Math o orchymyn llys yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw Dyfarniad Llys Sirol (CCJ) y gellir ei gofrestru yn eich erbyn os na fyddwch yn ad-dalu arian sydd gennych yn ddyledus. Draganfyddwch fwy am beth i’w wneud os cewch ffurflen hawlio Llys Sirol. Weithiau fe gyfeirir at CCJ fel Gwŷs Llys Sirol ac yn yr Alban gelwir y broses yn gorfodi dyled trwy ddiwydrwydd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth i’w wneud pan fyddwch yn derbyn llythyr ffurflen hawlio CCJ
- Derbyn rhybudd diofyn
- Sut i ymateb i’r hawliad CCJ
- Dyddiad cau ar gyfer ymateb i ffurflen hawlio
- Derbyn y dyfarniad
- Os nad ydych chi’n cadw at delerau CCJ
- Gorchymyn Atafaelu Enillion
- Sut mae dyfarniad llys sirol yn effeithio ar eich cofnod credyd
- Sut i ganslo/‘roi o’r neilltu’ CCJ
- Sut i gael CCJ wedi’i farcio fel ‘wedi ei fodloni’
- Sut i osgoi cael CCJ
- Yn Yr Alban - gorfodi dyled trwy ddiwydrwydd
Beth i’w wneud pan fyddwch yn derbyn llythyr ffurflen hawlio CCJ
Ni fydd ffurflen hawlio CCJ ymddangos yn annisgwyl. Mae yna sawl cam y mae'n rhaid i'ch credydwr eu cymryd cyn i bethau gyrraedd y cam hwn.
Derbyn llythyr hawlio
Cyn y gall credydwr ddechrau unrhyw achos llys rhaid iddo geisio dod i gytundeb â chi’n gyntaf. Protocol cyn gweithredu ar gyfer ceisiadau dyled yw hwn.
Dylech eisoes fod wedi derbyn llythyr ffurflen hawlio yn rhoi sawl opsiwn i chi ddod i gytundeb ac roedd angen i chi ymateb o fewn 30 diwrnod cyn y gall eich credydwr gyhoeddi rhybudd diofyn cyn dechrau hawlio CCJ.
Darganfyddwch fwy am lythyr ffurflenni hawlio a sut i ymateb ar wefan StepChange
Derbyn rhybudd diofyn
Os nad ydych chi a'ch credydwr wedi gallu dod i drefniant neu os na wnaethoch ymateb i'r llythyr hawlio o fewn 30 diwrnod, rhaid iddynt anfon llythyr rhybuddio neu rybudd diofyn atoch, gan adael i chi wybod bod angen i chi ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych, fel arall bydd achos cyfreithiol yn dechrau.
Ar gyfer cytundebau credyd a reoleiddir o dan y Ddeddf Credyd Defnyddiwr, rhaid anfon rhybudd diofyn atoch, o leiaf 14 diwrnod cyn cymryd unrhyw gamau.
Dylai'r llythyr neu'r rhybudd ddweud wrthych sut y gallwch ymateb a pha gamau y gellir eu cymryd os na wnewch hynny.
Rhaid iddo hefyd gynnwys copi o daflen wybodaeth ddiofyn yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Darganfyddwch fwy am daflenni gwybodaeth ar wefan yr FCA
Sut i ymateb i’r hawliad CCJ
Os na wnaethoch ymateb i'r rhybudd diofyn neu os nad oeddech yn gallu dod i gytundeb, bydd y credydwr yn cyhoeddi ffurflen hawlio CCJ.
Os byddwch yn cael un o’r llythyrau neu hysbysiadau hyn, mynnwch gyngor ar unwaith. Bydd hyn yn gadael i chi ddelio gyda’r hawliad yn gywir er mwyn i’r llys allu ystyried eich amgylchiadau pan fyddant yn penderfynu sut ddylech chi ad-dalu’r ddyled.
Os byddwch yn anwybyddu’r llythyr neu hysbysiad, bydd y llys yn dal i gyhoeddi’r dyfarniad ond ni fydd yn gallu rhoi ystyriaeth i’ch amgylchiadau.
Gallai’r llys, er enghraifft, eich gorchymyn i ad-dalu’r ddyled fel un swm pan fyddai’n amhosib i chi fedru gwneud hynny.
Darllenwch ragor am ddelio gyda dyfarniadau CCJ ar wefan Registry Trust Online
Dyddiad cau ar gyfer ymateb i ffurflen hawlio
Pan fyddwch yn derbyn ffurflen hawlio, mae gennych 14 diwrnod yn unig i ymateb, . oni bai mae angen i chi ofyn am estyniad, Mae’n bwysig nad ydych yn ei hanwybyddu. Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen ymateb sy’n cynnwys ffurflen Incwm a Gwariant – yn nodi manylion eich holl incwm a’ch alldaliadau.
Bydd hyn yn dangos i’r llys faint o arian sydd gennych i glirio’r ddyled.
Mae eich opsiynau’n cynnwys:
- Filing a defence if you disagree with the amount you owe.
- Cyfaddef yr hawliad os cytunwch fod yr arian yn ddyledus gennych i’r credydwyr sy’n hawlio. Bydd angen i chi gwblhau ffurflen hefyd sy’n rhoi manylion i’r llys am eich amgylchiadau ariannol a bydd gofyn i chi wneud cynnig o daliad.
- Cyflwyno cydnabyddiaeth o wasanaeth os bwriadwch amddiffyn yn erbyn yr hawliad ond eich bod angen mwy na 14 diwrnod i baratoi’ch amddiffyniad.
Darganfydwch fwy am sut i ddelio â CCJ a llenwi ffurflenni ar y gwasanaeth cyngor ar ddyled am ddim ar wefan StepChange
Derbyn y dyfarniad
Ar ôl i'r llys edrych ar yr holl waith papur, gallant gyhoeddi:
- dyfarniad mewn rhandaliadau, lle talwch y ddyled dros gyfnod o amser, neu
- ddyfarniad ar unwaith, pan fydd y swm cyfan yn ddyledus ar unwaith.
Mae'n syniad da mynd i'r llys oherwydd gallai roi cyfle i chi roi eich ochr chi a chytuno ar ad-daliad addas os bydd dyfarniad yn cael ei wneud yn eu herbyn. Ond nid yw'n orfodol.
Os ydych chi wedi cyfaddef i’r hawliad ac wedi gwneud cynnig o daliad misol, mae’n debygol y byddwch yn derbyn dyfarniad mewn rhandaliadau.
Gosodir y gyfradd ad-dalu fisol gan y llys drwy ddefnyddio’r wybodaeth a roesoch ar eich ffurflen gyfaddefiad.
Os nad ydych yn ymateb i’r hawliad ac nad yw’r llys yn gallu ystyried eich amgylchiadau, byddant yn dal i gyflwyno dyfarniad yn eich erbyn.
Gelwir hyn yn ddyfarniad diffygdalu a gall fod yn ddyfarniad mewn rhandaliadau neu’n ddyfarniad ar unwaith.
Yn y naill achos, gallwch ofyn i’r llys edrych ar hyn eto os yw’r ad-daliadau’n fwy na’r hyn sy’n rhesymol i chi allu ei fforddio. Gelwir hyn yn ailbenderfyniad.
Mae gan broses CCJ reolau gwahanol yn dibynnu p’un a ydych wedi bodloni graddfeydd amser penodol.
Darganfyddwch fwy am y broses CCJ ar wefan StepChange
Os nad ydych chi’n cadw at delerau CCJ
Os byddwch yn derbyn CCJ ac nad ydych yn cadw at y telerau a nodir ynddo, gall y credydwr ofyn i’r llys orfodi’r ddyled.
Mae sawl ffordd y gall wneud hynny:
- camau gan feili.
- gorchymyn tâl.
- gorchymyn Atafaelu Enillion.
Camau gan feili
Gall credydwr wneud cais i’r llys sirol i feili gasglu’r ddyled. Os bydd y llys yn caniatáu hynny, bydd yn cyhoeddi Gwarant Weithredu.
Mae hyn yn rhoi awdurdod i feili ymweld â’ch cartref neu’ch busnes i gasglu’r arian sydd gennych yn ddyledus, neu i feddiannu nwyddau a allai gael eu gwerthu i ad-dalu’r ddyled.
Gallwch ofyn i’r llys atal y warant a gadael i chi dalu’n ôl yr hyn sydd gennych yn ddyledus ar gyfradd fforddiadwy. Cewch help gan gynghorydd dyledion am ddim i wneud hyn.
Gorchymyn Atafaelu Enillion
Mae Gorchymyn Atafaelu Enillion yn gofyn i’r arian sy’n ddyledus gael ei dynnu allan o’ch cyflog gan eich cyflogwr.
Gorchymyn Tâl
Os ydych chi’n berchen ar eiddo (naill ai gyda morgais neu’n llwyr), gall y credydwr ofyn bod Gorchymyn Arwystlo yn cael ei sicrhau yn ei erbyn.
Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig iawn eich bod yn talu eich dyled yn ôl, pan fydd eich eiddo yn cael ei werthu neu ei ail-forgeisio a gallwch ddelio ag ad-dalu'r ddyled bryd hynny.
Fel dewis olaf, gall eich credydwr orfodi gwerthiant i adennill yr arian sy'n ddyledus iddo ond mae'n annhebygol ai hwn yw eich prif gartref ac yn enwedig os oes gennych bobl sy'n dibynnu arnoch chi yn byw yno hefyd.
Os byddwch yn derbyn Gorchymyn Tâl, ceisiwch gymorth gan gynghorydd dyledion cynghorydd dyled i ddarganfod mwy am yr hyn y mae hyn yn ei olygu i chi.
Sut mae dyfarniad llys sirol yn effeithio ar eich cofnod credyd
Bydd eich CCJ wedi’i gorfertu ar Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon (a gynhelir gan Registry Trust LtdYn agor mewn ffenestr newydd a chael ei wneud yn gyhoeddus ar ei wefan TrustOnlineYn agor mewn ffenestr newydd ble gall unrhyw un wneud chwiliad ar unigolyn neu fusnes), bydd hefyd ar eich ffeil gredyd.
Oni ydych yn talu CCJ yn llawn o fewn 30 diwrnod o dderbyn y dyfarniad, gallwch wneud cais drwy’r llys iddo gael ei ddileu; fel arall bydd yn aros ar y Gofrestr am chwe mlynedd.
Gall y cofnod hwn gael effaith ddifrifol ar eich gallu i gael morgais, cerdyn credyd neu hyd yn oed gyfrif banc yn y dyfodol. Mae hyn yn rheswm arall pam ei bod yn bwysig i chi beidio anwybyddu Dyfarniad Llys Sirol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wella eich sgôr credyd
Sut i ganslo/‘roi o’r neilltu’ CCJ
Bydd y llys yn rhoi dyfarniad o'r neilltu os yw wedi cael:
- ei roi drwy gamgymeriad
- ei dalu cyn dyddiad y llys
- ei ganslo oherwydd bod ad-daliad llawn wedi'i wneud o fewn un mis calendr o’r dyddiad y dyfarniad
Os cofnodwyd dyfarniad trwy gamgymeriad, gall cais gael ei wneud i'r llys i roi'r dyfarniad o'r neilltu am ffi llys o £255. Os ydych wedi talu'r CCJ yn llawn o fewn mis o ddyddiad y dyfarniad, gallwch wneud cais i'w roi o'r neilltu/ei ganslo trwy ddarparu prawf talu i'r llys.
Os caiff ei roi o'r neilltu neu ei ganslo, bydd y CCJ yn cael ei ddileu o'r Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon a bydd yr asiantaethau cyfeirio credyd yn cael eu hysbysu i'w ddileu o'u ffeiliau.
Os yw CCJ yn ymwneud â hawliad yswiriant yn erbyn unigolyn, bydd Ymddiriedolaeth y Gofrestrfa (sy'n cynnal y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon) yn hysbysu'r asiantaethau cyfeirio credyd i ddileu’r data’r dyfarniad o'u ffeiliau, ar ôl derbyn llythyr gwreiddiol wedi'i lofnodi ar ei bennawd papur gan yr yswirwyr neu gyfreithwyr yr yswiriwr yn nodi:
- Bod y dyfarniad yn ymwneud â hawliad yswiriant
- Enw'r Llys Sirol
- Rhif Achos
- Dyddiad y dyfarniad
- Swm y dyfarniad
Rhaid postio'r llythyr at:
Registry Trust Ltd
Insurance Cancellation Request
153-157 Cleveland Street
London
W1T 6QW
Neu e-bost at: [email protected]
Ewch i wefan Ymddiriedolaeth y GofrestrfaYn agor mewn ffenestr newydd i ddarganfod mwy a chysylltu â nhw gydag ymholiadau ynghylch canslo a bodloni CCJs.
Sut i gael CCJ wedi’i farcio fel ‘wedi ei fodloni’
Dangosir CCJs naill ai wedi ei fodloni neu wedi ei anfodloni ar y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon (a gynhelir gan Registry Trust LtdYn agor mewn ffenestr newydd). Mae ‘wedi ei fodloni’ yn golygu eich bod wedi talu’n llawn (nid yw setliadau rhannol yn cael eu cofnodi ar hyn o bryd), mae ‘ wedi ei anfodloni’ yn golygu nad ydych wedi gwneud hynny. Gallwch ofyn i'r llys i gywiro hyn os yw'n anghywir.
Os ydych wedi talu'r CCJ yn llawn fwy na mis calendr ar ôl dyddiad y dyfarniad, gallwch wneud cais i’w ddangos fel wedi ei fodloni trwy ddarparu prawf talu i’r llys.
Bydd y dyfarniad bodloni yn aros ar y Gofrestr am y chwe blynedd statudol o ddyddiad y dyfarniad ond yn dangos bod eich dyled wedi'i thalu'n llawn a'r dyddiad y cafodd ei thalu a bydd yr asiantaethau cyfeirio credyd yn cael eu hysbysu i'w dileu o'u ffeiliau. Os oes angen tystysgrif arnoch sy'n dangos bod eich cofnod wedi'i dalu, gallwch wneud cais i'r llys perthnasol am 'Dystysgrif o foddhad'. Mae yna ffi llys o £14 am y dystysgrif.
Darllenwch mwt am ddelio gyda CCJ ar wefan ar lein y Registry TrustYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i osgoi cael CCJ
Os ydych yn cael anhawster ad-dalu, siaradwch â chynghorydd dyledion am ddim, cyn i bethau gyrraedd cam lle mae'r llys yn cymryd rhan.
Gall roi cymorth i chi wneud cynnig i’ch credydwyr ac egluro’r opsiynau sydd ar gael i chi. Os ydych chi ar ei hôl hi gyda thaliadau, mae'n bwysig dilyn y camau hyn:
- Ymateb i'ch credydwr a llenwi unrhyw ffurflenni o fewn y dyddiadau cau a roddir i chi
- Os oes angen mwy o amser arnoch i gasglu tystiolaeth hanfodol, rhowch wybod i'ch credydwr cyn y dyddiad cau ar gyfer ymateb
- Sicrhewch eich bod yn llenwi datganiad ariannol fel y gallant weld faint y mae'n rhaid i chi ei dalu tuag at eich dyledion. Gall cynghorydd dyled am ddim eich helpu i wneud hyn.
Os ydych chi'n parhau i siarad â'ch credydwr a'r llys, dylech allu dod i drefniant sy'n caniatáu i chi fynd ymlaen i wneud taliadau y gallwch eu fforddio ac osgoi achos llys.
Yn Yr Alban - gorfodi dyled trwy ddiwydrwydd
Mae’r broses yn wahanol yn Yr Alban, ac fe’i gelwir yn ‘gorfodi dyled trwy ddiwydrwydd’.