Os ydych wedi cael eich diswyddo ac yn cael tâl diswyddo, efallai eich bod yn pendroni a oes rhaid i chi dalu treth arno. Mae tâl diswyddo yn cael ei drin yn wahanol i incwm - ac mae hyd at £ 30,000 ohono yn ddi-dreth. Ond, bydd rhai rhannau eraill o'ch pecyn diswyddo, fel tâl gwyliau a thâl yn lle rhybudd, yn cael eu trethu yn yr un modd ag incwm rheolaidd.
Beth sy’n ddi-dreth?
Mae unrhyw dâl dileu swydd hyd at £30,000 yn ddi-dreth.
Bydd unrhyw fudd nad yw’n arian, fel car cwmni neu gyfrifiadur, sy’n rhan o’ch pecyn diswyddo, yn cael gwerth ariannol. Bydd hyn yn cael ei ychwanegu at eich tâl diswyddo ar gyfer dibenion treth.
Efallai y bydd hyn yn mynd â’ch tâl diswyddo dros y terfyn o £30,000.
Ar beth fyddai’n cael fy nhrethu?
Unrhyw dâl diswyddo dros £30,000
Pan fyddwch chi’n ei dderbyn, bydd eich cyflogwr fel arfer wedi tynnu’r dreth allan - ond yn ôl pob tebyg ni fyddant wedi didynnu’r swm cywir.
Felly efallai y byddwch angen hawlio treth yn ôl neu dalu treth ychwanegol. Gweler isod am ‘Ordaliadau neu dandaliadau treth’.
Tâl gwyliau, tâl yn lle rhybudd, cyflog sy’n ddyledus a thaliadau bonws
Mae tâl gwyliau’n cael ei drin yn union fel cyflog. Felly bydd treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu didynnu o’r taliadau hyn yn ôl yr arfer cyn i chi eu cael.
Bydd cyflog sydd heb ei dalu, taliadau bonws neu oramser yn drethadwy ac bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn daladwy. Mae hyn hyd yn oed os cewch yr arian ar ôl i’ch cyfnod o gyflogaeth ddod i ben.
Pan fydd cyflogaeth yn cynnwys comisiwn neu fonws rheolaidd, yna gellir ystyried y rhain wrth gyfrifo tâl diswyddo drwy ddefnyddio’r cyflog cyfartalog dros y 12 wythnos blaenorol.
Byddai’r taliadau hyn wedyn yn gymwys am yr eithriad di-dreth o £30,000. Os na fydd y taliadau hyn yn cael eu hystyried fel rhan o gyflog wythnosol arferol y cyflogai, yna ni fyddant yn gymwys.
Treth ar Daliadau Yn Lle Rhybudd (PILON)
Efallai y bydd disgwyl i chi barhau i weithio yn ystod eich cyfnod rhybudd. Ond efallai y bydd eich cyflogwr yn caniatáu i chi adael yn gynnar, neu rywbryd yn syth ar ôl cael eich diswyddo.
Dan yr amgylchiadau hyn, efallai y byddwch yn derbyn Taliad Yn Lle Rhybudd (PILON). I bob pwrpas, iawndal yw hwn am ddod â’ch contract i ben yn gynnar.
Mae pob taliad PILON cytundebol ac anghytundebol yn destun treth incwm a didyniadau Yswiriant Gwladol. Eich cyflogwr sy’n gyfrifol am nodi’r hyn y byddech wedi’i ennill mewn cyflog sylfaenol pe baech wedi gweithio drwy eich cyfnod rhybudd.
Mae’r holl daliadau anghytundebol yn cael eu cynnwys yn y terfyn tâl diswyddo di-dreth £30,000.
Osgoi siociau cas – cyfrifwch y dreth ar eich tâl diswyddo ymlaen llaw
Ydych chi’n ystyried beth i’w wneud gyda’ch tâl diswyddo? Cyfrifwch yn fras beth fydd eich pecyn diswyddo, gan ystyried beth sy’n ddi-dreth a beth sy’n drethadwy.
Tâl diswyddo di-dreth: Enghraifft 1
Mae Colin yn cael tâl diswyddo o £18,000 ynghyd ag un mis o dâl yn lle rhybudd, sy’n gyfanswm o £1,000.
Mae’r tâl diswyddo’n ddi-dreth. Ond bydd yn rhaid i gyflogwr Colin ddidynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol o’r £1,000 ychwanegol.
Treth ar dâl diswyddo: Enghraifft 2
Mae Kirandeep yn cael cyfandaliad o £32,000. Mae hi hefyd yn cael cadw ei char cwmni, sydd werth £8,000.
Mae gwerth y car yn cael ei ychwanegu at y tâl diswyddo - sy’n gwneud £40,000.
Gan mai dim ond £30,000 sy’n ddi-dreth, bydd Kirandeep yn talu treth ar y £10,000 sy’n weddill - gan ei bod yn drethdalwr cyfradd uwch, mae hynny’n 40%.
Darganfyddwch faint o arian diswyddo mae gennych hawl iddo yn ein canllaw ar Dâl diswyddo
Gordaliad neu dandaliad treth
Mae fain o dreth fyddwch chi’n ei thalu yn cael ei chyfrifo’n flynyddol. Felly, os ydych wedi gorffen gweithio rhan o’r ffordd drwy’r flwyddyn dreth, efallai eich bod wedi talu gormod.
Mae'n bwysig peidio â chymryd yn ganiataol bod eich cyflogwr wedi cael y cyfrifiadau'n iawn. Gallai’r dreth a ddidynnwyd fod yn ormod neu’n rhy ychydig.
Mae i fyny i chi i roi gwybod i Gyllid a Thollau EM.
Efallai gofynnir i chi lenwi datganiad treth incwm Hunanasesiad ar ddiwedd y flwyddyn dreth i dalu unrhyw dreth ychwanegol sy’n ddyledus.
Darganfyddwch sut i gysylltu â CThEM yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Teclynnau defnyddiol
Gwneud y gorau o’ch tâl diswyddo
Os nad oea angen eich arian diswyddo i gyd i gwrdd â chostau byw arnoch, mae werth ystyried cynilo’r arian neu glirio dyledion, neu hyd yn oed gyfrannu tuag at eich pensiwn.
Rhoi eich tâl diswyddo mewn pensiwn
Gall talu i mewn i gynllun pensiwn fod yn ddewis treth-effeithlon.
Ydych chi’n aelod o gynllun pensiwn eich cyflogwr ac yn mynd i dderbyn taliad diswyddo o fwy na £30,000? Yna efallai y gallech osgoi talu treth ar y swm dros ben trwy ofyn i’ch cyflogwr os ydynt yn cytuno i’w dalu i mewn i’ch pensiwn.
Ond anaml y mae treth a phensiynau yn syml, ac mae terfynau ar faint y gallwch ei dalu i mewn a derbyn gostyngiad yn y dreth. Felly mae’n werth cael cymorth gan gynghorwr ariannol annibynnol.