Pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau ariannol pwysig, gall fod yn syniad da i siarad ag arbenigwr. Gall cymryd cyngor gan weithiwr proffesiynol eich helpu i deimlo eich bod yn cael cefnogaeth yn ystod prosesau dirdynnol neu gymhleth fel ysgariad, symud cartref, cynllunio ar gyfer ymddeol neu ysgrifennu eich ewyllys.
Efallai y bydd cost ymlaen llaw i weld cynghorydd ariannol, ond gallai eich helpu i osgoi gwneud camgymeriadau bach a allai ddal i fyny gyda chi yn yr hirdymor.
Yn yr adran hon byddwch yn darganfod sut y mae cyngor ariannol yn gweithio, y mathau o gynghorwyr y gallwch siarad â nhw a phryd y mae'n briodol defnyddio cynghorydd ariannol.