Beth i'w wneud ar ôl tor diogelwch data manwerthwr
Ydych chi wedi derbyn e-bost neu neges destun yn dweud bod siop rydych chi'n ei defnyddio wedi'i hacio? Peidiwch â phoeni, mae yna gamau y gallwch eu cymryd nawr i ddiogelu eich arian, eich gwybodaeth bersonol gan roi tawelwch meddwl i chi.
Bydd y canllaw hwn yn dangos i chi beth i'w wneud ar unwaith, sut i gloi eich cyfrifon, sut i adnabod y sgamiau sy'n aml yn dilyn tor diogelwch, beth i'w wneud os yw arian eisoes wedi'i gymryd, a ble i roi gwybod am broblemau.
Beth mae tor diogelwch data manwerthwr yn ei olygu a pha ddata y gellir ei ddatgelu
Tor diogelwch data yw pan fydd systemau cwmni yn cael eu cyrchu gan rywun na ddylai fod wedi mynd i mewn ac o ganlyniad mae gwybodaeth yn cael ei datgelu, ei golli neu ei ddwyn. Mae manwerthwyr yn darged cyffredin i droseddwyr oherwydd eu bod yn cadw cymaint o wybodaeth bersonol ac ariannol am eu cwsmeriaid mewn un lle.
Yn dibynnu ar y tor diogelwch, gallai'r wybodaeth a ddatgelir gynnwys eich cyfeiriad e-bost, eich cyfrinair (fel arfer, gyda nodau ar goll neu wedi’i sgramblo, yn hytrach na mewn testun plaen), eich rhif ffôn, eich cyfeiriad cartref, eich hanes archebion, neu eich dyddiad geni.
Efallai y bydd manwerthwyr yn dweud "ni effeithiwyd ar unrhyw fanylion talu" ond nid yw'n golygu eich bod chi'n ddiogel. Hyd yn oed heb fanylion eich cerdyn, gall troseddwyr wneud llawer gyda gweddill eich gwybodaeth. Mae hynny oherwydd gall troseddwyr ddefnyddio data sydd wedi'i ollwng i:
- anfon negeseuon gwe-rwydo argyhoeddiadol
- ceisio cymryd drosodd eich cyfrif
- cyflawni twyll hunaniaeth yn eich enw, neu
- rhedeg sgamiau dosbarthu sy'n eich twyllo i drosglwyddo mwy o wybodaeth neu arian.
Mae gan ein hadran ar Sgamiau gyda chanllawiau manwl ar beth i edrych allan amdano a beth i'w wneud os cewch eich dal allan.
Beth i'w wneud o fewn y 30 munud cyntaf o dor diogelwch data
Os ydych chi newydd ddarganfod am dor diogelwch data, gall ychydig o gamau cyflym wneud gwahaniaeth mawr.
- Peidiwch â chlicio unrhyw ddolenni mewn e-byst neu negeseuon testun am y tor diogelwch data, hyd yn oed os ydyn nhw'n edrych fel eu bod yn dod o'r manwerthwr. Yn lle hynny, ewch yn uniongyrchol i wefan neu ap y manwerthwr trwy deipio'r cyfeiriad eich hun neu agor yr ap swyddogol.
- Ar ôl i chi fewngofnodi yn ddiogel, gwiriwch eich cyfrif am unrhyw beth anarferol, fel archebion na wnaethoch eu prynu, cyfeiriad dosbarthu na wnaethoch chi ei newid, e-bost neu rif ffôn gwahanol ar ffeil, neu ddulliau talu nad ydych chi'n eu hadnabod.
- Yna newidiwch eich cyfrinair ar gyfer y manwerthwr hwnnw ar unwaith. Os ydych chi wedi defnyddio'r un cyfrinair yn unrhyw le arall, newidiwch y cyfrinair yno hefyd.
Darganfyddwch sut i ddiogelu eich hun rhag sgamiau a thwyll yn ein canllaw Siopa a thalu'n ddiogel ar-lein.
Diogelu eich cyfrifon yn gywir
Ar ôl i chi ddelio â'r risg uniongyrchol, cymerwch ychydig o amser i ddiogelu eich cyfrifon yn iawn.
- Defnyddiwch gyfrinair cryf, unigryw ar gyfer pob cyfrif yn hytrach nag ailddefnyddio'r un un. Gall rheolwr cyfrinair eu cofio i chi.
- Os yw'r manwerthwr yn cynnig dilysu dau ffactor, trowch ef ymlaen. Mae'n ychwanegu cam ychwanegol, fel cod a anfonir i'ch ffôn, gan ei gwneud hi'n llawer anoddach i unrhyw un arall fynd i mewn.
- Lle gallwch, allgofnodi o ddyfeisiau eraill ac adolygu unrhyw apiau neu ddyfeisiau sydd wedi'u cysylltu â'ch cyfrif.
- Dileu unrhyw ddulliau talu neu gyfeiriadau nad oes eu hangen arnoch, yn enwedig os nad ydych chi'n siopa gyda'r manwerthwr hwnnw yn aml.
Byddwch yn wyliadwrus o’r sgamiau mwyaf cyffredin ar ôl tor diogelwch data
Ar ôl i dor diogelwch data ddod yn gyhoeddus, mae sgamwyr yn aml yn symud yn gyflym i fanteisio, felly mae'n helpu gwybod beth i edrych amdano.
E-byst gwe-rwydo yw un o'r triciau mwyaf cyffredin, yn aml yn esgus mai y sgamiwr yw'r manwerthwr ac yn gofyn i chi "ailosod eich cyfrinair", rhybuddio bod eich "cyfrif wedi'i gloi", neu honni eu bod yn rhedeg "gwiriad diogelwch".
Efallai y byddwch hefyd yn gweld negeseuon ad-daliad neu iawndal ffug. Mae'r rhain yn aml yn gofyn am eich manylion banc, yn sôn am "ffi bach i brosesu eich ad-daliad", neu'n cynnwys dolen i "hawlio" arian nad yw'n bodoli mewn gwirionedd.
Mae sgamiau dosbarthu ac ail-ddosbarthu yn gyffredin hefyd, gyda negeseuon testun am "barsel a gollwyd" yn gofyn i chi dalu tâl bach neu gadarnhau eich cyfeiriad dosbarthu.
A gwyliwch allan am ddynwared yn fwy cyffredinol, gan gynnwys rhifau ffôn cymorth cwsmeriaid ffug, negeseuon trwy gyfryngau cymdeithasol, a gwefannau sydd wedi'u cynllunio i edrych fel y peth go iawn.
A ydych eisiau mwy o fanylion ar adnabod y mathau hyn o negeseuon? Mae ein canllaw Mathau o sgamiau yn cwmpasu'r gwahanol ffyrdd y gallech gael eich twyllo, fel y gallwch eu hadnabod yn hyderus, a helpu ffrindiau a theulu i wneud yr un peth.
Os ydych chi'n meddwl bod eich cyfrif wedi'i gymryd drosodd yn ystod tor diogelwch data
Weithiau mae tor diogelwch data yn arwain at eich cyfrif yn cael ei gymryd drosodd gan rywun arall. Mae arwyddion o hyn yn cynnwys:
- nid yw'ch cyfrinair yn gweithio mwyach
- rhybuddion mewngofnodi ar gyfer mewngofnodi na wnaethoch eich hun
- archebion sy'n ymddangos nad oeddech chi'n eu prynu, neu
- eich manylion cyswllt yn cael eu newid heb i chi wybod.
Os bydd hyn yn digwydd, dylech ailosod eich cyfrinair ar unwaith gan ddefnyddio'r llwybr swyddogol "wedi anghofio cyfrinair" ar wefan neu ap y manwerthwr, yn hytrach nag unrhyw ddolen a anfonir atoch. Diogelwch eich cyfrif e-bost hefyd.
Yna cysylltwch â thîm cymorth y manwerthwr gan ddefnyddio manylion cyswllt o'u gwefan swyddogol, nid o unrhyw neges rydych chi wedi'i dderbyn, a chadw cofnod o bopeth, gan gynnwys dyddiadau, amseroedd a'r hyn a ddywedwyd.
Er mwyn helpu i atal hyn rhag digwydd eto, cadwch at gyfrineiriau unigryw ar gyfer pob cyfrif, trowch ddilysu dau ffactor ymlaen ble bynnag y cynigir, a chadwch eich cyfrif e-bost wedi'i ddiogelu'n iawn.
Gwirio eich datganiadau banc a cherdyn ar ôl tor diogelwch data
Mae'n werth edrych yn fanwl ar eich trafodion diweddar a'ch hanes archebu gyda'r manwerthwr, gan gynnwys unrhyw beth sy'n dangos fel "arfaethedig".
Os ydych chi'n gweld taliad cerdyn nad ydych chi'n ei adnabod, cysylltwch â'ch banc ar unwaith a dilynwch eu proses rhoi gywbod am dwyll. Byddant yn gallu eich helpu i ddadlau yn erbyn y taliad a diogelu eich cyfrif yn y dyfodol.
Cadwch unrhyw dystiolaeth a allai helpu eich achos, megis:
- sgrînluniau
- cadarnhad archebion
- rhifau cyfeirnod
- dyddiadau ac amseroedd, ac
- unrhyw drawsgrifiadau sgwrsio gyda'r manwerthwr neu'ch banc.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ddatrys problem gyda thaliad.
Cael eich arian yn ôl ar ôl tor diogelwch data: chargeback ac Adran 75
Os ydych chi wedi colli arian oherwydd twyll sy'n gysylltiedig â thor diogelwch data, mae yna amryw o ffyrdd a allai eich helpu i'w gael yn ôl.
- Mae chargeback yn broses y gall eich banc ei ddefnyddio i wrthdroi taliad mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft os codir tâl arnoch am nwyddau nad oeddech wedi’u prynu, neu nwyddau wnaethoch chi eu harchebu wnaeth fyth cyrraedd oherwydd twyll.
- Mae Adran 75 yn ddiogelwch cyfreithiol a allai fod yn berthnasol os ydych chi'n talu gyda cherdyn credyd ac mae'r pryniant yn bodloni meini prawf penodol, gan roi diogelwch ychwanegol i chi y tu hwnt i chargeback.
I wneud cais, cysylltwch â'ch banc a byddwch yn barod i esbonio beth ddigwyddodd, pryd, a darparu unrhyw dystiolaeth ategol rydych chi wedi'i gasglu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae adran 75 a diogelwch chargeback yn gweithio ar gyfer eich cerdyn credyd a debyd.
Os ydych chi'n poeni am dwyll hunaniaeth ar ôl tor diogelwch
Gall tor diogelwch data weithiau arwain at dwyll hunaniaeth, lle mae rhywun yn defnyddio eich manylion personol i wneud cais am gredyd neu wasanaethau yn eich enw. Mae arwyddion rhybudd yn cynnwys:
- ceisiadau credyd nad oeddech wedi'u gwneud
- llythyrau am gyfrifon nad ydych yn eu hadnabod, neu
- casglwyr dyledion yn eich erlid am ddyledion nad ydynt yn eich rhai chi.
Er mwyn lleihau'r risg, gwiriwch eich ffeil credyd yn rheolaidd a chadwch lygad ar eich post a'ch e-bost am unrhyw beth annisgwyl.
Os ydych chi'n amau bod eich hunaniaeth wedi'i ddwyn, gweithredwch yn gyflym. Cysylltwch â'r sefydliadau perthnasol, fel eich banc a'r asiantaethau gwirio credyd, a chadwch gofnod gofalus o bopeth rydych chi'n dod o hyd iddo a phawb rydych chi'n siarad â nhw.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dwyn hunaniaeth a sgamiau: sut i gael eich arian yn ôl.
Ble i roi gwybod am sgamiau a chael cymorth
Os ydych wedi derbyn ymgais gwe-rwydo neu neges amheus, rhowch wybod amdano. Peidiwch ag ymateb na chlicio ar unrhyw ddolenni, a pheidiwch â rhannu unrhyw fanylion.
Eisoes wedi rhoi cyfrineiriau, manylion banc neu fanylion cerdyn? Ffoniwch eich banc ar unwaith, newidiwch unrhyw gyfrineiriau rydych chi wedi'u rhannu, a rhowch wybodaeth am beth sydd wedi digwydd.
Os oes angen i chi roi gwybod am sgam neu gael cyngor, cysylltwch ag:
- Action Fraud: canolfan adrodd genedlaethol y DU ar gyfer twyllYn agor mewn ffenestr newydd a seiberdroseddu.
- Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO): ar gyfer cwestiynau am eich hawliau data, neu i roi gwybod am dor diogelwch dataYn agor mewn ffenestr newydd
- Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC): am gyngor a chymorth ar gadw'n ddiogel ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd
Cwestiynau Cyffredin
Os nad oedd eich manylion talu yn rhan o'r tor diogelwch data ac nad ydych wedi sylwi ar unrhyw beth amheus, efallai na fydd angen i chi ganslo'ch cerdyn. Ond os ydych chi'n gweld trafodion heb eu cydnabod, neu os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â'ch banc am gyngor, gan y gallant awgrymu canslo'ch cerdyn i fod yn ddiogel.
Dylech newid eich cyfrinair ar y safleoedd eraill hefyd, a rhowch gyfrinair cryf, unigryw i bob un. Gall rheolwr cyfrinair eich helpu i gadw golwg arnynt i gyd.
Os na wnaethoch chi nodi unrhyw fanylion personol neu gerdyn, rydych chi'n llai tebygol o fod mewn perygl, ond mae'n dal yn werth cadw llygad ar eich cyfrifon am unrhyw beth anarferol dros yr wythnosau nesaf.
Mae'n syniad da aros yn wyliadwrus am sawl wythnos, neu hyd yn oed fisoedd, ar ôl tor diogelwch, gan nad yw sgamwyr bob amser yn gweithredu ar unwaith.
Ni fydd negeseuon dilys gan fanwerthwyr fel arfer yn gofyn i chi glicio dolen i wirio eich manylion neu anfon gwybodaeth sensitif trwy e-bost neu neges destun. Ewch yn uniongyrchol i wefan neu ap y manwerthwr bob amser yn hytrach na chlicio unrhyw beth yn y neges.