Mae wynebu diswyddo yn ddigon o straen heb boeni am yr hyn a fydd yn digwydd i'ch pensiwn yn y gweithle. Darganfyddwch beth yw eich opsiynau os ydych yn cael eich diswyddo.
Pa fath o bensiwn gweithle sydd gennych?
Mae gwahanol bensiynau yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd.
Felly cyn i chi fedru penderfynu beth i’w wneud â’ch pensiwn ar ôl i’ch swydd gael ei dileu, bydd arnoch angen bod yn glir ynglŷn â pha fath sydd gennych.
Ceir dau brif fath o bensiynau gweithle
Cynlluniau buddion wedi'u diffinio
Mae'r rhain yn talu incwm ymddeol yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr.
Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio yn cynnwys cynlluniau pensiwn ‘cyflog terfynol’ a ‘chyfartaledd gyrfa’. Yn gyffredinol, dim ond o gynlluniau pensiwn gweithle sector cyhoeddus neu hŷn y mae'r rhain ar gael bellach.
Cynlluniau cyfraniadau wedi'u diffinio
Mae'r rhain yn cronni pot pensiwn i dalu incwm ymddeol i chi yn seiliedig ar faint rydych chi a/neu'ch cyflogwr yn ei gyfrannu, a faint mae hyn yn tyfu. Gelwir y rhain hefyd yn gynlluniau ‘prynu arian’.
Os nad ydych yn siŵr pa fath o bensiwn sydd gennych, gofynnwch i'ch cyflogwr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pensiynau Gweithle
Defnyddio taliad diswyddo i gyfrannu at bensiwn
Efallai y bydd yn bosibl talu rhan o daliad diswyddo i mewn i bensiwn. Fodd bynnag, mae rhai pethau i'w hystyried:
A oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio neu bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio?
Os oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio, ni fyddwch fel arfer yn gallu rhoi unrhyw ran o'ch taliad diswyddo yn y pensiwn, ond bydd rhai cynlluniau yn gadael i chi brynu ‘blynyddoedd ychwanegol’.
Mae hyn oherwydd bod y buddion yn cael eu cyfrifo yn seiliedig ar ba mor hir rydych wedi cael eich cyflogi a beth oedd eich cyflog. Nid yw faint rydych yn ei dalu i mewn yn ffactor wrth gyfrifo faint a gewch ond gwiriwch gyda’ch cynllun i weld a fyddant yn cynyddu eich buddion yn gyfnewid i chi dalu rhan o’ch taliad diswyddo fel cyfraniad pensiwn.
Fodd bynnag, os oes gennych bensiwn cyfraniad gwirfoddol ychwanegol sydd wedi'i gysylltu, neu'n eistedd ochr yn ochr â'ch pensiwn buddion wedi'u diffinio, efallai y gallwch wneud taliad i mewn i hynny.
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, efallai bydd yn bosibl rhoi rhan o'ch taliad diswyddo yn y pensiwn hwnnw. Darganfyddwch fwy isod.
Faint yw eich taliad diswyddo a faint ohono sy'n drethadwy, at ddibenion pensiynau?
Dim ond rhannau o'ch taliad dileu swydd sy'n gymwys fel enillion perthnasol y gallwch eu cyfrannu.
Yn gyffredinol, mae'r £30,000 cyntaf yn ddi-dreth ac nid yw'n gymwys fel enillion at ddibenion Treth Incwm neu ryddhad treth.
Mae unrhyw arian uwchlaw hyn fel arfer yn gymwys fel enillion, ac felly mae'n gymwys ar gyfer Treth Incwm a rhyddhad treth.
Mae rhaid i'ch cyflogwr roi dadansoddiad manwl i chi o unrhyw daliadau diswyddo.
Darganfyddwch fwy am sefyllfa dreth taliadau diswyddo yn ein canllaw A oes rhaid i chi dalu treth ar eich tâl diswyddo?
A allwch fforddio talu'r arian i'ch pensiwn?
Meddyliwch pa mor hir y gallai fod cyn i chi gael swydd arall a faint y gallai fod angen i chi fyw arno yn ystod yr amser hwnnw.
Os ydych yn rhoi arian mewn pensiwn, ni allwch fel arfer fynd ag ef yn ôl allan tan ar ôl i chi fod yn 55 oed (57 oed o 2028).
Nid oes rhaid i chi dalu'r arian i mewn i bensiwn ar unwaith os ydych chi yn talu i mewn (nid eich cyflogwr) - gallech aros a thalu rhywfaint o arian i mewn yn nes ymlaen pan fydd gennych waith amgen.
Sut fydd y taliad yn cael ei wneud yn eich pensiwn?
Efallai y bydd eich cyflogwr yn cytuno i dalu peth neu'r cyfan o'r rhan drethadwy o'ch taliad diswyddo i'ch pensiwn ar eich rhan.
Os ydynt yn cytuno i hyn, byddwch yn elwa nid yn unig o beidio â gorfod talu treth ar yr arian ond hefyd gallech ofyn iddynt os byddant yn ychwanegu i’r taliad beth maent yn ei arbed ar beidio gorfod talu Yswiriant Gwladol. Gelwir hyn yn aberth diswyddo.
Os nad yw'ch cyflogwr yn cytuno i hyn, gallwch drefnu talu'r arian i mewn i bensiwn eich hun.
Mae hefyd yn bwysig gwirio â'r cyflogwr a'ch darparwr pensiwn beth yw'r opsiynau a sut yr ymdrinnir â'r rhyddhad treth.
Mewn rhai achosion, bydd y pensiwn yn hawlio unrhyw ryddhad treth cyfradd sylfaenol ar eich rhan, a bydd rhaid i chi hawlio unrhyw ryddhad treth cyfradd uwch eich hun. Mewn achosion eraill, ni fydd y cynllun yn hawlio unrhyw ryddhad treth a bydd rhaid i chi hawlio hyn i gyd eich hun.
Os byddwch yn defnyddio’r dull aberthu cyflog diswyddo bydd y rhyddhad treth cywir yn cael ei dderbyn yn awtomatig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhyddhad treth a phensiynau
Os ydych yn talu rhywfaint o'ch taliad diswyddo i'ch pensiwn, a fydd yn fwy na'ch lwfans blynyddol?
Y lwfans blynyddol yw'r terfyn ar faint o arian di-dreth y gallwch ei gronni yn eich pensiwn mewn unrhyw flwyddyn dreth wrth barhau i elwa o ryddhad treth.
Mae hyn yn seiliedig ar eich cyfraniadau eich hun, unrhyw gyfraniadau cyflogwr ac unrhyw gyfraniadau a wneir ar eich rhan gan rywun arall.
Os byddwch yn mynd dros y lwfans blynyddol, codir tâl treth sy'n adfachu unrhyw ostyngiad treth a roddwyd yn y ffynhonnell.
Y lwfans blynyddol yw £60,000 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl yn 2024/25. Os ydych yn talu’r cyfraniad eich hun, byddwch ond yn derbyn rhyddhad treth hyd at yr isaf o’r lwfans blynyddol, neu 100% o’ch enillion.
I rai sy'n ennill cyflog uchel (y rhai ag incwm uwch na £200,000) a'r rhai sydd wedi cymryd arian o'u pensiwn yn hyblyg, gallai'r lwfans fod yn is.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Y lwfans blynyddol ar gyfer cyfraniadau pensiwn
Efallai bydd yn bosibl cyfrannu mwy na'ch lwfans blynyddol a dal i elwa o ryddhad treth gan ddefnyddio lwfans sydd heb ei ddefnyddio o hyd at dair blynedd treth blaenorol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw defnyddio cario ymlaen i gael mwy o ostyngiad treth
Os yw'ch holl bensiynau (neu ar y trywydd iawn i fod) werth dros £1 miliwn, gallai'r lwfans cyfandaliad (LSA) a'r cyfandaliad a'r lwfans budd-dal marwolaeth (LSBDA) effeithio arnoch chi. Mae'r rhain yn disodli'r lwfans oes (LTA). Gweler ein canllaw lwfansau cyfandaliad di-dreth ar gyfer pensiynau.
Beth sy'n digwydd i'm pensiwn cwmni os caf fy niswyddo?
Pan fyddwch yn gwybod pa fath o bensiwn sydd gennych (gwelwch y diffiniadau uchod), faint fydd angen i chi fyw arno, a'r goblygiadau treth - mae angen i chi benderfynu a ddylech ei adael lle mae neu ei symud i rywle arall.
Pensiynau buddion wedi'u diffinio
Os ydych wedi'ch diswyddo, bydd rhaid i chi roi'r gorau i dalu i mewn iddo a gwneud un o'r canlynol:
- Gadael eich pensiwn yn y cynllun a phan fyddwch yn ymddeol cewch incwm o hynny.
- Trosglwyddo eich pensiwn i gynllun cyflogwr newydd (os ydynt yn caniatáu i chi wneud hynny). Oni bai bod eich swydd newydd yn y sector cyhoeddus, mae'n annhebygol o gynnig cynllun tebyg.
- Trosglwyddo eich pensiwn i'ch pensiwn personol eich hun lle mae gwerth y trosglwyddiad yn fwy na £30,000, bydd angen i chi gymryd cyngor ariannol rheoledig.
- Os ydych yn ddigon hen, efallai y gallwch ymddeol yn gynnar.
Gan amlaf, mae'n well gadael eich pensiwn â'r cynllun. Peidiwch â throsglwyddo o'r cynllun dim ond mewn amgylchiadau eithriadol lle mae eich sefyllfa unigol yn golygu mai hwn yw'r penderfyniad gorau. Er enghraifft, os ydych yn delio â dyled na ellir ei rheoli.
Darganfyddwch fwy am Trosglwyddo allan o gynllun pensiwn buddion wedi'u diffinio
A yw'ch cyn-gyflogwr wedi mynd allan o fusnes (neu a ydych yn poeni y gallent), ac a ydych wedi gadael eich pensiwn yn eu cynllun?
Darganfyddwch pa iawndal y gallech ei gael yn ein canllaw Y Gronfa Diogelu Pensiwn
Pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio
Os ydych wedi'ch diswyddo, mae gennych yr opsiwn i:
- gadael eich pensiwn lle mae, i barhau i dyfu nes i chi ymddeol, neu
- ei symud i gynllun cyfraniadau wedi'u diffinio arall - naill ai un sydd gennych eisoes, un wedi'i sefydlu gan eich cyflogwr os ydych yn ymuno â chwmni arall, neu'n sefydlu un eich hun.
Os penderfynwch adael y pensiwn lle mae, efallai na fyddwch yn gallu parhau i gyfrannu ato. Gwiriwch â'ch cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn.
Os yw'ch cyflogwr wedi eich cofrestru yn NEST (yr Ymddiriedolaeth Arbedion Cyflogaeth Genedlaethol), dylech allu parhau i dalu i mewn iddo os ydych eisiau.
Os ydych am barhau i dalu i mewn, cysylltwch â NEST yn uniongyrchol
Efallai y caniateir i chi drosglwyddo'ch pensiwn i gynllun sy'n gysylltiedig â chyflog â chyflogwr newydd, ond bydd angen i chi wirio a ydynt yn iawn â hynny.
Mae hefyd yn bwysig darganfod faint fydd cost y trosglwyddiad i weld a yw'n werth chweil.
Darganfyddwch fwy am Drosglwyddo pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio
Siaradwch â chynghorydd ariannol rheoledig
Mae pensiynau'n gymhleth. Efallai hoffech siarad â chynghorydd ariannol rheoledig a all siarad â chi am eich opsiynau.