Ydych chi'n poeni am eich biliau ynni'n codi? Nid yw'n cymryd llawer o amser i wirio a ydych ar y tariff gorau ac a allech arbed arian drwy ddefnyddio'ch nwy a thrydan yn fwy effeithlon. Hefyd, dewch o hyd i'r help sydd ar gael os ydych yn methu taliad.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Y ffyrdd gorau i arbed arian ar nwy a thrydan
- Gwneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon
- Arbed arian os oes gennyf fesurydd rhagdaledig?
- Grantiau effeithlonrwydd ynni
- Tariff ynni pris sefydlog vs tariff ynni cyfradd amrywiol
- Egluro’r cap pris ar ynni
- Help os anfonir bil ynni atoch i dalu am ragor o ddefnydd yn flaenorol - ôl-filiau ynni
- Yn ei chael yn anodd talu’ch biliau ynni?
- Beth sy’n digwydd os wyf yn methu taliad ar fy mil nwy neu drydan?
- Sut i gwyno am eich darparwr ynni
Y ffyrdd gorau i arbed arian ar nwy a thrydan
Gall biliau ynni fod yn ddrud, ond mae ambell beth y gallwch ei wneud i gadw’ch costau mor isel â phosibl.
Os ydych chi'n poeni bod eich biliau ynni'n codi, darganfyddwch fwy am y cap prisiau ynni yn ein canllaw Beth i'w wneud os ydych chi'n poeni bod eich biliau ynni'n codi
A ddylwn newid i fargen sefydlog?
Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol
Fel arfer mae’n rhatach i dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol ac ni fydd rhaid i chi boeni am fethu taliadau.
Defnyddio llai
Mae’n swnio’n amlwg, ond po leiaf o ynni a ddefnyddiwch po rataf fydd eich biliau.
Mae yna ddigon o awgrymiadau a thriciau y gallwch eu defnyddio i dorri'ch defnydd. Rydym wedi rhestru rhai isod.
Yn y misoedd diwethaf, prisiau nwy sydd wedi codi fwyaf. Os gallwch dorri'n ôl ar ddefnyddio offer sy'n cael eu pweru gan nwy a gwresogi, dyma o ble y daw'r arbedion mwyaf. Mae rhywfaint o'n trydan yn cael ei wneud gan ddefnyddio nwy, felly bydd unrhyw ffordd y gallwch leihau eich defnydd o ynni yn arbed arian i chi.
Dyma rai syniadau cyflym i'ch helpu i dorri'n ôl:
Caewch eich llenni a defnyddiwch rhimynnau drafft i atal gwres rhag dianc
Defnyddiwch eich peiriant golchi dillad neu’ch peiriant golchi llestri ar dymheredd is, neu rhowch nhw ar y gosodiad ‘eco’ – a pheidiwch â rhoi’r golch ymlaen pan nad oes gennych lwyth llawn.
Dewch i'r arfer o ddiffodd goleuadau pan fyddwch chi'n gadael ystafell a diffodd eitemau trydanol yn hytrach na'u gadael yn y modd segur.
Dewch o hyd i ragor o awgrymiadau i ostwng eich biliau ar wefan Energy Saving Trust (Opens in a new window) (Opens in a new window)
Gwneud eich cartref yn fwy eco-gyfeillgar
Gwell insiwleiddio, boeler newydd, paneli solar. Mae nifer o opsiynau ar gael a allai eich helpu i chi arbed hyd at £250 y flwyddyn. Gallech fod yn gymwys am grant gan y llywodraeth
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Gwneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon
Awgrym da
Gwiriwch yr argymhellion ar Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) eich eiddo, os oes gennych chi un. Gallwch weld eich Tystysgrif ar y Gofrestr EPC
Mae gwario tipyn bach er mwyn arbed llawer iawn yn fuddsoddiad da – yn enwedig os cewch wario arian rhywun arall.
Mae llawer o grantiau ar gael i helpu gyda phethau fel:
- Gwella eich insiwleiddiad
- Uwchraddio eich boeler a’ch cyfarpar
- Gosod paneli haul neu dechnolegau adnewyddadwy eraill
- Hyd yn oed heb grant, bydd rhai o’r buddsoddiadau hyn yn ad-dalu beth rydych wedi’i wario’n eithaf cyflym. Yna byddant yn dechrau arbed arian i chi.
Arbed arian os oes gennyf fesurydd rhagdaledig?
Mae mesurydd rhagdaledig yn gweithio fel tariff ‘talu wrth fynd’ ar gyfer nwy neu drydan. Mae rhaid i chi dalu am yr ynni cyn y gallwch ei ddefnyddio.
Golyga hynny rhoi arian yn uniongyrchol i mewn i’ch mesurydd, yn defnyddio allwedd mesurydd trydan neu nwy, tocynnau neu, mewn rhai achosion talu ar-lein.
Prif fantais mesuryddion rhagdaledig yw na fyddwch yn gwario mwy nag sydd gennych. Ond hefyd, dyma un o’r ffyrdd mwyaf costus o brynu ynni.
A gaf newid ynni os oes gennyf fesurydd rhagdaledig?
Os oes gennych fesurydd rhagdalu, gallwch newid o hyd ond ar hyn o bryd i’r rhan fwyaf o bobl bydd yn well aros lle rydych gan fod prisiau hefyd wedi’u capio i ddim mwy na £2,017 y flwyddyn os ydych yn ddefnyddiwr cyffredin.
Os ydych eisiau, neu’n gorfod cadw at, fesurydd rhagdalu – gallwch wirio o hyd i weld a oes bargen ratach y gallwch newid (Opens in a new window) iddi.
Os oes, ni fydd yr un o'r chwech mawr yn codi tâl i newid i fesurydd credyd a all fod yn rhatach.
Mae'n debyg y bydd rhaid i chi gael gwiriad credyd a bydd angen i'ch cyfrif ynni fod yn rhydd o ddyled.
Grantiau effeithlonrwydd ynni
Gwiriwch be grantiau arbed ynni y gallech ei gael ar wefan ‘Simple Energy Advice’
Rhowch eich cod post o ddarganfod sut allwch wella eich wella effeithlonrwydd ynni eich cartref drwy ddefnyddio cyfrifiannell Simple Energy Advice
Darganfyddwch fwy am y Grant Cartrefi Gwyrdd, a chynlluniau tebyg ar gael yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ein arweiniad Sut i dalu am welliannau cartref
Tariff ynni pris sefydlog vs tariff ynni cyfradd amrywiol
Mae bargeinion ynni cyfradd sefydlog yn edrych yn ddrud o’u cymharu â chadw at gyfradd amrywiol safonol eich cyflenwr, gan fod cyfraddau amrywiol safonol yn cael eu diogelu gan y cap pris o £1,971 y flwyddyn (£2,017 ar dariff rhagdaledig) ar gyfer defnydd arferol.
Mae hyd yn oed y bargeinion ynni cyfradd sefydlog rhataf ar hyn o bryd gannoedd yn fwy y flwyddyn na’r cap prisiau presennol.
Mae'n debygol y bydd y cap ar brisau yn codi eto yn yr hydref, ond mae'n anodd amcangyfrif faint y bydd yn codi eto .
Er bod y dewis yno o hyd i newid i fargen sefydlog, cofiwch y gallech fod yn talu mwy na’r cap pris, ac efallai y codir ffi arnoch os ydych am adael yn gynnar. Nid oes unrhyw ffioedd am adael y gyfradd amrywiol safonol.
Yn y gorffennol roedd yn syniad da bod ar fargen cyfradd sefydlog gan ei fod yn sylweddol rhatach na chyfradd amrywiol safonol cyflenwr. Mae'r farchnad yn newid yn gyflym, felly mae'n bwysig gwirio'r tariffau sydd ar gael i chi er mwyn sicrhau eich bod yn talu'r pris gorau.
Beth os yw fy margen sefydlog yn dod i ben ar ôl i’r cap pris gynyddu?
Pan ddaw eich cynllun sefydlog i ben, bydd eich cyflenwr yn eich rhoi ar eu tariff amrywiol safonol. Gyda’r prisiau ynni uchel yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, hwn fydd cap prisiau Ofgem. Bydd hyn yn cyfyngu ar y swm y byddwch yn ei dalu.
Os ydych yn agos at ddiwedd cynllun sefydlog, ni fydd rhaid i chi dalu ffi i'w adael a symud i dariff newydd – ar yr amod bod eich newid wedi'i gwblhau o fewn 49 diwrnod olaf eich cytundeb presennol.
Tariff ynni sefydlog
Gyda thariff ynni pris sefydlog, ni fydd codiadau pris yn ystod y contract yn effeithio arnoch. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw dariffau cyfradd sefydlog sy'n rhatach na'r gyfradd newidiol safonol gyda’r pris wedi'i gapio.
Os byddwch yn dewis tariff cyfradd sefydlog a bod prisiau ynni'n disgyn, byddwch yn dal i dalu'r hen gyfradd uwch tan ddiwedd y contract.
Os ydych am newid eto cyn iddo ddod i ben, mae gan rai tariffau sefydlog ffioedd gadael, y bydd angen i chi eu talu i adael.
Nid yw cael tariff sefydlog ychwaith yn golygu y byddwch yn talu’r un swm am bob bil. Y tariff sy’n aros yr un fath a bydd eich bil ynni yn codi ac yn gostwng gyda’ch defnydd.
Tariff ynni amrywiol
I’r rhan fwyaf o bobl mae’n debyg mai tariff cyfradd amrywiol safonol yw’r dewis gorau, mae eich biliau’n codi ac yn gostwng yn seiliedig ar yr hyn sy’n digwydd yn y farchnad ynni. Os bydd prisiau ynni yn gostwng, bydd eich bil yn gostwng, ac os byddant yn codi, bydd angen i chi fod yn barod i dalu costau uwch, hyd at y cap pris.
Byddwch yn ymwybodol
Nid yw “tariffau ynni gwyrdd amrywiadwy safonol” yn cael eu diogelu gan gap prisiau Ofgem, dim ond tariffau cyfradd amrywiol safonol neu ddiofyn sydd. Gallwch ofyn i’ch cyflenwr os nad ydych yn siŵr
Egluro’r cap pris ar ynni
Ystyr cap ar bris ynni yw na fydd cyflenwyr ynni yn gallu codi mwy am ynni na’r pris a gapiwyd sy’n berthnasol i’w tariff ynni safonol.
Mae’r cap pris ynni ond yn effeithio arnoch os ydych yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon mae eich prisiau ynni yn cael eu llywodraethu gan y Rheoleiddiwr Cyfleustodau (yn lle Ofgem). Darganfyddwch fwy am yr help sydd ar gael i chi i dalu'ch biliau ynni ar wefan y Cyngor Defnyddwyr
Ni fydd yn gymwys os ydych:
- eisoes ar dariff ynni tymor penodol (er y bydd yn effeithio arnoch chi pan fydd eich tariff yn dod i ben)
- wedi dewis tariff ynni gwyrdd amrywiol safonol y mae Ofgem wedi'i eithrio o’r cap.
Byddwch yn ymwybodol fod:
- er nad yw hyn yn wir fel arfer, mae’r cap ar bris ynni ar gyfradd amrywiol safonol eich cyflenwr yn debygol o fod bron y fargen rataf sydd ar gael ar hyn o bryd.
- nid yw’n gap ar gyfanswm y pris a dalwch, ond yn gap ar y gyfradd a godir – mae’r ffigyrau a grybwyllwyd ar gyfer cartrefi sy’n defnyddio ynni yn arferol, gallai eich bil fod yn is neu’n uwch
- nid yw prisiau wedi'u capio ar bob tariff ynni
- ym mis Ebrill 2022 mae’r cap ar brisau ar gyfer cwsmeriaid Debyd Uniongyrchol tariff safonol wedi cynyddu £693 o £1,277 i £1,971 y flwyddyn yn seiliedig ar gyfartaledd defnydd. Mae'r cap ar brisau ar gyfer cwsmeriaid rhagdaledig wedi codi £708 o £1,309 i £2,017.
Darganfyddwch fwy am gapiau pris a sut maent yn effeithio arnoch os ydych ar dariff arferol, ar fesurydd rhagdaledig neu os ydych yn cael gostyngiad cartref cynnes ar wefan Ofgem
Help os anfonir bil ynni atoch i dalu am ragor o ddefnydd yn flaenorol - ôl-filiau ynni
Weithiau gallech fod yn defnyddio mwy o ynni na’r hyn a dybir gan eich cyflenwr ynni.
Mae hyn yn fwy o broblem os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu os nad ydych yn anfon y manylion o’ch mesurydd i’ch cyflenwr yn rheolaidd.
Os ydych yn defnyddio mwy o ynni, gallai’ch cyflenwr anfon bil atoch am ragor a ddefnyddiwyd gennych yn flaenorol. Mae hwn yn fil am yr ynni ychwanegol a ddefnyddiwyd gennych dros yr hyn a dalwyd gennych.
Os ydych yn newid cyflenwr, gallwch gael bil i dalu am ddefnydd blaenorol. Bydd hyn yn ddibynnol ar ba mor fanwl gywir y codwyd biliau arnoch am eich defnydd o ynni.
Mae rheolau ynghlwm â bilio am ynni blaenorol fel hyn. Gallant fod am unrhyw swm ond ni chânt gynnwys defnydd o ynni fwy na 12 mis yn ôl.
Yn ei chael yn anodd talu’ch biliau ynni?
Gall methu â fforddio cynhesu neu bweru’ch cartref beri pryder. Fodd bynnag, mae help ar gael os ydych yn cael trafferth.
Mae’n bwysig cysylltu â’ch cyflenwr i ofyn am help cyn i chi fethu taliad.
Os ydych yn cael trafferth gydag arian neu’n ad-dalu dyled, gall yr opsiynau gynnwys:
- adolygu cynlluniau talu biliau, gan gynnwys dyled y gallech fod yn ei ad-dalu mewn rhandaliadau
- seibiannau talu, neu ostyngiadau yn y swm rydych yn ei dalu
- cael mwy o amser i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych
- mynediad at gronfeydd caledi - mewn achosion eithriadol yn unig.
Os ydych yn talu am eich ynni ar ôl i chi ei ddefnyddio, mae gennych fesurydd credyd. Ni fydd mesuryddion credyd yn cael eu datgysylltu yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Darganfyddwch pwy yw’ch cyflenwr nwy neu drydan, a’u manylion cyswllt, ar fil ynni diweddar.
Os ydych dal yn ansicr, ewch i wefan Ofgem
Ar gyfer Gogledd Iwerddon, ewch i wefan NI Electricity Networks
Efallai y bydd gan eich cyflenwr ynni lai o staff ar gael i’ch helpu ar hyn o bryd. Ceisiwch gysylltu â hwy ar-lein. Os na chewch ateb, mae’n werth ei ddilyn i fyny.
Os ydych yn cael budd-daliadau, efallai y gallech dalu arian yn ôl sy’n ddyledus i’ch cyflenwr ynni drwy’r cynllun Fuel Direct.
Mae hyn yn gweithio trwy dynnu swm penodol o arian o’ch budd-daliadau i dalu’ch dyledion, ynghyd â swm ychwanegol i dalu am eich defnydd o ynni, yn awtomatig.
Darganfyddwch fwy ar wefan Cyngor ar Bopeth
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’ch cyflenwr. Darganfyddwch fwy ar wefan Northern Ireland Electricity Networks
Beth sy’n digwydd os wyf yn methu taliad ar fy mil nwy neu drydan?
Ymunwch â’n grŵp Facebook
Rydym wedi sefydlu grŵp preifat Facebook Debt Support Community i helpu i roi syniadau newydd i chi i fynd i’r afael â dyledion ac i’ch cadw’n llawn cymhelliant.
A ydych wedi methu mwy nag un taliad ac nad ydych yn gallu dod i gytundeb â’ch darparwr? Mae’n well i chi gael cyngor cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os oes gennych ddyledion eraill hefyd.
Edrychwch ar ein canllaw ar sut i flaenoriaethu eich dyledion i’ch helpu i ddatrys pa rai i’w talu gyntaf.
A yw'n well mynd am dariff tanwydd deuol neu gael contractautrydan a nwy ar wahân?
Yn syml, mae tariff tanwydd deuol yn golygu eich bod yn cael eich nwy a'ch trydan gan yr un cyflenwr ynni.
Bydd llawer o dariffau sefydlog, ar-lein a safonol yn cynnig opsiwn tanwydd deuol.
Mae llawer o dariffau tanwydd deuol hefyd yn cynnig gostyngiad am gymryd nwy a thrydan gan yr un cwmni.
Gall fod yn fwy cyfleus delio ag un cyflenwr na mynd gyda dau gyflenwr ar wahân ar gyfer nwy a thrydan. Weithiau gall fod yn rhatach ond nid dyma'r opsiwn rhataf bob amser.
Darganfyddwch fwy am dariffau ynni (Opens in a new window) ar wefan Cyngor ar Bopeth
Sut i gwyno am eich darparwr ynni
Os oes gennych gŵyn, cysylltwch â’ch darparwr ynni yn gyntaf. Bydd rhif ffôn a gwefan eich cyflenwr ar eich bil ynni.
Eglurwch beth yw'r broblem a beth rydych am i'ch cyflenwr ei wneud yn ei chylch. Gallwch ddefnyddio templed cylchlythyrau cwyn am ddim o wefan Cyngor ar Bopeth. (Opens in a new window)
Yna bydd gan gyflenwyr ynni hyd at wyth wythnos i ddweud wrthych am eu penderfyniad ar y cŵyn.
Os na allwch ddod i gytundeb gyda’ch cyflenwr ar ôl wyth wythnos, gallwch ofyn am “llythyr terfyn amser”, sy’n eich galluogi i fynd â’ch achos yn rhad ac am ddim at yr Ombwdsmon Ynni.
Bydd yr Ombwdsmon Ynni wedyn yn penderfynu gyda pha barti y mae'n cytuno a sut i ddatrys y mater.
Darganfyddwch fwy am sut i wneud cwyn ar wefan Ofgem (Opens in a new window)