Wedi sylwi bod popeth yn mynd yn ddrutach? A meddwl, beth sydd gan hynny i’w wneud â beth sy’n digwydd filltiroedd i ffwrdd?
Wel, ma digwyddiadau byd-eang ar hyn o bryd yn effeithio ar gostau pethau bob dydd fel tanwydd, ynni a bwyd.
Mae hynny oherwydd bod y gwledydd sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol yn aml yn cynhyrchu neu'n cludo adnoddau allweddol.
Felly, pan fydd llif nwyddau'n cael ei darfu neu pan fydd hi'n anoddach cludo nwyddau ledled y byd, gall prisiau godi, a gall hynny effeithio ar aelwydydd yma yn y DU.
Os ydych chi'n teimlo'r effaith, nid ydych chi ar eich pen eich hun.
Edrychwch ar ein hwb costau byw ar MoneyHelper.org.uk/Costau-Byw os ydych chi'n poeni am eich arian.