Pan fyddwch yn benthyca arian, mae'r swm y byddwch yn ei dalu'n ôl yn dibynnu ar y gyfradd llog, ynghyd ag unrhyw ffioedd ychwanegol. Mae'r un peth yn wir am gyfrifon cynilo lle gallwch ennill llog. Dyma sut mae cyfraddau llog yn gweithio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw cyfradd llog?
Pan fyddwch yn benthyg arian, llog yw'r am ei ddefnyddio, fel arfer fe'i mynegir fel canran flynyddol o'r benthyciad neu swm cerdyn credyd.
Pan fyddwch yn cynilo arian, mae'r banc neu gymdeithas adeiladu yn benthyg eich arian a'n talu llog i chi i'w ddefnyddio.
Llog a godir ar fenthyciad (neu fenthyca arall)
Pan fyddwch yn benthyca arian, byddwch yn ad-dalu’r swm gwreiddiol a fenthycwyd (a elwir yn ‘gyfalaf’) ynghyd â’r llog.
Dywedwch eich bod yn benthyg £1,000 o fanc:
Os yw'ch benthyciad yn denu cyfradd llog flynyddol o 10%, bydd rhaid i chi ad-dalu £1,000 ynghyd â llog o 10% (£100). Felly £1,100 yw'r swm y bydd rhaid i chi ei dalu'n ôl ar ôl blwyddyn.
Gallai'r cyfanswm fod yn wahanol os ydych yn benthyg yr arian dros gyfnod hwy neu fyrrach.
Llog a enillir ar gynilion
Os byddwch yn gosod £ 1,000 mewn cyfrif cynilo sy'n ennill llog o 2% yn flynyddol byddwch yn ennill £20 mewn llog, gan roi £1,020 i chi ar ôl blwyddyn.
Unwaith eto, gallai'r llog rydych yn ei ennill fod yn wahanol os bydd cyfradd y llog yn newid neu os bydd y balans yn eich cyfrif cynilo yn amrywio yn ystod y cyfnod y cyfrifwyd y llog.
Sut mae cyfraddau llog yn gweithio?
Mae Banc Lloegr (BoE) yn gosod cyfran y banc (neu’r ‘cyfradd sylfaenol’) ar gyfer y DU.
Gallwch ddarganfod beth yw'r gyfradd banc gyfredol ar wefan Banc Lloegr
Gall hyn ddylanwadu ar y cyfraddau llog a osodir gan sefydliadau ariannol fel banciau. Os bydd y gyfradd sylfaenol yn codi, mae'n debygol y bydd benthycwyr am godi mwy wrth i gost benthyg gynyddu.
Mae hyn yn gweithio yn yr un modd i gynilwyr. Os bydd cyfradd sylfaenol BoE yn codi byddech yn disgwyl gweld y llog rydych yn ei ennill o'ch cynilion yn cynyddu.
Beth yw APR?
Pan fyddwch yn benthyca arian, bydd eich benthyciwr yn aml yn hysbysebu ‘APR’ (Cyfradd Canran Flynyddol). Mae hyn ychydig yn wahanol i'r gyfradd llog oherwydd ei fod yn cynnwys y gyfradd llog ynghyd ag unrhyw ffioedd sy'n cael eu cynnwys yn awtomatig yn eich benthyciad (er enghraifft, unrhyw ffioedd trefniant).
Mae'r APR yn arbennig o ddefnyddiol gan ei fod yn darparu meincnod wrth gymharu cynhyrchion ariannol tebyg.
Darganfyddwch fwy am APRs ar wefan MoneySavingExpert
Sut mae adlog yn gweithio?
Mae adlog yn golygu eich bod yn ennill llog ar eich swm gwreiddiol a’r llog sydd eisoes wedi’i ychwanegu. Mae hyn yn golygu y bydd y llog o gyfnodau blaenorol yn cael ei ychwanegu at y cyfanswm, ac yna rydych yn ennill llog y swm uwch hyn.
Mae’r tabl yn dangos sut gall £1,000 mewn cyfrif cynilo cynyddu ar raddfeydd llog gwahanol, gan gynnwys llog, ac effaith adlog (ffigurau wedi’u talgrynnu er mwyn symleiddio). Po hiraf y byddwch yn cynilo, po fwyaf y bydd eich cynilion yn buddio o effaith adlog.
Term | 2% | 3% | 4% |
---|---|---|---|
Blwyddyn 1 |
£1,020 |
£1,030 |
£1,040 |
Blwyddyn 2 |
£1,041 |
£1,061 |
£1,082 |
Blwyddyn 3 |
£1,062 |
£1,093 |
£1,125 |
Blwyddyn 4 |
£1,083 |
£1,126 |
£1,170 |
Blwyddyn 5 |
£1,104 |
£1,159 |
£1,217 |
Treth ar Llog Cynilion
Os ydych yn Drethdalwr yn y DU, efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Incwm ar y llog rydych yn ei ennill ar eich cynilion, heblaw am ISAs Arian Parod.
Mae gan y mwyafrif o oedolion y DU lwfans cynilo personol, sy'n caniatáu i drethdalwyr cyfradd sylfaenol ennill hyd at £1,000 o log ar eu cynilion heb dalu treth, a gall trethdalwyr cyfradd uwch ennill £500 o log yn ddi-dreth.