Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn arian rheolaidd y gallwch ei hawlio gan y llywodraeth i helpu pan fyddwch yn ymddeol. Darganfyddwch faint o Bensiwn y Wladwriaeth byddwch yn ei gael, yr oedran y gallwch ei hawlio a sut i wneud cais.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Pensiwn y Wladwriaeth?
- Pryd y gallaf wneud cais am fy Mhensiwn y Wladwriaeth?
- Faint yw Pensiwn y Wladwriaeth?
- Gwiriwch faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych yn debygol o’i gael
- Ffyrdd o gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth
- Sut i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth
- Treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth
- Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn
- Beth sy'n digwydd i'ch Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn marw
Beth yw Pensiwn y Wladwriaeth?
Cynlluniwyd Pensiwn y Wladwriaeth i roi incwm ymddeoliad rheolaidd i chi gan y llywodraeth, hyd yn oed os oes gennych incwm neu bensiynau eraill.
Ar ôl i chi ei hawlio, fel arfer caiff ei dalu bob pedair wythnos, yn hytrach na’r un dyddiad bob mis.
Pryd y gallaf wneud cais am fy Mhensiwn y Wladwriaeth?
Gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl i chi gyrraedd oedran penodol, sy’n amrywio yn dibynnu ar bryd y cawsoch eich geni.
Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd yn gyflym ar GOV.UK ond dyma ganllaw.
Eich dyddiad geni |
Pryd y gallwch fel arfer hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth |
6 Hydref 1954 i 5 Ebrill 1960 |
Eich pen-blwydd yn 66 oed |
6 Ebrill 1960 i 5 Ebrill 1977 |
Rhwng 66 a 67 oed – dyddiad penodol yn dibynnu ar eich dyddiad geni |
6 Ebrill 1977 i 5 Ebrill 1978 |
Rhwng 67 a 68 oed – dyddiad penodol yn dibynnu ar eich dyddiad geni |
Ar ôl 6 Ebrill 1978 |
Eich pen-blwydd yn 68 oed |
Ar hyn o bryd gallwch gymryd pensiwn preifat, gan gynnwys rhai pensiynau gweithle, o 55 oed (yn cynyddu i 57 oed o 2028).
Mae hyn yn golygu y gallech ddewis ymddeol cyn y gallwch wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth. Yn yr un modd, gallwch barhau i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth a pharhau i weithio.
Faint yw Pensiwn y Wladwriaeth?
Mae faint y byddwch yn ei gael yn eich Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar sawl blwyddyn rydych wedi gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Gelwir y rhain yn flynyddoedd cymhwyso.
Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd byddwch fel arfer angen o leiaf:
- 35 mlynedd o gyfraniadau cymwys i gael y swm llawn (£221.20 yr wythnos ar hyn o bryd), a
- deg mlynedd gymhwyso i gael unrhyw beth (£63.20 yr wythnos ar hyn o bryd).
Byddwch yn cael swm rhyngddynt os oes gennych 11 i 34 mlynedd o gyfraniadau cymhwyso.
Fel arfer gwneir cyfraniadau Yswiriant Gwladol cymwys:
- gan eich cyflogwr, gan gynnwys swm a dynnwyd o'ch cyflog
- fel rhan o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn hunangyflogedig
- gan ddefnyddio credydau Yswiriant GwladolYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol fel Budd-dal Plant, Credyd Cynhwysol a Lwfans Ceisio Gwaith.
Gallwch hefyd dalu am gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod a rhoi hwb i’r swm a gewch.
Os oeddech wedi eich eithrio o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth cyn Ebrill 2016
Efallai y bydd angen mwy na 35 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol cymwys arnoch i gael Pensiwn y Wladwriaeth lawn os oeddech:
- yn gweithio cyn Ebrill 2016 gyda phensiwn gweithle neu bensiwn personol, a
- ‘wedi eithrio’ o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth (a elwir yn ‘SERPS’).
Roedd hyn yn golygu eich bod chi a’ch cyflogwr yn talu llai o Yswiriant Gwladol i’r llywodraeth, yn aml gan fod rhywfaint o’r arian yn cael ei dalu i’ch pensiwn gweithle neu bensiwn personol yn lle.
Gweler Wedi Eithrio o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wirio a oeddech wedi’ch eithrio.
Os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn Ebrill 2016
Cyfrifir eich Pensiwn y Wladwriaeth yn wahanol os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, gan y byddwch yn gwneud cais am yr hen Bensiwn y Wladwriaeth gyda dwy ran. Gweler GOV.UK am ragor o wybodaeth am:
- Bensiwn Sylfaenol y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd
- Pensiwn ychwanegol y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd – gan gynnwys os oeddech wedi’ch eithrio.
Gwiriwch faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych yn debygol o’i gael
Gallwch wirio eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Bydd hyn yn dangos i chi:
- faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych yn debygol i’w gael
- ffyrdd o’i gynyddu os ydych yn annhebygol o gael yr uchafswm, a
- pryd y gallwch wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch hefyd wneud cais drwy’r postYn agor mewn ffenestr newydd neu ffonio llinell gymorth Canolfan Pensiwn y DyfodolYn agor mewn ffenestr newydd i gael copi o’ch rhagolwg, ar yr amod na fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd o fewn 30 diwrnod.
Ffyrdd o gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth
Os yw eich rhagolwg Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd yn dangos efallai na fyddwch yn gymwys ar gyfer y swm llawn, mae rhai pethau y gallech eu gwneud:
- Gwiriwch a allwch hawlio credydau Yswiriant Gwladol am ddim ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd Er enghraifft, os ydych yn ofalwr di-dâl neu’n chwilio am waith. Gellir ôl-ddyddio rhai hawliadau.
- Ystyriwch dalu am gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod. Gweler ein canllaw Cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol am ragor o wybodaeth.
- Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd, gwnewch gais am Gredyd Pensiwn i ychwanegu at eich incwm. Gweler ein canllaw Credyd Pensiwn am ragor o wybodaeth.
Gallwch hefyd roi hwb i’r swm a gewch drwy ohirio eich cais am Bensiwn y Wladwriaeth, hyd yn oed os ydych yn gymwys i gael y swm llawn.
Gweler ein canllaw Cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth drwy ohirio eich cais am ragor o help.
Sut i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth
Ni thelir eich Pensiwn y Wladwriaeth yn awtomatig. Dyma’r camau i’w hawlio:
- Dylech dderbyn llythyr tua phedwar mis cyn i chi gyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth gyda chod gwahoddiad.
Os nad ydych wedi ei dderbyn tri mis cyn i chi droi oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu os ydych wedi ei golli, gallwch ofyn am god gwahoddiad ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- Defnyddiwch eich cod gwahoddiad i wneud cais, yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Nid oes terfyn amser i chi wneud cais.
Os ydych yn byw yn: | Gwnewch gais am eich Pensiwn y Wladwriaeth: |
---|---|
Yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban |
Ar-lein: Cael eich Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
|
Yng Ngogledd Iwerddon |
Ar-lein: Cael eich Pensiwn y Wladwriaeth ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
|
Tu fas i’r DU |
Treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth
Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch fel arfer yn dal i dalu Treth Incwm os ydych yn ennill mwy na £12,570 y flwyddyn – gan gynnwys yr incwm o’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Ond ni fydd yn rhaid i chi wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar incwm o’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei dalu i chi heb i dreth gael ei didynnu. Yn lle, bydd eich cod treth fel arfer yn cael ei newid felly byddwch yn talu unrhyw dreth ychwanegol sy’n ddyledus o’ch incwm arall – fel eich cyflog neu bensiwn arall.
Os ydych chi’n hunangyflogedig neu os oes gennych chi fath gwahanol o incwm, fel o rentu eiddo, mae’n debygol y bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn
Mae eich swm Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol yn cynyddu ym mis Ebrill bob blwyddyn, yn seiliedig ar system a elwir yn glo triphlyg. Mae hyn yn golygu bod y cynnydd yn cyfateb i un o dair canran, gyda’r llywodraeth yn dewis yr uchaf o:
- faint mae costau cyffredinol sydd wedi codi (chwyddiant), yn seiliedig ar Fynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) mis Medi blaenorol
- y cynnydd cyfartalog mewn cyflogau rhwng Mai a Gorffennaf y flwyddyn flaenorol, neu
- 2.5%.
Mae hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o daliadau Pensiwn y Wladwriaeth, ond mae dau eithriad. Mae’r rhain yn cynyddu yn unol â CPI yn lle:
- Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth – rhan o hen Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael pe baech yn cyrraedd oedran pensiwn cyn 6 Ebrill 2016.
- Unrhyw swm ychwanegol os penderfynoch oedi (gohirio) cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Beth sy'n digwydd i'ch Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn marw
Yn gyffredinol, bydd eich taliadau Pensiwn y Wladwriaeth yn dod i ben pan fyddwch yn marw. Ond efallai y bydd eich priod neu bartner sifil yn gallu etifeddu rhywfaint o’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch ddefnyddio’r teclyn Pensiwn y Wladwriaeth a’ch partner ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd i wirio a ydych yn gymwys.
Am fwy o help, gweler ein canllawiau eraill: