Ymunwch â’n grŵp Facebook
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
23 Gorffennaf 2024
Mae ISAs (Cyfrifon Cynilo Unigol) yn eich galluogi i ennill llog heb dalu unrhyw dreth o hyd ac yn eich caniatáu i gynilo hyd at £20,000 bob blwyddyn dreth. Ond daeth nifer o newidiadau i rym o 6 Ebrill 2024, dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Mae gwahanol fathau o ISA, gan gynnwys:
Cyn Ebrill 2024, nid oedd modd agor dau ISA o'r un math yn yr un flwyddyn dreth. Roedd angen i chi gau ISA i agor un arall, er enghraifft er mwyn cael cyfradd llog well.
Ond nawr gallwch agor a thalu i gynifer o ISAs o'r un math ag y dymunwch, cyn belled nad ydych yn talu mwy na chyfanswm y terfyn ISA o £20,000 y flwyddyn.
Mae hyn yn golygu y gallech agor ISA arian parod gydag un darparwr ac yna un arall mewn man arall – mae’n ddefnyddiol os ydych am ddod o hyd i'r gyfradd llog orau neu eisiau lledaenu'ch arian i'w gadw'n ddiogel.
Nid ydych yn talu treth ar log ar arian parod mewn incwm ISA nac enillion cyfalaf gan fuddsoddiadau mewn ISA.
Os byddwch yn llenwi ffurflen dreth, nid oes angen i chi ddatgan unrhyw log ISA, incwm nac enillion cyfalaf arni.
Mae ISA Gydol Oes neu LISA yn fath o ISA lle mae'r llywodraeth yn rhoi bonws o 25% i chi. Er y gallwch gynilo cyfanswm o £20k y flwyddyn mewn unrhyw gyfrif ISA neu gyfuniad o gynhyrchion ISA gallwch ond eu talu i mewn i un ISA Gydol Oes mewn blwyddyn dreth a'r uchafswm y gallwch ei dalu i mewn yw £4,000 (a fydd yn eich gadael yn rhydd i gynilo neu fuddsoddi £16k mewn unrhyw gynnyrch ISA arall y flwyddyn ariannol honno). Gweler ein canllawiau ar ISAs Gydol Oes am fwy o wybodaeth.
Dysgwch fwy am y gwahanol fathau o ISAs yn ein canllaw i ISAs a ffyrdd treth-effeithlon eraill o gynilo neu fuddsoddi.
Mae'r rheolau newydd yn golygu y byddwch yn gallu trosglwyddo swm rhannol gan un darparwr ISA i'r llall, ni waeth pryd y talwyd yr arian i mewn. Cyn y newid bu'n rhaid i chi drosglwyddo eich ISA cyfan o'r math hwnnw o'r flwyddyn dreth bresennol neu ddim byd o gwbl. Byddwch hefyd yn gallu cadw unrhyw arian sy'n weddill gyda'ch darparwr presennol a chadw'r cyfrif hwnnw. Os ydych eisiau newid darparwyr, rydym yn nodi’r holl reolau yn ein canllaw Trosglwyddiadau ISA Arian Parod – y rheolau.
Yr isafswm oedran i agor ISAs arian parod i oedolion yw 18 oed erbyn hyn. Bydd y newid hwn yn dod â'r cynnyrch yn unol â'r gofyniad oedran lleiaf ar gyfer mathau eraill o ISAs oedolion.
Peidiwch â phoeni, os ydych rhwng 16 a 17 oed, gallwch barhau i agor a chynilo i ISA Iau. Yr anfantais yw bod y lwfans di-dreth blynyddol yn £9,000 - llai na hanner y lwfans ISA i oedolion o £20,000.
Nid oes terfyn isafswm oedran i agor ISA Iau a phan fyddwch yn troi'n 18 oed, bydd y cyfrif yn cael ei drosglwyddo'n awtomatig i ISA oedolyn. Os ydych chi'n ystyried agor ISA Iau, rydym yn esbonio sut maen nhw'n gweithio yn ein canllaw ISA Iau.
Gallwch gynilo hyd at £20,000 bob blwyddyn i ISA Oedolion heb iddynt fod yn destun treth incwm neu enillion cyfalaf. Gelwir hyn yn "lwfans di-dreth". Ar gyfer 2024/25 y lwfans di-dreth blynyddol ar gyfer ISA oedolyn yw £20,000.
Os ydych chi'n chwilio am fuddsoddiad tymor hir, gallai ISA stociau a chyfranddaliadau fod yn rhywbeth sy'n werth ei ystyried. Rydym yn esbonio’r pwyntiau allweddol yn ein canllaw ISAs Stociau a Chyfranddaliadau, ond y pwynt allweddol i'w gofio yw nad oes enillion gwarantedig ar unrhyw arian a fuddsoddir.
Cyhoeddwyd yr 'ISA Prydeinig', math newydd o ISA, yng nghyllideb Gwanwyn 2024. Y syniad y tu ôl i’r ISA Prydeinig yw annog pobl i fuddsoddi mewn cwmnïau yn y DU gyda chynnydd yn y terfyn ISA blynyddol o £5,000 y flwyddyn ar ben y terfyn presennol o £20,000.
Er i'r ymgynghoriad ddod i ben ar 6 Mehefin 2024, ni chafwyd unrhyw ddiweddariadau na chyhoeddiadau pellach. Gyda'r newid yn y llywodraeth nad yw’n sicr o hyd a fydd yr ISA Prydeinig newydd yn mynd yn ei flaen.
Os ydych chi'n newydd i fuddsoddi ac eisiau gwybod mwy am yr hyn y mae'n ei olygu, gweler ein canllaw Meddwl am fuddsoddi? Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y risgiau.
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.