Efallai y bydd dewis ymgynghorydd ariannol yn ymddangos yn frawychus, ond os oes angen help arnoch gyda phenderfyniad ariannol, mae'n werth dyfalbarhau. Gall ymgynghorydd da arbed arian a llawer o bryder i chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Yr allwedd i ddod o hyd i’r ymgynghorydd ariannol cywir yw gwybod pa fath o gyngor sydd ei angen arnoch.
Er enghraifft, a ydych yn:
- chwilio am help i fuddsoddi yn eich pensiwn neu mewn ISA Cyfranddaliadau?
- dod i fyny at neu lywio’ch ffordd drwy’ch ymddeoliad?
- chwilio am forgais neu efallai yswiriant bywyd?
- chwilio am help i gadw’ch cyllid ar y trywydd iawn a chyrraedd eich nodau tymor hir?
Mae llawer o resymau pam mae pobl angen cyngor gan ymgynghorydd ariannol. Ond mae llawer o wahanol fathau o ymgynghorwyr hefyd, felly mae'n bwysig gwybod at bwy i fynd a phryd.
Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol
Mae argymhelliad personol gan ffrindiau neu deulu yn un ffordd i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol. Fodd bynnag, hyd yn oed os ydych yn cyd-dynnu’n dda ag ymgynghorydd, mae’n anodd barnu yn y tymor byr pa mor dda y maent wedi gwneud swydd.
Mae rhai undebau neu grwpiau affinedd a chynlluniau pensiwn gweithle wedi dewis ymgynghorwyr i’w hargymell i’w haelodaeth. Felly os ydych chi'n aelod o un o’r grwpiau hyn, gwiriwch â hwy yn gyntaf.
Mae gwasanaethau a all eich helpu i chwilio am ymgynghorydd ariannol ar sail ble rydych a beth rydych yn chwilio am help ag ef. Maent yn cynnwys:
- ein Cyfeirlyfr Ymgynghorydd YmddeoliadYn agor mewn ffenestr newydd sy’n eich helpu I ddod o hyd i ymgynghorydd a all eich helpu i wneud penderfyniadau am eich ymddeoliad a thrafferthion cynllunio cyllidebol eraill (e.e. buddsoddiadau, opsiynau gofal a rhyddhad ecwiti)
- The Personal Finance SocietyYn agor mewn ffenestr newydd – gall y teclyn hwn gan y corff proffesiynol cynllunio cyllidebol eich helpu i ddod o hyd i ymgynghorydd cymwysedig lleol (Mae'n cynnwys cynghorwyr sy'n ymdrin â mwy nag opsiynau ymddeol megis morgeisi, buddsoddiadau a chynllunio ariannol arall)
- UnbiasedYn agor mewn ffenestr newydd gwasanaeth am ddim i’ch paru ag ymgynghorydd ariannol, brocer morgeisi neu gyfrifydd sydd wedi'i reoleiddio'n llawn
- VouchedforYn agor mewn ffenestr newydd am gyngor ariannol, cyfreithiol a chyfrifol sydd wedi’i adolygu a’i fetio
- Society of Later Life Advisers (SOLLA)Yn agor mewn ffenestr newydd cymdeithas nid-er-elw a all eich helpu os ydych ym mywyd diweddarach ac yn edrych am ymgynghorydd sydd ag achrediad Later Life Adviser
Mathau o ymgynghorwyr
Nid yw ymgynghorwyr ariannol bob amser yn cael eu galw’n ‘ymgynghorwyr ariannol’. Yn lle hynny, maent weithiau’n cael eu henwi yn ôl eu harbenigedd, fel ‘ymgynghorydd morgais’, ‘ymgynghorydd buddsoddi’, ‘ymgynghorydd pensiwn’ neu ‘cynllunydd ariannol’.
Weithiau, fe’u gelwir yn ‘froceriaid’ - yn aml wrth ddelio â chynhyrchion fel:
- morgeisi
- yswiriant cartref a char, neu
- buddsoddiadau gan gynnwys cyfranddaliadau.
Beth bynnag y gellir eu galw, yr hyn sydd gan bob ymgynghorydd ariannol yn y DU yn gyffredin yw eu bod yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Mae hyn yn golygu bod rheolau y mae rhaid iddynt eu dilyn wrth ddelio â chi. Gallwch wirio a yw’r ymgynghorydd ar y Gofrestr Gwasanaethau AriannolYn agor mewn ffenestr newydd sy’n rhestri’r holl gwmnioedd ac unigolion sydd wedi’u rheoleiddio gan yr FCA. Gwiriwch y gofrestr neu gysylltwch â’r FCAYn agor mewn ffenestr newydd gallwch ffonio nhw ar 0800 111 6768 (freephone).
Mae lleiafswm o gymwysterau y mae rhaid i bob ymgynghorydd ariannol rheoledig fod wedi’u cyflawni. Bydd y mwyafrif wedi cyflawni meincnodau uwchlaw hynny, fel y Cynlluniwr Ariannol Siartredig neu’r cymwysterau Cynlluniwr Ariannol Ardystiedig.
Efallai y bydd ganddynt hefyd gymwysterau penodol sy’n cwmpasu’r meysydd maent yn arbenigo ynddynt, fel gofal tymor hir, rhyddhau ecwiti a throsglwyddiadau pensiwn.
Bydd y mwyafrif o ymgynghorwyr yn cynnig cyfarfod cychwynnol am ddim i chi. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi gael syniad a ydych yn gyffyrddus â hwy a sut maent yn gweithio. Bydd unrhyw ymgynghorydd sydd â chymwysterau priodol yn dangos eu tystysgrifau i chi os gofynnwch iddynt wneud hynny.
Ymgynghorwyr sy’n delio â buddsoddiadau
Mae hyn yn cynnwys:
- buddsoddiadau
- cynhyrchion incwm pensiynau ac ymddeoliad
- cynllunio ariannol cyfannol.
Efallai y bydd gan gynghorwyr gymhwyster penodol i gynghori ar drosglwyddiadau pensiwn hefyd.
Mae rhaid i ymgynghorwyr sy’n argymell y mathau hyn o gynhyrchion feddu ar lefelau uwch o gymwysterau ac ni allant dderbyn comisiwn gan y cynhyrchion y maent yn eu gwerthu.
Yn lle hynny, maent yn codi ffi am y cyngor maent yn ei roi ond efallai y bydd gwahanol opsiynau ar gyfer sut rydych yn talu'r ffi.
Gallai ymgynghorwyr sy’n darparu cyngor ar y cynhyrchion a restrir uchod hefyd ddarparu cyngor ar yswiriant diogelu (fel yswiriant bywyd) ac weithiau morgeisi.
Mae llawer yn cynnig cynllunio ariannol cyfannol, lle byddant yn eich cynghori ar bob agwedd ar eich anghenion ariannol.
Mae ymgynghorwyr yn y categori hwn yn cael eu dosbarthu naill ai'n annibynnol neu'n gyfyngedig.
Efallai y bydd ymgynghorwyr cyfyngedig naill ai wedi’u cyfyngu yn y math o gynhyrchion maent yn eu cynnig, nifer y darparwyr maent yn dewis ohonynt, neu’r ddau.
Gall ymgynghorwyr ariannol annibynnol (IFAs) argymell pob math o gynhyrchion buddsoddi manwerthu a chynhyrchion pensiwn gan gwmnïau ar draws y farchnad heb gyfyngiad.
Efallai yr hoffech ystyried dewis ymgynghorydd a all ddelio ag ystod eang o ddarparwyr cynnyrch ar gyfer y cynnyrch maent yn ei argymell – ac nid un neu ddau yn unig. Trwy hynny, rydych yn gwybod byddwch yn cael y dewis ehangaf.
Fodd bynnag, ni ddylai ansawdd ac addasrwydd y cyngor effeithio ar p'un a ydych yn penderfynu ar ymgynghorydd a all gynghori ar yr holl farchnad neu un sydd wedi’i gyfyngu i un neu fwy o ddarparwyr.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y math o wasanaeth maent yn ei gynnig cyn i chi benderfynu a ddylech gael cyngor ganddynt. Mae hynny'n cynnwys cost y cyngor a’r dull o godi tâl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Canllaw i ffioedd ymgynghorwyr ariannol
Cwestiynau allweddol i'w gofyn i'ch ymgynghorydd ariannol
Ymgynghorwyr sy’n delio â morgeisi a rhyddhau ecwiti
Mae rhaid bod gan ymgynghorwyr morgeisi gymwysterau morgais penodol.
Mae rhaid i ymgynghorwyr sy’n argymell cynhyrchion rhyddhau ecwiti hefyd feddu ar gymhwyster arbenigol mewn rhyddhau ecwiti.
Mae’r ymgynghorwyr hyn yn dal i gael eu talu trwy gomisiwn ar unrhyw gynnyrch morgais neu ryddhau ecwiti y maent yn ei werthu.
Mae rhai ymgynghorwyr morgeisi hefyd yn codi ffi am eu gwasanaethau.
Gall llawer o ymgynghorwyr morgeisi hefyd gynghori ar yswiriant amddiffyn, fel yswiriant bywyd.
Efallai y bydd ymgynghorwyr morgais yn cynnig gwasanaeth marchnad cyfan. Er nad yw hyn o reidrwydd yn golygu y gallant argymell unrhyw forgais gan bob benthyciwr, gan fod rhai benthycwyr yn cynnig morgeisi yn uniongyrchol i’r cyhoedd yn unig.
Mae rhai ymgynghorwyr morgeisi yn cynnig cyngor ‘cyfyngedig’ ac efallai eu bod ynghlwm wrth un benthyciwr yn unig neu efallai mai dim ond nifer fach y gallant ddewis.
Bydd ymgynghorydd morgais ‘annibynnol’ yn gallu cynnig ystod ehangach o opsiynau o bob rhan o’r farchnad.
Cynrychiolwyr Penodedig
Weithiau mae ymgynghorwyr yn gweithio fel ‘Cynrychiolwyr Penodedig’. Mae hwn yn golygu y gallent roi cyngor rheoledig i chi ar ran cwmni arall, a elwir yn brif gwmni. Mae’r cwmni’n gwirio os ydynt yn addas i wneud y gweithgareddau hyn (beth y maent yn gwerthu’n neu’n trefnu i chi, neu’r cyngor maent yn ei rhoi i chi).
Byddwch yn cael eich diogelu os yw rhywbeth yn mynd o’i le gyda’r gweithgareddau mae’r prif gwmni’n galluogi i’w cynrychiolwr ei wneud. Ond efallai na fyddwch wedi’ch diogelu am weithgareddau eraill. Felly mae’n bwysig i wirio os yw’ch ymgynghorydd yn Gynrychiolwr Rheoledig a dod o hyd i fanylion cyswllt y prif gwmni trwy wirio’r Gofrestr Gwasanaethau AriannolYn agor mewn ffenestr newydd neu gysylltu â’r FCAYn agor mewn ffenestr newydd; gallwch ffonio nhw ar 0800 111 6768 (freephone).
Ymgynghorwyr sy’n delio ag yswiriant
Mae hyn yn cynnwys:
- yswiriant cyffredinol fel yswiriant cartref, car a theithio
- yswiriant amddiffyn fel amddiffyn incwm a salwch difrifol.
Yn aml, gelwir yr ymgynghorwyr hyn hefyd yn froceriaid yswiriant.
Fel ymgynghorwyr morgais, maent yn cael eu talu gan gomisiwn ar unrhyw gynnyrch yswiriant maent yn ei werthu. Nid ydynt fel arfer yn codi ffi ychwanegol.
Bydd broceriaid yswiriant hefyd yn eich helpu i ddelio ag unrhyw hawliadau y gallech eu gwneud a byddant yn edrych o’ch cwmpas bob blwyddyn i sicrhau eich bod yn cael y fargen orau.
Os yw’ch amgylchiadau yn anghyffredin – er enghraifft, os ydych yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd neu os oes gennych broblemau iechyd ac angen yswiriant teithio – gall brocer yswiriant fod yn arbennig o ddefnyddiol.
Maent yn adnabod yr yswirwyr sy'n delio â’r math o yswiriant sydd ei angen arnoch a byddant yn gallu dod o hyd i’r fargen orau i chi.
Fodd bynnag, mae rhai broceriaid yswiriant yn delio ag ystod ehangach o ddarparwyr nag eraill. Felly gwiriwch lefel y gwasanaeth maent yn ei gynnig bob amser a faint o ddarparwyr maent yn gweithio â hwy.
Yn yr un modd â mathau eraill o gyngor ariannol, bydd broceriaid sy’n delio ag ystod eang o ddarparwyr yswiriant yn rhoi’r dewis ehangaf i chi.