Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn

      Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    • Esbonio pensiynau

      Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    • Problemau a newidiadau pensiwn

      Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

      Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    • Cymryd eich pensiwn

      Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    • Treth a phensiynau

      Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

      Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    • Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    • Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    • Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    • Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    • Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Hafan blog
  3. Blogiau cynilion
Hafan blog Blogiau cynilion

Newidiadau treth Ebrill 2027: beth maent yn ei olygu i'ch cynilion a'ch buddsoddiadau

Menyw a dyn yn syllu ar liniadur a ffôn symudol
Last updated: 23 Tachwedd 2026

Rhannodd y Canghellor rai newidiadau i dreth a buddsoddiadau yng Nghyllideb mis Hydref. Byddant yn effeithio ar faint o dreth rydych yn ei dalu ar eich cynilion a'ch incwm eiddo. Darganfyddwch pryd mae'r cyfraddau newydd yn dod i rym a sut y gallent effeithio arnoch chi.

Pa newidiadau treth sy'n dod ym mis Ebrill 2027?

Mae'r newidiadau treth a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref eleni yn berthnasol i'r dreth rydych yn ei dalu ar incwm o eiddo a chynilion a gedwir y tu allan i ISA. O 6 Ebrill 2027 ymlaen, bydd swm y dreth rydych yn ei dalu ar y llog o gynilion, neu o rentu eiddo allan, yn cynyddu.

Treth Incwm ar gynilion ac eiddo 2026/27

Treth Incwm ar gynilion ac eiddo 2027/28

Lwfans cynilion 2026/27

Lwfans cynilion 2027/28

Trethdalwyr cyfradd sylfaenol

20%

24%

£1,000

£1,000

Trethdalwyr cyfradd uwch

40%

44%

£500

£500

Trethdalwyr Cyfradd ychwanegol

45%

49%

£0

£0

Eich lwfans cynilion yw faint y gallwch ei ennill mewn llog cyn i unrhyw dreth gael ei ddidynnu. Nid yw'r swm hwn yn newid y flwyddyn nesaf.

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn drethdalwr sylfaenol, cyfradd uwch neu gyfradd ychwangeol, darllenwch ein canllaw ar sut mae Treth Incwm yn gweithio.

Faint o dreth fyddwch chi'n ei dalu ar log cynilion o fis Ebrill 2027?

Pan fyddwch yn cynilo arian i gyfrif cynilion arferol nad yw'n ISA, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y llog rydych yn ei ennill.

Cyfraddau treth llog cynilion ar gyfer trethdalwyr cyfradd sylfaenol, cyfradd uwch a chyfradd ychwanegol

Mae faint y mae'n rhaid i chi ei dalu yn dibynnu ar eich cyfanswm incwm o waith, hunangyflogaeth, eich pensiwn, eich cynilion, buddsoddiad ac eiddo.

Er enghraifft, os ydych yn ennill £30,000 y flwyddyn o waith, a £1,200 o log cynilo, byddech yn drethdalwr cyfradd sylfaenol.

O'ch incwm cynilion byddech yn cael lwfans o £1,000, ac yna bydd treth yn ddyledus ar y £200 sy'n weddill.

Ar neu ar ôl 6 Ebrill 2027 codir 24% ar hyn, sy'n golygu y bydd £48 yn ddyledus gennych mewn treth.

Os ydych yn ennill £51,000 y flwyddyn o waith a £1,200 o log cynilion, rydych yn drethdalwr cyfradd uwch.

O'ch cynilion byddech yn cael lwfans o £500, ac yna bydd treth yn ddyledus ar y £700 sy'n weddill.

Ar ôl Ebrill 2027 bydd 44% o dreth yn ddyledus, sy'n golygu y byddai angen i chi dalu £308.

Darllenwch fwy yn Sut mae treth ar gynilion a buddsoddiadau yn gweithio.

Faint o log cynilo allwch chi ei ennill heb dreth?

Gall pawb dros 18 oed gynilo hyd at £20,000 y flwyddyn i fewn i un neu fwy o ISAs. Nid yw’n bwysig faint o log neu dwf buddsoddiad sydd gennych dros y flwyddyn, mae hynny i gyd yn ddi-dreth.

Darganfyddwch fwy am y gwahanol fathau o ISA.

Efallai y cewch hefyd lwfans cynilo am log a enillir mewn cyfrifon nad ydynt yn ISAs.

Os ydych yn ennill llai na £17,570 o'r holl incwm, yna nid oes angen i chi dalu treth ar eich llog cynilion.

Os ydych yn ennill rhwng £17,571 a £50,270, rydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol a gallwch ennill hyd at £1,000 y flwyddyn mewn llog cynilion cyn i chi ddechrau talu treth.

Os ydych yn ennill rhwng £50,271 a £125,140, rydych yn drethdalwr cyfradd uwch a gallwch ennill hyd at £500 y flwyddyn mewn llog cynilion cyn i unrhyw dreth fod yn ddyledus arno.

Os ydych yn ennill £125,141 neu fwy y flwyddyn, yna caiff yr holl log a enillwch ar gynilion ei drethu. Nid oes gennych lwfans di-dreth fel trethdalwr cyfradd ychwanegol.

Faint mwy o dreth allech chi dalu ar eich cynilion?

Ar gyfer yr enghreifftiau hyn byddwn yn tybio bod pob person wedi ennill £1,200 mewn llog o'u cynilion. Os byddwch yn ennill unrhyw swm mwy na'ch lwfans cynilo, bydd yr hyn a dalwch yn cynyddu.

Treth sy'n ddyledus yn 2026/27

Treth sy'n ddyledus yn 2027/28

Gwahaniaeth

Trethdalwr cyfradd sylfaenol

£40

£48

+£8

Trethdalwr cyfradd uwch

£280

£308

+£28

Trethdalwr cyfradd ychwanegol

£540

£588

+£48

Os ydych yn ennill £17,570 neu lai, yna nid oes newid yn faint o log fyddai'n ddyledus.

A yw'r lwfans ISA arian parod yn newid ym mis Ebrill 2027?

Roedd y lwfans ISA arian parod i fod i ostwng i £12,000 y flwyddyn ar gyfer pobl dan 65 oed ym mis Ebrill, ond mae'r newid hwnnw wedi'i ganslo. Mae cyfanswm eich lwfans ISA yn dal i fod yn £20,000 ar gyfer 2027/28, a gallwch ddewis ei ddefnyddio tuag at unrhyw fath o ISA. Mae'r enillion ar ISAs Gydol Oes, ISAs arian parod, ISAs stociau a chyfranddaliadau a mathau eraill o ISA yn ddi-dreth, os byddwch yn talu cyfanswm o £20,000 neu lai y flwyddyn.

ISA arian parod neu gyfrif cynilo: pa un sy'n cynnig yr enillion gorau ar ôl treth?

ISA yn aml yw'r lle mwyaf effeithlon o ran treth i roi eich cynilion, oherwydd mae'r cynilion hynny'n aros yn ddi-dreth cyhyd â'u bod dal mewn ISA. Felly, gallwch gronni cronfa fawr o gynilion dros amser hir ac o bosib ni fyddech byth yn gorfod talu treth arnynt.

Fodd bynnag, os ydych ond yn cynilo am gyfnod byr, neu os ydych ond yn cynilo symiau bach, efallai y byddwch yn gallu ennill mwy o log mewn cyfrifon eraill. Mae faint o dreth rydych yn ei dalu ar eich llog cynilo yn dibynnu ar faint o log a gewch i gyd mewn cyfanswm dros y flwyddyn.

Os gallwch gynilo £200 y mis, byddai gyfrif cynilwr rheolaidd sy'n talu 6% o log yn talu £77 y flwyddyn i chi. Os ydych chi'n drethdalwr sylfaenol neu drethdalwr uwch, ni fyddai hyn yn ddigon i olygu eich bod yn talu treth ar eich cynilion.

Pe baech yn talu £200 y mis i mewn i ISA gyda chyfradd llog o 4%, byddech yn ennill £52 mewn llog. Fodd bynnag, mae'r holl arian mewn ISA bellach yn ddi-dreth nes i chi ei dynnu allan.

Ar gyfer trethdalwyr cyfradd ychwanegol, y flwyddyn nesaf bydd tua £38 yn ddyledus ganddynt mewn treth ar eu llog gan y cyfrif cynilwr arferol. Sy'n golygu y byddent wedi ennill £13 ychwanegol drwy ddefnyddio ISA, er bod y llog yn is.

Ar gyfer cynilion hirdymor, mae'n bendant werth meddwl am ddefnyddio ISA. Pe baech yn cadw'r arian hwnnw yn yr ISA am flwyddyn arall ac heb dalu mwy, byddech yn ennill £100 ychwanegol mewn llog. Wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, mae adlog yn golygu y gallwch ennill hyd yn oed mwy mewn llog, a allai eich gwthio i orfod talu treth ar yr hyn rydych yn ei ennill os nad yw'r arian mewn ISA.

Darganfyddwch ragor yn Sut i ddod o hyd i'r cyfrif cynilo gorau.

Beth mae newidiadau Ebrill 2027 yn ei olygu i fuddsoddiadau?

Os ydych yn gwneud arian o fuddsoddiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dwy dreth wahanol ar yr incwm hwnnw. Mae'r rhain yn cynnwys treth ar ddifidendau a threth enillion cyfalaf.

Nid yw'r cyfraddau ar gyfer y rhain i fod i newid ym mis Ebrill 2027.

Gallwch hefyd ddefnyddio ISA stociau a chyfranddaliadau i ennill arian o fuddsoddiadau'n ddi-dreth.

Gweler yr holl newidiadau i drethi a lwfansau buddsoddiadauYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Sut bydd treth incwm eiddo yn newid o fis Ebrill 2027 ymlaen?

Mae incwm eiddo yn arian rydych chi’n ei ennill os ydych yn rhentu eiddo rydych yn berchen arno. Ym mis Ebrill 2027, mae'r dreth hon yn cynyddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Os rydych chi yn byw yn yr Alban, ar hyn o bryd rydych yn talu Treth Incwm safonol yr Alban ar incwm eich eiddo. Gallai fod cyhoeddiad y bydd hyn yn newid yn y flwyddyn dreth nesaf, ond nid oes unrhyw ddiweddariadau eto. 

Treth Incwm Eiddo 2026/27

Treth Incwm Eiddo 2027/28

Trethdalwr cyfradd sylfaenol

20%

24%

Trethdalwr cyfradd uwch

40%

44%

Trethdalwr cyfradd ychwanegol

45%

49%

Os gwnaethoch arian drwy werthu eiddo nad ydych yn byw ynddo am fwy nag y gwnaethoch ei brynu amdano, mae treth yn daladwy ar hyn. Fodd bynnag, treth enillion cyfalafYn agor mewn ffenestr newydd yw hyn, nid treth incwm eiddo. 

Sut gallwch baratoi ar gyfer newidiadau treth Ebrill 2027?

Os oes gennych lawer o arian mewn cynilion, mae siawns y bydd newidiadau treth Ebrill 2027 yn effeithio arnoch.

Er na allwn roi cyngor ariannol, mae ychydig o gamau y gallech eu cymryd i leihau'r risg o orfod talu mwy o dreth ar eich cynilion.

Adolygwch eich lwfans ISA cyn 5 Ebrill 2027

Os mai dim ond i gyfrifon cynilo safonol rydych chi'n cynilo, dylech geisio gwneud y gorau o ddefnyddio ISA.

Drwy ddefnyddio lwfans ISA eleni a'r flwyddyn nesaf, gallech roi hyd at £40,000 mewn cynilion, ac mae unrhyw log a wnewch ar hynny yn gwbl ddi-dreth.

Cofiwch gadw golwg ar yr hyn sy'n mynd i mewn i'ch ISAs. Os byddwch yn mynd dros eich cyfanswm terfyn blynyddol o £20,000, bydd CThEF yn cysylltu â chi ac yn gofyn i chi dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus gennych.

Gwiriwch pryd y daw llog cynilion tymor sefydlog yn drethadwy

Gwnewch nodyn pryd mae cyfrifon yn talu llog. Mae rhai cyfrifon yn talu llog allan bob blwyddyn, ac os yw'r dyddiad hwnnw ar ôl 6 Ebrill 2027, gallai olygu bod yn rhaid i chi dalu mwy o dreth arno.

Pan fyddwch yn dewis eich cyfrifon cynilo, cofiwch ystyried pryd bydd eich taliad llog yn dod, ac a allai fod yn well talu i ISA neu rywbeth fel Bondiau Premiwm lle mae eich enillion yn ddi-dreth.

Defnyddiwch gyfrifiannell llogYn agor mewn ffenestr newydd fel un Banc Lloegr i weld faint y gallech ei ennill dros y flwyddyn. 

Adolygu buddsoddiadau y tu allan i ISA

Os oes gennych fuddsoddiadau mewn cryptoarian neu gyfrif buddsoddiadau cyffredinol (GIA), bydd treth yn ddyledus ar unrhyw arian a gewch o'r rhain.

Cwestiynau cyffredin am newidiadau treth Ebrill 2027

A oes angen i mi ddweud wrth CThEF am fy llog cynilion?

Os ydych fel arfer yn talu treth yn awtomatig fel cyflogai (a elwir yn dreth PAYE), yna bydd CThEF yn casglu gwybodaeth am faint rydych yn ei ennill o gynilion gan fanciau a chymdeithasau adeiladu ac yn cymryd eich treth yn uniongyrchol o'ch cyflog.

Mae hyn yn berthnasol oni bai eich bod yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn mewn llog, pan fydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen dreth Hunanasesu.

Os ydych fel arfer yn cwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad, yna mae'n rhaid i chi ddatgan faint o log a dalwyd i chi yn yr adran 'llog heb ei drethu'r DU' ohoni.

A fydd y lwfans cynilion personol yn newid ym mis Ebrill 2027?

Na, ni fydd eich lwfans cynilo personol yn newid ym mis Ebrill 2027.

A fydd y cyfraddau treth cynilo newydd yn berthnasol ledled y DU?

Byddant, mae'r cyfraddau treth cynilion newydd yn berthnasol yng Nghymru Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Maent ar wahân i Dreth Incwm, sydd ychydig yn wahanol yn yr Alban.

Pa newidiadau treth ym mis Ebrill 2027 sydd wedi eu cadarnhau a pha rai sy’n gynigion?

Cyhoeddwyd yr holl newidiadau treth yn y blog hwn yng Nghyllideb mis Hydref 2026. Byddant yn mynd drwy'r broses ddeddfwriaethol arferol a dylent newid ym mis Ebrill 2027.

Bronni Gandhi
Author Bronni Gandhi
Back to top
Share this post
E-bost Facebook X
Share this with
WhatsApp LinkedIn
Copy this link
Anfon e-bost
Copy this link
Tags
Buddsoddi Arbedion Pob postiadau blog Hunan-gyflogedig

Latest posts

Deall rheolau ISA yn 2026

28 Hydref 2026

Sut i ddod o hyd i’r cyfrifon cynilo gorau

01 Medi 2026

Sut i guro materion ID pan rydych chi’n agor cyfrif banc

26 Awst 2026

More blog posts
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun i dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc).

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012