Taclo gamblo problemus a dyled

A yw fy ngamblo yn broblem?

Os ydych yn credu bod eich gamblo yn broblem, mae’n bwysig i fod yn onest ac i siarad amdano. Os na fyddwch yn gwneud hyn, mae’n debygol y bydd eich sefyllfa yn gwaethygu.

Os ydych yn gamblo er mwyn gwneud arian yn hytrach nag am hwyl, efallai y mae’n amser i chi gael help. Er enghraifft, os ydych yn ei weld fel ffordd arall o gynilo neu fenthyg swm gan fanc, cymdeithas adeiladu neu fenthyciwr arall y gallwch fforddio i’w dalu ‘nôl, mae hyn yn arwydd efallai bod gennych broblem.

Os ydych yn credu efallai’r bod gennych broblem, mae yna rhai arwyddion rhybudd os ydych:

  • yn defnyddio eich gorddrafft, neu ffurfiau eraill o gredyd neu fenthyg o deulu neu ffrindiau i dalu am gamblo
  • yn methu taliadau dyledion neu filiau â blaenoriaeth oherwydd eich bod wedi gwario’r arian ar gamblo
  • gamblo i geisio ennill arian er mwyn talu eich dyledion.

Os oes unrhyw un o’r rhain yn gyfarwydd i chi, mae’n amser cael help.

Sut mae clirio fy nyled gamblo?

Mae gamblo yn aml yn arwain at ddyled.

Yn ogystal â mynd i’r afael â’ch gamblo, mae’n bwysig cael cymorth ariannol hefyd.

Gall delio â dyled deimlo’n llethol ac yn straen. Ond mae’n well i fynd i’r afael â’ch cyllid nawr. Mae ei gael dan reolaeth yn gam cyntaf pwysig.

Efallai nad ydych yn benthyg arian i’w gamblo – ond efallai eich bod yn defnyddio’r arian y dylech fod wedi ei wario ar fwyd a rhent, er enghraifft.

Mae’n bwysig talu biliau â blaenoriaeth yn gyntaf. Rhain sydd â’r canlyniadau mwyaf difrodol os na fyddwch yn eu talu. Maent yn cynnwys:

  • taliadau rhent neu forgais
  • Treth Cyngor
  • nwy a thrydan
  • treth incwm, yswiriant gwladol a TAW
  • taliadau cynhaliaeth plant.

Yn ddelfrydol, dylech dalu’r rhain ar y diwrnod rydych yn cael eich talu – cyn y cewch eich temtio i ddefnyddio’r arian i gamblo.

Mae’n bwysig i chi cael cyngor dyled am ddim i’ch helpu.

Mae ein Canllaw i ddechreuwyr ar reoli arian hefyd â gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol.

Gallai gosod cynllun gwario fod yn ddefnyddiol. Gall eich helpu i ddeall, a chymryd rheolaeth o’ch cyllid yn well.

Mae trosglwyddo’ch cyllid i rywun rydych yn ymddiried ynddo wrth i chi fynd i’r afael â’ch gamblo yn opsiwn. Er nad yw’n ddatrysiad hirdymor ond yn bendant gall helpu yn y tymor byr.

Un ffordd o wneud hyn trwy ddefnyddio mandad trydydd parti. Mae hon yn ddogfen sy'n dweud wrth fanc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr cyfrifon arall y gallant dderbyn cyfarwyddiadau am arian yr unigolyn hwnnw gan berson penodol arall a enwir.

Awgrymiadau hunangymorth i’ch helpu i roi’r gorau i gamblo

Mae nifer o ffyrdd y gallwch helpu’ch hun i roi’r gorau i gamblo. Mae’r rhain yn cynnwys:

Hunan-eithrio

Gallwch eithrio’ch hun o gwmnïau gamblo, naill ai ar-lein neu mewn lleoliad go iawn. Mae hyn yn golygu eich bod yn gofyn i’r busnes eich atal rhag gamblo â hwy, fel arfer am gyfnod rhwng chwe mis a phum mlynedd. Gallwch ofyn i staff mewn lleoliad wneud hyn ar eich rhan. Neu gallwch drefnu gwaharddiad o leoliadau neu safleoedd penodol trwy ‘gynlluniau hunan-eithrio aml-weithredwr’.

Gall GAMSTOP eich eithrioYn agor mewn ffenestr newydd o’r holl gwmnïau gamblo ar-lein sydd wedi’u trwyddedu i ddarparu gweithgareddau gamblo yn y DU. 

Am fanylion ynglŷn â lleoliadau corfforolYn agor mewn ffenestr newyd ewch i BeGambleAware.

Rhwystrau gamblo (neu reolaethau gwario)

Bellach mae mwy o fanciau a chymdeithasau adeiladu yn rhoi’r opsiwn i chi rwystro trafodion gamblo a wneir trwy eich cyfrifon banc gan ddefnyddio cerdyn debyd.

Ni allwch ddefnyddio cerdyn credyd i dalu am drafodion gamblo ar-lein neu ar y tir.

Mae'n bosibl o hyd ddefnyddio cerdyn credyd i dalu am docynnau loteri wyneb yn wyneb mewn siopau papurau newydd ac archfarchnadoedd. Nid yw'r Loteri Genedlaethol yn derbyn taliadau ar-lein ac nid yw gweithredwyr gamblo loteri eraill yn eu derbyn chwaith. Os yw hon yn broblem, gallwch ofyn i'ch cwmni cardiau credyd atal trafodion i'r gweithredwyr hyn hefyd.

Rhwystro meddalwedd

Rhaglen gyfrifiadurol yw hon sy’n cyfyngu mynediad i wefannau neu wasanaethau ar-lein eraill. Mae rhai meddalwedd am ddim, weithiau mae yna ffi. Mae’n bwysig gwneud eich ymchwil a darganfod pa un yw’r gorau i chi.

Efallai y bydd eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd yn gallu cynnig i chi eithrio eich hun o’r holl wefannau oedolion. Neu gyflenwi meddalwedd gwrth feirws i chi sy’n eich galluogi i rwystro rhai meysydd, fel gamblo.

Gallwch hefyd ofyn i’ch darparwr ffôn symudol neu’ch teledu rhyngweithiol gyfyngu neu rwystro’ch mynediad at wasanaethau gamblo.

Sut gall fy manc fy helpu i reoli fy ngamblo?

Efallai y byddwch yn teimlo’n nerfus neu’n teimlo cywilydd ynglŷn â chysylltu â hwy. Ond mae’n bwysig cysylltu â’ch banc a rhoi gwybod iddynt am eich sefyllfa.

Gall banciau eich helpu mewn sawl ffordd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • rhewi eich cerdyn dros dro pan fyddwch yn teimlo bod eich gwariant yn mynd allan o reolaeth
  • newid y swm o arian y gallwch godi o beiriannau arian parod bob dydd, neu droi’r gallu i dynnu arian parod i ffwrdd yn gyfan gwbl.

Sut y gall eich credydwyr eich helpu â’ch dyled gamblo

Os ydych mewn dyled ac yn cael anawsterau i wneud taliadau, mae’n bwysig siarad â’ch credydwyr. Efallai gallant eich helpu. Ond dim ond os ydych yn dweud wrthynt y gallant eich helpu.

Gall gredydwyr sydd arnoch arian iddynt gynnwys:

  • eich cyngor lleol os ydych yn ei chael hi’n anodd i dalu eich Treth Cyngor
  • darparwyr cerdyn credyd neu fenthyciadau
  • eich landlord neu fenthyciwr morgais.

Efallai y bydd yr help yn gallu cynnig aildrafod eich ad-daliadau.

Creu cynllun talu â chi y gallwch ei fforddio. Dylai hyn osgoi methu taliadau a thalu ffioedd uwch o ganlyniad.

Os gallwch ddangos iddynt y camau rydych yn eu cymryd i roi’r gorau i gamblo, gallai hyn eu gwneud yn fwy parod i’ch helpu.

Sut i atal darpar fenthycwyr rhag rhoi credyd i chi

Os ydych o dan risg gwneud cais am gredyd i ariannu eich gamblo, gallwch roi gwybod i ddarpar fenthycwyr nad ydych am iddynt fenthyca i chi.

Gallwch wneud hyn trwy ychwanegu ‘nodyn’ (a elwir hefyd yn Hysbysiad Cywiriad [NOC]) at eich ffeil gredyd. Bydd benthycwyr yn gweld hyn a dylent ystyried yr hyn rydych wedi’i ysgrifennu yn y nodyn.

Gamblo ac iechyd meddwl

Yn ogystal ag effeithio arnoch yn ariannol, gall gamblo problemus hefyd effeithio’n ddifrifol ar eich iechyd meddwl.

Os ydych yn gamblo i ddianc rhag materion iechyd meddwl, fel straen, pryder neu iselder, ni fydd ond yn gwaethygu’r teimladau hyn.

Nid yn unig hynny, gall achosi problemau eraill hefyd, gan gynnwys rhoi straen ar eich perthnasoedd personol a rhoi eich swydd mewn perygl.

Yn ogystal â mynd i’r afael â’ch gamblo, mae’n bwysig mynd i’r afael ag unrhyw faterion iechyd meddwl hefyd.

Sut gallaf amddiffyn fy nheulu rhag dyled a achosir gan fy ngamblo?

Gall gamblo, a’i effaith ariannol, effeithio’n sylweddol ar iechyd a lles chi a’ch teulu.

Fodd bynnag, os ydych yn gamblo a’i fod yn achosi problemau ariannol, mae’n bwysig cael cyngor. Yn enwedig os:

  • oes gennych gerdyn credyd neu fenthyciad ar y cyd â’ch partner
  • oes gennych hawl budd-dal ar y cyd ac rydych yn cael yr arian
  • ydych yn berchen ar eich cartref ar y cyd â’ch partner.

Gall cael cyfrifon cyfredol a chardiau credyd ar wahân helpu i amddiffyn cyllid eich partner.

Efallai y byddai’n werth ystyried canslo neu ddileu eich mynediad at gyfrifon ar y cyd. Hefyd, sicrhau nad oes gennych fynediad at swm mawr o arian heb yn wybod i’ch partner. Er enghraifft, trwy ail-forgeisio’ch cartref neu gymryd benthyciad.

Siaradwch â’ch banc neu’ch darparwr credyd am unrhyw fesurau eraill y gallant eu rhoi ar waith i’ch cefnogi.

Mae'n bwysig iawn peidio â rhoi benthyg arian i rywun sy'n cael trafferthion â gamblo, oherwydd gall hyn wneud y sefyllfa'n waeth.

Beth i’w wneud os ydych yn byw gyda rhywun sy’n cael trafferth â gamblo

Os yw’ch partner yn gamblo ac wedi colli rheolaeth ar y sefyllfa, gall gael effaith ddinistriol ar eich cyllid a’ch perthynas.

Ymhlith yr arwyddion bod eich partner yn cuddio caethiwed gamblo mae:

  • yn gyfrinachol am eu cyllid
  • yn amddiffynnol ynghylch arian
  • cuddio cyfriflenni banc
  • codi arian o gyfrifon heb eglurhad.

Wrth gwrs, gallai'r rhain fod yn arwyddion o broblemau eraill felly'r peth cyntaf i'w wneud yw cyrraedd gwaelod pethau.

Siaradwch â’ch partner yn gyntaf

Gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau os bydd angen i chi siarad â’ch partner am eu problem gamblo, neu os ydych yn amau y gallai fod problem ganddynt.

Os ydych yn meddwl bod eich partner yn gamblwr problemus ac ni allwch siarad â hwy'n gyntaf, gallwch gael help

Hyd yn oed os nad ydynt yn barod i gael help, mae llawer o help a chymorth i chi.

Gallwch ffonio llinell gymorth GamCare ar 0808 8020 133. Byddant yn eich helpu i ddarganfod beth ddylai eich camau nesaf fod.  Nid oes angen i chi fod yn sicr eu bod yn gaeth i gael cyngor.

Os nad ydych yn teimlo fel siarad â rhywun dros y ffôn

Mae gan GamCare wasanaeth ar-lein o’r enw Netline Mae hyn yn caniatáu i chi gyfnewid negeseuon gwib ag ymgynghorydd. Mae fforymau ar-lein hefyd lle gall pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gamblo problemus siarad a chefnogi ei gilydd.

Pethau y gallwch eu gwneud i ddiogelu eich hun a’ch cyllid

Gwiriwch eich sgôr credyd i weld a ydych chi’n gysylltiedig â nhw’n ariannol. Er enghraifft, os oes gennych forgais ar y cyd neu os yw enw’r ddau ohonoch ar gytundeb rhentu, neu os oes gennych gyfrifon banc ar y cyd.

Os oes gennych fenthyciad neu os ydych wedi llofnodi contract gyda rhywun, rydych yn gyd-gyfrifol am ad-daliadau. Os ydynt yn cael trafferth gyda gamblo, rydych yn rhoi eich hun mewn perygl os na chaiff y taliadau hynny eu gwneud.

Gall cadw'ch arian ar wahân helpu i ddiogelu eich sgôr credyd a'ch diogelu'n ariannol.

Er mwyn helpu i ddiogelu eich cartref gallwch osod rhybudd rhag ofn y bydd unrhyw weithgarwch sylweddol yn gysylltiedig ag ef os ydych yn byw;

Yng Nghymru neu Loegr: Cofrestrwch ar gyfer property alert gwasanaeth am ddim Cofrestrfa Tir EFYn agor mewn ffenestr newydd

Yn yr Alban: Canllawiau ar y property alert serviceYn agor mewn ffenestr newydd

Ar gyfer Gogledd Iwerddon: Gwiriwch a yw'ch tir neu'ch eiddo wedi'i gofrestruYn agor mewn ffenestr newydd

Defnyddiwch rwystrau gamblo banc i sicrhau na all y gamblwr gamblo gyda'ch cardiau.

Cydnabod camdrin economaidd

Gallech ddioddef camdriniaeth ariannol neu economaidd os:

  • ydych yn cael eich gorfodi i gymryd benthyciadau neu gredyd ar y cyd i ariannu gamblo eich partner;
  • yw'ch partner wedi cymryd benthyciadau neu gredyd yn eich enw heb eich gwybodaeth na'ch caniatâd i'w defnyddio ar gyfer gamblo.

Diogelu incwm o fudd-daliadau lles

Os yw Credyd Cynhwysol (UC) fel arfer yn cael ei dalu fel taliad cartref sengl.

Os ydych yn poeni bod eich partner yn defnyddio'r arian i gamblo gallwch ofyn i'ch hyfforddwr gwaith am Drefniant Taliad Amgen (APA).

Mae hyn yn golygu y gellir talu'ch taliad UC yn gyfan gwbl i chi neu gallwch rannu'r taliad â'ch partner fel y gallwch gadw rheolaeth ar yr arian sydd ei angen arnoch.

Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein canllaw Taliadau Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau.

Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda'n cyfrifiannell budd-daliadau.

Os ydych wedi troi at gamblo - neu a yw’ch problem wedi gwaethygu - o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws

P’un a ydych o dan straen am ansicrwydd swydd neu’n teimlo’n ynysig, mae’r achos o goronafeirws wedi bod yn anodd i lawer o bobl mewn sawl ffordd.

Mae wedi gwneud i lawer droi at gamblo. Ac i eraill, mae wedi gwneud problem gamblo yn waeth.

Os yw hyn yn swnio fel chi, cofiwch fod llawer o help ar gael.

Pryd i gael cyngor ar ddyledion

Mae anwybyddu’ch dyled yn debygol o waethygu’r sefyllfa. Mae’n bwysig siarad â rhywun a chael help.

Os na allwch wneud ad-daliadau ar ddyledion a’ch bod ar ei hôl hi o ran eich biliau, nawr yw’r amser i gael cyngor am ddim ar ddyledion.

Bydd cynghorydd dyled yn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o reoli’ch dyledion. Mae’n syniad da rhoi gwybod iddynt fod eich dyled o ganlyniad i gamblo gan y bydd llawer yn cynnig cyngor ac atebion wedi’u teilwra i chi a’ch sefyllfa.

A allaf gael Cytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA) i helpu i glirio fy nyledion

Mae Cytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA) yn rhewi'ch dyledion ac yn caniatáu i chi eu talu'n ôl dros gyfnod penodol o amser.

Mae yna lawer o bethau i feddwl amdanynt cyn i chi gymryd IVA. Ac mae'n bwysig cofio mai dim ond un o'r ffyrdd y gallech ddelio â'ch dyledion.

Mae hi bob amser yn well trafod pethau ag ymgynghorydd dyled profiadol gan fod yr ateb sydd orau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Darganfyddwch fwy am sut mae dyledion yn cael eu casglu pan fyddwch mewn ôl-ddyledion ar wefan StepChange

Mae mwy o wybodaeth am sut i wneud cynllun i dalu'ch dyledion ar wefan Cyngor ar Bopeth

I ddarganfod sut i leihau eich treuliau i helpu i ddal i fyny â'ch ad-daliadau, edrychwch ar wefan StepChange

Pobl ifanc a gamblo

Mae gamblo yn dod yn fwy o broblem ymhlith pobl 11-16 oed ac mae'n effeithio ar ddegau ar filoedd o bobl ifanc.

Canfu ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, ymhlith pobl ifanc 11 i 16 oed, mai’r ffurfiau mwyaf poblogaidd yw peiriannau ffrwythau, chwarae cardiau am arian â ffrindiau a chardiau crafu.

Er y gellir ystyried hyn yn ddiniwed, i lawer mae hyn yn dechrau i gamblo ddod yn broblem.

Gall cyfaddef bod gan eich plentyn broblem deimlo'n chwithig neu'n gywilyddus. Peidiwch â phoeni, mae help pwrpasol i deuluoedd.

Y lle gorau i ddechrau yw trwy gysylltu ag ymweld â'r sefydliadau:

Rhan o’r mater yw faint o hysbysebu gamblo y mae pobl ifanc yn agored iddo ar y teledu, ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol

Rheolau ar gyfer gamblo a phobl ifanc

Nid yw cwmnïau gamblo yn caniatáu i unrhyw un o dan 18 oed gamblo.

Yn y DU, mae dau eithriad yn unig:

  • O 16 oed, gallwch brynnu cynhyrchion y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys gemau tynnu tocyn, cardiadu crafu ac enillion sydyn ar-lein. Fodd bynnag, o Hydref 2021 bydd y rhain dim ond ar gael i bobl dros 18 oed a throsodd.
  • Nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran ar beiriannau gemau categori-D, sy’n cynnwys peiriannau ffrwythau.

Gallwch gwyno i’r Comisiwn Gamblo os ydych yn credu nad yw cwmni wedi dilyn y rheolau.

Darganfod mwy

Yn ogystal â mynd i’r afael â’ch cyllid, mae’n bwysig mynd i’r afael â’ch gamblo ar yr un pryd.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.