Sut mae Treth Incwm a’r Lwfans Personol yn gweithio

Gall deall sut mae Treth Incwm yn gweithio fod yn ddryslyd, yn enwedig pan fyddwch yn cychwyn yn y gweithle. Bydd gwybod sut bydd Treth Incwm a’r Lwfans Personol yn gweithio yn caniatáu i chi weithio allan os ydych yn cael eich talu y swm cywir ac i’ch helpu i gyllido.

A ddylwn dalu Treth Incwm?

Codir Treth Incwm ar y rhan fwyaf o fathau o incwm. Y ffordd fwyaf cyffredin yw ar eich enillion a chyflog o’r gwaith.

Ond mae rhaid i chi dalu Treth Incwm ar:

  • elw, os ydych yn rhedeg busnes
  • llog a difidendau o gynilion a buddsoddiadau 
  • Rhent a gewch os ydych yn landlord.

Nid ydych fel arfer yn talu Treth Incwm ar y cyfan o’ch incwm trethadwy. Y rheswm am hyn yw bod y rhan fwyaf o bobl yn gymwys ar gyfer un neu ragor o lwfansau.

Lwfans yw swm a fyddai’n incwm trethadwy fel arall y cewch ei ennill bob blwyddyn, heb dalu treth arno.

Beth fyddai'n ei dalu?
Lwfans neu drothwy 2023/24 2022/23

Lwfans Personol

£12,570

£12,570

Trothwy Incwm ar gyfer Lwfans Personol

£100,000

£100,000

Lwfans Priodas

£1,260

£1,260

Lwfans Cynilion Personol

£1,000 / £500 / £0

£1,000 / £500 / £0

Lwfans Treth Difidend

£1,000

£2,000

Os byddwch yn ennill uwch y trothwy, caiff eich Lwfans Personol ei leihau £1 am bob £2 byddwch yn ennill uwchlaw’r trothwy, hyd nes iddo gyrraedd £0.

Rhoddir 20% o’r lwfans hwn fel gostyngiad yn eich bil treth. Mae hyn yn wahanol i’r Lwfans Personol a’r Lwfans Oedran, a ddidynnir o’ch incwm trethadwy cyn cyfrifo’r dreth.

Beth yw Lwfans Personol?

Mae gan bawb, gan gynnwys myfyrwyr, rhywbeth o’r enw Lwfans Personol – y swm o arian y cewch ennill pob blwyddyn dreth cyn i chi dalu Treth Incwm.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2023/24, y Lwfans Personol yw £12,570. Os byddwch yn ennill llai na hyn, ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw dreth incwm.

Gallai’ch Lwfans Personol fod yn fwy os hawliwch Lwfans Priodas neu Lwfans Unigolyn Dall. Neu gallai fod yn llai os ydych yn ennill yn uchel neu os oes treth yn ddyledus gennych o’r flwyddyn dreth flaenorol.

Y Lwfans Personol os ydych yn ennill dros £100,000

Os ydych yn ennill dros £100,000, ceir gostyngiad o £1 oddi ar £12,570 am bob £2 a enillir dros y terfyn £100,000. Os ydych yn ennill £125,140, byddwch yn talu Treth Incwm ar bopeth ac nid oes lwfans di-dreth.

Ar gyfer beth y defnyddir Treth Incwm?

Cesglir Treth Incwm gan HMRC ar ran y llywodraeth. Fe’i defnyddir i helpu darparu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft y GIG, y system lles, yn ogystal â buddsoddi mewn prosiectau cyhoeddus, fel ffyrdd, rheilffyrdd a thai.

Faint o Dreth Incwm fyddaf yn ei dalu?

Mae Treth Incwm yn cynnwys sawl band gwahanol. Mae hyn yn golygu wrth i’ch lwfans gynyddu, felly hefyd mae’r swm o Dreth Incwm fyddwch yn ei dalu.

Mae’r tabl isod yn dangos y cyfraddau o Dreth Incwm yn ddibynnol ar eich enillion.

Bandiau Treth Incwm
Incwm Bandiau Treth Incwm 2023/24

£0 i £12,570

0%

£12,571 i £50,270

Cyfradd sylfaenol: 20%

£50,271 i £125,140

Cyfradd uwch: 40%

Dros £125,140

Cyfradd ychwanegol: 45%

Cofiwch, nad ydych yn talu Treth Incwm ar yr un cyfradd ar eich holl incwm. Rydych ond yn talu’r cyfradd o Dreth Incwm ar eich incwm yn y dosbarth incwm. Er enghraifft, os ydych yn ennill £52,000 y flwyddyn, mae’r Dreth Incwm byddwch yn ei thalu’n gweithio allan fel hyn:

Cyfrifiadau ar enillion £52,000 y flwyddyn
Incwm Band Treth Incwm Treth byddwch yn ei thalu

Hyd at £12,570

0%

Dim treth incwm ar y £12,570 cyntaf

Rhwng £12,571 a £50,270

20%

20% treth incwm ar eich incwm £37,700 nesaf.

(£50,270 - £12,570 = £37,700)

Rhwng £50,271 a £150,000

40%

40% ar y £1,730 olaf o incwm

(£52,000 - £50,270 = £1,730)

Dros £150,000

45%

Dim treth incwm ar y gyfradd hon.

Os ydych yn byw yng Nghymru, mae eich cyfraddau Treth Incwm bellach yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae’r rhain yr un peth â Lloegr a Gogledd Iwerddon ar gyfer blwyddyn dreth 2022/23.

Os ydych yn byw yn yr Alban, mae eich cyfraddau Treth Incwm yn cael eu gosod gan Llywodraeth yr Alban ac yn wahanol.

Os ydych chi’n credu y didynnwyd Treth Incwm ar gam o’ch enillion, cwblhewch y ffurflen R38 gan CThEM er mwyn iddi gael ei dalu’n ôl i chi.

Yswiriant Gwladol

Nid yw Treth Incwm yr unig didyniad a wneir i’ch incwm.

Efallai byddwch hefyd yn gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae’r rhain yn helpu adeiladu’ch hawl i fudd-daliadau penodol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth a Lwfans Mamolaeth.

Treth os ydych yn hunangyflogedig

Os ydych yn hunangyflogedig, telir Treth Incwm ar yr un cyfradd â phawb arall. Ond byddwch yn ei dalu’n ôl dyledion ar ôl blwyddyn trwy Hunanasesiad.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.