Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Arian bob dydd
  3. Yswiriant
Arian bob dydd Yswiriant

Yswiriant teithio a chanslo gwyliau

Os ydych chi’n teithio yn y DU neu dramor, un o’ch pryderon fydd pa mor ddiogel yw’ch arian wrth archebu a beth allwch ei wneud os bydd eich gwyliau’n cael ei ganslo. Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â’ch opsiynau.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Sut allwch chi amddiffyn eich hun wrth archebu gwyliau?
  • Allai gael arian yn ôl gan fy narparwr teithio os ydynt yn canslo fy nhaith?
  • Allai gael ad-daliad gan fy narparwr cerdyn credyd am wyliau sydd wedi’i ganslo?
  • Gwneud cais ar eich yswiriant teithio
  • Beth sy’n digwydd os yw fy narparwr gwyliau yn mynd i’r wal?

Sut allwch chi amddiffyn eich hun wrth archebu gwyliau?

Fel y gwelsom gyda'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol, neu'r toriadau pŵer yn Sbaen a Phortiwgal, gall teithio gael ei amharu am resymau y tu hwnt i reolaeth gweithredwyr gwyliau.

Cofiwch gyllidebu ar gyfer yswiriant

Trefnwch eich yswiriant teithio cyn gynted ag y byddwch yn archebu eich gwyliau fel eich bod wedi'ch diogelu ar unwaith os caiff eich hedfaniadau eu canslo neu os bydd eich sefyllfa'n newid.

Sut rydych chi'n prynu eich gwyliau

Cynlluniwch sut rydych chi'n mynd i dalu am eich gwyliau i elwa o amddiffyniad cyfreithiol y DU. Os ydych chi'n gwario rhwng £100 a £30,000 ac yn defnyddio'ch cerdyn credyd, dylech chi fod wedi'ch diogelu o dan Adran 75 o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974. Mae hyn yn golygu, os bydd unrhyw beth yn mynd o'i le, bod gan eich darparwr cerdyn a'r manwerthwr gwyliau gyfrifoldeb am y pryniant, felly gallwch hawlio'ch arian yn ôl gan y naill neu'r llall.

Mae'r amddiffyniad hwn hefyd yn berthnasol i daliadau cerdyn credyd a wneir trwy Apple Pay neu Google Pay, (lle maen nhw wedi'u cysylltu â'ch cerdyn credyd) ac i bryniannau a wneir gyda Chredyd PayPal. Ond yn gyffredinol, ni fydd yn berthnasol os ydych chi'n talu trwy gyfrif PayPal sydd wedi mewngofnodi (hyd yn oed gan ddefnyddio cerdyn credyd), neu drwy waledi trydydd parti eraill sy'n torri'r cysylltiad uniongyrchol rhyngoch chi, cyhoeddwr y cerdyn a'r cyflenwr.

Ar gyfer taliadau cerdyn debyd, mae angen i chi ddefnyddio 'chargeback', rheol cynllun cerdyn yn hytrach na hawl gyfreithiol.

A allai bargen fod yn sgam?

Oedwch cyn i chi archebu rhywbeth sy'n edrych fel bargen anhygoel, mae sgamwyr yn targedu arian gwyliau hefyd. Mae gan Stop Fraud awgrymiadau ar sut i amddiffyn eich hunYn agor mewn ffenestr newydd Os ydych chi'n poeni eich bod chi eisoes wedi cael eich twyllo, dilynwch ein canllaw ar Beth i'w wneud os ydych chi wedi cael eich twyllo.

A yw'r cwmni wedi cofrestru ar gyfer amddiffyniad diwydiant?

Gwiriwch i weld a yw'r cwmni rydych chi'n archebu gydag ef wedi'i amddiffyn gan ABTAYn agor mewn ffenestr newydd neu ATOLYn agor mewn ffenestr newydd Sefydlwyd y cynlluniau hyn fel nad ydych chi'n colli arian nac yn methu dychwelyd o dramor os yw cwmni teithio yn mynd i’r wal. Mae ATOL yn cwmpasu gwyliau pecyn sy'n cynnwys hedfaniadau. Rhaid i gwmnïau yn y DU sy'n gwerthu'r rhain fod wedi'u hamddiffyn gan ATOL yn ôl y gyfraith. Mae ABTA ar gyfer gwyliau pecyn lle rydych chi'n teithio ar dir neu fôr ac nid ar awyrennau, e.e. teithiau coets, trên a mordaith.

Byddwch yn ofalus gyda'r hyn y mae'r diwydiant yn ei alw'n 'drefniadau teithio cysylltiedig' lle rydych chi'n prynu gwasanaeth gan un trefnydd teithiau ac yna'n cael eich annog i brynu un arall, ond nid yw eich gwybodaeth a'ch manylion talu yn cael eu trosglwyddo ymlaen. Mae gan Which? ganllaw i'ch gwahanol hawliau gyda gwyliau pecyn neu drefniant cysylltiedigYn agor mewn ffenestr newydd

Diogelwch, iechyd, pasbortau a fisâu

Mae'r llywodraeth yn darparu cyngor ar y risgiau y gallech eu hwynebu wrth deithio dramor i'ch helpu i benderfynu a yw'n ddiogel i chi fynd i le penodol. Mae'n bwysig gwirio hyn gan na fydd eich yswiriant teithio fel arfer yn eich cwmpasu os byddwch chi'n ymweld â rhywle y mae'r llywodraeth yn cynghori yn ei erbyn. Daliwch ati i wirio gan fod y wybodaeth yn cael ei diweddaru'n rheolaidd a gall y sefyllfa newid rhwng eich archeb a'ch ymadawiad.

Gweler y canllawiau diweddaraf ar gyfer lleoliadau ledled y bydYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. Gallwch hefyd wirio a oes angen fisa neu frechiadauYn agor mewn ffenestr newydd arnoch.

Gwnewch gais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang (GHIC) am ddim i gael mynediad at ofal iechyd sy'n angenrheidiol yn feddygol dramor. Os oes gennych chi un eisoes, gwiriwch ei fod yn gyfredol o hyd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y rheolau a sut i wneud caisYn agor mewn ffenestr newydd, drwy'r GIG.

Mae angen i'ch pasbort gyd-fynd â rheolau'r lle yr ydych chi'n ei ymweld. Mae gan Swyddfa'r Post ganllaw ar faint o amser y mae gwahanol wledydd yn dweud y dylid ei adael ar eich pasbortYn agor mewn ffenestr newydd er mwyn i chi allu mynd i mewn.

Mae System Mynediad/Allanfa (EES) yr Undeb Ewropeaidd (UE) wedi newid ac efallai y bydd angen i chi ganiatáu mwy o amser i groesi ffiniau nawr. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am deithio i wledydd yr UE a SchengenYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Allai gael arian yn ôl gan fy narparwr teithio os ydynt yn canslo fy nhaith?

Fel arfer, os caiff yr hedfaniad a archebwyd gennych ei ganslo, rhaid i'r cwmni hedfan eich cael i'ch pen siwrnai ar awyren arall neu roi ad-daliad i chi. Ar gyfer gwyliau pecyn, rhaid i chi hawlio'r ad-daliad hwn o fewn 14 diwrnod.

Os cewch eich oedi, efallai y bydd angen i'r cwmni hedfan ddarparu bwyd a llety mewn gwesty a elwir yn eich 'hawl i ofal'. Hyd yr oedi sy'n penderfynu a ydych chi'n gymwys. Cadwch dderbynebau os byddwch chi'n archebu rhywle eich hun. Mae rheoleiddiwr cwmnïau hedfan y DU, yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), yn nodi eich hawliau pan fydd hedfaniadau'n cael eu gohirio.

Mewn rhai sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i reolaeth cwmnïau hedfan, fel tywydd eithafol neu ddechrau rhyfel, nid oes rhaid iddynt gynnig iawndal. Gwiriwch eich yswiriant teithio am amodau fel hyn hefyd.

Cyn i chi hawlio ar eich yswiriant neu gysylltu â'ch cwmni cerdyn credyd ynghylch eich hawliau cyfreithiol, byddant yn disgwyl eich bod wedi ceisio cael ad-daliad gan eich darparwr teithio, felly cysylltwch â nhw yn gyntaf. Fel arfer dyma'r ffordd gyflymaf o gael ad-daliad a dylai ddigwydd heb yr un faint o ymdrech a phrawf ag y mae hawliadau eraill yn gofyn amdanynt.

Efallai y cynigir talebau neu nodyn credyd i chi a’r opsiwn i archebu hedfaniad neu wyliau arall. Ond gallai cymryd talebau neu nodyn credyd fod yn risg, gan eich bod yn annhebygol o allu eu defnyddio os bydd eich darparwr teithio yn mynd i’r wal.

Gall cymryd talebau hefyd effeithio ar ffyrdd eraill o hawlio os aiff pethau o chwith, megis trwy eich darparwr cerdyn credyd neu eich yswiriant teithio.

Mae'r aflonyddwch ar hedfaniadau yn 2026 ac ansicrwydd ynghylch effaith prisiau tanwydd ar wyliau yn golygu ei bod hi'n ddefnyddiol gwybod eich hawliau pan fydd cynlluniau teithio'n mynd o chwith. Gallwch ddilyn y diweddariadau diweddaraf ar Money Saving Expert

Os gwnaethoch chi archebu gyda chwmni teithio yn y DU, mae gennych chi hawl i ad-daliad arian parod fel arfer pan fyddan nhw'n canslo — does dim rhaid i chi dderbyn taleb na hail-archebu. I gwmnïau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU, gallai eich hawliau fod yn wahanol, ac nid oes gwarant y byddwch chi'n cael ad-daliad arian parod.

Os yw’ch darparwr gwyliau yn gwrthod rhoi ad-daliad ac yn dweud wrthych am wneud cais ar eich yswiriant teithio neu gyda’ch cerdyn credyd yn lle, gwnewch yn siwr eich bod yn cael hyn yn ysgrifenedig. Bydd angen y cadarnhad hwn arnoch fel tystiolaeth i ddangos i’ch yswiriwr neu’ch darparwr cerdyn credyd.

Os na allwch gael ad-daliad gan eich darparwr teithio, efallai y byddwch chi’n gallu gwneud hawliad ar eich cerdyn credyd neu yswiriant teithio

Beth fydd yn digwydd os mai dim ond rhan o fy ngwyliau sydd wedi’i ganslo?

Os caiff rhan o’ch gwyliau ei ganslo ac ni chafodd ei archebu fel pecyn gwyliau, mae’n bosibl mai dim ond darparwr y rhan o’ch arhosiad sydd wedi’i ganslo fydd yn cynnig ad-daliad i chi.

Er enghraifft, os yw’ch cwmni hedfan wedi canslo’ch hedfaniad, ond bod eich trefniant gyda’r gwesty ar gael o hyd, dim ond ad-daliad o’r hedfaniad sydd wedi’i ganslo y bydd gennych hawl iddo.

Fodd bynnag, mae’n werth cysylltu â’r darparwr gwyliau ar gyfer y rhannau sydd heb eu canslo i weld a fyddant yn cynnig ad-daliad i chi cyn gwneud cais ar eich polisi yswiriant teithio.

Os yw’r darparwr teithio yn dal i gynnig eu gwasanaeth (er enghraifft, mae’r gwesty yn dal i gynnig llety i chi er gwaethaf y ffaith bod eich hedfaniad wedi’i ganslo), yna ni fydd gennych hawl i gael ad-daliad ac mae’n annhebygol y bydd gennych hawl i wneud cais ar eich cerdyn credyd [gweler isod].

Darganfyddwch ragor o help ynghylch gwneud cais am wyliau wedi'i ganslo os gwnaethoch ei archebu fel pecyn gwyliau
Nol i’r brig

Allai gael ad-daliad gan fy narparwr cerdyn credyd am wyliau sydd wedi’i ganslo?

Os gwnaethoch archebu gwyliau neu hedfaniadau a gostiodd rhwng £100 a £30,000 a thalu naill ai blaendal neu’r pris llawn ar eich cerdyn credyd, efallai y gallwch wneud cais o dan ‘Adran 75’ o’r Ddeddf Credyd Defnyddiwr 1974. Mae hyn yn hawl gyfreithiol a’n berthnasol os bydd y cwmni hedfan neu’r cwmni gwyliau yn mynd i’r wal neu os yw’r gwyliau’n cael ei ganslo. Os na fydd neu na allai eich darparwr teithio roi ad-daliad i chi, rhowch gynnig ar hwn nesaf.

Beth sy’n cael ei gwmpasu:

  • Cost eich hediadau os ydynt wedi’u canslo neu os yw’r cwmni hedfan yn mynd i’r wal.
  • Cost eich gwyliau os yw wedi’i ganslo neu os bydd y cwmni gwyliau’n mynd i’r wal.
  • Treuliau ychwanegol neu golled ganlyniadol - er enghraifft, pe bai’n rhaid i chi brynu hediadau drytach i gyrraedd adref ar ôl i gwmni hedfan fynd i’r wal.

Beth nad yw'n cael ei gwmpasu:

  • Mewn rhai achosion, os ydych yn prynu taith ‘hedfaniad yn unig’ gan drydydd parti, fel asiant teithio, efallai na fyddwch yn gallu gwneud cais oherwydd bod y trydydd parti wedi’i gontractio i ddarparu’r tocynnau yn unig ac nid yr hedfaniad.
  • Os na wnaethoch dalu’r darparwr teithio yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cerdyn credyd - ond yn hytrach eu talu trwy drydydd parti fel gwefan cymharu teithio neu brosesydd talu trydydd parti fel PayPal, efallai na fydd gennych amddiffyniad Adran 75.
  • Efallai na fydd pryniannau a wneir gan ddeiliaid cardiau ychwanegol yn cael eu cwmpasu, oni bai bod y tocyn wedi’i prynu ar ran prif ddeiliad y cerdyn
  • Mae’n anhebygol y byddwch chi’n cael unrhyw gostau nad oedd yn rhaid i chi eu hysgwyddo - er enghraifft, pe byddech wedi penderfynu estyn eich arhosiad ar ôl i’r cwmni hedfan fynd i’r wal (yn hirach nag yr oedd angen i chi ei wneud).
  • Os oes unrhyw ran o'ch gwyliau rydych chi'n gwneud cais amdani nad yw amgylchiadau eithriadol fel pandemig yn effeithio'n uniongyrchol arno, er enghraifft, os gwnaethoch chi dalu am eich hedfaniadau a'ch gwesty ar wahân, a bod yr hedfaniad wedi'i ganslo (gan eich atal rhag cyrraedd y gwesty), yna efallai y bydd hawliad adran 75 yn bosibl am yr hedfaniad. Ond os yw'r archeb gwesty ar gael o hyd, hyd yn oed pe byddech chi'n cael anhawster yn teithio iddo, yna mae'n annhebygol y cewch eich cwmpasu gan adran 75 am gost y gwesty.
  • Hyd yn oed os yw’r aflonyddwch y tu allan i reolaeth y cwmni hedfan, fel tywydd eithafol, dylech gael cynnig ad-daliad neu hedfaniad arall o hyd – ond efallai na fyddwch chi’n cael iawndal.
  • Os gwnaethoch chi archebu'r daith drwy ddefnyddio taleb gan eich darparwr teithio ar gyfer archeb a ganslwyd yn gynharach, mae'n annhebygol y byddwch chi’n gallu hawlio o dan Adran 75.

Beth os wyf wedi archebu ar gerdyn debyd neu nid oes gennyf gais dilys o dan Adran 75?

Os gwnaethoch dalu gyda’ch cerdyn debyd (neu gerdyn rhagdaledig) neu os oedd yn archeb cerdyn credyd nad oedd wedi’i gwmpasu gan reolau Adran 75 yna efallai y byddwch yn dal i allu cael ad-daliad o dan y cynllun ‘chargeback’.

I gael help i wneud eich cais, gweler ein canllaw Sut mae chargeback a diogelwch adran 75 yn gweithio ar gyfer eich cerdyn credyd a debyd
Nol i’r brig

Gwneud cais ar eich yswiriant teithio

Mae polisïau yswiriant teithio yn amrywio ac mae faint y bydden nhw’n ei dalu yn dibynnu ar eich polisi. Ond bydd y mwyafrif yn eich gwarchod os ydych wedi colli arian ar ôl i’ch gwyliau gael ei ganslo, gan gynnwys oherwydd amgylchiadau eithafol fel pandemig. Fel yswiriant car neu gartref efallai bydd gennych tâl-dros-ben. Er enghraifft, os yw’ch gwyliau’n costio £500 ac rydych wedi cytuno i dâl-dros-ben o £100, byddwch yn cael £400 fel ad-daliad.

Os ydych yn gwneud cais oherwydd bod eich gwyliau wedi’i ganslo yna bydd eich yswiriwr teithio fel arfer yn disgwyl i chi fod wedi ceisio cael ad-daliad yn gyntaf gan eich cwmni hedfan, darparwr llety neu gwmni gwyliau.

Siopwch o gwmpas, pan fyddwch yn archebu eich yswiriant teithio gan fod polisïau’n cynnig amddiffyniadau gwahanol. Gweler ein canllawiau ar beth mae yswiriant teithio fel arfer yn cwmpasu a pha olwg sydd ar bolisi da. Gwiriwch unrhyw ‘atodiadau’ yn ofalus - mae’r manylion yn wirioneddol bwysig pan fydd angen i chi wneud cais.

Gweler yr adran uchod am fwy o wybodaeth ar gael ad-daliad gan eich gwmni gwyliau.

Os gwnaethoch dalu am eich gwyliau gyda cherdyn credyd neu ddebyd, gallai rhai yswirwyr teithio ofyn i chi wneud cais am ad-daliad gyda’ch darparwr cerdyn cyn gwneud cais yswiriant.

Gallai gwneud cais gyda’ch darparwr cerdyn credyd olygu eich bod chi’n cael mwy o’ch arian yn ôl. Yn wahanol i yswiriant, ni fydd cais gyda’ch darparwr cerdyn credyd o dan Adran 75 yn gofyn am daliad ‘gormodol’ (lle mae’n rhaid i chi dalu rhan gyntaf unrhyw gais) na chyfyngu’ch cais (cyhyd â bod y swm a daloch yn is na £30,000).

Byddwch chi’n gallu cael arian yn ôl ar gyfer unrhyw un rydych hefyd wedi archebu drostynt ar eich cerdyn nad oes yswiriant teithio eu hun ganddynt neu nad yw’n cael eu cwmpasu gan eich polisi.

Gweler uchod am fwy o wybodaeth ar wneud cais am ad-daliad gyda’ch darparwr cerdyn.

Nol i’r brig

Beth sy’n digwydd os yw fy narparwr gwyliau yn mynd i’r wal?

Os ydych yn archebu pecyn gwyliau gyda cwmni o’r DU (ble rydych yn prynu sawl rhan o wyliau, er enghraifft, hedfaniadau a gwesty, gan un cwmni neu wefan, mewn un tro) yna ni fyddwch yn colli arian cyn belled bod y cwmni wedi cael ei amddiffyn gan ATOL.

Mae ATOL yn gynllun sy’n cael ei redeg gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA). Mae’r amddiffyniad hwn yn cwmpasu’r arian rydych wedi ei dalu i gwmni teithio am unrhyw becyn gwyliau sy’n cynnwys hedfan. Nid yw pecynnau heb hedfaniadau fel arfer wedi’u cwmpasu gan y cynllun ATOL.

Yn gyffredinol, ni fydd hedfaniadau a archebir yn uniongyrchol gyda chwmni hedfan a rhai archebion hedfan yn unig gyda’ch trefnydd teithiau yn cael eu hamddiffyn oni bai eich bod wedi derbyn tystysgrif amddiffyniad ATOL gyda’ch archeb.

Darganfyddwch fwy am wneud cais gan y CAAYn agor mewn ffenestr newydd

Beth os nad oedd fy ngwyliau wedi’i amddiffyn gan ATOL?

Os gwnaethoch archebu gwyliau ‘DIY’, neu os nad yw’n cwmni sydd wedi’i leoli yn y DU, mae’n debyg na fydd gennych amddiffyniad ATOL.

Yn anffodus, efallai na fydd eich polisi yswiriant teithio yn eich gwarchod os bydd eich darparwr gwyliau yn mynd i’r wal, ond mae’n werth gwirio telerau eich yswiriant o hyd.

Fodd bynnag, os gwnaethoch dalu am eich gwyliau gyda cherdyn credyd yna efallai y gallwch gael eich arian yn ôl gan ddarparwr eich cerdyn.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Yswiriant

Yswiriant teithio

  • Cyfeirlyfr yswiriant teithio
  • Yswiriant teithio – sut mae polisi da yn edrych?
  • Yswiriant teithio ar gyfer pobl dros 65 oed
  • Beth yw yswiriant teithio?
  • Yswiriant car wrth yrru dramor
  • Os oes gennych gyflwr meddygol sy’n bodoli eisoes
  • Coronafeirws, yswiriant teithio a chanslo gwyliau
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Yswiriant teithio

  • Cyfeirlyfr yswiriant teithio
  • Yswiriant teithio – sut mae polisi da yn edrych?
  • Yswiriant teithio ar gyfer pobl dros 65 oed
  • Beth yw yswiriant teithio?
  • Yswiriant car wrth yrru dramor
  • Os oes gennych gyflwr meddygol sy’n bodoli eisoes
  • Coronafeirws, yswiriant teithio a chanslo gwyliau
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc).

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012