Mae hyd at 2.1 miliwn o bensiynwyr yn byw mewn tlodi, yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree. Ond mae llawer nad ydynt yn hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Peidiwch â cholli’ch arian – dyma restr o fudd-daliadau y gallech o bosibl eu hawlio a sut i ddarganfod os ydych yn gymwys.
Pensiwn y Wladwriaeth
Bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi incwm trethadwy rheolaidd i chi am weddill eich oes – cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Nid yw’n destun prawf modd, ond bydd faint byddych yn ei gael yn dibynnu ar faint o flynyddoedd cymwys o gyfraniadau neu gredydau Yswiriant Gwladol sydd gennych.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth: trosolwg
Credyd Pensiwn
Mae Credyd Pensiwn ar gyfer pobl sydd ar incwm isel. Mae wedi ei gynllunio i ychwanegu at incwm pensiynwr i roi lefel isafswm gwarantedig.
Mae llawer iawn o bobl sydd â hawl i Gredyd Pensiwn sydd ddim yn ei hawlio.
Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwybod os ydych yn gymwys – a pheidiwch â cholli allan os ydych.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Pensiwn
Help gyda Threth Cyngor
P’un ai ydych yn berchen ar eich cartref neu’n rhentu, gallech fod yn gymwys am gymorth gan eich awdurdod lleol (neu Lywodraethau Cymru a’r Alban) i’ch helpu i dalu eich Treth Gyngor.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol er mwyn gofyn am gymorth â Threth Gyngor.
Help gydag Ardrethi yng Ngogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, mae system ardrethi yn lle treth gyngor. Mae ardrethi domestig ar gyfer eiddo preswyl yn seiliedig ar werth eich cartref ar 1 Ionawr 2005. Mae swyddfa’r Land and Property Services (LPS) yn delio â biliau a thaliadau.
Os ydych ar incwm isel, efallai y gallech hawlio gostyngiad. Mae hefyd lwfansau ar gyfer unig bensiynwyr (pobl sy’n byw ar ben eu hunain yn 70 oed neu’n hŷn) a phobl anabl.
Darganfyddwch fwy yn y canllaw i gyfraddau ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Help gyda chostau gwresogi
Taliad Tanwydd Gaeaf
Taliad di-dreth hyd at £300 yw hwn i helpu pobl a gafodd eu geni ar neu cyn 25 Medi 1957 i gadw’n gynnes yn ystod y gaeaf. Mae rhai pobl yn ei alw’n lwfans tanwydd gaeaf.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, dim ond yn ddiweddarach eleni (2024) y byddwch yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf (gwerth hyd at £300) os:
- ydych dros oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd, ac
- yn hawlio budd-dal prawf modd fel Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol.
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell budd-daliadau i wirio'n gyflym a ydych yn gymwys i gael unrhyw fudd-daliadau neu grantiau.
Nid yw’n glir eto a fydd y taliad tanwydd yn newid yng Ngogledd Iwerddon.
Byddwn yn diweddaru’r canllaw hwn pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.
Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar eich oedran a phwy sy'n byw yn eich cartref.
Os ydych wedi cael y taliad o’r blaen, dylech ei gael eto heb orfod hawlio, os ydych yn bodloni’r meini prawf.
Dylech hefyd ei gael yn awtomatig os ydych yn bodloni'r meini prawf oedran a phreswylio, ac yn cael unrhyw un o'r ystod eang o fudd-daliadau'r llywodraeth. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Os ydych yn gymwys byddwch yn derbyn llythyr ym mis Hydref neu Dachwedd yn cadarnhau faint o arian y gallwch ddisgwyl ei gael.
Bydd y llythyr hefyd yn egluro sut y gallwch ddiweddaru unrhyw wybodaeth anghywir, fel eich manylion banc.
Tua thair wythnos ar ôl i chi dderbyn y llythyr - bydd hyn ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr i’r rhan fwyaf o bobl – caiff Taliad Tanwydd Gaeaf ei dalu i’ch cyfrif banc dewisiedig.
Y cyfeirnod talu ar eich cyfriflen banc fydd ‘DWP Winter Fuel’.
Darganfyddwch fwy am Daliad Tanwydd Gaeaf yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych angen gwneud cais, ffoniwch linell gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf ar 0800 731 0160
Yng Ngogledd Iwerddon gallwch ddysgu rhagor am Daliad Tanwydd Gaeaf yn nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Taliad Tywydd Oer
Gwneir y taliadau £25 hyn pan fydd eich tymheredd lleol naill ai’n cael ei gofnodi fel, neu yn cael ei ragolygu i fod, yn gyfartaledd o sero gradd Celsius neu is dros 7 niwrnod olynol rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth pob blwyddyn.
Os ydych yn gymwys i gael unrhyw un o amrywiaeth o fudd-daliadau eraill sy’n seiliedig ar incwm, gan gynnwys Credyd Pensiwn, byddwch yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer.
Nid oes angen gwneud cais amdano. Os ydych yn gymwys, bydd yn cael ei dalu yn awtomatig.
I ddarganfod mwy am daliadau tywydd oer ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gall rhai pobl sydd ar incwm isel ac yn cael budd-daliadau prawf modd gael gostyngiad £150 ar eu bil trydan yn ystod y gaeaf - a elwir yn Gostyngiad Cartrefi Cynnes.
Dylai eich cyflenwr rhoi’r gostyngiad i chi’n awtomatig rhwng mis Hydref a mis Mawrth os ydych yn cael credyd pensiwn neu fudd-daliadau cymwys eraill. Mae dim ond angen i chi wneud cais i'ch cwmni ynni os ydych ar incwm isel yn yr Alban. Os oeddech yn disgwyl gostyngiad ond heb ei gael, cysylltwch â’ch cyflenwr.
Yng Ngogledd Iwerddon, efallai y gallwch hawlio help i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynniYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy ar GOV.UK am y Gostyngiad Cartrefi CynnesYn agor mewn ffenestr newydd, os ydych yn gymwys a’r cyflenwyr ynni sy’n cymryd rhan.
Darganfyddwch atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin yn OfgemYn agor mewn ffenestr newydd
Cynlluniau insiwleiddio a gwresogi
Mae nifer o gynlluniau sy’n gosod systemau inswleiddio a gwella gwresogi er mwyn gwneud eich cartref i arbed ynni.
Rydych yn debygol o fod yn gymwys os nad yw eich cartref wedi’i inswleiddio’n iawn neu os nad oes ynddo system gwres canolog sy’n gweithio’n iawn, ac os ydych yn derbyn unrhyw un o amrywiaeth o fudd-daliadau seiliedig ar incwm gan gynnwys Credyd Pensiwn.
Os ydych yn byw yn: | Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar: |
---|---|
Nghymru a Lloegr |
|
Gogledd Iwerddon |
|
Yr Alban |
I gael mwy o wybodaeth am inswleiddio a ffyrdd eraill o dorri’ch bil ynni darllenwch ein canllaw ar Sut i leihau eich biliau ynni
Efallai gallech wneud cais am grant i wneud i’ch cartref ddefnyddio ynni yn fwy effeithiol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i dalu am welliannau'r cartref
Buddion iechyd
Mae pawb dros 60 yn cael presgripsiynau a phrofion llygaid am ddim.
Efallai hefyd y byddwch yn gymwys i gael help tuag at:
- driniaeth ddeintyddol
- costau teithio i’r ysbyty
- sbectol neu lensys cyffwrdd.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae hawl gan bawb i gael presgripsiynau am ddim.
Darganfyddwch fwy am gael help â chostau yn ymwneud ag iechyd yn NHS ChoicesYn agor mewn ffenestr newydd
Budd-daliadau anabledd a gofal
Mae budd-daliadau ar gael i bobl sydd ag anableddau, neu sydd ag anghenion gofal penodol.
Mae’r budd-daliadau hyn yn cynnwys Lwfans Byw i’r Anabl, sy’n cael ei ddisodli’n raddol gan Daliad Annibyniaeth Personol, a Lwfans Gweini.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau i’ch helpu â’ch anabledd neu’ch anghenion gofal
Buddion teithio a thrwyddedau teledu
Pas Bws
Os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban, neu Ogledd Iwerddon, rydych yn gymwys i gael pas bws am ddim pan fyddwch yn 60 oed neu drosodd.
Yn Lloegr, rydych yn gymwys pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn byw mewn bwrdeistref yn Llundain a thros 60 oed, rydych yn gymwys i gael cerdyn llun Oyster i deithio am ddim.
Gwnewch gais am bas bws person hŷn yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Teithio rhatach
Os ydych dros eich 60 neu’n anabl, darganfyddwch fwy am ostyngiadau teithio isod.
- Teithio bws am ddim i bobl hŷn yn LloegrYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i GOV.UK
- Teithio bws am ddim i bobl anabl yn LloegrYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i GOV.UK
- Cerdyn llun Oyster i rai dros 60 yn LlundainYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i Transport for London
- Teithio rhatach yn yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i Transport Scotland
- Teithio rhatach yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i Trafnidiaeth Cymru
- Teithio am ddim ac yn rhatach yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i nidirect
Pasbort am ddim
Os cawsoch eich geni ar neu cyn 2 Medi 1929 ac yn ddinesydd Prydeinig, gallech fod yn gymwys i gael pasbort am ddim.
Byddwch angen pasbort deng mlynedd lawn os ydych eisiau teithio dramor, hyd yn oed am ddim ond diwrnod yn unig.
Darganfyddwch fwy am ffioedd a sut i wneud cais ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Trwydded Deledu am ddim
Bydd angen i chi dalu am drwydded teledu, oni bai eich bod chi neu bartner dros 74 oed a'n cael Credyd Pensiwn.
Gweler TV LicensingYn agor mewn ffenestr newydd am fwy o wybodaeth.
Budd-daliadau ar gyfer pensiynwyr rhyfel a gwŷr a gwragedd gweddw oherwydd rhyfel
Os gwnaeth eich gŵr, gwraig neu bartner sifil farw, cael eu hanafu neu mynd yn sâl o ganlyniad i’w gwasanaeth yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi, neu yn ystod cyfnod o ryfel cyn 6 Ebrill 2005, yna efallai y byddwch yn gymwys i gael Pensiwn Rhyfel Gŵr neu Wraig Weddw.
Os gwnaethant farw, cael anaf neu salwch oherwydd gwasanaethu mewn gwrthdaro ar neu ar ôl y 6 Ebrill 2005, efallai eich bod yn gymwys am iawndal trwy Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog.
Costau meddygol ar gyfer pensiynwyr rhyfel
Os oes angen triniaeth feddygol arnoch oherwydd i chi ddod yn anabl wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog, gallech gael help tuag at eich costau meddygol ar gyfer eich anabledd cymwys.
Darganfyddwch fwy am gostau meddygol ar gyfer hen filwyr ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Pensiwn Anabledd Rhyfel
Os cawsoch eich anafu neu ddod yn anabl wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog cyn 6 Ebrill 2005, gallwch gael help ychwanegol tuag at eich pensiwn.
Darganfyddwch fwy am y Pensiwn Anabledd Rhyfel ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Defnyddio cyfrifiannell budd-daliadau ar-lein
Mae defnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau yn ffordd dda o:
- gwirio pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt
- amcangyfrif faint y gallech ei hawlio
- dangos sut y byddai’r amcangyfrifon yn newid pe bai eich amgylchiadau yn newid
Bydd y teclyn yn gofyn i chi roi gwybodaeth anhysbys am eich cynilion a’ch incwm yn ogystal â’ch gwariant ar bethau fel rhent, morgais, neu daliadau gofal plant.