Ymunwch â’n grŵp Facebook
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
15 Ionawr 2024
Mae adroddiad newydd yn dangos nad yw pobl Prydain yn cael y mwyaf o log ar ein cynilion. Darganfyddwch fwy ar sut i wneud eich cyfrif yn fwy gwerth chweil.
Mae cyfraddau llog wedi saethu i fyny dros y cwpwl o flynyddoedd diwethaf – mae’r cyfraddau gorau bellach dengwaith yn uwch nag oedden nhw. Ond er mwyn eu cael, mae fel arfer yn rhaid i chi symud eich arian.
Yn ôl yr FCA, ym mis Rhagfyr 2023 y gyfradd llog cyfartalog ar gyfer cynilion mynediad brys oedd 1.99%, a 3.52% ar gyfer cyfrifon cyfradd sefydlog.
Er bod hyn yn uwch na'r un niferoedd yn gynharach eleni, mae cryn dipyn o gyfrifon yn talu 5% neu’n fwy mewn llog ar gyfer cyfrifon sefydlog a chyfrifon mynediad brys.
Gallai cyfraddau llog cynyddol olygu eich bod yn gwario mwy ar eich morgais neu fenthyciadau eraill, ond gall hefyd ennill ychydig yn ychwanegol ar eich cynilion. Dyma pam ei bod mor bwysig newid lle rydych chi'n cadw'ch arian.
Mae yna ychydig o ffyrdd y gallwch gael gwell cyfraddau ar eich cynilion. Os ydych yn gymwys gallech ennill hyd at 50% yn ôl ar yr hyn yr ydych yn ei gynilo.
Dyma sut:
Os oes gennych gyfrif cynilo neu fond cyfradd sefydlog, bydd fel arfer yn rhaid i chi aros tan iddo aeddfedu (gorffen) cyn y gallwch wneud hyn. Dylai mathau eraill o gyfrifon adael i chi symud eich arian yn fwy rhydd, ond dylech bob amser gadarnhau hynny cyn dechrau.
Mae’r raddfa cynilo gorau yn gallu newid nifer o weithiau mewn diwrnod, gyda banciau gwahanol yn cystadlu i fod yn orau. Felly, mae’n syniad da i edrych yn rheolaidd i weld a yw eich graddfa yn cael ei guro’n rhywle arall.
Hyd yn oed os welwch chi mai eich banc yw’r talwr gorau, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud rhywbeth beth bynnag.
Tra bod rhai banciau’n cynnig un cyfradd llog i bob cwsmer, mae eraill yn creu ‘fersiynau’ newydd felly dim ond cwsmeriaid newydd (neu gwsmeriaid cyfredol sy’n holi) sy’n cael y cyfradd uwch.
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
Dyma ychydig o help ychwanegol os ydych yn newydd i gynilo neu ddim yn siwr ble i ddechrau.
1. Oes gennych unrhyw ddyledion?
Mae benthyca fel arfer yn costio mwy nag y bydd cynilo yn ei dalu, felly mae unrhyw arian ychwanegol fel arfer yn cael ei ddefnyddio’n well i glirio dyled. Gweler Sut i leihau benthyca ar gredyd am gymorth llawn.
2. Allwch chi agor cyfrifon sy'n cynnig bonws gan y llywodraeth?
Os ydych yn gymwys gallwch ennill bonws o 25% tuag at brynu eich cartref cyntaf neu ymddeoliad pan fyddwch yn agor ISA Gydol Oes. Mae angen i chi fod rhwng 18-39 oed i agor cyfrif ac mae cosb am dynnu arian.
Darganfyddwch fwy yn ein herthygl am ISAs Gydol Oes.
Mae cyfrifon Cymorth i Gynilo yn cynnig bonws o hyd at 50% ar eich cynilion. Os ydych yn cael budd-daliadau penodol gallwch arbed hyd at £600 y flwyddyn a chael bonws o £300 arno.
Gwiriwch a allwch chi agor cyfrif a sut mae'n gweithio yn ein canllaw Esbonio Cymorth i Gynilo.
3. A fyddwch yn talu treth ar log cynilion?
Mae’r mwyafrif o bobl yn gallu ennill swm penodol mewn llog cynilo bob blwyddyn dreth (6 Ebrill tan 5 Ebrill) heb dalu treth, yn seiliedig ar eich incwm blynyddol.
Darganfyddwch fwy am os fydd angen i chi dalu treth ar eich cynilion yn ein canllaw Sut mae treth ar gynilion a buddsoddiadau yn gweithio.
Gallwch ddefnyddio Cyfrifiannell cynilion Banc LloegrYn agor mewn ffenestr newydd i weithio allan faint o log y byddech yn ei ennill.
Mae’r un gorau’n dibynnu ar beth yr hoffech ei wneud:
Talu i mewn a thynnu allan unrhyw bryd
Gweithio o gwmpas cyfyngiadau i wneud y gorau o beth gewch yn ôl