Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio a bod eich cwmni’n mynd allan o fusnes, bydd y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF) yn camu i mewn i ddod o hyd i ddarparwr newydd neu'n talu iawndal i chi. Dyma’r cyfan sydd angen i chi ei wybod.
Beth yw’r Gronfa Diogelu Pensiynau?
Mae’r Gronfa Diogelu PensiynauYn agor mewn ffenestr newydd (PPF) yn diogelu miliynau o bobl ledled y DU gyda chynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio – a elwir hefyd yn bensiynau cyflog terfynol a phensiynau cyfartaledd gyrfa.
Os bydd y cwmni rydych chi’n gweithio iddo (neu wedi gweithio iddo) yn mynd allan o fusnes, bydd y PPF yn:
- Gwirio faint o arian sydd gan eich cynllun pensiwn.
- Penderfynu pwy sydd orau i barhau i’w redeg, naill ai:
- darparwr neu yswiriwr arall – os oes digon o arian i’w dalu i gymryd yr awenau, neu
- y PPF eu hunain (trwy daliadau iawndal).
Mae’r ddau opsiwn yn golygu y byddech fel arfer yn cael y cyfan neu’r rhan fwyaf o’r hyn yr oedd eich pensiwn yn ei dalu neu wedi addo ei dalu.
Sefydlwyd y PPF gan y llywodraeth ym mis Ebrill 2005, ond fe’i hariennir gan daliadau o rai cynlluniau pensiwn buddion wedi’u diffinio.
Beth sy’n digwydd os bydd cyflogwr eich cynllun yn mynd i’r wal
Os bydd cyflogwr sydd â chynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio yn methu, ni fydd y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF) yn cymryd drosodd ar unwaith. Yn hytrach, bydd ‘cyfnod asesu’ yn dechrau, sydd fel arfer yn para rhwng 18 mis a dwy flynedd.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ymddiriedolwyr eich cynllun presennol yn delio ag unrhyw ymholiadau ac yn gwneud unrhyw daliadau pensiwn. Ond ni allwch wneud mwy o gyfraniadau na throsglwyddo o’r cynllun. Mae’r cynllun hefyd ar gau i aelodau newydd.
Ar ddiwedd y cyfnod asesu, bydd eich cynllun naill ai’n cael ei drosglwyddo i:
- ddarparwr newydd
- yswiriwr, neu
- y Gronfa Diogelu Pensiynau.
Mae’r penderfyniad hwn yn gyffredinol yn seiliedig ar faint o arian sydd ar ôl yn y cynllun. Rhaid i bwy bynnag sy’n cymryd drosodd dalu o leiaf 90% o’ch pensiwn a addawyd. Dyma’r isafswm swm iawndal PPF.
Faint mae’r Gronfa Diogelu Pensiwn yn ei dalu
Os bydd eich pensiwn yn cael ei drosglwyddo i’r Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF), byddant yn talu taliadau iawndal i chi. Byddwch yn cael canran o’ch pensiwn a addawyd yn dibynnu ar eich sefyllfa:
- 100% os ydych chi:
- wedi cyrraedd neu’n hŷn na’ch oedran pensiwn arferol
- wedi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch, neu
- eisoes yn derbyn 'pensiwn goroeswr' – lle bu farw rhywun a bod eu pensiwn yn cael ei dalu i chi
- 90% os nad ydych wedi ymddeol eto.
Mae hyn yn seiliedig ar y swm yr oeddech wedi'i gronni pan aeth eich cyflogwr allan o fusnes.
Pan fydd eich taliadau iawndal yn dechrau, fel arfer gallwch ddewis cymryd hyd at 25% fel cyfandaliad di-dreth.
Am fwy o wybodaeth am fod yn aelod PPF, gweler eu rhestr lawn o Gwestiynau CyffredinYn agor mewn ffenestr newydd
Fel arfer bydd eich taliad yn cynyddu bob blwyddyn
Mae eich taliadau iawndal yn cynyddu yn unol â chwyddiant, hyd at uchafswm o 2.5%. Mae hyn yn berthnasol i fudd-daliadau a gronnwyd ers 6 Ebrill 1997 – ni fydd unrhyw beth cyn y dyddiad hwn yn cynyddu.
Os daeth eich cynllun pensiwn i ben rhwng 1997 ac Ebrill 2005
Os gwnaethoch golli’r cyfan neu ran o bensiwn buddion wedi’u diffinio a ddaeth i ben rhwng 1 Ionawr 1997 a 5 Ebrill 2005, cewch eich diogelu gan y Cynllun Cymorth Ariannol (FAS) – sy’n cael ei redeg gan y Gronfa Diogelu Pensiynau.
Mae hyn hefyd yn talu iawndal, felly dylech gael o leiaf 90% o’ch pensiwn disgwyliedig. Mewn rhai achosion, gallai hyn gael ei gapio (ar hyn o bryd £44,695 ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25).
Gweler mwy o wybodaeth am y Cynllun Cymorth AriannolYn agor mewn ffenestr newydd