Efallai bydd cynghorau yn rhoi dirwyon parcio, er enghraifft, os ydych wedi parcio’n beryglus neu mewn ardal waharddedig. Darganfyddwch beth i'w wneud os cewch ddirwy gan eich cyngor lleol.
Os ydych wedi derbyn rhybudd tâl cosb
Mae rhybudd tâl cosb (PCN) yn cael ei roi gan y cyngor ar dir cyhoeddus - fel maes parcio’r cyngor neu stryd fawr.
Mae’r dirwyon yn amrywio o £45 i £160. Mae’n dibynnu ar ble rydych yn y wlad a pha mor ddifrifol oedd eich trosedd parcio.
Mae’n bwysig peidio ag anwybyddu PCN. Os nad ydych wedi talu o fewn 28 diwrnod, cewch ‘dystysgrif arwystl’ – a bydd gennych 14 diwrnod i dalu’r ddirwy wreiddiol ynghyd â 50% yn fwy.
Cewch orchymyn llys yn mynnu taliad os na fyddwch yn talu tystysgrif arwystl o fewn 14 diwrnod. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
I ddeall mwy am ba gamau y gall asiant gorfodi eu cymryd, gwelwch y canllawiau i beiliaid (a elwir yn siryfion yn yr Alban):
- yng Nghymru a Lloegr, ar Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
- yn Yr Alban, ar Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
- yng Ngogledd Iwerddon, ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych o fewn y terfyn 28 diwrnod ac yn credu bod y PCN yn annheg, gallwch apelio. Os gwnewch hynny cyn pen 14 diwrnod a gwrthodir eich her, efallai mai dim ond 50% o’r ddirwy y bydd yn rhaid i chi ei thalu.
Dilynwch y camau ar eich tocyn oherwydd gall rheolau apelio amrywio. Mae gan Cyngor ar Bopeth ganllaw i’ch helpu â beth i’w ddweud.
Dirwyon parcio preifat neu gan yr heddlu
Mae’n bwysig gwirio pa fath o ddirwy parcio sydd gennych. Mae hyn oherwydd bod y rheolau ar gyfer delio â thaliadau a fethwyd yn wahanol.
Cyhoeddir tâl parcio preifat gan gwmni preifat. Yn aml bydd cwmnïau preifat yn rhedeg canolfannau parcio a meysydd parcio archfarchnadoedd.
Nid yw tocynnau parcio preifat yn ddirwyon swyddogol. Os ydych yn derbyn un a’ch bod yn meddwl ei fod yn annheg, gallwch ei apelio gyda’r dyfarnwr annibynnol Apeliadau Parcio ar Dir Preifat (POPLA).
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am apeliadau parcio ar dir preifat ar POPLA
Os ydych angen help i wneud eich apêl, ceir canllaw am ddim â llythyrau templed ar wefan MoneySavingExpert
Efallai cewch gosb parcio gan yr heddlu – a elwir weithiau’n Hysbysiad Cosb Sefydlog (FPN).
Am gyngor defnyddiol ar beth i’w wneud, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth
Ni allaf fforddio talu fy nirwy – beth ddylwn i ei wneud ?
A ydych wedi penderfynu peidio ag apelio ac na allwch ddod o hyd i ffordd i dalu’ch dirwy parcio? Mae’n well cael cyngor cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os oes gennych ddyledion eraill hefyd.
Gwelwch ein canllaw ar Sut i flaenoriaethu’ch dyledion i’ch helpu i weithio allan pa rai i’w talu’n gyntaf
Beth i’w wneud os ydych wedi methu taliadau am rybudd tâl cosb
Os ydych o fewn y terfyn 28 diwrnod, darganfyddwch a ydynt wedi ymestyn eu cyfnodau talu disgownt. Neu os gallant ymestyn y dyddiad y mae angen i chi ei dalu.
Os ydych wedi cael sawl dirwy parcio, efallai y bydd eich cyngor yn sefydlu cynllun talu neu talu fesyl dipyn pan fyddwch yn gwneud taliadau unigol.
Bydd yn helpu’ch achos os gallwch egluro faint y gallwch fforddio ei dalu trwy osod eich cyllideb bersonol.
Gwnewch gyllideb brys
Os ydych wedi colli rheolaeth ar eich arian, gall creu cyllideb eich helpu i ddod yn ôl ar y trywydd iawn. Os mai ychydig neu ddim arian sydd gennych ar ôl i ymdopi gyda’r diffyg mewn costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau incwm a chymorth eraill sydd ar gael i’ch helpu i reoli’ch arian.
Darganfyddwch pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt drwy ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2usYn agor mewn ffenestr newydd
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch wneud cais amdanynt a faint y gallech ei gael bob mis gyda'n cyfrifiannell budd-daliadau.
Os ydych yn poeni am eich cyllid, edrychwch ar beth rydych yn ei wario a pha incwm sydd gennych yn dod i mewn.
Defnyddiwch ein teclyn cynlluniwr Cyllideb i’ch helpu i wneud hyn.