Os ydych yn cael trafferth â dyledion, efallai y gallwch gael cefnogaeth trwy'r cynllun seibiant dyled, a elwir hefyd yn Lle i Anadlu. Gallai hyn roi amser gwerthfawr i chi ddod o hyd i ateb effeithiol a hirdymor i ddelio â'ch dyledion a'ch helpu i symud ymlaen.
Beth yw Lle i Anadlu?
Mae Lle i Anadlu yn opsiwn dyled newydd sy'n rhoi amddiffyniad dros dro i chi rhag y credydwyr y mae arnoch arian iddynt os ydych yn cael trafferth â dyledion. Mae hyn yn cynnwys:
- rhewi'r llog, ffioedd a thaliadau ar ddyledion ac
- oedi pob cam gorfodi a chontract gan gredydwyr.
Mae'n opsiwn byrdymor, i roi amser a lle i chi ymgysylltu â chyngor ar ddyledion a dod o hyd i ateb hirdymor.
Mae dau fath o Le i Anadlu:
- Lle i Anadlu Safonol - yr ydych yn gwneud cais amdano trwy gyngor dyled, ac sy'n para am hyd at 60 diwrnod, ag adolygiad rhwng diwrnodau 25 a 35.
- Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl - sydd yn benodol i bobl sy’n cael triniaeth argyfwng iechyd meddwl a dim ond gweithiwr proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) sy'n gallu gwneud cais amdano. Mae'n para trwy gydol eich triniaeth, ynghyd â 30 diwrnod.
A wyf yn gymwys am ‘Lle i Anadlu’?
Lle i Anadlu Safonol
Efallai y byddwch yn gymwys am Le i Anadlu os ydych:
- yn byw yng Nghymru neu Loegr
- â dyled gymwys
- heb orchymyn rhyddhad dyled (DRO), trefniant gwirfoddol unigol (IVA), gorchymyn dros dro, neu ddim yn fethdalwr heb ei ryddhau ar yr adeg y gwnewch gais
- ddim eisoes wedi cymryd Lle i Anadlu Safonol yn ystod y 12 mis diwethaf.
Os ydych yn byw yn yr Alban, mae cynllun tebyg o'r enw ‘Statutory Moratorium’.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, nid oes cynllun cyfatebol.
Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl
I fod yn gymwys i gael Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl rhaid eich bod yn cael triniaeth benodol.
Rydych yn gymwys dim ond os ydych ydych:
- yn cael eich cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (a elwir hefyd yn anfon rhywun i ysbyty’r meddwl)
- wedi eich symud i le diogel o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
- yn derbyn gofal argyfwng, brys neu acíwt gan wasanaeth arbenigol am anhwylder meddwl o natur ddifrifol. Gallai hyn fod gan dîm argyfwng triniaeth yn y cartref, tîm iechyd meddwl cyswllt, tîm iechyd meddwl cymunedol neu unrhyw wasanaeth argyfwng iechyd meddwl arbenigol arall.
- Bydd angen i Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) ddefnyddio ei farn broffesiynol i benderfynu a yw eich triniaeth yn cynnwys triniaeth argyfwng iechyd meddwl. Mae canllawiau ar gyfer AMHPYn agor mewn ffenestr newydd, gan gynnwys yr hyn sy'n cael ei ystyried yn anhwylder iechyd meddwl o natur ddifrifol o fewn y rheoliadau Lle i Anadlu.
Beth yw dyledion cymwys?
Bydd y rhan fwyaf o ddyledion personol yn gymwys am Le i Anadlu gan gynnwys:
- cardiau credyd a storfa
- benthyciadau personol
- benthyciadau diwrnod cyflog
- gorddrafftiau
- ôl-ddyledion ar forgeisiau, biliau cyfleustodau, cytundebau hurbwrcasu a dyledion gwarantedig eraill
- y rhan fwyaf o ddyledion y llywodraeth, gan gynnwys dyledion treth a budd-daliadau
- Ôl-ddyledion Treth Gyngor.
Mae dyledion ar y cyd, fel morgais ar y cyd, yn gymwys, hyd yn oed os mai dim ond un ohonoch sydd eisiau Lle i Anadlu. Fodd bynnag, lle bo hynny'n bosibl, dylech siarad â'r unigolyn y mae gennych ddyled ar y cyd â hwy i'w gwneud yn ymwybodol eich bod yn gwneud cais am Le i Anadlu.
Mae benthyciadau gwarantwr yn gymwys, ond nid yw'r Lle i Anadlu yn cwmpasu'r person sy'n gwarantu'r benthyciad.
Pa ddyledion nad ydynt yn gymwys?
Ni fydd rhai dyledion yn gymwys am Le i Anadlu, gan gynnwys:
- dyledion a gronnwyd oherwydd twyll
- dirwyon llys
- taliadau cynhaliaeth plant
- benthyciadau argyfwng neu gyllidebu o'r gronfa gymdeithasol
- Taliadau ymlaen llaw Credyd Cynhwysol
- benthyciadau myfyrwyr
- iawndal am farwolaeth neu anafiadau personol a achoswyd i rywun arall
- rhwymedigaethau o orchymyn atafaelu.
Sut i wneud cais am ‘Lle i Anadlu’
Lle i Anadlu Safonol
Gallwch wneud cais am Le i Anadlu dim ond trwy gynghorydd dyled.
Os bydd rhywun yn mynd atoch yn uniongyrchol ynglŷn â Lle i Anadlu neu'n cynnig ei drefnu ar eich cyfer am ffi, mae'n debygol o fod yn sgâm.
Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl
Ni allwch wneud cais am Le i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl ar eich pen eich hun. Gallwch wneud cais dim ond â chefnogaeth Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP).
Ystyr AMHP yw rhywun a gymeradwywyd o dan adran 114 (1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 gan unrhyw awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol yn Lloegr, neu a gymeradwywyd o dan yr is-adran honno gan unrhyw awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol yng Nghymru.
Os ydych am ddod o hyd i AMHP, dylech siarad â:
- y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud fwyaf â'ch gofal
- tîm AMHP yn eich adran gwasanaethau cymdeithasol oedolion leol
- eich tîm iechyd meddwl cymunedol lleol.
Bydd yr AMHP yn llenwi ffurflen dystiolaethYn agor mewn ffenestr newydd i ddangos eich bod yn cael triniaeth argyfwng iechyd meddwl. Yna gall y AMHP, chi, neu berson arall, fel gofalwr, gweithiwr cymdeithasol neu gynrychiolydd enwebedig gyflwyno hwn i gynghorydd dyled.
Dylid cyflwyno ffurflenni tystiolaeth trwy'r pwynt mynediad sengl a ddarperir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.
Beth sydd angen i mi ei wneud yn ystod Lle i Anadlu?
Lle i Anadlu Safonol
Dyluniwyd Lle i Anadlu i roi amser i chi gael cyngor ar ddyledion ac edrych ar unrhyw atebion dyled posibl.
Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi barhau i siarad â chynghorydd dyled trwy gydol Lle i Anadlu i barhau i gael ei amddiffyniadau.
Mae rhaid i'r cynghorydd gynnal adolygiad hanner ffordd â chi rhwng diwrnodau 25 a 35 i gadarnhau eich bod yn ymgysylltu â chyngor ac yn cwrdd ag amodau Lle i Anadlu, sef:
- hysbysu'ch cynghorydd dyledion os bu unrhyw newid yn eich amgylchiadau
- peidio â chymryd unrhyw fenthyca unigol neu ar y cyd mwy na £500, gan gynnwys gorddrafftiau
- parhau i dalu'ch biliau hanfodol ac unrhyw ddyledion nad ydynt wedi eu cynnwys yn Lle i Anadlu.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch yr hyn sydd angen i chi ei wneud yn ystod Lle i Anadlu, dylech siarad â'ch cynghorydd dyled.
Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl
Dyluniwyd Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl i roi amser i chi gael triniaeth heb fynd ar drywydd eich dyledion.
Nid oes angen i chi fodloni'r un amodau â Lle i Anadlu Safonol, ond bydd angen i Bwynt Cyswllt Enwebedig (i'w gynnwys yn y ffurflen dystiolaeth) gadarnhau eich bod yn dal i gael triniaeth iechyd meddwl bob 30 diwrnod.
Dylech hefyd barhau i dalu biliau a gwneud eich ad-daliadau dyled yn rheolaidd os gallwch, gan nad yw Lle i Anadlu yn wyliau talu, ac efallai y cysylltir â chi o hyd am y rhain.
Beth sy'n digwydd ar ôl i'r Lle i Anadlu dod i ben?
Ar ddiwedd Lle i Anadlu, bydd yr amddiffyniadau'n dod i ben a gall y credydwyr y mae arnoch arian iddynt:
- ddechrau ychwanegu llog, ffioedd a chosbau at eich dyledion
- gweithredu i orfodi'r ddyled
- ailddechrau neu ddechrau achos cyfreithiol.
Dyma pam ei bod yn bwysig iawn eich bod o fewn y Lle i Anadlu yn mynd ati i ymgysylltu â chynghorydd dyled i ddod o hyd i ateb dyled hirdymor sy'n gweithio i chi a allai osgoi i'r pethau hyn ddigwydd.
Pa opsiynau eraill sydd ar gael?
Os ydych yn chwilio am Le i Anadlu Safonol, bydd y cynghorydd dyledion sy'n delio â'ch cais yn edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael i chi a gallai argymell rhywbeth heblaw am Lle i Anadlu. Byddant yn trafod manteision ac anfanteision opsiynau eraill sydd ar gael i chi.