Ystyried a ddylech gynilo neu fuddsoddi? Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i benderfynu sut i gronni eich cynilion a beth mae’n golygu i fuddsoddi arian. Mae hefyd yn ymdrin â gwybodaeth sylfaenol ynghylch cynllunio eich cyllid ar gyfer cynilion byrdymor a buddsoddiadau hirdymor.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cynilo a buddsoddi?
Mae cynilo a buddsoddi yn ddwy ffordd wahanol o ddelio â’ch arian.
Cynilo
Mae cynilo fel rhoi eich arian mewn lle diogel, fel cyfrif banc, lle mae modd cael mynediad âto’n hawdd pryd bynnag y byddwch chi ei angen. Mae'n risg isel, sy'n golygu eich bod yn annhebygol o golli'ch arian.
Buddsoddi
Mae buddsoddi yn golygu rhoi eich arian mewn pethau fel cyfranddaliadau cwmni, neu mewn eiddo. Gallwch wneud hyn naill ai drwy brynu'r asedau'n uniongyrchol, neu drwy gronfa fuddsoddi ar y cyd lle mae'ch arian yn cael ei gyfuno ag arian buddsoddwyr eraill. Mae hyn yn dod â rhywfaint o risg oherwydd gall y gwerth fynd i fyny neu i lawr, ond mae cyfle am wobrwyon uwch o gymharu â chynilo.
Pwy ddylai gynilo ?
1. Sefydlu cronfa argyfwng
Dylai pawb wneud ei orau i gronni cronfa cynilo ar gyfer argyfyngau.
Mae’n syniad da i gael o leiaf tri i chwe mis o gostau byw wedi’u gronni mewn cyfrif cynilo sydd ar gael yn syth. Dylai hyn gynnwys rhent, bwyd, ffioedd ysgol ac unrhyw wariant hanfodol arall.
Mae eich cronfa argyfwng yn golygu bod gennych ryw sicrwydd ariannol os bydd rhywbeth yn mynd o’i le.
2. Parhau i gynilo
Ar ôl i chi gronni cronfa argyfwng, efallai y byddwch eisiau ystyried gosod nodau cynilo i chi'ch hun er mwyn cronni arian i brynu'r pethau rydych chi eu heisiau.
Gallech hefyd ddechrau meddwl am fuddsoddi eich arian os na fydd ei angen arnoch yn y pum mlynedd nesaf.
Pryd na ddylech gynilo ?
Yr unig bryd na ddylech gynilo neu fuddsoddi yw os oes angen arnoch gael rheolaeth o’ch dyledion.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
A ddylech gynilo arian neu dalu dyledion benthyg a chardiau credyd?
Beth yw yswiriant bywyd?
A ydych yn barod i fuddsoddi ?
Cyn dewis buddsoddi eich arian, cofiwch fod risg bob amser y gall eich buddsoddiadau ostwng yn ogystal â chynyddu. Mae hynny'n golygu y gallech golli arian .
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn barod, darllenwch ein canllaw dechreuwyr i fuddsoddi
Mae dewis a yw buddsoddi'n iawn i chi hefyd yn dibynnu ar:
- faint o arian parod sydd gennych ar gael
- Eich agwedd bersonol tuag at risg a gallu i golli arian
- beth yw eich amgylchiadau personol.
Mae angen i chi ystyried eich nodau hefyd – yn benodol os ydynt yn dymor hir, tymor byr neu dymor ganolig :
- mae nodau tymor byr yn bethau rydych yn bwriadu eu gwneud o fewn y pum mlynedd nesaf, fel gwyliau
- mae nodau tymor canolig yn bethau rydych yn bwriadu eu gwneud o fewn y pump i ddeng mlynedd nesaf, fel blaendal morgais
- mae nodau tymor hwy yn rhai lle nad oes angen yr arian arnoch am ddeng mlynedd neu fwy, fel cronfa ymddeol.
Nodau tymor byr
Ar gyfer eich nodau tymor byr, y rheol gyffredinol yw cynilo i mewn i adneuon arian parod, fel cyfrifon banc.
Efallai y bydd y farchnad stoc yn cynyddu neu’n gostwng yn y tymor byr, ac os ydych buddsoddi am lai na phum mlynedd efallai y byddwch yn colli arian.
Nodau tymor canolig
Ar gyfer y tymor canolig, efallai mai adneuon arian parod yw'r ateb gorau. Ond mae'n dibynnu ar faint o risg rydych yn barod i'w chymryd â'ch arian i sicrhau mwy o enillion ar eich buddsoddiad.
Er enghraifft, os ydych yn bwriadu prynu eiddo mewn saith mlynedd a'ch bod yn gwybod y bydd angen eich holl gynilion arnoch fel blaendal ac nad ydych am fentro'ch arian, gallai fod yn fwy diogel rhoi eich arian mewn cyfrif cynilo.
Fodd bynnag, cofiwch y bydd eich cynilion yn dal i fod mewn perygl o chwyddiant.
Dyma lle mae'r llog rydych yn ei ennill ar eich cynilion yn methu â chadw i fyny â chyfradd chwyddiant felly mae pŵer prynu eich arian yn cael ei leihau.
Os yw'ch anghenion yn fwy hyblyg, efallai y byddwch yn ystyried buddsoddi'ch arian. Mae hyn ar yr amod eich bod yn barod i gymryd rhywfaint o risg â'ch cyfalaf gwreiddiol i geisio sicrhau mwy o enillion ar eich buddsoddiad nag a fyddai'n bosibl trwy gynilo ar eich pen eich hun.
Nodau tymor hwy
Ar gyfer nodau tymor hwy, efallai yr hoffech ystyried buddsoddi. Mae hyn oherwydd y gall chwyddiant effeithio'n ddifrifol ar werth cynilion arian parod yn y tymor canolig a'r tymor hir.
Mae buddsoddiadau ar y farchnad stoc yn tueddu i wneud yn well nag arian parod dros y tymor hir, gan roi cyfle i gael mwy o enillion ar unrhyw arian a fuddsoddir dros amser.
Gallwch ostwng lefel y risg rydych yn ei chymryd pan fyddwch yn buddsoddi trwy ledaenu'ch arian ar draws gwahanol fathau o fuddsoddiadau. Gelwir hyn yn arallgyfeirio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw buddsoddi i ddechreuwyr
Cael cyngor
Wrth fuddsoddi, mae'n syniad da ystyried a fyddech yn elwa o gyngor proffesiynol gan gynghorydd ariannol annibynnol rheoledig.