Sut i guro materion ID pan rydych chi’n agor cyfrif banc
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
13 Mai 2024
Fel arfer bydd angen ID llun arnoch i agor cyfrif banc, fel pasbort neu drwydded yrru. Ond dydych chi ddim ar eich pen eich hun os nad oes gennych chi'r dogfennau cywir - dyma beth allwch chi ei wneud.
A yw'n werth agor cyfrif banc?
Mae cyfrif banc yn hanfodol i lawer gan ei fod yn gadael i chi:
- dderbyn eich cyflog, pensiwn neu fudd-daliadau, fel Credyd Cynhwysol
- dynnu arian parod neu dalu am bethau gan ddefnyddio cerdyn debyd
- dalu biliau yn awtomatig gan ddefnyddio archebion sefydlog neu Ddebydau Uniongyrchol, fel rhent a chontractau ffon symudol
- gadw eich arian yn ddiogel.
Am help i ddod o hyd i'r cyfrif banc cywir i chi, gweler:
Pa ID sydd ei angen arnaf i agor cyfrif banc?
Bydd y rhan fwyaf o fanciau yn gofyn i chi ddarparu trwydded yrru neu basbort i brofi pwy ydych chi.
Os ydych chi'n gwneud cais ar-lein, efallai y byddan nhw'n gofyn am lun ohono yn lle hynny, yn aml gyda fideo byw neu lun ohonoch chi.
Ond gall rhain fod yn ddrud i'w cael, gyda thrwydded yrru yn costio o leiaf £34 neu £88.50 ar gyfer pasbort oedolyn.
I helpu, efallai y bydd banciau'n derbyn y dogfennau swyddogol hyn yn lle, fel arfer os ydynt o dan dri mis oed ac yn defnyddio'ch cyfeiriad presennol:
- bil Treth y Cyngor
- bil cyfleustodau, fel nwy neu drydan
- datganiad banc neu gymdeithas adeiladu arall
- datganiad cerdyn credyd
- llythyr neu ddatganiad treth CThEM
- datganiad morgais
- cytundeb tenantiaeth
- datganiad budd-dal neu Bensiwn y Wladwriaeth
- llythyr statws mewnfudo
- llythyr oddi wrth eich:
- cyflogwr
- Llywodraethwr Carchar
- Rheolwr cartref gofal
- lloches i'r digartref
- lle astudio, fel coleg neu ddarparwr hyfforddiant.
Mae hefyd yn werth cofrestru i bleidleisioYn agor mewn ffenestr newydd yn eich cyfeiriad presennol - yn enwedig os ydych chi wedi symud tŷ - gan fod rhai banciau yn defnyddio hyn fel rhan o'u gwiriadau.
Gwiriwch beth fydd ei angen arnoch cyn gwneud cais
Mae hi bob amser yn werth gwirio pa ddogfennau byddwch eu hangen arnoch cyn i chi wneud cais, oherwydd gall banciau gwahanol dderbyn gwahanol bethau.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth ar eu gwefan, gofynnwch i'w gwasanaethau cwsmeriaid am restr o ID derbyniol.
Beth gallaf ei wneud os nad oes gennyf unrhyw ID?
Os na allwch gael y dogfennau cywir, gallech ystyried cyfrif cerdyn rhagdaledig yn lle hynny.
Mae gan hyn lai o nodweddion na chyfrif banc, ond nid oes angen ID fel arfer.
Er enghraifft, gallwch ddefnyddio cerdyn rhagdaledig i wario a thynnu arian parod, ond fel arfer ni allwch sefydlu taliadau fel Debydau Uniongyrchol neu dderbyn eich cyflog neu fudd-daliadau i mewn iddo.