Help os ydych yn cael trafferth talu Treth Cyngor

Mae Treth Cyngor yn ddyled flaenoriaeth y mae rhaid i chi ei thalu, oherwydd gall canlyniadau cwympo ar ei hôl fod yn waeth nag â dyledion eraill. Os ydych yn poeni am ei dalu, mae'n bwysig cael cynllun.

Pa help sydd ar gael?

Mae gan bob cyngor gynllun i'ch helpu i reoli'ch taliadau felly cysylltwch â'ch cyngor lleol cyn gynted â phosib. Os arhoswch nes eich bod wedi methu taliadau, gallai gyfyngu ar yr help y gallant ei gynnig i chi.

 

Pan gysylltwch â hwy, eglurwch eich sefyllfa a gweld a yw'n bosibl gweithio allan gynllun talu newydd cyn i chi fynd ar ei hôl.

Dyma rai enghreifftiau o gefnogaeth y gellir ei chynnig:

  • Gostyngiadau biliau os ydych ar fudd-daliadau – os bydd eich incwm yn gostwng neu os byddwch yn ddi-waith gallech wneud cais am ostyngiadau i ostwng Treth Cyngor. Gallai'r rhain fod hyd at 100% oddi ar eich Treth Cyngor os ydych ar fudd-daliadau penodol neu incwm isel, ond mae hyn yn dibynnu ar eich cyngor lleol. Gall pawb wneud cais, ond nid oes gan bawb hawl.

Sicrhewch eich bod wedi hawlio popeth y mae gennych hawl iddo

Os ydych wedi cael sioc incwm, gallech fod â hawl i gefnogaeth y llywodraeth. Os ydych yn cael trafferthion ariannol, mae'n bwysig eich bod yn hawlio unrhyw help ychwanegol y gallwch.

Beth fydd yn digwydd os bydd fy sefyllfa ariannol yn gwaethygu?

Hyd yn oed os yw eich cyllid ar y trywydd iawn nawr, gallai eich incwm newid. Efallai eich bod yn hunangyflogedig ac mae gennych incwm cyfnewidiol. Gallai hyn olygu dyfodol ansicr.

Efallai y bydd angen i chi adolygu'ch cyllid fel y gallwch dalu am eich ad-daliadau. Mae'n ddefnyddiol llunio cyllideb. Os oes gennych ychydig mwy yn mynd allan na dod i mewn, efallai y gallwch ail-weithio sut rydych yn gwario'ch arian.

Y camau nesaf os ydych wedi methu taliad

Os ydych eisoes wedi methu taliad Treth Cyngor, mae hyn yn golygu eich bod mewn ‘ôl-ddyledion’.

Cysylltwch â'ch cyngor cyn gynted â phosibl i roi gwybod iddynt fod eich incwm wedi newid, a'ch bod yn cael trafferth talu am eich biliau.

Yn ogystal â dod i drefniant ar yr arian sy'n ddyledus iddynt, dylech hefyd siarad am filiau'r dyfodol – yn enwedig os ydych yn meddwl y gallech gael trafferth eu talu.

Gwnewch gyllideb, cyfrifwch pa arian sydd gennych ar ôl ar ei ôl, a gofynnwch i'r cyngor am help.

Pryd i gael cyngor ar ddyledion

Os ydych wedi methu taliad, yn meddwl eich bod yn mynd i fethu taliad neu yn jyglo dyledion eraill ac yn teimlo bod angen cyngor ar ddyledion arnoch mae'n bwysig eich bod yn eu talu yn y drefn gywir gan fod rhai yn fwy brys ac mae gan rai benthycwyr fwy o bŵer nag eraill.

Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â’ch lles meddyliol

Gallai cael problemau iechyd meddwl olygu eich bod yn cael trafferth gwneud y penderfyniadau gorau yn seiliedig ar arian i chi, yn ogystal â gweithredu arnynt.

Cofiwch, os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â'ch lles meddyliol, mae'n werth cysylltu â'ch banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu bwy bynnag mae arnoch arian iddynt, i drafod eich opsiynau.

Fodd bynnag, yn aml mae'n haws dweud na chodi'r ffôn a siarad am eich problemau pan rydych yn cael trafferth â'ch iechyd meddwl. 

Mae gan y rhan fwyaf o leoedd y mae gennych arian yn ddyledus iddynt bolisïau ynglŷn â'ch cefnogi os ydych yn agored i niwed. Ond ni allant eich helpu oni bai eich bod yn gofyn.

I gael rhai awgrymiadau cyffredinol ar sut y gallwch reoli eich iechyd meddwl edrychwch ar ganllaw Rethink Mae'n cynnwys popeth o osod cyllideb i gael help os ydych chi, neu rywun rydych yn poeni amdano, yn cael argyfwng iechyd meddwl.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.