Mae cael cyfrif cynilo fel arfer yn hawdd iawn - mae modd agor llawer ar-lein mewn ychydig funudau. Dyma sut i benderfynu pa fath sydd orau, cymharu’r cyfraddau uchaf a gwirio’n rheolaidd eich bod yn dal i gael y cytundeb gorau.
Cyfrifwch pa fath o gyfrif sydd orau
Bydd yr un sydd orau yn dibynnu ar beth rydych am ei wneud.
Talu arian i mewn a thynnu arian allan unrhyw bryd
Mae’r arian wrth law pan fyddwch ei angen. Os ydych yn cael rhai budd-daliadau, y cynllun Cymorth i Gynilo sydd orau gan ei fod yn rhoi bonws o 50%. |
|
Mae’r holl log yn ddi-dreth. Gallwch gynilo hyd at £20,000 cyn 6 Ebrill. |
|
Rydych chi’n cael eich cynnwys mewn raffl fisol yn hytrach na cael llog wedi’i dalu. Gallwch gynilo hyd at £50,000. |
|
Efallai y bydd rhai cyfrifon banc yn talu llog ar symiau penodol, ond nid yw llawer yn gwneud hynny. |
Gweithio o amgylch cyfyngiadau i sicrhau’r enillion mwyaf posibl
Mae’n rhoi bonws o 25% ar gynilion a ddefnyddir ar gyfer ymddeol neu brynu cartref cyntaf. Mae angen i chi fod rhwng 18 a 39 oed i agor un. |
|
Mae’n gadael i chi gynilo swm misol penodol yn gyfnewid am gyfradd llog uwch. Ond efallai na fyddwch yn gallu tynny arian allan. |
|
Mae’n gwarantu cyfradd llog am gyfnod penodol rhwng chwe mis a saith mlynedd. Ond ni allwch dynny arian allan tan y diwedd. |
|
Os byddwch yn talu treth ar log cynilion, gall y rhain dalu mwy na’r bondiau arferol uchod. Gallwch dynny arian allan neu gau’n gynnar, fel arfer am ffi. |
|
Cyfrifon rhybudd |
I dynnu arian allan fel arfer bydd angen i chi roi rhwng 30 a 120 diwrnod o rybudd. |
Gallwch gael nifer o gyfrifon cynilo, felly efallai y byddwch yn penderfynu mae agor mwy nag un math sydd orau. Er enghraifft, un ar gyfer cynilion brys y gallwch gael mynediad atynt ac un gydag arian y gallwch roi heibio am gyfradd uwch.
Os yw’ch banc yn cysylltu â chi am newid eich cyfradd llog, defnyddiwch hwn fel sbardun i siopa o gwmpas i weld a ellir cael gwell yn rhywle arall.
Cyfrifwch a fyddwch yn talu treth ar log cynilion
Mae faint o log di-dreth y gallwch ei ennill (6 Ebrill i 5 Ebrill) yn dibynnu ar eich incwm blynyddol. Gweler sut mae treth ar gynilion yn gweithio am eglurhad llawn.
Mae llog yn cael ei gyfrif yn y flwyddyn dreth y gallwch gael mynediad iddo. Rhowch gynnig ar gyfrifiannell cynilo Banc LloegrYn agor mewn ffenestr newydd i gyfrifo faint o log y byddech yn ei gael.
Os yw hyn yn fwy na’ch lwfans, chwiliwch am gyfrif cynilo di-dreth ar gyfer y gweddill.
Rhannwch eich arian os oes gennych fwy na £85,000
Mae’r £85,000 cyntaf y person, fesul grwp bancio, wedi’i ddiogelu, felly byddech yn cael eich arian yn ôl pe bai banc yn methu. Yr eithriad yw NS&I, lle mae eich holl gynilion yn cael eu diogelu.
Mae’r gwiriwr diogelwch Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)Yn agor mewn ffenestr newydd yn dangos pa fanciau sy’n cael eu cynnwys.
Talu dyledion sy’n costio mwy nag y mae cynilion yn eu talu
Mae cynilion fel arfer yn talu cyfradd llog is na’r un rydych yn ei dalu i’w fenthyca. Felly, yn aml mae’n well i chi glirio dyled yn gyntaf. Gweler ein canllaw ar Sut i leihau benthyca ar gredyd am fwy o wybodaeth.
Cymharwch y cyfraddau uchaf
Mae’r safleoedd canlynol i gyd yn rhestru’r cyfrifon cynilo sy’n talu uchaf:
Moneyfacts’ best savings comparisonYn agor mewn ffenestr newydd
Which? round up of the best savings ratesYn agor mewn ffenestr newydd
Yna mae’n fater o agor eich cyfrif dewisol. Bydd llawer yn gadael i chi agor ar-lein mewn ychydig funudau, er bod opsiynau y gallwch agor mewn ap, dros y ffôn, drwy’r post neu mewn cangen.
Dylech bob amser wirio am unrhyw gyfyngiadau ar dynnu arian allan neu gosbau am gau’n gynnar. Er enghraifft, mae rhai cyfrifon ond yn gadael i chi dynnu arian allan ar un diwrnod y flwyddyn.
Gwiriwch yn rheolaidd eich bod yn cael y gyfradd orau
Gall y gyfradd gynilo uchaf newid sawl gwaith y dydd, gyda banciau gwahanol yn cystadlu i fod y gorau. Felly, oni bai bod eich holl arian mewn bond cyfradd sefydlog, mae’n syniad da i wirio’n rheolaidd a ellir cael cyfradd well yn rhywle arall.
Os yw’ch banc yn cynyddu eich cyfradd, dylech barhau i siopa o gwmpas
Byddwch yn cael gwybod a fydd eich cyfradd llog yn cynyddu (neu’n gostwng) ymlaen llaw, fel arfer trwy e-bost neu lythyr. Defnyddiwch hwn fel sbardun i gymharu’r cyfraddau uchaf - os yw’ch banc wedi newid ei gyfradd, mae’n debygol bod eraill hefyd.
Rhaid i fanciau sicrhau eich bod ar gytundeb deg - ond nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid iddo fod y gorau yn y farchnad.