniad, ac
- ystyried unrhyw gyflogaeth amgen addas.
Efallai y byddai’n werth gofyn a allwch fynd â chydweithiwr gyda chi i unrhyw ymgynghoriadau diswyddo, megis cynrychiolydd undeb llafur neu staff. Nid oes gennych hawl cyfreithiol i ddod â rhywun gyda chi yn ystod y cyfarfodydd hyn, ond dylai llawer o gyflogwyr ei ganiatáu.
Ystyriwch ddewisiadau amgen addas
Yn lle colli swydd, efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi:
- leihau nifer y dyddiau neu oriau yr ydych yn eu gweithio bob wythnos (a elwir yn waith amser byr)
- cymryd diwrnodau cyfan i ffwrdd (a elwir yn seibiant)
- gwneud swydd wahanol yn gyfan gwbl, neu
- newid eich contract.
Beth bynnag yw’r cynnig, mae’n werth ystyried a chael cyngor gan eich undeb llafur neu gynrychiolydd gweithwyr cyn penderfynu. Os nad oes gennych un, gallwch drafod eich opsiynau gyda chynghorydd yn eich Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd, AcasYn agor mewn ffenestr newydd, neu Asiantaeth Cysylltiadau LlafurYn agor mewn ffenestr newydd (LRA) yng Ngogledd Iwerddon.
Os cynigir ymddeoliad cynnar i chi a’ch bod yn penderfynu ei gymryd, ni fydd gennych unrhyw hawliau diswyddo ac ni fyddwch yn derbyn unrhyw dâl diswyddo.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymddeoliad cynnar
Darganfyddwch beth i’w wneud os ydych yn meddwl eich bod yn cael eich diswyddo’n annheg
Efallai y bydd gennych achos dros ddiswyddo annheg os credwch fod eich cyflogwr:
- heb ddilyn proses deg
- wedi gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail: oedran, hil, rhyw, rhywioldeb neu nodweddion gwarchodedig eraill
- Efallai y bydd gennych achos dros ddiswyddo annheg awtomatig os ydych yn meddwl bod eich cyflogwr yn gadael i chi fynd am unrhyw un o’r rhesymau hyn:
- beichiogrwydd neu famolaeth
- rhesymau teuluol, gan gynnwys cymryd absenoldeb rhiant neu ofalu am ddibynyddion
- perthyn i undeb llafur neu weithredu fel cynrychiolydd staff
- chwythu’r chwiban ar arferion gwael neu faterion iechyd a diogelwch
- gweithio’n rhan-amser neu ar gontract cyfnod penodol
- oherwydd eich bod wedi gofyn am weithio hyblyg
- oherwydd eich bod wedi codi pryderon am hawliau cyflogaeth statudol, gan gynnwys tâl, oriau gwaith neu wyliau blynyddol
Cewch gyngor cyfrinachol a diduedd am ddim gan wasanaethau cynghori yn y gweithle AcasYn agor mewn ffenestr newydd neu, yng Ngogledd Iwerddon, yr Asiantaeth Cysylltiadau LlafurYn agor mewn ffenestr newydd (LRA).
Darganfyddwch fwy a yw’ch diswyddo yn annheg yn ein canllaw Diswyddo annheg
Cewch gyngor cyfrinachol, diduedd ac am ddim
Weithiau, nid yw’n hawdd nac yn bosibl siarad â rhywun am ddiswyddo neu golli swydd, yn enwedig os nad oes gan eich gweithle adran Adnoddau Dynol neu os ydych yn amau eich bod yn cael eich diswyddo’n annheg.
Os na allwch siarad â’ch cyflogwr, undeb neu gynrychiolydd staff, mae gwasanaeth cyngor yn y gweithle Acas yn cynnig cyngor arbenigol ar bob mater hawliau cyflogaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Gallwch hefyd ddefnyddio AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i gyngor cyflogaeth yn eich ardal.
Ffoniwch Linell Gymorth Acas ar 0300 123 1100Yn agor mewn ffenestr newydd neu ymwelwch â gwefan AcasYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch Linell Gymorth yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur ar 0330 055 5300Yn agor mewn ffenestr newydd neu ymwelwch â gwefan yr Asiantaeth Cysylltiadau LlafurYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch pa mor hir yw eich cyfnod rhybudd
Gwiriwch eich contract i weld hyd eich cyfnod rhybudd – faint o amser rhwng pan fydd eich cyflogwr yn dweud wrthych y byddwch yn colli eich swydd a’ch diwrnod gwaith olaf. Os yw eich contract cyflogaeth yn rhoi’r hawl i chi gael cyfnod rhybudd hirach na’r swm statudol, rhaid i’ch cyflogwr roi hwn i chi.
Mae gennych hawl i isafswm cyfnod rhybudd statudol o:
- o leiaf wythnos o rybudd os ydych wedi cael eich cyflogi rhwng mis a dwy flynedd
- wythnos o rybudd am bob blwyddyn os ydych wedi cael eich cyflogi rhwng dwy a 12 mlynedd, neu
- 12 wythnos o rybudd os ydych wedi cael eich cyflogi am 12 mlynedd neu fwy.
Rhestr wirio ar gyfer eich diwrnod olaf
Cyn i chi adael y cwmni, gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn y canlynol:
- unrhyw dâl diswyddo, cyflog, tâl gwyliau ac arian arall sy’n ddyledus i chi
- datganiad ysgrifenedig yn dangos sut y cyfrifwyd eich tâl diswyddo
- llythyr yn nodi dyddiad eich diswyddo
- geirda swydd gan eich cyflogwr, ac
- eich ffurflen dreth P45 (i’w rhoi i’ch cyflogwr newydd fel eich bod yn cael eich trethu’n gywir), a manylion eich pensiwn.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar gyfer tâl diswyddo
Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael tâl diswyddo
Efallai y bydd gennych hawl i dâl diswyddo statudol os ydych wedi gweithio’n barhaus i’ch cyflogwr am o leiaf dwy flynedd. Os ydych yn gweithio’n achlysurol, neu’n weithiwr asiantaeth neu dros dro, mae’n debyg na fyddwch yn gymwys i gael tâl diswyddo.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Deall beth sy’n rhan o daliad diswyddo statudol
Mae faint y mae gennych hawl iddo yn dibynnu ar ba mor hir rydych wedi bod yn y swydd, eich oedran ym mhob blwyddyn y buoch yn gweithio yno a’ch cyflog presennol.
Byddwch yn cael:
- hanner wythnos o dâl am bob blwyddyn lawn yr oeddech o dan 22 oed
- wythnos o dâl am bob blwyddyn lawn yr oeddech yn 22 oed neu’n hŷn, ond o dan 41 oed
- wythnos a hanner o dâl am bob blwyddyn lawn yr oeddech yn 41 oed neu’n hŷn.
Yn anffodus, ni fydd gennych hawl i daliad statudol os ydych wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr am lai na dwy flynedd neu os yw eich statws cyflogaeth yn golygu nad ydych yn gymwys i gael un. Fodd bynnag, efallai y bydd gennych hawl i ddiswyddiad cytundebol.
Darganfyddwch fwy am eich statws a hawliau cyflogaeth yn ein canllaw Gwahanol fathau o statws cyflogaeth
Gwiriwch eich contract cyflogaeth neu lawlyfr staff
Tâl diswyddo statudol yw’r isafswm cyfreithiol. Ni all eich cyflogwr dalu llai na hyn i chi.
Ond efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu mwy i chi os yw eich contract cyflogaeth yn dweud hynny. Gelwir hyn yn ‘dâl diswyddo cytundebol’.
Gallai hyn olygu cyfandaliad mwy neu gael taliad, hyd yn oed os ydych wedi gweithio yno am lai na dwy flynedd.
Os nad oes unrhyw sôn am ddiswyddo yn eich contract neu’ch llawlyfr staff, gallwch dybio y byddwch yn cael y lleiafswm cyfreithiol.
Cyfrifwch eich tâl diswyddo gan ddefnyddio ein cyfrifiannell
Efallai y byddwch yn derbyn cyfandaliadau eraill yn eich pecyn cyflog terfynol pan fyddwch yn colli eich swydd.
Os ydy'r rhain yn ddyledus i chi o dan eich contract cyflogaeth (yn hytrach nag fel iawndal am golli’ch swydd), byddant yn cael eu trethu yn yr un modd â’ch cyflog arferol.
Gall taliadau gynnwys unrhyw un o’r canlynol:
- cyflogau a thaliadau bonws
- talu yn lle rhybudd (PILON)
- tâl gwyliau.
Defnyddiwch ein cyfrifiannell tâl diswyddo i ddarganfod faint allech chi ei gael
Gwiriwch a fydd yn rhaid i chi dalu treth ar eich tâl diswyddo
Nid ydych yn talu treth neu Yswiriant Gwladol ar unrhyw dâl diswyddo hyd at £30,000. Os byddwch yn cael mwy na £30,000, bydd yn rhaid i chi dalu treth ar eich cyfradd uchaf ar y swm dros £30,000. Efallai y gallwch wrthbwyso unrhyw ofyniad treth gan dalu i mewn i’ch pensiwn.
Os ydych yn cael unrhyw fuddion heb fod yn arian parod fel rhan o’ch pecyn diswyddo, fel car cwmni neu gyfrifiadur, bydd hyn yn cael ei gyfrifo fel gwerth arian parod a'i ychwanegu at eich tâl diswyddo at ddibenion treth.
Bydd yn rhaid i chi dalu treth ar unrhyw dâl a gewch yn lle rhybudd (PILON). Chi sy’n gyfrifol am sicrhau eich bod wedi talu’r swm cywir o dreth.
Gweler ein canllaw Oes rhaid i chi dalu treth ar eich tâl diswyddo?
Beth i’w wneud os na all eich cyflogwr eich talu
Os yw’ch cyflogwr wedi mynd i’r wal neu’n dweud wrthych na allant fforddio eich talu, bydd Gwasanaeth Taliadau Diswyddo’r llywodraeth yn talu’r swm statudol i chi yn lle hynny.
Dylai’r cwmni ansolfedd sy’n delio â’ch cyflogwr roi ffurflen RP1 i chi i wneud cais.
Mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud cais am unrhyw fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt oherwydd pan fydd y Gwasanaeth Ansolfedd yn cyfrifo’ch taliad byddant yn didynnu unrhyw Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol yr ydych yn gymwys i’w gael, p’un a ydych yn hawlio’r budd-daliadau hyn ai peidio.
Dechreuwch eich cais am daliadau diswyddo ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Cysylltwch â’r Gwasanaeth AnsolfeddYn agor mewn ffenestr newydd os na all eich cyflogwr dalu eich taliad diswyddo statudol oherwydd ei fod yn fethdalwr ar 0300 123 1100
Darganfyddwch pa fudd-daliadau sydd ar gael i chi os ydych wedi colli eich swydd
Deall pa fudd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt
Efallai y gallwch wneud cais am fudd-daliadau tra byddwch yn chwilio am swydd newydd i helpu gyda’ch costau tai a byw. Peidiwch ag oedi cyn gwneud cais amdanynt oherwydd byddwch hefyd yn cael credydau Yswiriant Gwladol i ddiogelu eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Gwnewch gais cyn gynted ag y gallwch
Gall gymryd mwy o amser nag y credwch i ddychwelyd i’r gwaith, felly mae bob amser yn werth gwirio pa Fudd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt.
Dim ond am gyfnod cyfyngedig y gellir ôl-ddyddio budd-daliadau ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros ychydig wythnosau am eich taliad cyntaf ar ôl i chi wneud cais, felly mae’n well gwneud cais yn gynnar os ydych yn gymwys.
Gallwch bob amser ganslo’ch cais os byddwch yn cael swydd arall.
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda'n Cyfrifiannell budd-daliadau
Gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) dull newydd
Os ydych wedi colli eich swydd, y prif fudd-dal y gallwch wneud cais amdano yw JSA dull newydd. Gall y rhan fwyaf o bobl ei hawlio os ydych wedi gwneud digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 1 yn y ddwy flynedd dreth lawn ddiwethaf ac os ydych yn gymwys, nid yw’n amodol ar brawf modd, felly gallwch ei hawlio waeth beth fo incwm neu gynilion eich cartref.
Gallwch gael JSA am hyd at chwe mis a bydd yn cael ei dalu i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd bob pythefnos.
I fod yn gymwys, rhaid i chi fod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar gael i weithio ac wrthi'n chwilio am waith.
Os yw incwm eich cartref yn isel a bod gennych neu’ch partner gynilion o lai na £16,000, efallai y gallwch hawlio Credyd Cynhwysol yn ogystal â JSA i helpu gyda chostau eraill, fel tai a magu plant.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol
Gall Credyd Cynhwysol helpu gyda chostau byw sylfaenol, gan gynnwys rhent a magu plant.
Mae’n seiliedig ar incwm y cartref, felly os ydych yn byw gyda rhywun fel cwpl, bydd eu hincwm yn effeithio ar faint y byddwch yn ei gael.
Gallai eich taliad diswyddo effeithio ar faint a gewch ac os oes gan y naill neu’r llall ohonoch gynilion dros £16,000, ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli chwe budd-dal arall, gan gynnwys Budd-dal Tai a chredydau treth. Felly os ydych chi (neu’ch partner) eisoes yn hawlio’r budd-daliadau hyn, byddant yn dod i ben a byddwch yn cael eich ailasesu am Gredyd Cynhwysol.
Mae ein canllaw printiedig am ddim Paratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol yng Nghymru a Lloegr yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am baratoi eich cais
Cael help gyda chostau tai
Os ydych yn rhentu:
- efallai y gallwch wneud cais am elfen tai Credyd Cynhwysol os yw incwm a chynilion eich cartref yn isel iawn, neu
- gwnewch gais am Daliad Tai Dewisol gan eich cyngor lleol i ychwanegu at daliadau.
Os oes gennych forgais:
- gwiriwch a oes gennych yswiriant diogelu taliadau morgais neu incwm
- darganfyddwch a oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol, Cymorth ar gyfer Llog Morgais a Thaliadau Tai Dewisol.
Darganfyddwch fwy ein canllawiau:
Help gyda chodiadau rhent, ôl-ddyledion ac osydych yn cael trafferth talu
Gweld a ydych yn gymwys am Ostyngiad Treth Cyngor
Os yw eich incwm yn isel iawn ac nad oes gennych fawr ddim cynilion, os o gwbl, efallai y bydd eich cyngor yn cytuno i ostwng eich bil Treth Cyngor. Mae faint fydd y gostyngiad yn dibynnu ar eich cynllun lleol a gall ddibynnu a ydych yn cael budd-daliadau yn ymwneud ag incwm, fel Credyd Cynhwysol. Ni fydd y rhan fwyaf o gynghorau yn ôl-ddyddio taliadau.
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith am y tro cyntaf, gwnewch gais am ostyngiad cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud eich cais.
Os ydych yn byw ar eich pen eich hun, mae gennych hawl hefyd i ostyngiad person sengl.
Gwnewch gais am Ostyngiad Treth Cyngor ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Cymorth os ydych yn chwilio am Waith
Efallai gallwch ddefnyddio’r Gronfa Cymorth Hyblyg i helpu gyda chost teithio i gyfweliadau a hyfforddiant neu gyda chostau ychwanegol gallech wynebu yn y misoedd cyntaf o ddechrau swydd newydd.
Gallwch hefyd wneud cais i dalu am gostau ymlaen llaw os oes angen i chi gadarnhau lle gofal plant. Gofynnwch i’ch anogwr gwaith os ydych yn gymwys.
Pan rydych wedi bod yn hawlio rhai budd-daliadau – gan gynnwys Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol – am dri mis, mae gennych hawl i Gerdyn Gostyngiadau Teithio y Ganolfan Byd Gwaith.
Gallwch gael tocynnau trên hanner pris a gostyngiadau ar wasanaethau bws penodol am chwe mis (18-24-mlwydd-oed) neu naw mis (dros-25).
Gallech wneud cais am Gerdyn Gostyngiadau Teithio y Ganolfan Byd Gwaith yn eich Canolfan Byd Gwaith lleol.
Darganfyddwch fwy am gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy am beth i’w wneud ar ôl i’ch swydd ddod i ben
Beth i’w wneud ar ôl i’ch swydd ddod i ben
Gall colli eich swydd fod yn straen ond mae’n bwysig nad ydych yn gadael i hyn eich rhwystro rhag symud ymlaen i swydd arall neu newid gyrfa. Bydd angen i chi hefyd benderfynu beth i’w wneud â’ch pensiwn neu unrhyw gyfandaliadau.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Diweddarwch eich CV
Eich CV yw’r cyfle cyntaf a gewch i greu argraff ar gyflogwr newydd, felly mae angen i chi sicrhau ei fod yn dangos y gorau o’ch galluoedd a’ch cyflawniadau.
Siaradwch â'ch anogwr gwaith am gymorth lleol i’ch helpu i ysgrifennu CV yn eich Canolfan Gwaith.
Eisiau creu CV sy’n creu argraff a sy’n cael cyfweliad i chi?
Os ydych yn byw yn Lloegr, ewch i wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd CenedlaetholYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i Yrfa CymruYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yn Yr Alban, ewch i Skills DevelopmentYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i nidirect.gov.ukYn agor mewn ffenestr newydd
Sicrhewch gefnogaeth y llywodraeth i'ch helpu i ddod o hyd i waith
Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith gronfa ddata fwyaf y DU o swyddi gwag (a elwir yn Find A Job neu Jobcentre Online NI yng Ngogledd Iwerddon).
Gallant hefyd eich helpu i wneud cais am swyddi, llenwi ffurflenni cais a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. Gall y Ganolfan Byd Gwaith hefyd gynnig cymorth ychwanegol i'ch helpu ddychwelyd i'r gwaith.
Cefnogaeth os ydych yn chwilio am waith
Efallai y gallwch ddefnyddio’r Gronfa Cymorth Hyblyg i helpu gyda chostau teithio i gyfweliadau a hyfforddiant neu gyda chostau ychwanegol a allai fod gennych yn ystod y misoedd cyntaf ar ôl dechrau swydd newydd.
Gallwch hefyd wneud cais i dalu costau ymlaen llaw os oes angen i chi sicrhau lle gofal plant. Gofynnwch i'ch anogwr gwaith a ydych yn gymwys.
Pan fyddwch wedi bod yn hawlio budd-daliadau penodol – gan gynnwys Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol – am dri mis, mae gennych hawl i Gerdyn Gostyngiad Teithio y Ganolfan Byd Gwaith.
Gallwch brynu tocynnau trên hanner pris a gostyngiadau ar wasanaethau bws a ddewiswyd am chwe mis (18-24-oed) neu naw mis (dros 25-oed)
Gallwch wneud cais am Gerdyn Gostyngiad Teithio y Ganolfan Byd Gwaith yn eich Canolfan Byd Gwaith leol. Darganfyddwch fwy am gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith ar wefan GOV.UK
Penderfynwch beth i’w wneud gyda’ch pensiwn
- Gadael eich pensiwn gyda’ch cyflogwr a phan fyddwch yn ymddeol byddwch yn derbyn incwm ymddeoliad o’r cynllun hwnnw. Dyma’r opsiwn gorau fel arfer os ydych yn perthyn i gynllun buddion wedi'u diffinio.
- Trosglwyddwch eich cronfa bensiwn. Gallai hyn fod i gynllun cyflogwr newydd pan fyddwch yn dod o hyd i swydd newydd, os bydd y cynllun newydd yn caniatáu hyn, neu i’ch pensiwn personol eich hun.
Cyn i chi wneud penderfyniad am eich pensiwn darllenwch ein canllaw Beth sy’n digwydd i’ch arian a’ch buddion pensiwn pan fyddwch yn gadael eich pensiwn
Gwnewch y mwyaf o’ch tâl diswyddo
Efallai eich bod wedi cael cyfandaliad diswyddo. Tra’ch bod yn penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio’r arian, dyma rai pethau y gallech fod am eu hystyried.
Ychwanegu at eich incwm nes i chi gael swydd newydd
Defnyddiwch ein Cynllunydd cyllideb i gyfrifo faint fydd ei angen arnoch bob wythnos neu fis, a pha mor hir y gallwch wneud i’r arian para
Cliriwch ddyledion os bydd hyn yn dod â gwariant i lawr i lefel haws ei rheoli
Anelwch at glirio unrhyw ddyledion â blaenoriaeth cyn gynted â phosibl. Gwiriwch a oes unrhyw gosbau ad-dalu cynnar ar ddyledion yr ydych yn ystyried eu had-dalu’n llawn. Byddwch yn ymwybodol y gallai ad-dalu dyledion effeithio ar unrhyw gais am fudd-daliadau’r wladwriaeth sy’n dibynnu ar brawf modd os nad oedd yn rhaid i chi ad-dalu’r dyledion a’ch bod wedi gwneud hynny’n rhannol o leiaf i gynyddu eich budd-daliadau drwy leihau eich cynilion.
Sefydlu cynilion brys
Mae cael rhai cynilion brys yn ffordd wych o baratoi am gostau annisgwyl. Ystyriwch roi eich cyfandaliad mewn cyfrif mynediad hawdd neu gyfrif cyfredol sy’n talu llog. Rhowch hwb i'ch cynilion pensiwn
Byddwch yn cael gostyngiad treth ar y swm rydych yn talu i mewn i gynllun pensiwn hyd at derfynau penodol
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwneud y gorau o’ch tâl diswyddo
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllaw printiedig am ddim Y llawlyfr dileu swyddiYn agor mewn ffenestr newydd
Ydych chi wedi methu taliad?
Os felly, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion
-
Mae am ddim ac yn gyfrinachol
-
Yn rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a’ch arian
-
Yn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir