Gall defnyddio credyd fod yn ddefnyddiol, ond gall achosi problemau ariannol a dyled os ydych yn cael trafferth cadw i fyny ag ad-daliadau. Darganfyddwch sut i wneud benthyca arian weithio i chi.
Rheoli credyd yn dda
Creu cynllun ad-dalu ar gyfer eich benthyca
Os ydych chi'n ystyried benthyca arian, mae'n bwysig eich bod chi'n meddwl sut y byddwch chi'n ei ad-dalu. Trwy ddeall cost eich benthyca, gallwch sicrhau eich bod yn cael y cytundeb gorau ac yn gallu gwneud yr holl ad-daliadau.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Beth sy’n effeithio ar eich costau benthyca
Byddwch yn ymwybodol, yn ogystal â thalu’r hyn rydych yn ei fenthyca yn ôl, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a ffioedd hefyd.
Mae’r gyfradd llog a godir arnoch yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys pa fath o fenthyciad neu gredyd a gewch, eich sgôr credyd, faint rydych am ei fenthyg ac am ba hyd.
Yn gyffredinol, mae benthyca llai o arian dros gyfnod byrrach yn tueddu i arwain at gostau llog is na benthyca mwy o arian dros gyfnod hirach.
Dylai eich benthyciwr ddweud wrthych gost lawn y benthyciad, fel y gallwch gyfrifo faint y byddwch yn ei ad-dalu yn llawn o’i gymharu â faint a fenthycwyd.
Darganfyddwch fwy:
Cyfrifo cost benthyca
Gallwch gyfrifo faint y bydd yn ei gostio i fenthyca gan ddefnyddio’r wybodaeth y mae benthycwyr yn ei rhoi i chi.
Yn ôl y gyfraith, pan fyddwch yn gwneud cais, rhaid iddynt ddweud wrthych:
- faint y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu yn gyfan gwbl
- faint fydd yn rhaid i chi ei dalu bob mis
- y cyfraddau llog, unrhyw ffioedd neu daliadau a’r APR.
Dylai'r wybodaeth hon fod ar wefan darparwr y cerdyn credyd neu’r darparwr benthyciad. Rhaid ei gynnwys hefyd yn y ffurflen gwybodaeth credyd cyn y contract.
Rhaid i’r benthyciwr egluro prif delerau ac amodau'r benthyciad cyn i chi lofnodi’r contract.
Gyda chardiau credyd, bydd y wybodaeth hon yn seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch sut y byddwch chi'n defnyddio’r cerdyn, fel faint fyddwch chi’n ei wario bob mis.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwneud yn siŵr eich bod yn gallu fforddio benthyg arian
Ystyriwch y llog a’r ffioedd bob amser
Fel arfer, dangosir llog fel APR (cyfradd ganrannol flynyddol). Mae’n cyfeirio at gyfanswm cost eich benthyca am flwyddyn. Mae hyn yn fwy na’r gyfradd llog ei hun oherwydd ei fod yn cynnwys y gyfradd llog ynghyd ag unrhyw ffioedd trefniant.
Gallwch ddefnyddio APR i gymharu gwahanol gytundebau credyd a benthyciadau, megis ar wefannau cymharu prisiau.
Yn gyffredinol, yr isaf yw’r APR, yr isaf yw cost benthyca ac felly y gorau yw’r cytundeb.
Ffioedd
Mae'n bwysig gwirio am ffioedd yn eich telerau ac amodau. Gallai’r rhain gynnwys taliadau hwyr, diofyn neu daliadau setliad.
Darganfyddwch fwy am sut i gael y cytundebau gorau gan ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau
A ddylech chi gynilo, neu ad-dalu benthyciadau a chardiau credyd?
Os oes gennych gynilion, efallai y byddai’n werth ad-dalu rhai o’ch benthyciadau neu gardiau credyd – ond dim ond os bydd gennych rywfaint o gynilion o hyd wedi’u neilltuo ar gyfer argyfyngau ac nad yw'n costio mwy o ffioedd i chi yn y pen draw.
Mae taliadau llog uchel ar y mathau drutaf o ddyled yn ei gwneud hi’n anoddach i gynilo, felly cliriwch y rhain yn gyntaf.
Anaml y byddwch yn gallu ennill mwy ar eich cynilion nag y byddwch yn ei dalu ar eich benthyciadau. Felly cynlluniwch i dalu’ch dyledion cyn i chi ddechrau cynilo.
Os ydych chi’n ystyried defnyddio cynilion i dalu dyled, gwnewch yn siŵr na fydd unrhyw ffioedd y gellid eu codi arnoch yn adio i fwy na’r llog ar y ddyled
Darganfyddwch fwy cyn i chi gynyddu eich terfyn credyd
Cyn i chi gynyddu eich terfyn credyd
Ydych chi’n ystyried cynyddu eich cerdyn credyd neu gyfyngiad gorddrafft? Darganfyddwch a allwch ei fforddio, a beth allwch chi ei wneud os cewch eich gwrthod.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Beth yw terfyn credyd
Dyma'r uchafswm y gallwch ei wario ar gerdyn credyd neu orddrafft.
Cardiau credyd
Efallai y byddwch ond yn cael gwybod beth yw eich terfyn credyd pan fydd eich cais yn llwyddiannus.
Gallai hyn achosi problem os ydych am drosglwyddo balans sy’n bodoli eisoes i ddefnyddio cytundeb 0% ond mae eich terfyn credyd newydd yn rhy fach i wneud hynny. Mae hyn oherwydd efallai y byddwch ond yn darganfod eich terfyn credyd ar ôl gwiriad credyd llawn.
Darganfyddwch fwy am wiriadau credyd ‘caled’ a ‘meddal’.
Gorddrafftiau
Efallai y bydd eich banc yn cytuno i roi gorddrafft i chi, a byddant yn gosod terfyn.
Byddant yn ei adolygu’n rheolaidd, a gallant ei leihau neu ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. Os bydd hyn yn digwydd a’ch bod yn teimlo ei fod yn annheg, trafodwch hwn gyda nhw. Os nad ydych yn hapus o hyd, gallwch gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy am gardiau credyd a gorddrafftiau
Cyn i chi gynyddu eich terfyn credyd
Wrth ystyried cynyddu faint o gredyd rydych am ei gymryd, mae’n bwysig cyfrifo a allwch fforddio'r ad-daliadau a'r llog.
Mae cyfraddau llog gorddrafft fel arfer dros 40%. Mae cyfraddau llog cardiau credyd hefyd yn uchel, oni bai eich bod mewn cyfnod o 0%.
Os ydych yn talu bil eich cerdyn credyd yn llawn bob mis a bod gennych incwm cyson, efallai y bydd y banc neu'r darparwr cerdyn yn cytuno i'r cynnydd.
Fodd bynnag, bydd cynyddu eich terfyn credyd oherwydd eich bod yn cael trafferth talu’ch biliau, gan gynnwys ad-daliadau credyd, yn gwneud eich problemau ariannol yn waeth. Efallai y byddai'n ddefnyddiol cael cyngor ar ddyledion yn gyntaf.
I drefnu’r biliau y mae angen i chi ddelio â nhw yn gyntaf er mwyn osgoi colli taliadau, rhowch gynnig ar ein Blaenoriaethwr Biliau hawdd ei ddefnyddio
Cynyddu eich terfyn credyd
Gallwch ofyn am derfyn uwch gan eich banc neu ddarparwr cerdyn credyd.
Fodd bynnag, os ydych yn gwsmer newydd, mae’n syniad da aros am sawl mis yn gyntaf. Mae hyn er mwyn i’r benthyciwr allu gweld y gallwch wneud ad-daliadau ar y swm credyd y cytunwyd arno i ddechrau.
Os byddwch yn mynd dros eich terfyn presennol ar eich cerdyn neu’n methu unrhyw daliadau, mae’n annhebygol y bydd darparwr eich cerdyn yn cynyddu eich terfyn.
Pan fyddwch wedi bod gyda banc neu ddarparwr cerdyn am gyfnod, efallai y byddant yn cynnig terfyn credyd uwch i chi heb i chi ofyn amdano. Os ydych yn penderfynu nad ydych am gael cynnydd, rhowch wybod iddynt – dylent ei gwneud hi’n hawdd i chi optio allan.
Os ydych chi’n ystyried cynyddu eich terfyn credyd, gweler ein canllaw Allwch chi fforddio benthyg arian?
Os ydych yn cael eich gwrthod am gynnydd terfyn credyd
Os ydych wedi cael eich gwrthod am derfyn credyd uwch, mae’n bwysig peidio â pharhau i wneud cais yn rhywle arall. Mae hyn oherwydd y bydd gwneud llawer o geisiadau yn niweidio eich sgôr credyd.
Yn lle, defnyddiwch ein teclyn Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd. Byddwch yn cael cynllun gweithredu i wella eich cyfle o gael eich derbyn yn y dyfodol.
Darganfyddwch fwy am ad-dalu eich cerdyn credyd
Ad-dalu eich cerdyn credyd
Gall defnyddio cerdyn credyd ar gyfer eich gwariant gael llawer o fanteision, o ddiogelwch cyfreithiol ychwanegol i ennill arian yn ôl. Ond gall dyled gronni os na fyddwch yn ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych yn llawn bob mis.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Torri cost dyled eich cerdyn credyd
Gyda’r gyfradd llog gyfartalog yn cael ei chodi ar gerdyn credyd ar 22%, gall talu arian yn ôl fod yn ddrud.
Bydd trosglwyddo’ch balans i gerdyn credyd arall i un sy’n codi cyfradd llog is, neu gyda chynnig trosglwyddo balans ar 0%, leihau eich taliadau misol.
Fel arfer bydd angen i chi dalu ffi i drosglwyddo'ch dyled drosodd – fel arfer tua 3% o’r balans a drosglwyddir.
Os nad ydych yn gymwys am gytundeb 0%, edrychwch am gerdyn sydd â chyfradd mor isel â phosibl (ac yn ddelfrydol un nad yw’n codi ffi). Ond cofiwch edrych ar y gyfradd llog trosglwyddo balans, nid yr APR (cyfradd ganrannol flynyddol).
Mae’r cardiau hyn fel arfer yn opsiwn dim ond os oes gennych sgôr credyd da.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu eich dyled cyn i gytundeb rhagarweiniol 0% ddod i ben, fel arall efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cyfradd llog uchel ar y ddyled sy'n weddill. Mae MoneySavingExpert yn cymharu cardiau trosglwyddo balansYn agor mewn ffenestr newydd
Ceisiwch osgoi isafswm taliadau
Mae isafswm ad-daliadau misol yn tueddu i gael eu gosod yn isel iawn. Os ydych ond yn talu'r isafswm am 18 mis, bydd darparwr eich cerdyn credyd yn cysylltu â chi. Y rheswm am hyn yw eich bod yn debygol o fod mewn ‘dyled barhaus’ – pan godir mwy o log a ffioedd arnoch chi nag yr ydych wedi’i ad-dalu yn ystod y 18 mis diwethaf. Efallai y bydd eich darparwr yn rhoi gwahanol opsiynau i chi dalu'r balans yn gyflymach.
Ceisiwch dalu'r bil cyfan bob mis, er mwyn osgoi talu llog. Os na allwch wneud hyn, talwch gymaint ag y gallwch.
Hefyd, osgowch ddefnyddio cardiau credyd ar gyfer tynnu arian parod, gan fod hyn yn costio arian. Fel arfer, codir tua 2-3% o’r swm a dynnwch yn ôl fel ffi, yn ogystal â’r llog y byddwch yn ei dalu.
Os ydych wedi methu taliad, defnyddiwch ein Teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion cyfrinachol am ddim ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at ble rydych yn byw.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help os cysylltwyd â chi am eich cerdyn credyd a’ch dyled barhaus
Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol
Bydd sefydlu Debyd Uniongyrchol ar gyfer eich taliadau cerdyn credyd yn sicrhau nad ydych byth yn anghofio talu. Mae hefyd yn golygu na chodir ffi talu hwyr arnoch neu gymryd y risg o golli’r gyfradd ragarweiniol o 0% neu gynnig hyrwyddol.
Fel arfer, gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol i dalu’r balans llawn, yr isafswm swm, neu swm sefydlog bob mis.
Os bydd eich incwm yn amrywio bob mis a’ch bod yn poeni efallai na fydd gennych ddigon o arian yn eich cyfrif i dalu am Ddebyd Uniongyrchol, gallai fod yn well talu â llaw.
Darganfyddwch fwy am Debydau Uniongyrchol
Gosod cyllideb
Mae paratoi cyllideb yn eich galluogi i gymryd rheolaeth o’ch arian.
Mae’n grynodeb o’r arian sydd gennych yn dod i mewn ac yn mynd allan, felly rydych chi’n gwybod beth sydd gennych chi ar ôl i'w wario bob mis.
Pan fyddwch wedi gwneud hyn, efallai y byddwch yn gallu gweld lle gallwch leihau eich gwariant.
Yna gellir rhoi unrhyw arian a gynilwch tuag at ad-dalu dyled eich cerdyn credyd.
I’ch helpu i reoli eich arian, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio
Ymunwch â’n grŵp Facebook preifat Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr
Blaenoriaethu eich ad-daliadau
Os oes gennych arian yn ddyledus ar fwy nag un math o gredyd, bydd angen i chi gyfrifo pa un i'w dalu yn gyntaf. Mae'n debygol mai hwn yw’r un sydd â’r gyfradd llog uchaf.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i dalu’r isafswm taliad o leiaf ar bob math o gredyd. Fel arall, bydd taliadau a fethwyd yn arwain at ffioedd ychwanegol a gallent niweidio eich sgôr credyd. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n anoddach cael credyd yn y dyfodol.
Os oes gennych ddyled wedi’i warantu yn erbyn eich tŷ, er enghraifft, gwnewch yn siŵr eich bod yn talu’r rhain yn gyntaf. Mae hyn oherwydd gall canlyniadau peidio â thalu fod yn llawer gwaeth.
I drefnu y biliau y mae angen i chi ddelio â nhw yn gyntaf er mwyn osgoi methu taliadau, rhowch gynnig ar ein Blaenoriaethwr Biliau hawdd ei ddefnyddio
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau ychwanegol o incwm a chymorth yn ein hadran Help gyda chostau byw