Gyda biliau dŵr ar gyfartaledd yn y DU tua £400, nid yw’n syndod bod cartrefi yn ceisio cwtogi eu costau. Darganfyddwch sut i reoli eich biliau dŵr, lleihau eich defnydd o ddŵr ac arbed arian.
A yw’n werth newid i fesurydd dŵr?
Cam un - cyfrifo faint ydych yn ei dalu
Mae dwy ffordd y gallwch dalu’ch bil dŵr .
- Rydych yn talu pris gosodedig bob blwyddyn – gelwir hyn yn filio ardrethol. Mae faint a dalwch yn dibynnu ar eich cartref – gallwch ddarllen rhagor ar wefan United Utilities
- Mae gennych fesurydd dŵr – mae hyn yn golygu eich bod yn talu am y dŵr rydych yn ei ddefnyddio .
Os nad ydych yn siŵr sut rydych yn talu, edrychwch ar eich bil dŵr .
Yn gyffredinol, po fwyaf yw maint eich cartref a pho leiaf yw’r nifer o bobl sy’n byw ynddo, po fwyaf tebygol ydych o arbed arian gyda mesurydd dŵr. Fodd bynnag, peidiwch â cheisio newid heb wirio cyfrifiannell Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr
Cam dau - cyfrifo a yw’n werth newid
Os ydych yn cael biliau ardrethol, gallwch ddewis i gael mesurydd dŵr yn lle hynny.
Gall hyn fod yn rhatach, ond nid yw felly bob amser.
Er mwyn gweld p’un sy’n iawn i chi, defnyddiwch gyfrifiannell defnydd o ddŵr.
Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell ar wefan Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr .
Bydd angen i chi amcangyfrif ychydig o fanylion ynghylch y dŵr rydych yn ei ddefnyddio – fel pa mor aml rydych yn fflysio’r toiled – a bydd yn dangos i chi faint y gallech ei arbed o’i gymharu â’ch bil ardrethol cyfredol.
Os bydd eich defnydd o ddŵr yn newid – efallai pan fydd y plant yn gadael gartref – hwyrach y gallech roi cynnig ar y gyfrifiannell eto.
Methu cael mesurydd dŵr ?
Os na all eich cyflenwr dŵr ddarparu mesurydd dŵr i chi, mae’n ddyletswydd arnynt gynnig rhywbeth amgenach yn hytrach.
Gelwir y dewis yma yn Dâl a Asesir .
Gallwch ddysgu rhagor am Daliadau a Asesir ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Awgrymiadau ar gyfer defnyddio llai o ddŵr
Unwaith y bydd gennych fesurydd dŵr, yn ddibynnu ar eich cyflenwr mae’n bosibl na allwch newid yn ôl i filiau ardrethol, hyd yn oed os ydych yn credu y gallai hynny fod yn rhatach.
Os felly, gallwch arbed llawer yw drwy gwtogi ar faint o ddŵr a ddefnyddiwch.
Ac, fel bonws ychwanegol, byddwch yn arbed arian ar yr olew, nwy neu drydan mae’n ei gymryd i gynhesu’r dŵr.
Dewch o hyd i awgrymiadau ar wefan Ofwat
Cewch gyfarpar arbed dŵr am ddim
Os ydych ar fesurydd dŵr ac yn edrych i arbed dŵr, mae teclynnau am ddim ar gael i’ch helpu i arbed. Edrychwch ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr a dewch o hyd i’ch cwmni dŵr i weld beth mae gennych hawl iddo.
Yn ei chael yn anodd talu’ch biliau dŵr ?
Os yw coronafeirws wedi effeithio ar eich incwm a’ch bod yn poeni am eich sicrwydd ariannol yn y dyfodol, efallai y byddwch yn bryderus ynghylch methu â thalu’ch bil dŵr neu fynd i ôl-ddyledion.
Er na all eich cyflenwr ddiffodd eich cyflenwad dŵr os byddwch yn methu taliadau, gallant ddefnyddio achos llys i orfodi ad-daliad.
Fodd bynnag, mae help ar gael i chi. Cysylltwch â’ch darparwr dŵr cyn gynted ag y credwch y gallech ei chael yn anodd a gofyn am gefnogaeth.
Cymru a Lloegr
Darganfyddwch pwy yw eich cwmni dŵr drwy defnyddio’ch cod post ar wefan Water UK
Yr Alban
Os ydych ar fesurydd dŵr, byddwch yn talu’ch biliau dŵr yn uniongyrchol i Scottish Water. Os nad ydych ar fesurydd, byddwch yn talu am eich dŵr gyda’ch treth cyngor.
Darganfyddwch pwy yw eich cyngor drwy defnyddio’ch cod post ar Gov.uk
Cysylltwch â Scottish Water ar eu gwefan
Gogledd Iwerddon
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon eich darparwr fydd Northern Ireland Water
Beth all fy narparwr dŵr ei wneud i’m helpu ?
Mae darparwyr dŵr yn gwybod y bydd angen help ar lawer o gwsmeriaid yn ystod y pandemig, a gallant gynnig cefnogaeth i chi .
Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau a gallai gynnwys :
- seibiannau talu neu wyliau talu (a elwir weithiau’n rhewi taliad )
- cynlluniau arbennig, fel tariffau cymdeithasol
- addasu eich cynllun talu i ymdopi â gostyngiad yng nghyllid y cartref
- cynnig cyngor ar fudd-daliadau a rheoli dyledion, yn enwedig os nad ydych wedi cael trafferthion ariannol o’r blaen
- atal ceisiadau llys newydd ar filiau sydd heb eu talu a chamau gorfodi yn ystod y cyfyngiadau cyfredol.
- darganfod a ydych yn gymwys i gael grantiau elusennol .
Os ydych yn hunan-ynysu ac yn methu â gadael y tŷ, bydd cwmnïau dŵr yn cynnig ffyrdd eraill i chi dalu’ch bil .
I ddarganfod beth all eich cyflenwr ei gynnig, cysylltwch cyn gynted ag y gallwch – a chyn i chi fethu taliad. Bydd eu manylion cyswllt a mwy o wybodaeth ar eu gwefan ac ar eich bil.
Mae mwy o wybodaeth i bobl sy’n byw yng Nghymru a Lloegr ar wefan CCW
Mae mwy o wybodaeth i bobl sy’n byw yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar wefan Turn2Us
Beth dylwn ei wneud os wyf wedi methu taliadau ar fy mil dŵr ?
Mae’n bwysig talu – a pheidio ag anwybyddu – eich bil dŵr .
Ni all eich darparwr dŵr ddiffodd eich cyflenwad dŵr, ond byddant yn gweithredu os byddwch yn methu taliadau.
Os ydych wedi colli mwy nag un taliad neu os ydych yn jyglo dyledion eraill, mae’n bwysig eich bod yn eu talu yn y drefn iawn gan fod rhai yn fwy brys ac mae gan rai benthycwyr fwy o rym nag eraill.
Gwelwch ein canllaw ar sut i flaenoriaethu eich dyledion i’ch helpu i weithio allan pa rai i’w talu gyntaf.
Darganfyddwch gyngor cyfrinachol ar ddyledion ar-lein, dros y ffôn neu yn agos at ble rydych yn byw gan ddefnyddio ein canfyddwr cyngor ar ddyledion