Mae llysoedd Ynadon (Siryf yn yr Alban) yn delio ag achosion troseddol fel troseddau traffig, dirwyon am Drwyddedau Teledu di-dâl, troseddau trefn gyhoeddus ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Darganfyddwch beth dylech ei wneud os cewch ddirwy.
Beth yw dirwy llysoedd Ynadon neu Siryf?
Mae llysoedd Ynadon (Siryf yn yr Alban) yn delio ag achosion troseddol fel troseddau traffig, dirwyon am Drwyddedau Teledu di-dâl, troseddau trefn gyhoeddus ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Y dedfrydau mwyaf cyffredin a roddir gan ynadon (siryfion) yw cosbau ariannol neu ddirwyon.
Ni ddylid drysu dirwyon llysoedd ynadon (siryf) â gorchmynion atebolrwydd am Dreth Gyngor neu ôl-ddyledion cynhaliaeth plant, gan fod y rheolau’n wahanol
Os cawsoch eich dyfarnu’n euog o drosedd, defnyddir dirwy llys yn aml fel cosb. Mae swm y ddirwy yn dibynnu ar ba mor ddifrifol oedd y drosedd a gyflawnwyd.
Mae dirwyon llys yn cael eu casglu fel rhandaliadau wythnosol neu fisol a gellir eu tynnu o’ch enillion neu’ch budd-daliadau. Yn ogystal â’r ddirwy gall y llys ofyn i chi dalu iawndal a chostau llys.
Bydd y llys hefyd yn ystyried eich sefyllfa ariannol, wrth ystyried dedfryd briodol. Bydd yn cael ei fesur yn erbyn costau byw rhesymol.
Darganfyddwch beth i’w wneud os ydych wedi cael Dyfarniad Llys Sirol yn ein canllaw Beth yw Ddyfarniad Llys Sirol (CCJ)
Beth dylwn ei wneud os na chredaf y gallaf fforddio fy nirwy llys?
Bydd llawer o bobl yn gweld bod yr achosion o goronafeirws wedi effeithio'n negyddol ar eu cyllid. Ac yn awr yn ei chael yn anodd talu am eu biliau a'u taliadau dyled.
Mae dirwyon llysoedd ynadon neu siryf yn ddyled â blaenoriaeth a gall canlyniadau peidio â thalu fod yn ddifrifol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi eu talu cyn dyledion heb eu gwarantu fel benthyciadau a chardiau credyd.
Mae gan lysoedd llawer o bwerau i gasglu arian sy’n ddyledus, ac yn yr achosion mwyaf eithafol, gallech fynd i’r carchar am beidio â thalu.
Os na allwch fforddio’ch taliadau oherwydd coronafeirws, dylech ffonio neu ysgrifennu at y swyddog dirwyon yn y llys a gofyn iddynt a oes unrhyw help ar gael. Gallant eich helpu.
Gall yr help a gewch gynnwys:
- addasiad i faint y mae rhaid i chi ei dalu
- addasiad i’ch dyddiadau talu.
Mae manylion cyswllt y llys ar y llythyr.
Fodd bynnag, peidiwch ag anwybyddu dirwy llys – hyd yn oed os yw coronafeirws wedi effeithio arnoch yn ariannol.
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, mae’n well bob amser ceisio newid y gorchymyn llys yn hytrach na syrthio ar ei hôl â’r taliadau. Os gwnewch ddim byd, gall eich credydwr gymryd camau mwy difrifol.
Pryd y gallaf ofyn am newid y gorchymyn llys?
Os na allwch fforddio cadw i fyny â’r taliadau a orchmynnwyd gan y llys, gallwch ofyn am newid telerau’r gorchymyn i gyd-fynd â’r hyn y gallwch fforddio ei dalu. Gelwir hyn yn gais i amrywio’r gorchymyn.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa ariannol, gallech:
- talu’r ddyled fesul rhandaliadau llai
- neu os na allech dalu unrhyw beth o gwbl mwyach, os gallwch ddangos eich bod wedi colli’ch swydd.
Wrth gwrs, bydd rhaid i chi roi manylion eich sefyllfa ariannol wrth wneud y cais.
Beth fydd yn digwydd os credaf y byddaf yn methu taliad?
Os ydych wedi methu eich ad-daliadau, mae’n bwysig i beidio â’i anwybyddu.
Cysylltwch â’r llys cyn gynted ag y gallwch. Byddant fel arfer yn trefnu i chi awgrymu swm i’w dalu y gallwch ei fforddio, fel y gallwch ei ad-dalu fesul rhandaliadau.
Oes gennych ddyledion eraill? Yna, mae’n bwysig eich bod yn eu talu yn y drefn gywir gan fod rhai yn fwy ar frys ac mae gan rai benthycwyr fwy o rym nag eraill.