Byddwch yn cadw eich pensiwn gweithle os bydd eich cyflogwr yn mynd i'r wal, ond efallai y bydd yn cael ei symud i ddarparwr gwahanol. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Mae eich arian pensiwn fel arfer yn aros yn ddiogel
Mae unrhyw arian sydd gennych mewn pensiwn yn cael ei gadw ar wahân i'ch cyflogwr, felly ni ddylid effeithio arno os yw'n mynd i'r wal neu'n stopio masnachu.
Mae'r hyn sy'n digwydd nesaf yn dibynnu ar y math o gynllun pensiwn sydd gennych:
- Fel arfer, ni fydd pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio (y rhan fwyaf o bensiynau mwy newydd) yn cael mwy o arian yn cael ei dalu i mewn iddo, ond bydd eich darparwr pensiwn yn parhau i reoli'r arian rydych eisoes wedi'i dalu i mewn.
- Fel arfer, bydd pensiwn buddion wedi'u diffinio (neu gyflog terfynol) yn parhau i dalu'r hyn a addawodd pan fyddwch yn ymddeol, neu o leiaf 90% ohono.
Os nad ydych yn siŵr pa fath yw eich cynllun pensiwn, gofynnwch i'ch darparwr pensiwn.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw llawn am bensiynau gweithle.
Gallwch hawlio iawndal am golli cyfraniadau cyflogwr
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio a bod eich cyflogwr yn mynd allan o fusnes, efallai na fydd wedi talu'r holl arian y dylai fod ganddo i'ch pensiwn.
Gofynnwch i ddarparwr pensiwn am ddatganiad cyfredol i wirio bod eich cyflogwr wedi talu i mewn i'ch pensiwn bob mis, o leiaf i'r dyddiad gwnaeth beidio â masnachu.
Os oes cyfraniadau coll gan eich cyflogwr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel arfer gall eich darparwr pensiwn hawlio iawndal ar eich rhan gan y Gronfa Yswiriant Gwladol.
I hawlio taliadau coll dros flwydd oed, fel arfer bydd angen i chi gysylltu â'r cwmni sy'n rheoli cau eich cyflogwr - a elwir yn weinyddwr yn aml.
Efallai y bydd eich pensiwn yn cael ei symud i ddarparwr arall
Mae'r hyn sy'n digwydd i'ch arian pensiwn yn dibynnu ar eich math o bensiwn.
Bydd pensiynau buddion wedi’u diffinio yn cael eu rheoli drosoch
Os oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio a bod eich cyflogwr yn mynd allan o fusnes, bydd y Gronfa Diogelu Pensiwn yn camu i mewn i benderfynu pwy sydd orau i barhau i'w redeg - gall hyn gymryd hyd at ddwy flynedd i'w gwblhau.
Mae hyn yn golygu y bydd eich pensiwn naill ai'n cael ei gymryd drosodd gan:
- darparwr pensiwn newydd, neu
- cwmni yswiriant.
Os nad oes digon o arian yn y cynllun i rywun arall ei redeg, bydd y Gronfa Diogelu Pensiwn yn talu taliadau iawndal i chi yn lle hynny.
Byddwch yn cael 100% o'r hyn yr addawodd y cynllun pensiwn ei dalu os oeddech, ar yr adeg yr aeth y cyflogwr allan o fusnes:
- dros oedran ymddeol eich cynllun (a elwir yn eich oedran pensiwn arferol)
- sydd eisoes wedi ymddeol oherwydd salwch, neu
- derbyn y pensiwn gan rywun oedd wedi marw (pensiwn etifeddol).
Fel arall, byddwch yn cael 90% o'r hyn a addawodd y cynllun pensiwn mewn taliadau iawndal.
Gellir gadael pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio yn y lle y mae neu eu trosglwyddo
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, gallwch naill ai ddewis:
- gadael lle mae nes i chi ddechrau tynnu arian ohono, neu
- ei drosglwyddo i gynllun pensiwn newydd, fel un yn eich swydd newydd neu un rydych chi wedi ei sefydlu eich hun.
Bydd yr opsiwn gorau i chi yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys faint o arian sydd gennych yn eich cronfa bensiwn a chost ffioedd rheoli pob darparwr pensiwn.