Os ydych yn cael anhawster cwrdd â’ch taliadau cyllid car yn brydlon neu’n dymuno lleihau eich costau, gallwch glirio’r cytundeb drwy dalu’r swm yn gynnar neu ddychwelyd y car. Ond mae rhai amodau a chostau ynghlwm â gwneud hynny, felly peidiwch penderfynu hyd nes i chi wybod yn union beth ydynt.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pryd ddylwn i ddod â fy nghytundeb cyllid i ben yn gynnar?
- Traul teg a diweddu cytundebau cyllidol neu les yn gynnar
- Dod â phryniant ar gytundeb personol (PCP) i ben yn gynnar
- Ad-dalu cytundeb hurbwrcasu (HP) yn gynnar
- Beth i fod yn ofalus yn ei gylch wrth ddod â chytundeb PCP neu HP i ben yn gynnar
- Dod â Chytundeb Llogi Personol (PCH) i ben yn gynnar
- Defnyddio’ch cynilion
Pryd ddylwn i ddod â fy nghytundeb cyllid i ben yn gynnar?
Mae yna rai prif resymau pam y gallech fod eisiau dod â chytundeb cyllid eich car i ben yn gynnar:
- rydych yn cael anhawster talu’r taliad yn brydlon bob mis oherwydd newid yn eich amgylchiadau fel colli’ch swydd
- credwch y gallwch gwtogi’ch costau drwy ddod â’r cytundeb i ben a phrynu car mewn dull gwahanol
- nid oes angen car arnoch mwyach.
Os ydych yn cael anhawster cadw dau ben llinyn ynghyd
Os ydych yn cael anhawster wrth dalu biliau yn ogystal â’ch taliadau car, gallwch gael cyngor cyfrinachol am ddim gan sefydliad neu elusen sy’n rhoi cyngor ar ddyledion.
Mae dod â chytundeb i ben yn gynnar yn well na mynd i ôl-ddyled a niweidio’ch sgôr credyd – a allai ei gwneud hi’n llawer iawn anoddach cael cyllid yn y dyfodol ac felly costau llog uwch ar gyfer y cytundebau y llwyddwch i’w cael.
Darganfyddwch fwy am sut i leihau cost eich cardiau credyd a’ch benthyciadau personol
Traul teg a diweddu cytundebau cyllidol neu les yn gynnar
Pan fyddwch yn dod â chytundebau i ben yn gynnar, cofiwch fod cyflwr y cerbyd yn bwysig. Mae traul cyffredinol yn dderbyniol ond codir tâl arnoch am gostau atgyweirio pethau fel drychau ochr wedi torri neu grafiadau mwy o faint.
Gwiriwch gyda’ch gwerthwr ceir i gael diffiniad o draul gyffredinol dderbyniol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd ynghylch diffinio traul gyffredinol dderbyniol ar-lein gan BVRLA yn eu canllaw 2024, neu archebwch gopi papur
Gwiriwch ganllawiau’r cynhyrchwr am ragor o wybodaeth.
Os oes gennych ddifrod nad yw’n cyfrif fel traul gyffredinol, mae’n werth gwirio i weld a allwch gael garej sydd ag enw da i drwsio’r car yn rhad cyn ei ddychwelyd.
Dyma grynodeb o beth arall sydd angen i chi ei wybod wrth ad-dalu eich cytundeb car yn gynnar.
Dod â phryniant ar gytundeb personol (PCP) i ben yn gynnar
Dychwelyd y car
Os ydych eisoes wedi talu hanner cost y car, neu gynnig y gwahaniaeth rhwng yr hyn a dalwyd gennych eisoes a hanner cost y car, mae gennych yr hawl i ddychwelyd y car i’r darparwr cyllid dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974. Gelwir hyn yn ‘derfynu gwirfoddol’.
Cofiwch, serch hynny, na chewch unrhyw arian yn ôl os taloch fwy na hanner cost y car.
Gall dychwelyd y car fod yn gam doeth os, er enghraifft, y collodd ei werth i’r fath raddau y byddai’ch taliadau sy’n weddill yn uwch yn y pen draw na’i werth ar hyn o bryd.
Ond os yw gwerth y car ar hyn o bryd yn uwch na’r taliadau sydd gennych yn weddill, gall fod yn fwy buddiol i chi dalu swm i setlo’r cytundeb gyda’r cwmni cyllido ac yna gwerthu’r car.
Ad-dalu’n gynnar
Os hoffech dalu’ch cytundeb PCP yn gynnar, y cam cyntaf yw gofyn i’r darparwr cyllid am ffigwr setliad.
Hwn yw’r swm o arian y bydd angen i chi ei dalu i ddod â chytundeb cyllid y car i ben yn wirfoddol.
Wedyn, mae gennych ddau ddewis, sef:
- Talu’r cytundeb a chadw’r car – bydd hyn yn gwneud synnwyr os yw’r ffigwr taliad llawn yn is na chost parhau â’ch taliadau misol.
- Talu’r cytundeb yn gynnar ac yna gwerthu’r car – gallai hyn fod yn ddewis da os ydych yn brin o arian ac os na fydd yr arian a gewch am y car yn eich gadael yn eithriadol o brin o arian. Ond cofiwch, ni allwch werthu’r car hyd nes i chi dalu’r ffigwr setliad, oherwydd tan hynny nid chi yw perchennog cyfreithiol y car hwnnw.
Darllenwch ein canllaw Prynu car gyda Phryniant ar Gytundeb Personol (PCP)
Ad-dalu cytundeb hurbwrcasu (HP) yn gynnar
Awgrym da
Os penderfynwch ddychwelyd y car, dywedwch wrth y cwmni cyllid mewn llythyr neu e-bost a chadw copi. Eglurwch yn glir eich bod yn dychwelyd y car ac yn dod â’r cytundeb i ben. Os na wnewch chi hynny gallech gael eich ystyried fel rhywun sy’n methu eich taliadau, a gallai hynny effeithio ar eich statws credyd.
Gyda hurbwrcasu (HP), gallwch ddychwelyd y car yn gynnar os ydych eisoes wedi talu hanner ei gost, neu gynnig y gwahaniaeth rhwng yr hyn a dalwyd gennych eisoes a hanner cost y car.
Os ydych eisoes wedi talu dros hanner gwerth y car, yna ni fyddwch yn cael ad-daliad am y gwahaniaeth.
Dylai’r cytundeb credyd a arwyddoch cyn cymryd y car ddangos cyfanswm ei gost a’r hyn y bydd yn ofynnol i chi ei dalu os dychwelwch y car.
Gall wneud synnwyr i ddychwelyd y car yn gynnar os nad oes angen y car arnoch, neu gallech brynu car tebyg yn rhywle arall am lai na chost gweddill eich taliadau.
Eich hawliau wrth ad-dalu HP yn gynnar
Caiff y swm y gall y darparwr benthyciadau ei godi arnoch am ad-dalu cytundeb hurbwrcas neu gytundeb gwerthiant yn gynnar ei gapio gan y gyfraith.
Mae’r rheol hon yn rhan o’r Ddeddf Credyd Defnyddwyr a gallwch ddarganfod mwy am ad-dalu eich benthyciad yn gynnar ar wefan Finance and Leasing Association
Y mwyaf y gallwch ddisgwyl ei dalu yw’r ddyled gyfalaf sy’n weddill (ond nid y llog), yn ogystal â’r isaf o’r tri chyfanswm isod:
- 1% o’r swm a ad-dalwyd yn gynnar – felly £100 os yw’r ddyled sydd gennych yn weddill yn £10,000.
- 0.5% o’r swm a ad-dalwyd yn gynnar os oes llai na 12 mis yn weddill – er enghraifft, £50 os oes gennych ddyled o £10,000.
- y llog sy’n weddill.
Cofiwch, os ydych yn ad-dalu llai nag £8,000, ni ddylid codi unrhyw ffioedd ychwanegol arnoch.
Beth i fod yn ofalus yn ei gylch wrth ddod â chytundeb PCP neu HP i ben yn gynnar
Os byddwch yn dod â’ch cytundeb i ben yn gynnar yn wirfoddol, bydd hynny’n ymddangos ar eich ffeil gredyd. Ni fydd y rheswm dros ddod â’r cytundeb i ben yn cael ei nodi. Prin iawn os o gwbl fydd y gwahaniaeth yn eich sgôr credyd, felly mae’n ddewis llawer gwell na methu taliadau, a allai effeithio’n llawer mwy difrifol ar eich ffeil gredyd, gan ei gwneud hi’n anoddach i chi fenthyca arian yn y dyfodol.
Fodd bynnag, gall dod â chytundebau i ben yn gynnar yn aml er mwyn dychwelyd ceir edrych yn ddrwg ar eich ffeil gredyd. Mae hyn oherwydd ei bod hi’n costio mwy i gwmniau cyllido ddod â chytundebau i ben yn gynnar.
Gan fod cwmniau yn colli arian pan ddowch â chytundebau i ben yn gynnar, mae’n golygu nad ydynt yn aml yn gefnogol iawn o’ch dymuniad i wneud hynny. Gallent fod eisiau ymestyn y broses cyn hired â phosibl.
I osgoi hyn, anfonwch lythyr atynt yn egluro eich bod yn ymgeisio i ddod â’r cytundeb i ben yn wirfoddol. Nid oes angen i chi arwyddo dogfennau na chwblhau pecynnau diweddu cytundeb. Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu llythyr templed ar gyfer hyn.
Efallai y gwelwch y bydd y cwmni cyllido’n dymuno codi ffi cosb arnoch yn seiliedig ar y nifer o filltiroedd y mae’ch car wedi’i deithio. Y rheswm am hyn fydd eich bod wedi teithio mwy o filltiroedd na’r disgwyl. Yn gyfreithiol ni allant godi ffi cosb arnoch am hyn os ydych wedi cymryd gofal boddhaol o’r car.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am gyllid car a dod â chytundeb cyllid i ben yn gynnar, ar wefan The Car Expert
Yn olaf, sicrhewch eich bod yn parhau i dalu’r ad-daliadau cyn gwneud cais i ddod â’r cytundeb i ben yn wirfoddol. Os methoch daliad, mae gan y cwmni cyllido fwy o hawliau, a bydd eich ffeil gredyd yn dangos y taliadau a fethwyd.
Dod â Chytundeb Llogi Personol (PCH) i ben yn gynnar
Os ydych wedi bod yn prydlesu car drwy Gytundeb Llogi Personol (PCH), gallech orfod talu’r costau prydlesu’n llawn os dychwelwch y car yn gynnar.
Felly meddyliwch yn ofalus cyn canslo’r cytundeb a chanfod yn union beth fyddai cyfanswm y costau hyn.
Os ydych yn cael anawsterau talu’r gost brydlesu fisol, siaradwch â’r darparwr cyllid.
Gall gynnig ymestyn hyd y les, a fyddai’n gostwng eich taliadau misol, neu ddod i drefniant arall i’ch helpu.
Darganfyddwch fwy am ad-dalu eich benthyciad yn gynnar ar wefan Y Gymdeithas Cyllido a Phrydlesu (FLA)
Defnyddio’ch cynilion
Os bydd y llog a gewch ar eich cynilion yn is na’r llog ar daliadau eich cytundeb cyllid car, bydd yn gwneud synnwyr i ystyried defnyddio’ch cynilion i ad-dalu’ch cytundeb yn gynnar.