Mae dwy ffordd y gallwch gael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn. Os ydych mewn cynllun pensiwn yn y gweithle mae eich cyflogwr yn dewis pa ddull i’w ddefnyddio, ac mae rhaid defnyddio hwnnw ar gyfer pob aelod o staff. Darganfyddwch sut mae rhyddhad treth yn gweithio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw rhyddhad treth ar bensiwn?
- Sut y mae rhyddhad treth yn gweithio ar gyfer pensiynau?
- Rhyddhad treth os nad ydych yn talu treth
- A oes terfyn ar faint o ryddhad treth y gallaf ei dderbyn?
- Teclynnau defnyddiol
- Beth yw enillion perthnasol yn y DU?
- Trefniadau aberthu cyflog
- Pensiwn personol, pensiwn personol hunan-fuddsoddedig a chynlluniau pensiwn rhanddeiliaid
- Talu i mewn i bensiwn rhywun arall
- Rhyddhad treth ar gyfraniadau i gontractau blwydd-dal ymddeol
- Faint gallwch ei gronni yn eich pensiwn?
- Pensiynau gweithle, ymrestru awtomatig, a rhyddhad treth
Beth yw rhyddhad treth ar bensiwn?
Un o nodweddion gorau defnyddio pensiwn i gynilo ar gyfer ymddeol yw rhyddhad treth. Pan dalwch i mewn i'ch pensiwn, mae peth o'r arian a fyddai wedi mynd i'r llywodraeth fel treth yn mynd tuag at eich pensiwn yn lle. Gall hyn helpu i leihau faint o dreth rydych yn ei thalu a gellir ei defnyddio i helpu i gryfhau'ch cynilion ar gyfer y dyfodol.
Mae’r ‘rhyddhad treth’ ar y gyfradd uchaf o dreth incwm rydych yn ei dalu.
Fodd bynnag, yn ddibynnol ar sut mae eich cynllun pensiwn yn gweithio, os nad ydych yn talu treth efallai na chewch ryddhad treth. Gweler ein hadran ar 'Rhyddhad treth os nad ydych yn talu treth'
Yn yr un modd, efallai y bydd rhaid i chi hawlio'r rhyddhad treth ychwanegol na chaiff ei hawlio gan eich cynllun.
Yn ogystal, mae rhai cyfyngiadau y mae rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt a all effeithio ar faint o ryddhad treth y mae gennych hawl iddo. Ewch y tu hwnt i'r terfynau hyn ac efallai y bydd rhaid i chi dalu tâl treth sydd i bob pwrpas yn adfachu unrhyw ryddhad treth gormodol a roddir. Gwelwch isod am ragor o wybodaeth am hyn.
Sut y mae rhyddhad treth yn gweithio ar gyfer pensiynau?
Mae dwy ffordd y gallwch gael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn. Gelwir y rhain yn rhyddhad yn y ffynhonnell a thâl net.
Os ydych mewn pensiwn yn y gweithle, bydd eich cyflogwr yn dewis pa ddull a ddefnyddir. Os ydych mewn pensiwn personol, defnyddir y dull rhyddhad yn y ffynhonnell bob amser.
Rhyddhad yn y ffynhonnell
Gyda rhyddhad yn y ffynhonnell, mae eich cyfraniadau yn cael hwb gan y llywodraeth. Gallwch o bosibl hawlio mwy yn ôl trwy eich ffurflen dreth os ydych yn talu treth uwch na'r gyfradd sylfaenol.
Dyma sut mae trefniant rhyddhad yn y ffynhonnell yn gweithio yn fanylach:
- Mae eich cyflogwr yn tynnu treth o’ch enillion trethadwy yn ôl yr arfer.
- Yna maent yn tynnu 80% o’ch cyfraniad pensiwn o’ch cyflog ar ôl treth ac yn anfon hwnnw at eich darparwr pensiwn.
- Mae eich darparwr pensiwn yn hawlio’r 20% arall fel rhyddhadd treth yn uniongyrchol gan y llywodraeth, ac maent yn ei ychwanegu i’ch cronfa bensiwn. Os ydych yn byw yn yr Alban ac yn talu treth ar gyfradd dechreuwr yr Alban o 19%, byddwch yn cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn ar 20% o hyd.
Mae’r dull hwn yn well i bobl nad ydynt yn talu treth oherwydd maent yn dal i gael gostyngiad treth. Gwelwch ein hadran ar ‘Rhyddhad treth os nad ydych yn talu treth’ isod.
Fodd bynnag, â’r trefniant hwn, bydd pobl sy’n talu cyfraddau uwch o dreth nag 20%, boed yn gyflogedig neu'n hunan-gyflogedig, yn gorfod hawlio’r rhyddhad treth ychwanegol drwy eu ffurflenni treth neu’n uniongyrchol gan CThEM
Tâl net
Gyda chyflog net, gwneir eich cyfraniadau pensiwn cyn i chi gael eich trethu. Felly byddwch fel arfer yn talu llai o dreth oherwydd bydd eich treth yn cael ei chyfrifo ar sail swm is o enillion yn y DU.
Dyma sut mae trefniant tâl net yn gweithio:
- Mae eich cyflogwr yn tynnu swm llawn eich cyfraniad pensiwn o’ch tâl cyn i unrhyw dreth gael ei dynnu.
- Yna rydych yn talu treth ar eich enillion llai eich cyfraniadau pensiwn. Felly mae eich bil treth yn is.
- Er eich bod wedi talu swm llawn eich cyfraniad pensiwn eich hun, cewch y rhyddhad treth drwy dalu ychydig yn llai o dreth.
Gyda’r dull hwn, waeth beth yw cyfradd y dreth a dalwch, cewch y rhyddhad treth yn llawn heb orfod cyflwyno cais amdano.
Fodd bynnag, os nad ydych yn talu treth, golyga’r dull hwn na chewch unrhyw ostyngiad treth. Gwelwch ein hadran ar ‘Gostyngiad treth os nad ydych yn talu treth’ isod.
Rhyddhad treth os nad ydych yn talu treth
Os ydych yn ennill llai na'r Lwfans Personol (£12,570 yn y flwyddyn dreth 2024/25) ac felly ddim yn talu treth, efallai na fyddech yn cael rhyddhad treth os ydych mewn pensiwn gweithle. Mae'n dibynnu ar ba system rhyddhad treth y mae eich cyflogwr yn ei defnyddio.
Eich sefyllfa os yw eich pensiwn yn defnyddio’r dull tâl net
Os yw'ch pensiwn gweithle yn defnyddio'r dull tâl net, cymerir swm llawn y cyfraniad pensiwn o'ch cyflog cyn didynnu treth.
Yn lle ychwanegu gostyngiad treth at y cyfraniad pensiwn, rydych yn cael rhyddhad treth trwy gael bil treth is.
Ond os nad ydych yn talu treth, nid oes bil treth – felly ni fyddwch yn elwa o ryddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn.
I ddatrys hyn, cyflwynodd y llywodraeth ffurf o ‘daliad atodol’ os ydych yn gwneud cyfraniadau i gynllun cyflog net yn y gweithle ond bod eich enillion yn is na'r lwfans personol. Caiff hyn ei gyflwyno o flwyddyn dreth 2024/25, gyda'r taliadau atodol cyntaf yn cael eu gwneud ym mlwyddyn dreth 2025/26. Os ydych yn gymwys, bydd y taliadau atodol yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i chi ac yn drethadwy fel incwm
Eich sefyllfa os yw eich pensiwn yn defnyddio’r dull rhyddhad yn y ffynhonnell
O dan y dull rhyddhad yn y ffynhonnell, mae'r darparwr pensiwn bob amser yn hawlio rhyddhad treth ar y gyfradd sylfaenol (20%). Maent yn hawlio hyn gan y llywodraeth ac yn ychwanegu hyn at eich cronfa bensiwn.
Felly cyn belled â nad ydych yn talu mwy na'ch enillion perthnasol yn y DU, byddwch yn elwa o 20% mewn rhyddhad treth.
Mae'r enghraifft ganlynol yn dangos sut mae'r ddau ddull yn wahanol:
Dull | Incwm | Cyfraniad i bensiwn | Cymerwyd o dâl | Gostyngiad treth |
---|---|---|---|---|
Dull tâl net |
£200 yr wythnos (£10,400 y flwyddyn) |
3%, £6 yr wythnos |
£6 |
£0 |
Dull rhyddhad yn y ffynhonnell |
£200 yr wythnos (£10,400 y flwyddyn) |
3%, £6 yr wythnos |
£4.80 |
£1.20 |
Tra byddai’r ddau ddull yn rhoi £6 i mewn i’ch pensiwn, â threfniant tâl net, tynnir y £6 yn llawn o’ch cyflog.
Ni allwch hawlio unrhyw arian yn ôl o CThEM. A bydd gennych ychydig yn llai o arian yn eich poced o’i gymharu â defnyddio trefniant rhyddhad yn y ffynhonnell.
Os nad oes gennych unrhyw enillion neu'n ennill llai na £3,600 y flwyddyn, gallwch barhau i gyfrannu at bensiwn personol sy'n defnyddio'r dull rhyddhad yn y ffynhonnell. A byddwch yn gymwys i gael rhyddhad treth wedi ei ychwanegu at eich cyfraniadau hyd at swm penodol.
Os ydych mewn pensiwn gweithle, bydd angen i chi wirio'r ath o bensiwn sydd gennych â'ch cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn.
Yr uchafswm y gallwch ei gyfrannu yw £2,880 y flwyddyn.
Ychwanegir rhyddhad treth at eich cyfraniad felly os cyfrannwch £2,880, hawlir £720 gan y llywodraeth a'i ychwanegu at eich pensiwn. Mae hyn yn golygu y bydd cyfanswm o £3,600 yn cael ei gyfrannu i'ch cynllun pensiwn.
Sut rwyf yn gwybod pa fath o ryddhad treth mae fy nghyflogwr yn ei ddefnyddio?
Y ffordd symlaf yw gwirio llyfryn eich cynllun os gallwch ddod o hyd iddo. Fel arall, gallwch ofyn i’ch adran Adnoddau Dynol (neu bwy bynnag sy'n gneud y cyflogres ar gyfer eich cyflogwr) os ydych yn gyflogedig neu gallwch wirio â darparwr y pensiwn.
Holwch a yw’r cynllun un cael ei weithredu drwy ddefnyddio’r:
- dull tâl net – cyfraniad pensiwn llawn yn cael ei gymryd o gyflog cyn treth, neu
- dull rhyddhad yn y ffynhonnell – cyfraniad pensiwn is a gesglir o gyflog ar ôl treth a rhyddhad treth yn cael ei hawlio’n uniongyrchol gan y llywodraeth gan eich darparwr pensiwn.
A oes terfyn ar faint o ryddhad treth y gallaf ei dderbyn?
Nid oes terfyn ar y swm y gellir ei arbed i'ch pensiynau bob blwyddyn dreth. Mae cyfyngiadau ar y swm y gellir ei arbed tuag at bensiwn bob blwyddyn â rhyddhad treth yn berthnasol a chyn y gallai tâl treth fod yn berthnasol.
Yn gyntaf, mae rhaid i unrhyw gyfraniadau a wneir gennych neu rywun arall ar eich rhan fod yn hafal neu'n llai na'ch enillion perthnasol yn y DU ar gyfer y flwyddyn dreth y cânt eu gwneud ynddo.
- Er enghraifft, os ydych yn ennill £20,000 ond yn rhoi £25,000 yn eich pot pensiwn (efallai trwy ychwanegu at enillion â rhywfaint o gynilion) - dim ond £20,000 y bydd gennych hawl i gael rhyddhad treth.
- Yn yr un modd, os ydych yn ennill £80,000 ac rydych eisiau rhoi'r swm hwnnw yn eich pensiwn mewn un flwyddyn dreth, dim ond ar £60,000 y bydd gennych hawl i ryddhad treth fel rheol.
Nid yw'r amod hwn yn berthnasol i gyfraniadau a wneir i'ch pensiynau gan gyflogwr.
Yr ail derfyn y mae rhaid i chi fod yn ymwybodol ohono yw'r lwfans blynyddol.
Os yw'r cyfanswm a arbedir tuag at bensiwn mewn blwyddyn dreth benodol yn fwy na'r lwfans blynyddol, efallai y bydd rhaid i chi dalu tâl treth sydd i bob pwrpas yn adfachu unrhyw ryddhad treth gormodol a roddir.
Y lwfans blynyddol yw £60,000 i'r rhan fwyaf o bobl; fodd bynnag, mae gan rai pobl lwfans blynyddol is.
Mae sut mae'ch cynilion pensiwn yn cael eu mesur yn erbyn y lwfans blynyddol yn dibynnu ar y math o gynllun pensiwn: cyfraniad wedi'u diffinio neu fuddion wedi'u diffinio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans blynyddol ar gyfer cyfraniadau pensiwn
Mae’r lwfans blynyddol taprog yn cyfyngu’n bellach y nifer o ryddhad treth gall enillwyr uchel hawlio ar eu cynilion pensiwn trwy leihau eu lwfans blynyddol i swm mor isel â £10,000. Mae’r lleihad mewn lwfans yn gallu newid o flwyddyn dreth i flwyddyn dreth yn dibynnu ar eich incwm.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans blynyddol sy’n lleihau'n raddol (TAA)
Hefyd, os byddwch yn dechrau cymryd incwm ymddeoliad hyblyg o gronfa bensiwn rydych wedi'i chronni, mae'n bosibl y bydd eich lwfans hefyd yn cael ei ostwng i £10,000 yn y flwyddyn dreth hon ac yn y dyfodol ar gyfraniadau i bensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio.
Gelwir hyn yn lwfans blynyddol prynu arian.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans Blynyddol Prynu Arian (MPAA)
Mae hefyd yn bosibl defnyddio lwfans nas defnyddiwyd o hyd at y tair blynedd dreth flaenorol i dderbyn rhyddhad treth ar gyfraniadau uwch.
Gelwir hyn yn ‘cario ymlaen’ ac mae amodau’n berthnasol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cario ymlaen
Mae rhyddhad treth ar gael dim ond ar enillion perthnasol yn y DU hyd at 75 oed. Nid yw cyfraniadau a wneir i bensiwn ar ôl 75 oed yn gymwys i gael rhyddhad treth.
Teclynnau defnyddiol
Beth yw enillion perthnasol yn y DU?
Enillion perthnasol y DU yw'r math o enillion sy'n denu rhyddhad treth ac yn cynnwys:
- incwm o gyflogaeth (er enghraifft cyflog, cyflogau, bonws, dros amser neu gomisiwn)
- unrhyw daliad diswyddo sy'n uwch na'r trothwy o £30,000 sydd wedi'i eithrio rhag treth
- buddion mewn nwyddau sy'n drethadwy
- tâl sy'n gysylltiedig ag elw (gan gynnwys y rhan nad yw'n drethadwy)
- incwm o grefft, proffesiwn, neu alwedigaeth a gynhelir yn unigol neu fel partner sy'n gweithredu'n bersonol mewn partneriaeth
- incwm rhent o fusnesau gosod gwyliau wedi'u dodrefnu yn y DU neu'r AEE
- incwm patent.
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.
Trefniadau aberthu cyflog
Mae trefniadau aberthu cyflog yn gytundeb rhyngoch chi a'ch cyflogwr.
Mae'n golygu eich bod chi'n ildio rhan o'ch cyflog yn gyfnewid am i'ch cyflogwr wneud cyfraniad i'ch pensiwn.
Os ydych wedi cytuno ar hyn â'ch cyflogwr, mae'r cyfraniad cyfan yn cael ei drin fel pe bai'n dod gan eich cyflogwr. Mae hyn yn golygu na chewch unrhyw ryddhad treth fel y cyfryw.
Fodd bynnag, yn y bôn, trwy ildio cyfran o'ch cyflog, mae'r swm rydych yn ei dalu yn cael ei leihau. Mae hyn yn lleihau faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol rydych yn ei dalu.
Bydd hyn fel arfer yn golygu bod eich tâl mynd adref yn uwch.
Bydd y cyfraniadau Yswiriant Gwladol y mae eich cyflogwr yn eu gwneud yn cael eu lleihau hefyd.
Bydd rhai cyflogwyr yn trosglwyddo rhywfaint neu'r cyfan o'r arbediad Yswiriant Gwladol hwn i chi. Mae hyn, unwaith eto, yn cynyddu'r cyfraniad sy'n mynd i'ch pensiwn.
Pensiwn personol, pensiwn personol hunan-fuddsoddedig a chynlluniau pensiwn rhanddeiliaid
Os ydych wedi sefydlu'ch pensiwn eich hun, mae'r cyfraniadau rydych yn eu gwneud i'r cynllun fel arfer yn cael eu trin fel pe baent yn dod o'ch tâl ar ôl treth.
Bydd eich darparwr pensiwn yn hawlio treth cyfradd sylfaenol yn ôl ar 20% o CThEF, ac yn ychwanegu hyn at eich cronfa bensiwn. Mae hyn yn rhoi rhyddhad treth i chi.
Mae hyn yn golygu, os byddwch yn cyfrannu £80, bydd darparwr eich pensiwn yn hawlio £20 yn ôl. Felly mae cyfanswm cyfraniad o £100 yn mynd i mewn i'ch cronfa bensiwn.
Rhyddhad treth pensiwn cyfradd uwch
Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch, gallwch hawlio rhyddhad treth pellach (ar eich cyfradd uwch) gan CThEM.
Mae hyn fel arfer yn cael ei hawlio trwy ffurflen dreth hunanasesu. Neu gallwch gysylltu â CThEF yn uniongyrchol os nad ydych fel arfer yn llenwi ffurflen dreth.
Mae hyn yn golygu, os ydych yn talu Treth Incwm ar 40%, gallech hawlio rhyddhad treth o 20% ychwanegol. Mae hyn yn golygu bod cost cyfraniad o £100 yn eich pensiwn yn £60 i chi - £ 20 wedi'i hawlio gan eich darparwr pensiwn ac £20 wedi'i hawlio yn ôl gennych.
Talu i mewn i bensiwn rhywun arall
Os bydd rhywun arall eisiau talu i mewn i’ch pensiwn, neu os ydych am dalu i mewn i’w pensiwn nhw, bydd angen i chi ofyn i’ch cyflogwr a/neu ddarparwr pensiwn a ydynt yn caniatáu hynny yn gyntaf.
Os yw’n opsiwn, mae’r holl gyfraniadau i’ch pensiwn (ac eithrio gan eich cyflogwr) yn cael eu gweld fel rhai sy’n cael eu gwneud gennych chi at ddibenion rhyddhad treth – hyd yn oed os ydynt yn cael eu talu i mewn gan rywun arall.
Mae hyn yn golygu bod swm y rhyddhad treth a gewch yn dibynnu ar eich enillion perthnasol yn y DU, nid y person sy’n talu’r arian i mewn. Gallwch gael gostyngiad treth hyd at:
- 100% o'ch enillion perthnasol net, neu
- £3,600 os ydych yn ennill llai na £3,600 neu heb unrhyw enillion.
Rhyddhad treth ar gyfraniadau i gontractau blwydd-dal ymddeol
A ydych yn cyfrannu at gontract blwydd-dal ymddeol a ddechreuoch cyn 6 Ebrill 1988? Yna nid yw'r darparwr pensiwn yn hawlio ac yn ychwanegu unrhyw rhyddhad treth i'ch cronfa bensiwn.
Mae hyn yn golygu bod angen i chi hawlio unrhyw ryddhad treth sy'n ddyledus i chi - cyfradd sylfaenol ac unrhyw ryddhad cyfradd uwch - gan CThEM.
Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â CThEM neu drwy eich ffurflen dreth.
Faint gallwch ei gronni yn eich pensiwn?
Nid oes terfyn i’r swm y gallwch gronni mewn pensiynau.
Diddymwyd y terfyn lwfans oes o £1,073,100, a oedd yn bodoli tan flwyddyn dreth 2023/24, ym mis Ebrill 2024. Hefyd, ar gyfer 2023/24, gostyngwyd y tâl gormodol i 0%.
Mae'r arian di-dreth y gallwch ei gymryd (a elwir hefyd yn Cyfandaliad Cychwyn Pensiwn neu PCLS) wedi'i gyfyngu i 25% o £1,073,100 (£268,275) oni bai bod gennych unrhyw amddiffyniad lwfans oes presennol. Mae hyn bellach yn cael ei alw'n lwfans cyfandaliad.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw lwfansau cyfandaliad di-dreth ar gyfer pensiynau
Pensiynau gweithle, ymrestru awtomatig, a rhyddhad treth
Nawr mae rhaid i bob cyflogwr gofrestru pob gweithiwr cymwys yn awtomatig i gynllun pensiwn.
Mae'n gofyn am isafswm cyfraniad - sy'n cynnwys cyfraniad y cyflogwr, cyfraniad y gweithiwr a'r rhyddhad treth.