Hyd yn oed os nad ydych chi'n bwriadu ariannu eich buddsoddiadau am ychydig flynyddoedd, gall fod yn ofidus i weld eich cronfa bensiwn yn mynd yn llai. Peidiwch â chael eich temtio i wneud unrhyw benderfyniadau sydyn oherwydd yr hyn y mae'r farchnad yn ei wneud. Cymerwch eich amser ac ystyriwch eich opsiynau.
Nid oes unrhyw un yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac efallai y byddwch chi'n gweld eich buddsoddiadau yn adfer rhwng nawr a'r amser rydych chi'n bwriadu cael mynediad at eich cronfeydd. Wedi dweud hynny, nid oes unrhyw sicrwydd y naill ffordd neu'r llall.
Os ydych chi'n agos at ymddeoliad, gallech feddwl am newid eich buddsoddiadau i gronfeydd sydd â sgôr risg is ac sy'n cael eu hystyried yn fwy diogel. Gallai hyn leihau effaith y farchnad bresennol, ond os yw'r marchnadoedd yn adfer, mae'n annhebygol y byddwch chi'n elwa o hyn gan fod gan gronfeydd llai cyfnewidiol fel arfer botensial is ar gyfer twf.
Os ydych chi dros 50 oed ac mae gennych chi bensiwn cyfraniadau wedi'i diffinio, rydych chi'n gymwys i gael apwyntiad Pension Wise lle byddwch chi'n darganfod pryd a sut allwch chi gael mynediad at eich cronfeydd pensiwn. Fel arall, gallwch ffonio ein llinell gymorth HelpwrArian gydag unrhyw ymholiadau am unrhyw fath o bensiynau yn y DU.
Ddim yn siŵr a oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio? Gweler ein canllawiau ar y gwahanol fathau o bensiynau.