Gall methu â fforddio talu'ch biliau a'ch dyledion fod yn straen mawr, ond mae'n bwysig cysylltu â'r cwmni rydych yn ddyledus iddynt cyn i chi fethu taliad. Darganfyddwch sut y gallant eich helpu, ynghyd â ffyrdd eraill o fynd yn ôl ar y trywydd iawn.
Help os ydych yn cael trafferth i dalu’ch biliau
Help i glirio arian sy’n ddyledus i fenthycwyr
Os yw’ch incwm wedi gostwng ac rydych yn poeni na fydd yn dychwelyd i’r arfer, darganfyddwch beth allwch ei wneud i leihau’r risg o gwympo tu ôl ar daliadau i fenthycwyr.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan yr hyn sydd angen i chi ei wneud
Beth i’w wneud os ydych yn poeni am ad-daliadau
Os ydych yn poeni na allwch fforddio eich ad-daliadau neu unrhyw ffioedd taliad hwyr neu log, neu’r ddau, siaradwch â’ch benthyciwr.
Gallant gynnig help, fel cytundebau ad-dalu fforddiadwy a chynaliadwy, neu roi ddigon o amser i chi ad-dalu a pheidio rhoi pwysau arnoch i ad-dalu’r ddyled mewn cyfnod byr afresymol.
Os ydych yn methu taliadau, bydd y benthyciad yn ‘ddiffygion’. Yna gall ffioedd cael eu hychwanegu, gan gynyddu beth sy’n ddyledus gennych. A gall methu taliadau gwneud niwed i’ch sgôr credyd.
Mae rhai biliau’n bwysicach nag eraill. Gall ein Blaenoriaethwr biliau eich helpu i ddelio â’ch biliau a thaliadau yn y drefn gywir.
Gweithiwch allan pa filiau sydd angen ei dalu’n gyntaf gyda’n Blaenoriaethwr biliau
Darganfyddwch Help i dalu eich bil nwy neu drydan
Help i dalu eich bil nwy neu drydan
Gall methu â fforddio cynhesu neu bweru'ch cartref fod yn straen mawr. Darganfyddwch pa help sydd ar gael gan eich cyflenwr os ydych yn cael trafferth, yn ogystal â ffyrdd eraill o fynd yn ôl ar y trywydd iawn.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan yr hyn sydd angen i chi ei wneud
Sut gall eich cyflenwr ynni helpu
Os ydych yn cael trafferth gwneud taliadau nwy neu drydan, siaradwch â'ch cyflenwr.
Rhaid iddynt weithio gyda chi i gytuno ar gynllun talu sy'n addas i chi, a allai gynnwys taliadau mwy fforddiadwy, seibiant talu, neu awgrymu grantiau elusennol neu gronfeydd caledi.
Os ydych ar fesurydd rhagdaledig ac yn poeni am ychwanegu ato, mae gan Gyngor ar Bopeth fwy o arweiniad os na allwch fforddio ychwanegu at eich mesurydd rhagdaluYn agor mewn ffenestr newydd
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael gwybodaeth am gredyd brysYn agor mewn ffenestr newydd os ydych ar fesurydd rhagdalu ar PowerNI.
Gallwch hefyd darllen ein canllaw Beth i’w wneud os yw’ch bil ynni’n uchel.
Os ydych yn cael trafferth i dalu eich bil, siaradwch â’ch cyflenwr ynniYn agor mewn ffenestr newydd
Gwiriwch a ydych yn gymwys am gymorth ychwanegol y llywodraeth
Os ydych yn cael budd-daliadau, mae gan y llywodraeth cynlluniau i’ch helpu i dalu biliau tanwydd:
Gostyngiad Cartref Cynnes – cewch £150 i ffwrdd o’ch biliau trydan neu nwy.
I ddarganfod a ydych yn gymwys, ffoniwch 0800 107 8002 neu ewch i GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Nid yw’r gostyngiad ar gael yng Ngogledd Iwerddon, ond os ydych yn byw yna efallai byddwch yn gymwys am y Cynllun Affordable WarmthYn agor mewn ffenestr newydd
Taliad Tywydd Oer – os yw'r tywydd yn mynd yn oer iawn a'ch bod eisoes yn cael rhai budd-daliadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliadau tywydd oer gwerth £25. Dysgwch fwy yn ein blog Pwy sydd â hawl i daliadau tywydd oer?
Taliad Tywydd Oer – os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, dylech fod hefyd yn gymwys am Daliad Tanwydd GaeafYn agor mewn ffenestr newydd o rhwng £100 a £300.
Help lleol i dalu biliau ynni
Os ydych heb nwy neu drydan, efallai gall eich cynllun lles lleol helpu:
- Os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â’ch cyngor lleol i weld a oes ganddynt gynllun cymorth lles. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych yn byw yn Yr Alban, darganfyddwch fwy am y Scottish Welfare FundYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych yn byw yng Nghymru, darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth DdewisolYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon a’n cael trafferth i dalu eich biliau ynni, cewch gyngor o nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon a’n cael argyfwng tanwydd brys, efallai y gallwch gael taliad £100 untro o’r Bryson GroupYn agor mewn ffenestr newydd
Cymorth ychwanegol os ydych yn fregus
Rhaid i'ch cyflenwr ynni roi cymorth ychwanegol i chi os ydych yn fregus. Er enghraifft, os:
- oes gennych gyflwr iechyd anabl neu hirdymor
- oes gennych anghenion iechyd meddwl
- oes gennych golled clyw neu olwg
- ydych yn feichiog neu mae gennych blant o dan bump oed
- ydych yn gwella ar ôl anaf neu newydd gael eich rhyddhau o'r ysbyty
- nad ydych yn siarad neu’n darllen Saesneg yn dda, neu mae gennych anghenion cyfathrebu eraill
- ydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth.
Gallai fod rhesymau eraill pam y gallech fod yn fregus, felly os nad ydych yn siŵr gallwch ofyn i'ch cyflenwr.
Mae'n syniad da cofrestru i Gofrestr Gwasanaethau BlaenoriaethYn agor mewn ffenestr newydd eich cyflenwr a'ch gweithredwr rhwydwaith
Ymgofrestwch ar Gofrestr Gwasanaethau BlaenoriaethYn agor mewn ffenestr newydd eich cyflenwr a’ch gweithredwr rhwydwaith
Sefydliadau eraill a all helpu gyda biliau tanwydd
Gall y sefydliadau isod gynghori ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud os ydych wedi methu taliad, y weithred y gall eich cyflenwr eu cymryd a pham ei bod yn bwysig clirio unrhyw ddyled nwy neu drydan cyn gynted ag y gallwch:
- Os ydych yng Nghymru neu Loegr ac wedi cwympo tu ôl gyda’ch biliau ynni, ewch i Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch Adviceline (Lloegr) ar 0800 144 8848 neu AdvicelinkYn agor mewn ffenestr newydd (Cymru) ar 0800 702 2020
- Os ydych yn Yr Alban, ewch i Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0131 550 1000
- Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, ewch i Advice NIYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0800 915 4604
- Gallwch hefyd ysgrifennu at eich credydwyr gan ddefnyddio llythyrau samplYn agor mewn ffenestr newydd o Gyngor ar Bopeth
Am gyngor diduedd, am ddim, defnyddiwch ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion.
Os ydych wedi methu taliad nwy neu drydan, cysylltwch â StepChange am gyngorYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch help os ysych yn cael trafferth i dalu eich bil dŵr
Help os ydych yn cael trafferth i dalu eich bil dŵr
Ydych chi'n poeni am fethu â thalu'ch bil dŵr neu gwympo i ôl-ddyledion? Er na all eich cyflenwr ddiffodd eich dŵr os byddwch yn colli taliadau, gallant fynd â chi i'r llys i orfodi ad-daliad. Darganfyddwch sut i gael help.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan yr hyn sydd angen i chi ei wneud
Cymorth i dalu eich bil dŵr
Os ydych yn cael trafferth i dalu eich bil dŵr, cysylltwch â’ch cwmni dŵr cyn gynted â phosibl. Efallai byddent yn:
- cynnig seibiant talu neu wyliau talu
- darparu cynlluniau arbennig, fel tariff cymdeithasol
- addasu eich cynllun talu i ymdopi â gostyngiad yng nghyllid eich cartref
- cynnig cyngor ar fudd-daliadau a rheoli dyledion, yn enwedig os nad ydych wedi cael trafferth o’r blaen
- darganfod a ydych yn gymwys i grantiau elusennau.
Mesuryddion dŵr
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, bod gennych fesurydd dŵr a’ch bod ar fudd-daliadau penodol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth. Darganfyddwch fwy ar wefan CCWYn agor mewn ffenestr newydd
I bobl sy'n byw yn yr Alban, mae'r rhan fwyaf o bobl yn talu am eu dŵr drwy eu Treth Gyngor. Darganfyddwch fwy ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn poeni am fethu taliad, cysylltwch â’ch cwmni dŵrYn agor mewn ffenestr newydd
Cymorth ychwanegol i dalu biliau dŵr
Os ydych yn anabl, yn ofalwr neu mae angen help ychwanegol arnoch o’ch cwmni dŵr, dylent gynnig hwn i chi.
Gall cymorth ychwanegol cynnwys anfon eich bil dŵr mewn print mawr, gwneud eich mesurydd dŵr yn fwy hygyrch neu osod cyfrinair i’ch cwmni dŵr ei ddefnyddio pan maent yn cysylltu â chi, os ydych yn poeni am gael eich sgamio.
Defnyddiwch y dolenni i ymgofrestru am Wasanaethau Blaenoriaeth neu’r Gofrestr Gofal Cwsmeriaid:
- Yng Nghymru a Lloegr, gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ar OfwatYn agor mewn ffenestr newydd
- Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ddarganfod mwy ar Northern Ireland WaterYn agor mewn ffenestr newydd
- Yn Yr Alban, mae mwy o help ar PSR ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
Gwelwch ein canllaw ar sut i flaenoriaethu dyledion
Darganfyddwch wybodaeth am greu cynllun i dalu eich dyledion ar Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn poeni am fethu taliad, cysylltwch â’ch cwmni dŵrYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch help i dalu eich Trwydded Deledu
Help i dalu eich Trwydded Deledu
Mae cadw i fyny â'ch taliadau Trwydded Deledu yn bwysig gan ei fod yn cael ei ystyried yn ddyled â blaenoriaeth. Gall TV Licensing cyhoeddi dirwyon neu fynd â chi i'r llys am fethu â thalu gan ei fod yn cael ei ystyried yn fater troseddol. Os ydych chi'n cael trafferth talu, darganfyddwch pa opsiynau sydd ar gael.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan yr hyn sydd angen i chi ei wneud
Help os ydych yn cael trafferth i dalu eich Trwydded Deledu
Os ydych yn poeni am dalu eich Trwydded Deledu, bydd TV Licensing yn eich helpu i sefydlu cynllun ad-daliad fforddiadwy.
Ffoniwch nhw ar 0300 555 0300 neu gwiriwch TV LicensingYn agor mewn ffenestr newydd
Os nad ydych yn meddwl y byddwch yn gallu fforddio Trwydded Deledu, mae'n well ei chanslo ac o bosib cael rhywfaint o arian yn ôl - ond mae'n bwysig nad ydych yn parhau i wylio'r teledu (neu iPlayer BBC) heb drwydded gan y gallwch wynebu erlyniad.
Os oes angen i chi ganslo eich trwydded, ffoniwch TV Licensing ar:
- 0300 790 6068 – os ydych yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol neu mewn taliad untro
- 0300 555 0300 – os ydych yn talu trwy gerdyn TV Licensing
Os nad ydych yn gwylio’r teledu (neu unrhyw beth ar BBC iPlayer) a dim ond yn gwrando ar y radio (gan gynnwys radio’r BBC), nid oes angen Trwydded Deledu. Ar gyfer popeth arall, mae angen un arnoch.
Os ydych yn cael trafferth i dalu’ch Trwydded Deledu, cysylltwch â TV LicensingYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i arbed arian ar eich Trwydded Deledu
Efallai caiff eich Trwydded Deledu ei gynnig i chi am ddim neu am gost ostyngedig os:
- ydych yn 75 oed neu’n hŷn ac rydych chi, neu’ch partner sy’n byw yn yr un cyfeiriad, yn cael Credyd Pensiwn
- ydych yn 75 oed neu’n hŷn ac rydych yn byw mewn cartref gofal preswyl – gan efallai rydych wedi’ch cynnwys gan Drwydded Deledu Llety ar gyfer Gofal Preswyl eich cartref gofal
- ydych yn gofrestredig yn ddall – gan eich bod yn cael gostyngiad 50% ar eich Trwydded Deledu
- yw eich teledu’n ddu a gwyn – gan y gallwch wneud cais am Drwydded Deledu cost lai am £57.00 (mae teledu lliw yn costio £169.50).
Darllenwch ein blog Sut i adnabod ac osgoi sgamiau ad-daliad Trwydded Deledu
Os ydych yn meddwl gallwch gael Trwydded Deledu am ddim, neu’n rhatach, cysylltwch â TV LicensingYn agor mewn ffenestr newydd
Help os ydych yn cael trafferth i dalu am linell dir, ffôn symudol neu fand eang
Mae nifer ohonom yn dibynnu ar wasanaethau digidol, ar-lein a symudol i fyw ein bywydau. Os ydych yn cael trafferth i dalu am unrhyw un o’r biliau hyn, mae yna bethau gallwch ei wneud i aros yn gysylltiedig.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan yr hyn sydd angen i chi ei wneud
Beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth i dalu eich bil ffôn symudol
Os oes angen help arnoch, dywedwch wrth eich darparwr llinell dir, ffôn symudol neu fand eang cyn gynted â phosibl.
Gall llawer o ddarparwyr eich helpu, gan gynnwys newid dyddiad eich bil, sefydlu cynllun ad-dalu fforddiadwy neu eich symud i dariff gwahanol.
Os ydych chi'n ystyried dod â'ch cytundeb ffôn symudol i ben yn gynnar, darganfyddwch a oes rhaid i chi dalu ffi. Gallwch anfon neges destun ‘INFO’ i ‘85075’ i ddarganfod a ydych yn dal mewn cytundeb.
Os ydych yn fregus, ac na all eich darparwr wneud atgyweiriadau â blaenoriaeth yn eich cartref, dylent sicrhau bod gennych ddewisiadau amgen i fand eang neu linell dir.
Mae rhai darparwyr yn cynnig cynlluniau cost isel i'ch helpu i wneud galwadau symudol a mynd ar-lein os ydych yn cael rhai budd-daliadau. Darganfyddwch fwy gan y reoleiddwr diwydiant, OfcomYn agor mewn ffenestr newydd
Tariffau cymdeithasol band eang a ffôn symudol
Mae rhai darparwyr yn cynnig cynlluniau cost isel i’ch helpu i wneud galwadau symudol a mynd ar-lein os ydych yn cael budd-daliadau penodol, gan gynnwys:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Darganfyddwch fwy ar OfcomYn agor mewn ffenestr newydd
Band eang am ddim os ydych yn chwilio am waith
Os ydych yn chwilio am waith, gallwch wneud cais trwy eich anogwr gwaith am daleb i gyfnewid am fand eang am ddim gan TalkTalk. Gofynnwch eich anogwr gwaith Canolfan Byd GwaithYn agor mewn ffenestr newydd os gallwch wneud cais.
Help gyda biliau rhyngrwyd
Mae’r National Databank yn cynnig data rhyngrwyd symudol am ddim am hyd at 12 mis i bobl sydd methu ei fforddio ac sydd hefyd yn aml yn profi anghydraddoldeb.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i leihau eich bil ffôn cartref a’r rhyngrwyd.
Cysylltwch â’r UK National DatabankYn agor mewn ffenestr newydd
Help os ydych yn cael trafferth i dalu am eich gwasanaethau tanysgrifio
Os na allwch fforddio gwasanaethau fel Netflix neu Spotify, efallai gallwch eu canslo help gosb. Gwiriwch delerau eich cytundeb.
Os ydych wedi methu taliad ar eich llinell dir, ffôn neu danysgrifiad teledu, cysylltwch â’ch benthyciwr i esbonio eich sefyllfa.
Mae gan Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd arweiniad ar ganslo cytundeb ffôn, teledu neu ffôn symudol.
Gall eich amgylchiadau meddwl y gallwch gael pris is o’ch darparwr teledu.
Mae gan MoneySavingExpert awgrymiadau ar gael pris gwell ar gyfer eich Sky a thanysgrifiadau teledu eraillYn agor mewn ffenestr newydd
Mae gan StepChange mwy o wybodaeth am sut mae dyledion yn cael eu casglu os ydych mewn ôl-ddyledionYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch help os ydych yn cael trafferth i dalu Treth Cyngor
Help os ydych yn cael trafferth i dalu Treth Cyngor
Mae Treth Cyngor yn ddyled flaenoriaeth y mae'n rhaid i chi ei thalu, oherwydd gall canlyniadau cwympo ar ei hôl hi fod yn waeth na gyda dyledion eraill. Os ydych chi'n poeni am ei dalu, mae'n bwysig cael cynllun. Darganfyddwch pa help sydd ar gael.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan yr hyn sydd angen i chi ei wneud
Sut i gael help o’ch cyngor lleol
Mae gan bob cyngor cynllun i’ch helpu i reoli eich taliadau felly mae’n bwysig i gysylltu â’ch cyngor lleol cyn gynted â phosibl. Os ydych yn aros nes eich bod wedi methu taliadau, gall gyfyngu’r help y gallant ei gynnig i chi.
Dewch o hyd i’ch cyngor lleol:
- Yng Nghymru a Lloegr ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- Yn Yr Alban ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
- Yng Ngogledd Iwerddon ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Pan fyddwch yn cysylltu â nhw, esboniwch eich sefyllfa i weld a yw’n bosibl gweithio allan cynllun talu newydd cyn i chi cwympo tu ôl.
A darllenwch ein hadran Budd-daliadau i wneud yn siŵr eich bod yn cael y budd-daliadau a’r hawliadau cywir.
Siaradwch â’ch cyngor lleol i ddarganfod pa help gallant ei gynnig.
Camau nesaf os ydych wedi methu taliad Treth Cyngor
Os ydych wedi methu taliad Treth Cyngor, mae hyn yn golygu eich bod mewn ‘ôl-ddyledion’.
Cysylltwch â’ch cyngor cyn gynted â phosibl os yw’ch incwm wedi newid, neu os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau.
Yn ogystal â dod i gytundeb ar yr arian sy’n ddyledus gennych, dylent hefyd siarad am filiau yn y dyfodol – yn enwedig os ydych yn meddwl gallwch gael trafferth i’w talu.
Crëwch gyllideb, cyfrifwch pa arian sydd gennych ar ôl, a gofynnwch am help gan y cyngor.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth i dalu Treth Cyngor.
Mae gan Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd canllaw defnyddiol ar ddelio gydag ôl-ddyledion Treth Cyngor.
Siaradwch â’ch cyngor lleol i ddarganfod pa help gallant ei gynnig