Gwirio fy mhensiwn a chynnydd fy nghynilion ymddeol

I wneud yn siŵr eich bod ar y trywydd iawn i gyrraedd eich targedau ar gyfer eich ymddeoliad, mae’n bwysig adolygu eich cynilion pensiwn yn rheolaidd. Bydd hyn yn helpu i amcangyfrif yr incwm y maent yn debygol o’i gynhyrchu pan fyddwch yn ymddeol. Os bydd eich cynilion yn brin, y cynharaf y sylwch ar hynny, yr hawsaf fydd cywiro’r sefyllfa.

Ble i ddechrau a pha ffigurau i’w defnyddio

Isod, rydym yn egluro ble i gael amcangyfrifon o’r incwm ymddeoliad misol y gallwch ei ddisgwyl o wahanol fathau o bensiynau.

Nid oes angen i chi boeni am effeithiau chwyddiant rhwng nawr a’ch ymddeoliad oherwydd bydd y datganiadau pensiwn a’r rhagolygon isod yn rhoi amcangyfrifon o’ch incwm pensiwn yn y dyfodol fel “arian heddiw”.

Cofiwch fod yr holl amcangyfrifon yn cael eu dangos cyn treth.

Cael amcangyfrifon ar gyfer eich ffynonellau incwm posibl ar ôl ymddeol

Casglwch y manylion ar gyfer yr holl bensiynau, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych. Ar ôl i chi gael y rhain, gofynnwch am amcangyfrifon gan bob un ohonynt i'ch helpu i ddeall faint o arian y gallech ei gael o bob ffynhonnell pan fyddwch yn ymddeol, gan gynnwys cynilion a buddsoddiadau eraill. 

Gwirio eich Pensiwn y Wladwriaeth

Mae’n syniad da i ofyn yn rheolaidd am ddatganiad Pensiwn y Wladwriaeth i chi allu gweld faint rydych wedi ei gronni hyd yn hyn.

Gallwch wneud cais am un ar-lein neu dros y ffôn neu drwy’r post - os ydych yn 16 oed neu drosodd ac yn o leiaf 30 diwrnod i ffwrdd o’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Gwirio eich pensiynau budd-dal diffiniedig (cyflog terfynol)

Mae’r rhain yn talu incwm ymddeoliad yn seiliedig ar eich cyflog ac ers pa bryd y buoch chi’n aelod o’r cynllun.

Fe’i gelwir hefyd yn gynllun pensiwn ‘cyflog terfynol’ neu ‘gyfartaledd gyrfa’.

Fel arfer maent ond yn gynlluniau pensiwn sector cyhoeddus neu gynlluniau gweithle hŷn.

Os ydych yn perthyn i un, fel arfer fe anfonir datganiad buddion blynyddol i chi gan eich darparwr pensiwn.

Os nad ydych yn cael datganiad, gallwch ofyn am un.

Mae’r datganiad yn dangos faint o bensiwn allech chi ei gael. Efallai y bydd yn tybio eich bod yn cymryd eich cyfandaliad di-dreth.

Gwirio eich pensiynau cyfraniad diffiniedig (prynu arian)

Gyda’r cynlluniau hyn, rydych yn adeiladu cronfa o arian y gallwch yna ei ddefnyddio i ddarparu incwm mewn ymddeoliad.

Mae gwerth eich cronfa yn seiliedig ar:

  • eich cyfraniadau
  • cyfraniadau eich cyflogwr (os yw’n berthnasol)
  • elw ar fuddsoddiadau a gostyngiad treth.

Mae cynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio yn cynnwys pensiynau’r gweithle a phersonol.

Gellir rhedeg cynlluniau trwy gwmni yswiriant, darparwr ‘master trust’, neu gallwch fod yn aelod o gynllun unigryw a sefydlwyd gan eich cyflogwr.

Bydd eich cyfriflen flynyddol yn darparu amcan bris o werth y pot yn y dyfodol, yn ogystal â’r incwm ymddeoliad rheolaidd mae’ch pensiwn yn debygol o’i gynhyrchu. Mae hyn yn seiliedig arnoch yn defnyddio eich cronfa bensiwn i brynu incwm gwarantedig am oes (a elwir hefyd yn flwydd-dal). Ond mae gennych opsiynau eraill.

Gwirio eich ffynonellau incwm ymddeol eraill

Yn ogystal â’ch pensiynau, efallai y bydd gennych gynilion a buddsoddiadau eraill a fydd yn cynhyrchu incwm i chi ar ôl i chi ymddeol. Er enghraifft adneuon arian parod, buddsoddiadau mewn cyfranddaliadau neu eiddo rydych yn ei rentu allan. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael datganiadau neu wybodaeth ar gyfer y rhain. 

Gallwch gynnwys eich holl ffynonellau incwm yn y dyfodol, gan gynnwys cynilion a buddsoddiadau eraill sydd gennych. 

Defnyddio ein dudalen waith cynllunio ymddeoliad i weld eich cynnydd

I weithio allan a ydych yn talu digon i’ch pensiynau, mae angen i chi gael syniad pa gostau fydd gennych chi mewn ymddeoliad a pha fath o ffordd o fyw yr hoffech ei gael.

Ystyriwch gostau hanfodol fel biliau bwyd a chyfleustodau, a hefyd gwariant fel adloniant a gwyliau.

Er mwyn eich helpu i wneud hyn gallwch lawrlwytho a chwblhau ein taflen Cyllidebu mewn ymddeoliad (Opens in a new window) (PDF/A, 123KB)

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Mae’r ‘Retirement Living Standards’, a gynhyrchwyd gan y Gymdeithas Pensiynau a Chynilion Gydol Oes, yn dangos i chi sut mae bywyd ar ôl ymddeol yn edrych fel ar dair lefel wahanol. Ac mae’n dangos beth fyddai ystod o nwyddau a gwasanaethau cyffredin yn ei gostio ar bob lefel. Gall hwn fod yn fan cychwyn i’ch helpu chi i ystyried faint o arian y byddwch ei angen i ariannu’ch ymddeoliad.  

Neu, i’ch helpu i gymharu faint o incwm y gallech efallai ei gael pan fyddwch yn  ymddeol â faint o incwm y gallech fod ei angen - defnyddiwch ein Cyfrifiannell pensiwn.

Eich camau nesaf

P’un a ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi bod yn cynilo digon neu’n teimlo y gallech wneud gyda mwy o help, mae gennym ni ganllawiau eraill ar eich cyfer ar ein gwefan.

Mae’n wych os yw’ch cynilion ar y trywydd iawn. Ond efallai y bydd pethau y gallwch chi eu gwneud i wneud iddynt weithio'n galetach fyth i chi.

Ydych chi'n meddwl eich bod chi efallai wedi colli trywydd rhai o’ch pensiynau? 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.