Y cyfanswm y gallwch ei gynilo i Gyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) yn y flwyddyn dreth gyfredol yw £20,000. Gelwir hyn yn lwfans ISA. Weithiau cyfeirir at ISAs fel ‘amlapiwr treth’, oherwydd bod yr arian sydd gennych ynddynt yn cael ei gysgodi rhag Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf. Mae'r erthygl hon yn edrych ar sut mae un math o ISA - ISA Stociau a chyfrandaliadau - yn gweithio a'r hyn sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pryd allai ISA Stociau a chyfranddaliadau fod yn addas ar eich cyfer chi?
- Pa fuddsoddiadau a ddelir mewn cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau?
- Sut mae cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau yn gweithio
- Sut i brynu ISAs stociau a chyfranddaliadau
- Treth ar ISAs stociau a chyfranddaliadau
- Os bydd pethau’n mynd o chwith
Pryd allai ISA Stociau a chyfranddaliadau fod yn addas ar eich cyfer chi?
Os nad ydych yn deall cynnyrch ariannol, dylech gael cyngor ariannol annibynol gan gynghorwr ariannol rhedoledig cyn i chi brynu.
Ond gallai ISA Stociau a chyfranddaliadau fod yn addas ar eich cyfer chi:
- os nad ydych yn edrych i gael gafael ar unwaith ar eich arian
- os ydych yn barod i gadw eich arian wedi ei fuddsoddi am sawl flwyddyn
- os nad ydych wedi defnyddio cyfanswm eich lwfans ISA ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol
- os ydych yn cyfforddus gall gwerth eich buddsoddiadau fynd i fyny ac i lawr ac efallai y byddwch yn cael llai yn ôl na wnaethoch roi i mewn.
Pa fuddsoddiadau a ddelir mewn cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau?
Mae ISA stociau a chyfranddaliadau i bob pwrpas yn ‘amlapiwr treth’ y gellir ei roi o amgylch ystod eang o wahanol gynnyrch buddsoddi. Mae unrhyw dwf buddsoddiad neu log a enillir o fewn yr ISA stociau a chyfranddaliadau yn ddi-dreth.
Gellir dal llawer o wahanol fathau o fuddsoddiad mewn ISA, gan gynnwys:
- ymddiriedolaethau uned
- ymddiriedolaethau buddsoddi
- cronfeydd cyfnewid wedi’u masnachu
- stociau a chyfranddaliadau unigol
- bondiau corfforaethol a bondiau’r llywodraeth, a
- Cwmnïau Buddsoddi Penagored (OEICs).
Yn aml, caiff cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau eu gwerthu a’u marchnata fel cynhyrchion penodedig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Mathau o fuddsoddiadau
Sut mae cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau yn gweithio
Gallwch dalu cyfanswm o £20,000 y flwyddyn i mewn i ISA yn ystod y flwyddyn dreth bresennol 2024/25.
- Gallwch rannu'ch lwfans ISA ar draws y pedwar math gwahanol o ISA: arian parod, stociau a chyfranddaliadau, cyllid arloesol neu oes. Er mai'r uchafswm y gallwch ei roi mewn ISA Oes yw £4,000 bob blwyddyn dreth.
- Bydd eich lwfans ISA blynyddol yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) a chaiff unrhyw lwfans na fyddwch wedi’i ddefnyddio ei golli. Ni ellir ei gario drosodd i’r flwyddyn ganlynol.
- Gallwch wneud buddsoddiad cyfandaliad ac/neu wneud cyfraniadau rheolaidd neu ad hoc drwy gydol y flwyddyn dreth.
- Mae unrhyw gynnydd yng ngwerth y buddsoddiadau yn eich ISA stociau a chyfranddaliadau’n rhydd rhag Treth Enillion Cyfalaf.
- Mae'r rhan fwyaf o'r incwm o'ch stociau a chyfranddaliadau ISA yn ddi-dreth.
- Mae’n werth siopa o gwmpas er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dod o hyd i ISA sy’n gweddu i chi. Cymharwch unrhyw ffioedd am yr amlapiwr ISA a’r ystod o fuddsoddiadau y gallwch eu rhoi ynddo.
Eich lwfans ISA yw’r swm y gallwch ei dalu i mewn, nid cyfanswm gwerth eich buddsoddiadau – felly os byddwch yn rhoi eich lwfans llawn mewn ISA Stociau a chyfranddaliadau a bod ei werth yn gostwng, ni allwch ychwanegu ato yn ystod yr un flwyddyn dreth
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ISA's a ffyrdd treth effeithlon eraill i gynilo neu fuddsoddi
Rheolau ISA newydd ar drosglwyddo ISA Priod a fu Farw
Os yw'ch briod neu bartner sifil yn marw, gallwch etiefeddu eu ISA. Byddwch yn cael lwfans ISA ychwanegol sy’n cyfateb i werth cynilion ISA yr un fu farw ar adeg y farwolaeth
Trosglwyddo ISAs
Os byddwch eisiau newid eich ISA i ddarparwr gwahanol a chadw'r holl arian di-dreth, bydd angen i'w drosglwyddo. Nid oes modd i chi ei gau, tynnu'r arian a'i ail-fuddsoddi yn rhywle arall.
Dyma sut y mae'n gweithio:
- Rhaid i bob darparwr ISA ganiatáu i chi drosglwyddo eich cyfrif allan, ond nid oes rhaid iddynt ganiatáu i chi drosglwyddo cyfrif i mewn.
- Gallwch drosglwyddo arian o ISA arian parod i ISA stociau a chyfranddaliadau ac i'r gwrthwyneb.
- Gallwch ddewis faint rydych yn trosglwyddo - nid oes angen i chi drosglwyddo popeth.
Mynediad at eich arian
- Gallwch werthu’r asedau a ddelir yn eich ISA ar unrhyw adeg ac nid oes isafswm cyfnod y bydd angen i chi ei ddal.
- Os oes gennych arian yn eich ISA, gallwch ddim ond ail-fuddsoddi'r arian hyn i ISA arall, hyd at eich lwfans ISA sydd ar gael.
Taliadau ar stociau a chyfranddaliadau ISA
- Mae'n bwysig gwirio'r taliadau ar y buddsoddiad sylfaenol gan y gall y rhain amrywio llawer a gallant effeithio ar faint o arian a gewch yn ôl.
- Trwy sicrhau'r manylion, gallwch hefyd osgoi codi gormod arnoch chi.
Pa mor ddiogel yw’ch cynilion?
Os bydd rheolwr cronfa yn mynd yn fethdalwr a bod arian yn ddyledus i chi – a bod y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yn berthnasol i’r rheolwr – gallwch hawlio iawndal o hyd at £85,000 fesul person, fesul sefydliad.
Darganfyddwch pa fanciau a chymdeithasau adeiladu sy'n rhan o ba gwmnïau awdurdodedig ar y gwefannau a ganlyn:
Bank of England
Which?
Ond ni chewch unrhyw iawndal dim ond oherwydd bod gwerth eich buddsoddiadau yn gostwng.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Digollediad os yw’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu yn mynd yn fethdalwr
Sut i brynu ISAs stociau a chyfranddaliadau
Gallwch brynu ISA:
- yn uniongyrchol gan ddarparwr ISA
- yn uniongyrchol drwy reolwr cronfa
- yn uniongyrchol gan froceriaid disgownt, lwyfan cronfa ar-lein cronfeydd neu fanc
- gan ymgynghorydd ariannol annibynnol neu gynllunydd ariannol
- drwy gyfrif cyfranddaliadau neu frocer stoc ar-lein.
Gall taliadau amrywio ar gyfer yr un cynnyrch gan ddibynnu ar ble y byddwch yn ei brynu, felly edrychwch i weld ble sydd rataf.
Os nad ydych yn siŵr pa fath o fuddsoddiadau fyddai’n addas ar gyfer eich nodau a’ch anghenion personol, siaradwch ag ymgynghorydd ariannol rheoledig.
Darllenwch ein canllaw Ydych chi angen ymynghorydd ariannol?
Treth ar ISAs stociau a chyfranddaliadau
Mae buddsoddiadau sy’n talu llog (e.e. bondiau llywodraeth a chorfforaethol), neu incwm o rent (fel rhai cronfeydd eiddo) yn darparu incwm 100% didreth os cânt eu talu o fewn ISA.
Mae pawb yn cael Lwfans Difidend o £500 yn ddi-dreth. Mae hyn ar ben eich lwfans personol - y swm y gallwch ennill pob blwyddyn dreth cyn talu treth.
Mae difidendau a dderbynnir gan gronfeydd pensiwn neu a dderbynnir ar gyfranddaliadau o fewn ISA yn ddi-dreth ac nid ydynt yn effeithio ar eich lwfans difidend.
Yn ogystal, ni chodir Treth Enillion Cyfalaf ar unrhyw elw y byddwch yn ei wneud wrth werthu buddsoddiadau yn eich ISA stociau a chyfranddaliadau.
Ni ellir defnyddio unrhyw golledion a wnaed ar eich buddsoddiadau yn eich ISA stociau a chyfranddaliadau i wrthbwyso enillion cyfalaf ar eich buddsoddiadau eraill.
Gweler Sut mae treth ar gynilion a buddsoddiadau yn gweithio am fwy o wybodaeth.
Os bydd pethau’n mynd o chwith
Os na fyddwch yn fodlon â’r gwasanaeth a gewch neu os byddwch am wneud cwyn, dechreuwch drwy gysylltu â’ch darparwr neu ymgynghorydd.
Caiff y rhan fwyaf o reolwyr cronfeydd a rheolwyr ISA eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol Mae hyn yn golygu, os na chaiff eich cwyn ei datrys yn foddhaol, gallwch fynd â hi i'r Gwasnaeth Ombwdsmon Ariannol