Gall cael incwm afreolaidd wneud cyllidebu i’w weld yn amhosibl pan fydd gennych symiau gwahanol yn dod i mewn bob mis, ond os ydych yn gwybod faint sy’n mynd allan bob mis, gallwch gyllidebu.
Os bydd eich incwm yn amrywio, awgrym da yw cyllidebu ar gyfer eich incwm misol isaf – o leiaf byddwch bob amser yn talu’r costau mawr. Yna, os oes gennych chi fis da, gallwch chi adolygu'ch cyllideb fisol i fyny.
Neu ychwanegwch bopeth oedd gennych yn dod i mewn dros y flwyddyn ddiwethaf a'i rannu â 12. Bydd hyn yn rhoi incwm misol cyfartalog i chi ei ddefnyddio fel marc sylfaen ar gyfer eich incwm.
Yna meddyliwch sut mae eich taliadau allan, costau a gwariant yn cael eu lledaenu ar draws y flwyddyn, er enghraifft, biliau cyfleustodau, costau gwaith, treth car, unrhyw yswiriant a allai fod gennych, bil treth hunanasesiad ac ychwanegwch hwy i’ch cyllideb.
Cofiwch y bydd misoedd pan fydd taliadau penodol yn ddyledus neu pan fyddwch yn gwario mwy, fel y Nadolig, gwyliau ysgol neu benblwyddi teulu.