Darganfyddwch fwy am sut mae Gorchymun Gostwng Dyled (DRO) yn gweithio ac ar gyfer pa ddyledion allwch chi ei ddefnyddio. Yna siaradwch gyda chynghorydd dyledion am p’un ai dyma’r ffordd orau i glirio eich dyledion.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Siaradwch ag ymgynghorydd dyled, am ddim
- Sut mae Gorchymyn Gostwng Dyled yn gweithio
- A allaf wneud cais am Orchymyn Gostwng Dyled?
- Pa ddyledion allaf i eu clirio gyda Gorchymyn Gostwng Dyled?
- Pa ddyledion na allaf i eu clirio gyda Gorchymyn Gostwng Dyled?
- Sut ydw i yn gwneud cais am Orchymyn Gostwng Dyled?
Siaradwch ag ymgynghorydd dyled, am ddim
Defnyddiwch ein Teclyn i ddod o hyd i ymgynghorydd dyled i ddod o hyd i gyngor ar ddyled sydd am ddim ac yn gyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at lle’r ydych chi’n byw.
Bydd ymgynghorydd dyled:
- yn trin popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol
- byth yn eich beirniadu chi nac yn eich gwneud i deimlo’n wael am eich sefyllfa
- yn awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â dyledion efallai nad ydych yn gwybod amdanynt
- yn gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi.
Mae tri chwarter o bobl sy’n cael cyngor ar ddyled yn teimlo mwy o reolaeth dros eu harian ar ôl hynny.
Sut mae Gorchymyn Gostwng Dyled yn gweithio
- gallai fod yn bosib os ydych ar incwm isel gydag ychydig iawn o asedau
- yn rhewi dyled am flwyddyn ac yna’n ei glirio’n gyfan gwbl os na fydd eich amgylchiadau wedi newid.
Wedi i Orchymyn Gostwng Dyled gael ei gytuno, nid ydych yn gwneud rhagor o daliadau i’r bobl y mae arnoch arian iddynt (eich credydwyr).
Nid yw’ch credydwyr yn debygol o gytuno i Orchymyn Gostwng Dyled oni bai ei bod hi’n annhebygol y llwyddwch fyth i glirio’ch dyledion.
Darganfyddwch fwy am fanteision ac anfanteision Gorchymyn Gostwng Dyled a ffyrdd eraill o dalu dyledion ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
A allaf wneud cais am Orchymyn Gostwng Dyled?
Gallwch wneud cais am Orchymyn Gostwng Dyled os:
- mae gennych ddyledion cymwys sy’n llai na £30,000. O 28 Mehefin 2024, os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr, bydd hwn yn cynyddu i £50,000 a byddwch yn gallu cadw unrhyw gerbydau modur gwerth hyd at £4,000.
- nid ydych yn berchen ar bethau o werth neu fod gennych dros £2,000 mewn cynilion
- mae gennych £75 neu lai dros ben bob mis ar ôl talu biliau cartref
- rydych wedi byw neu weithio yn Lloegr a Chymru o fewn y 3 mlynedd diwethaf.
Ni allwch wneud cais am Orchymyn Gostwng Dyled:
- os yw eich credydwyr wedi gwneud cais i’ch gwneud yn fethdalwr ond nad yw’r gwrandawiad wedi cael ei gynnal eto (oni bai bod eich credydwyr yn cytuno y gallwch barhau i wneud cais)
- os ydych chi wedi cael Gorchymyn neu Ymgymeriad Cyfyngiadau Methdaliad
- os ydych chi wedi deisebu am fod yn fethdalwr ond nad ymdriniwyd â’ch deiseb eto – fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol os ydych chi wedi deisebu am fod yn fethdalwr a bod y barnwr wedi’ch cyfeirio am orchymyn gostwng dyled yn lle
- os ydych chi’n fethdalwr ar hyn o bryd
- os oes gennych Drefniant Gwirfoddol Unigol neu’n gwneud cais am un
- os ydych chi wedi cael Gorchymyn Gostwng Dyled (gweler yr adran nesaf) yn y chwe blynedd diwethaf
- os ydych chi wedi cael Gorchymyn neu Ymgymeriad Cyfyngiad ar Ostwng Dyled.
Pa ddyledion allaf i eu clirio gyda Gorchymyn Gostwng Dyled?
Yr enw a roddir ar y dyledion allwch chi ddefnyddio Gorchymyn Gostwng Dyled ar eu cyfer yw dyledion cymhwyso.
Maent yn cynnwys arian sy’n ddyledus gennych ar:
- benthyciadau
- gorddrafftiau
- catalogau
- cardiau credyd
- rhent, Treth Cyngor
- biliau ffôn a chyfleustodau
- gordaliadau budd-dal
- cytundebau credyd mewn siop
- arian sy’n ddyledus i Gyllid a Thollau EM, fel treth incwm neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Os oes gennych ôl-ddyledion rhent
Mae'n bwysig sefydlu trefniant i dalu'r ôl-ddyledion rhent cyn i'r Gorchymyn Rhyddhad Dyled gael ei gyflwyno. Y peth gorau yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r landlord am yr hyn sy'n digwydd trwy gydol y broses cynghori ar ddyledion.
Os rhowch ôl-ddyledion rhent mewn Gorchymyn Rhyddhad Dyled, sefydlir trefniant rhyngoch chi a'r landlord fel arfer fel eich bod yn parhau i dalu'r ôl-ddyledion. Mae hyn yn berthnasol p'un a ydych yn denant preifat neu'n denant tai cymdeithasol.
Dylai gwneud hyn atal unrhyw achos llys rhag cael ei gymryd yn eich erbyn.
Os na fyddwch yn cadw i fyny â'r ad-daliadau, mae'n bosibl y bydd eich landlord yn cychwyn achos troi allan.
Gwiriwch eich cytundeb tenantiaeth
Bydd angen i chi wirio telerau eich cytundeb tenantiaeth oherwydd gall gynnwys Cymal Ansolfedd.
Mae hyn yn golygu os cymerwch Orchymyn Gostwng Dyled byddech yn torri eich cytundeb tenantiaeth a gallai'ch landlord gychwyn achos troi allan hyd yn oed os cytunwch i dalu'r ôl-ddyledion.
Os oes gennych ôl-ddyledion rhent ac yn ystyried Gorchymyn Gostwng Dyled mae'n bwysig iawn eich bod yn siarad ag ymgynghorydd dyled profiadol yn gyntaf. Os gallwch chi, gwnewch yn siŵr bod gennych chi gopi o'ch cytundeb tenantiaeth wrth law.
Os ydych chi mewn tai cymdeithasol, gall eich swyddog tai neu swyddog cymorth tenantiaeth eich helpu chi hefyd. Byddant yn gallu dod o hyd i gyngor dyled cyfrinachol am ddim i chi hefyd.
Pa ddyledion na allaf i eu clirio gyda Gorchymyn Gostwng Dyled?
Mae’r dyledion na allwch ddefnyddio Gorchymyn Gostwng Dyled ar eu cyfer yn cynnwys:
- benthyciadau myfyrwyr
- benthyciadau’r Gronfa Gymdeithasol
- gorchmynion atafaeliad
- dirwyon llys ynadon
- ôl-ddyledion cynhaliaeth a chynnal plant.
Ar gyfer yr holl ddyledion y gallwch ac ni allwch eu cynnwys mewn DRO, cysylltwch â chynghorydd dyledion am ddim.
Sut ydw i yn gwneud cais am Orchymyn Gostwng Dyled?
Dim ond trwy unigolyn cymeradwy o’r enw cyfryngwr y gallwch wneud cais am Orchymyn Gostwng Dyled. Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr cyngor ar ddyledion am ddim yn gyfryngwyr cymeradwy sy’n gallu’ch helpu chi.
Mae’n costio £90 i drefnu Gorchymyn Gostwng Dyled a gallwch dalu mewn rhandaliadau dros chwe mis. Fodd bynnag, mae angen i chi fod wedi talu’r ffi yn llawn cyn y gellir cyflwyno eich cais. O 6 Ebrill 2024, ni fydd angen i chi dalu’r ffi £90 i gael mynediad at DRO yng Nghymru a Lloegr. Os ydych yn byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gallwch wirio gyda’ch darparwr cyngor ar ddyledion lleol gan ddefnyddio ein teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion.
Pan fyddwch wedi gwneud cais ac wedi talu’r ffi, ac os ydych chi’n gymwys, bydd Derbynnydd Swyddogol yn rhoi’r Gorchymyn Gostwng Dyled.