Mae dirwyn cynllun pensiwn gweithle i ben yn golygu cau'r cynllun a dod â'r ymddiriedolaeth i ben.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pan mae cynllun yn dirwyn i ben
- Beth sy'n digwydd i'ch buddion pensiwn os yw'r cynllun yn dirwyn i ben
- Beth fydd yn digwydd os yw'ch cynllun yn cael ei ddirwyn i ben?
- Pam mae'n cymryd cymaint o amser i ddirwyn fy nghynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio i ben?
- Beth fydd yn digwydd os nad oes gan fy nghynllun buddion wedi’u diffinio ddigon o arian i dalu'r buddion a addawyd?
- Mae fy nghyflogwr yn cau cynllun buddion wedi’u diffinio oherwydd ei fod yn rhy ddrud
- Daeth fy nghyflogwr yn fethdalwr ac mae fy mhensiwn wedi'i leihau
Pan mae cynllun yn dirwyn i ben
Mae dirwyn i ben yn digwydd fel arfer pan mae cyflogwr:
- yn penderfynu nad ydynt eisiau cefnogi'r cynllun mwyach trwy dalu ei gyfraniadau (er enghraifft, oherwydd eu bod yn gweld y gost yn rhy uchel), neu
- ni allant dalu’r cyfraniadau mwyach (er enghraifft, oherwydd eu bod wedi mynd allan o fusnes).
Os penderfynir dirwyn y cynllun i ben, bydd yr ymddiriedolwyr yn gosod dyddiad i ddirwyn y cynllun i ben. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu ennill buddion o dan y cynllun mwyach na thalu iddo.
Gallai rheolau'r cynllun nodi'r cyfnod rhybudd mae rhaid ei roi i aelodau os yw'r cynllun yn dirwyn i ben.
Bydd yr ymddiriedolwyr yn cael prisiad manwl o'r cynllun ac yn delio â'r dirwyn i ben a'r ffordd y mae arian y cynllun i gael ei ddosbarthu. Bydd rheolau'r cynllun yn nodi sut y dylid gwneud hyn.
Os penderfynir dirwyn eich cynllun i ben, fel rheol bydd yn cymryd o leiaf 18 mis. Yn ystod yr amser hwn, mae'n ddyletswydd ar yr ymddiriedolwyr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy'n digwydd.
Beth sy'n digwydd i'ch buddion pensiwn os yw'r cynllun yn dirwyn i ben
Mae eich hawl i'r arian rydych wedi'i gronni yn y cynllun yn cael ei gyfrifo yn unol â rheolau'r cynllun.
Os nad ydych wedi cymryd unrhyw arian eto, bydd yr ymddiriedolwyr yn cyfrifo'ch gwerth trosglwyddo.
Os ydych yn aelod o gynllun buddion wedi’u diffinio ac yn tynnu arian o'r cynllun, bydd yr ymddiriedolwyr yn cyfrifo faint y byddai'n ei gostio i brynu incwm gan yswiriwr sy'n hafal i'ch pensiwn o dan y cynllun.
Pan fydd yr ymddiriedolwyr wedi cyfrifo cyfanswm cost y buddion i'r holl aelodau, byddant yn gallu gweld a oes digon o arian yn y cynllun i brynu incwm i'r holl aelodau.
Os nad ydych wedi cymryd eich buddion, gallwch ddewis eu trosglwyddo i gynllun arall.
Os ydych wedi bod yn aelod o'r cynllun am lai na dwy flynedd, efallai y gallwch gymryd ad-daliad o’ch cyfraniadau eich hun i'r cynllun.
Os yw gwerth eich buddion yn £18,000 neu lai, efallai y gallwch gymryd lwmp swm ‘dirwyn i ben’.
Beth fydd yn digwydd os yw'ch cynllun yn cael ei ddirwyn i ben?
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio, fel rheol bydd angen i'r cynllun gwblhau’r tasgau hyn:
- cyfrifo a oes dyled ar gan y cyflogwr, a thalu'r ddyled honno os oes un
- sicrhau taliad i aelodau sydd eisoes yn derbyn eu pensiwn
- nodi'r gyfran sy'n weddill o asedau ar gyfer aelodau nad ydynt eisoes yn derbyn eu pensiwn, a chael telerau gan yswiriwr i sicrhau'r incwm pensiwn hwnnw yn y dyfodol
- cyhoeddi llythyrau opsiwn i'r rhai nad ydynt eisoes yn derbyn eu pensiynau
- cynnal prisiad actiwaraidd terfynol
- cael cyfrifon archwiliedig terfynol.
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’i diffinio, fel rheol bydd angen i'r cynllun gwblhau’r tasgau hyn:
- bydd aelodau a buddiolwyr yn cael gwybod bod y cynllun yn dirwyn i ben cyn pen mis ar ôl cychwyn y dirwyn i ben yn ffurfiol
- derbyn neu adennill yr holl gyfraniadau aelod a chyflogwr sy'n ddyledus gan y cyflogwr
- sefydlu bod pob aelod pensiynwr sydd â pholisïau blwydd-dal wedi eu sefydlu yn eu henw eu hunain, gan ddarparu'r buddion cynllun cywir
- cyfrif am yr holl asedau/arian parod a ddelir mewn cyfrifon banc ymddiriedolwyr a chyfrifon rheolwr buddsoddi/darparwr
- sefydlu bod yr holl fuddiolwyr eraill wedi'u nodi, bod gwerthoedd cronfa bensiwn wedi'u cyfrif a'u sicrhau gyda datganiadau wedyn yn cael eu rhoi i'r aelodau
- darparu opsiynau i aelodau.
Pam mae'n cymryd cymaint o amser i ddirwyn fy nghynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio i ben?
Dim ond un cyfle sydd gan ymddiriedolwyr i ddirwyn y cynllun i ben yn gywir, felly mae rhaid iddynt ei gael yn iawn y tro cyntaf.
Mae rhaid iddynt:
- wirio data'r cynllun sydd ganddynt ar gyfer eu holl aelodau
- cysylltu ag aelodau a adawodd y cynllun flynyddoedd yn ôl
- cytuno ar unrhyw Isafswm Pensiwn Gwarantedig gyda'r Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
- cynnal prisiad o'r cynllun i weld a ellir cwrdd â buddion aelodau yn llawn
Ac mae'r rhain i gyd yn cymryd amser. Fodd bynnag, mae rhaid i'r Ymddiriedolwyr roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am yr hyn sy'n digwydd bob 12 mis.
Beth fydd yn digwydd os nad oes gan fy nghynllun buddion wedi’u diffinio ddigon o arian i dalu'r buddion a addawyd?
Diogelir y math hwn o gynllun gan y Gronfa Diogelu Pensiwn (PPF).
Efallai y bydd y PPF yn camu i mewn ac yn talu incwm ymddeol aelodau fel iawndal os daw cyflogwyr yn fethdalwr ac nad oes gan y cynllun ddigon o arian i dalu eu buddion.
Bydd actiwari’r cynllun yn cynnal prisiad i weld a fyddai’r asedau’n cefnogi o leiaf yr iawndal a ddarperir gan y Gronfa Diogelu Pensiwn (PPF).
Os bydd yr asedau’n darparu mwy na’r iawndal y PPF, ni fydd y cynllun yn mynd i mewn i’r PPF a bydd eich buddion yn cael eu prynu allan gyda chwmni yswiriant. Os na fydd yr asedau yn y cynllun yn cefnogi lefel iawndal y PPF, bydd y cynllun yn symud i'r PPF.
Yn y naill achos neu'r llall, efallai na fyddai'r incwm a gewch yr un fath â phe na bai'r cyflogwr wedi mynd i'r wal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Y Gronfa Diogelu Pensiwn
Mae fy nghyflogwr yn cau cynllun buddion wedi’u diffinio oherwydd ei fod yn rhy ddrud
Mae fy nghyflogwr (sy'n gweithredu cynllun buddion wedi’u diffinio) yn ceisio osgoi talu i mewn i'r cynllun oherwydd ei fod yn mynd yn rhy ddrud. Maent yn awgrymu i'r holl weithwyr bod y cynllun yn cael ei ddirwyn i ben a'i ddisodli gan gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio. Pa gamau allwn eu cymryd?
Mae rhaid i'r cyflogwr sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r mesurau yn Neddf Pensiynau 2004 sy'n atal cyflogwyr rhag cerdded i ffwrdd o'u cyfrifoldebau o dan gynlluniau buddion wedi’u diffinio.
Os yw'r cyflogwr yn penderfynu stopio talu i mewn i gynllun buddion wedi’u diffinio, mae hyn yn golygu na fydd aelodau yn y cynllun yn cronni pensiwn pellach. Cyn belled â'u bod yn dilyn unrhyw ymgynghoriadau gofynnol â gweithwyr ac unrhyw undeb llafur, nid oes unrhyw beth y gellir ei wneud i atal hyn, gan ei fod yn benderfyniad masnachol gan y cyflogwr.
Y cyflogwr yw noddwr y cynllun. Ac os penderfynant stopio gwneud cyfraniadau, gallai hyn sbarduno dirwyn i ben o dan reolau'r cynllun.
Yr unig opsiwn yw i'r gweithwyr geisio argyhoeddi'r cyflogwr i dalu cymaint ag y gallant ei fforddio i'r cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio newydd. Mae hyn oherwydd bod cyfraniad y cyflogwr yn debygol o fod yn llawer llai i'r cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio nag i'r cynllun buddion wedi’u diffinio.
Daeth fy nghyflogwr yn fethdalwr ac mae fy mhensiwn wedi'i leihau
Daeth fy nghyflogwr yn fethdalwr ac mae'r cynllun pensiwn yn y cyfnod asesu ar gyfer y Gronfa Diogelu Pensiwn (PPF). Cymerais ymddeoliad cynnar ac er nad ydym eto yn y PPF, mae'r gweinyddwyr wedi lleihau fy mhensiwn
Tra bydd y cynllun yn y cyfnod asesu, bydd rhaid cyfyngu buddion i lefelau'r Gronfa Diogelu Pensiwn (PPF).
Os ar ddiwedd y cyfnod asesu bydd gan y cynllun ddigon o asedau i o leiaf gwrdd â'r iawndal PPF, bydd eich buddion yn cael eu prynu allan gyda chwmni yswiriant.
Mae faint o asedau'r cynllun sy'n fwy na buddion iawndal PPF yn penderfynu faint y byddwch yn ei gael yn y dyfodol.