Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Cartrefi
  3. Rhentu
Rhentu

Esbonio hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid

Os ydych yn rhentu, fel arfer byddwch yn arwyddo cytundeb tenantiaeth. Mae hwn yn esbonio’r hyn rydych chi a’r landlord yn gyfrifol amdano. Gall torri’r cytundeb hwn meddwl nad ydych yn cael eich blaendal yn ôl, neu’n waeth, troi allan. Dyma beth mae angen i chi ei wybod.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Eich hawliau os ydych yn rhentu gan y cyngor neu asiantaeth tai
  • Eich hawliau fel rhentwr preifat neu denant
  • Gwiriwch pwy sy’n gyfrifol am dalu biliau a Threth Cyngor
  • Mae gwarantwyr rhent yn talu'r rhent os na allwch chi
  • Eich cyfrifoldebau fel gwarantwr rhent

Eich hawliau os ydych yn rhentu gan y cyngor neu asiantaeth tai

Pan fyddwch yn gwneud cais am dai cymdeithasol, byddwch fel arfer yn cael eich rhoi ar restr aros. Mae cartrefi wedyn ar gael i’r rhai sydd â’r angen mwyaf, yn seiliedig ar feini prawf eich cyngor neu awdurdod lleol. Felly nid ydych yn sicr o gael cartref.

Ond mae gan bawb sy'n rhentu un yr hawl i gartref diogel. Mae hyn yn golygu y dylech gael problemau wedi'u datrys cyn gynted â phosibl. Gallwch hefyd ofyn am gael cyfnewid eich cartref os nad yw'n bodloni'ch anghenion mwyach, fel efallai ei fod yn rhy fach.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth yn eich ardal
Os ydych yn rhentu yn: Gweler mwy o wybodaeth ar:

Lloegr

Tai – Citizens Advice EnglandYn agor mewn ffenestr newydd

Gogledd Iwerddon

Tai cymdeithasol – nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Yr Alban

Mathau o denantiaethau cyhoeddus – Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd

Cymru

Tai – Cyngor ar Bopeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Eich hawliau fel rhentwr preifat neu denant

Wrth rentu, y  lleiaf y gallwch  ddisgwyl ei gael yw cartref diogel, cynnes sy'n cael ei gynnal a'i gadw'n dda. Dylech hefyd gael eich gadael mewn heddwch, a elwir yn ‘mwynhad tawel’.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’ch landlord neu asiant gosod:

  • trwsio problemau mewn cyfnod rhesymol o amser.
  • gofyn am eich caniatâd cyn mynd i mewn i'r eiddo, gan roi o leiaf 24 awr o rybudd ysgrifenedig i chi (neu 48 awr yn yr Alban), er enghraifft i wneud atgyweiriadau neu archwiliadau, a dychwelyd eich blaendal llawn os nad oes unrhyw ddifrod neu rent heb ei dalu pan fyddwch yn gadael.

Yn gyfnewid, bydd y rhan fwyaf o gytundebau tenantiaeth yn gofyn i chi:

  • talu eich rhent ar amser
  • cymryd gofal da o'r eiddo
  • rhoi gwybod am unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl, a
  • dychwelyd yr eiddo yn yr un cyflwr a lefel glanweithdra (ac eithrio traul arferol).

Gall diffiniad y rhain amrywio, felly mae’n bwysig darllen eich cytundeb tenantiaeth yn ofalus cyn llofnodi. Os byddwch yn methu â chyflawni eich cyfrifoldebau, gallech:

  • wynebu ffioedd hwyr
  • peidio â derbyn eich blaendal llawn yn ôl, neu
  • cael eich gofyn i adael (eich troi allan).

Mae hyn yn berthnasol os ydych chi'n rhentu yn breifat, fel arfer ar denantiaeth cyfnodol sicr, tenantiaeth breifat neu gontract safonol.

Gwiriwch eich math o denantiaeth
Os ydych yn rhentu yn: Gwiriwch ar:

Lloegr

Tai – Citizens Advice EnglandYn agor mewn ffenestr newydd

Gogledd Iwerddon

Cytundeb tenantiaeth – nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Yr Alban

Mathau o denantiaethau preifat – Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd

Cymru

Gwirio eich statws tai – Cyngor ar Bopeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd

Dylai eich cytundeb tenantiaeth restru eich cyfrifoldebau

Fel arfer bydd cytundeb tenantiaeth yn rhestru:

  • eich rhent – ​​faint, pryd mae’n ddyledus, os gellir ei gynyddu a pha rybudd sydd raid ei roi
  • y blaendal – sut y caiff ei ddiogelu a'i ddychwelyd
  • enwau pawb sy'n gysylltiedig – fel pob tenant a'r landlord
  • pa filiau rydych yn gyfrifol amdanynt
  • yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud – fel addurno ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • eitemau yn yr eiddo a'u cyflwr –  gelwir hwn yn restr eiddo
  • sut y dylid gofyn am atgyweiriadau
  • hyd eich tenantiaeth – ac a ellir dod â hi i ben yn gynnar
  • os gallwch chi rentu i eraill, a elwir yn isosod – fel cael lletywr
  • beth sy'n digwydd ar ddiwedd y denantiaeth.

Os nad ydych chi’n siŵr am unrhyw beth, gofynnwch i’ch landlord neu’ch asiant gosod tai cyn llofnodi. Gweler ein Rhestr wirio symud ar gyfer rhentwyr preifat am ragor o wybodaeth ac awgrymiadau.

Newidiadau i gytundebau tenantiaeth yn Lloegr

Os oedd gennych denantiaeth fyrddaliadol sicr tymor penodol yn Lloegr, daeth yn gontract treigl ar 1 Mai 2026. Digwyddodd y newidiadau hyn yn awtomatig wrth gyflwyno'r Ddeddf Hawliau Rhentwyr - nid oedd angen i chi wneud dim. 

Gelwir y math newydd hwn o gontract yn denantiaeth gyfnodol sicr (APT). Mae’n parhau o fis i fis neu o wythnos i wythnos, nes y bydd un o’r canlynol yn digwydd: 

  • rydych chi'n rhoi dau fis o rybudd ysgrifenedig i adael, neu
  • fod gan eich landlord reswm cyfreithiol i’w derfynu. 

Ni all cytundebau tenantiaeth breifat yn Lloegr bellach gynnwys dyddiad dod i ben. Os yw eich un chi yn dal i ddangos un, nid yw’n berthnasol bellach. 

Os oes gennych gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig

Gallai eich landlord neu eu hasiant gosod anfon cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig newydd atoch, ond nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol iddynt wneud hynny. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt anfon copi atoch o Daflen Wybodaeth Deddf Hawliau RhentwyrYn agor mewn ffenestr newydd y llywodraeth

Mae'r daflen wybodaeth yn esbonio beth sydd wedi newid, a gall landlordiaid gael dirwy os nad ydynt yn darparu copi i chi erbyn 31 Mai 2026. 

Os oes gennych gytundeb tenantiaeth ar lafar

Os oedd eich cytundeb tenantiaeth ar lafar yn hytrach nag yn ysgrifenedig, mae angen i’ch landlord roi dwy ddogfen i chi erbyn 31 Mai 2026: 

  • Taflen Wybodaeth Deddf Hawliau RhentwyrYn agor mewn ffenestr newydd a
  • ‘datganiad ysgrifenedig o delerau’ sy’n nodi faint yw’ch rhent, pryd mae’n ddyledus, a ellir ei gynyddu, a faint o rybudd sydd ei angen. 

Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod gennych gofnod ysgrifenedig o'ch hawliau. Os nad yw'ch landlord wedi darparu'r rhain, efallai y byddant yn cael dirwy. . 

Newidiadau yn y dyfodol o’ r Ddeddf Hawliau Rhentwyr yn Lloegr

Mae rheolau newydd yn berthnasol i'r sector rhentu preifat yn Lloegr yn dilyn y Ddeddf Hawliau Rhentwyr.  

Er bod rhai newidiadau eisoes wedi’u cyflwyno o fis Mai 2026, bydd rhai eraill yn cael eu gweithredu fesul cam. Nid yw’r dyddiadau wedi’u cadarnhau eto, ond dyma beth y gallwch ddisgwyl. 

  • O ddiwedd 2026: bydd cronfa ddata Sector Rhentu Preifat (PRS) yn cael ei chreu, a bydd yn ofynnol i bob landlord preifat gofrestru eu heiddo. Bydd Ombwdsmon Landlord y PRS hefyd yn cael ei sefydlu, gan roi llwybr am ddim i chi ddatrys cwynion heb orfod mynd i’r llys. 
  • O 2028 (disgwyliedig): Bydd yn ofynnol i landlordiaid ddod yn aelodau o gynllun Ombwdsmon Landlord PRS. 
  • Dyddiadau i'w cadarnhau: Bydd 'Y Safon Cartrefi Gweddus' yn cael ei gyflwyno ar gyfer y sector rhentu preifat am y tro cyntaf. Bydd Cyfraith Awaab hefyd yn cael ei hymestyn i lety rhent preifat, sy'n gosod amserlenni gorfodadwy i landlordiaid drwsio peryglon difrifol yn eich cartref. 

Darllenwch fwy yn ein blog  Beth mae’r Ddeddf Hawliau Rhentwyr 2025 newydd yn ei olygu i chi.

Efallai bydd angen trwydded ar eich landlord i allu rhentu i chi

Mae trwydded neu gofrestr landlord wedi’i dylunio i ganiatáu i gynghorau ac awdurdodau lleol godi safonau rhentu. Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid i'ch landlord basio rhai gwiriadau a chwblhau hyfforddiant.

Os nad oes ganddynt y drwydded gywir, efallai y bydd yn rhaid iddynt ad-dalu hyd at flwyddyn o rent ac efallai na fyddant yn gallu eich troi allan. Ond mae'r rheolau ar bwy sydd angen trwydded yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.

Os ydych yn rhentu yn: Rheolau trwyddedi landlord:

Lloegr

Mae angen trwydded ar eich landlord os:

  • Mae gan eich cartref bump neu fwy o denantiaid (o leiaf ddau deulu gwahanol) a'ch bod yn rhannu ystafell ymolchi neu gegin - a elwir yn HMO (tŷ amlfeddiannaeth).
  • Mae ar eich cyngor angen iddynt gael un i rentu cartref yn ei hardal – dewch o hyd i fanylion eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd

Gogledd Iwerddon

Rhaid i landlordiaid gael tystysgrif Cofrestru Landlordiaid. Gallwch naill ai chwilio am landlordYn agor mewn ffenestr newydd neu HMOYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw mewn tŷ a rennir.

Yr Alban

Rhaid i landlordiaid ymddangos ar Gofrestr Landlordiaid yr AlbanYn agor mewn ffenestr newyddOpens in a new window

Cymru

Rhaid i landlordiaid ymddangos ar y Gofrestr Rhentu DoethYn agor mewn ffenestr newyddOpens in a new window

Blaendal rhent

Fel arfer bydd angen i chi dalu blaendal cyn y gallwch symud i mewn. Dylid dychwelyd hwn yn llawn pan fyddwch yn symud allan, ar yr amod eich bod wedi bodloni holl delerau eich cytundeb tenantiaeth.

Mae hyn fel arfer yn cynnwys gadael yr eiddo yn yr un cyflwr â phan symudoch i mewn (ar wahân i draul arferol) a pheidio â cholli unrhyw daliadau rhent neu fil.

I helpu, gwiriwch y rhestr eiddo yn ofalus a thynnwch luniau pan fyddwch chi'n symud i mewn am y tro cyntaf. Gweler rhagor o awgrymiadau yn ein Rhestr wirio symud ar gyfer rhentwyr preifat.

Mae yna reolau ynghylch faint y gall blaendal fod:

Rheolau ar faint y gall blaendal fod
Os ydych yn rhentu yn: Yr uchafswm blaendal rhent yw:

Lloegr neu Gymru

Hyd at pum wythnos o rent, neu chwech wythnos os yw’r rhent dros £50,000 y flwyddyn.

Gogledd Iwerddon

Hyd at un mis o rent

Yr Alban

Hyd at dau fis o rentOpens in a new window

Mae'r rhan fwyaf o gytundebau rhentu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i'ch blaendal gael ei ddiogelu mewn cynllun diogelu a gymeradwyir gan y llywodraeth. Mae hyn yn golygu bod cwmni annibynnol yn dal gafael ar eich arian yn lle eich landlord neu asiant gosod.

Rhaid i’ch landlord ddweud wrthych ba ddarparwr cynllun diogelu sydd â’ch arian, fel arfer o fewn 30 diwrnod gwaith (neu 35 diwrnod yng Ngogledd Iwerddon) i’w dderbyn. 

Darganfyddwch fanylion cynlluniau diogelu rhent
Os ydych yn rhentu yn: Gweler manylion y cynllun diogelu ar:

Lloegr neu Gymru

Diogelwch blaendal tenantiaeth – GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Gogledd Iwerddon

Diogelu eich blaendal – nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Yr Alban

Talu blaendal tenantiaeth – mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd

Os oes angen help arnoch ar ddiwedd eich tenantiaeth, gweler Sut i ddatrys anghydfod gyda’ch landlord.

Os ydych yn rhentu gyda phobl eraill

Mae’r cyfrifoldebau a restrir yn y cytundeb tenantiaeth yn disgyn i’r rhai a enwir arno:

  • Os mai dim ond eich enw chi sydd wedi'i restru, chi yn unig sy'n gyfrifol am y rhent a'r eiddo. Gall hyn ddigwydd os:
    • rydych yn rhentu ystafell mewn tŷ a rennir
    • rydych yn gadael i bobl symud i mewn ond ddim yn diweddaru’r cytundeb tenantiaeth.
  • Os yw'ch holl enwau wedi'u rhestru, rydych yn rhannu'r cyfrifoldebau'n gyfartal –  gelwir hyn yn denantiaeth ar y cyd neu gytundeb ar y cyd. Mae hyn yn golygu:
    • gallech fod yn gyfreithiol gyfrifol os nad yw rhywun arall yn talu eu rhent neu’n achosi difrod
    • efallai y bydd angen caniatâd gan bob tenant i symud allan yn gynnar.

Gweler Rhentu gyda phartner neu gyd-letywyr am fwy o help a gwybodaeth.

Cynnydd Rhent

Os ydych chi'n rhentu gan eich cyngor, awdurdod lleol neu gymdeithas dai, mae rhent fel arfer yn cynyddu bob mis Ebrill – gan ddilyn rheolau a osodir gan y llywodraeth a rheoleiddwyr.  

Os ydych yn rhentu gan landlord preifat, dim ond unwaith bob 12 mis y gellir cynyddu eich rhent, a rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi sy’n nodi: 

  • y swm rhent newydd
  • y dyddiad y bydd y cynnydd yn dechrau, a
  • sut i’w herio os ydych o’r farn ei fod yn rhy uchel.

Bydd faint o rybudd a gewch yn dibynnu ar ble rydych chi'n rhentu yn y DU.

Lloegr

Dim ond unwaith y flwyddyn y gall eich landlord godi eich rhent, ac nid o fewn y 12 mis cyntaf o'ch tenantiaeth. Byddwch yn cael rhybudd o 2 fis yn ysgrifenedig gan ddefnyddio hysbysiad Adran 13. 

Os gwnaethoch lofnodi cytundeb tenantiaeth cyn 1 Mai 2026 a oedd yn cynnwys cymal adolygu rhent, nid yw hyn bellach yn berthnasol.  

Dim ond i’r “gyfradd marchnad” y gellir cynyddu eich rhent, felly gwiriwch ar-lein i weld faint o rent sy’n cael ei ofyn am eiddo tebyg yn eich ardal. Os ydych chi'n meddwl bod y cynnydd yn rhy uchel, gallwch ei herio gyda'r Tribiwnlys Haen Gyntaf Y Siambr EiddoYn agor mewn ffenestr newydd

Yr Alban

Dim ond unwaith bob 12 mis y gall eich landlord gynyddu eich rhent. Rhaid iddynt roi tri mis o rybudd ysgrifenedig i chi drwy ddefnyddio Hysbysiad Cynnydd Rhent Swyddogol. 

Cymru

Dim ond unwaith y flwyddyn y gall eich rhent gynyddu. Rhaid i’ch landlord roi dau fis o rybudd ysgrifenedig i chi drwy ddefnyddio Hysbysiad Amrywio (Ffurflen RHW12). 

Gogledd Iwerddon

Dim ond ar ôl i chi fod yn denant am 12 mis y gall eich landlord gynyddu’r rhent, ac ar ôl iddo gael ei gynyddu, rhaid iddynt aros 12 mis arall cyn ei gynyddu eto. Rhaid rhoi tri mis o rybudd ysgrifenedig i chi – gall hyn gynnwys e-bost neu neges destun – neu drwy anfon Hysbysiad Amrywio atoch. 

Gweler Help gyda chodiadau rhent, ôl-ddyledion ac os ydych yn cael trafferth talu am fwy o wybodaeth. 

Troi allan

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae eich landlord angen rheswm penodol i ddechrau'r broses troi allan.  

Gall hyn fod oherwydd eich bod wedi torri telerau eich cytundeb tenantiaeth, er enghraifft: 

  • peidio â thalu eich rhent
  • ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu
  • is-osod heb ganiatâd. 

Neu gallai fod oherwydd bod angen i’ch landlord gael yr eiddo yn ôl, megis: 

  • eisiau ei werthu, neu
  • eu bod nhw eu hunain, neu aelod agos o’r teulu, am symud i mewn. 

Ond mewn rhai rhannau o'r DU, gall landlord ofyn i chi adael heb roi rheswm penodol. Gelwir hyn yn droi allan 'heb-fai'.

Os ydych yn rhentu: Troi allan heb fai:

yn Lloegr

Wedi’i wahardd

yn yr Alban

Wedi’i wahardd

yng Nghymru

Wedi'i ganiatáu (gyda rhybudd o 6 mis, ond nid o fewn y 6 mis cyntaf o'r denantiaeth)

yng Ngogledd Iwerddon

Wedi'i ganiatáu (mae cyfnodau rhybudd yn amrywio o 4 wythnos hyd at 12 wythnos yn dibynnu ar hyd y denantiaeth)

Beth bynnag yw'r rheswm y gofynnir i chi adael, rhaid rhoi rhybudd i chi. Bydd hyd y cyfnod rhybudd yn dibynnu ar y rheswm dros y troi allan a ble rydych yn rhentu. Mae Which? yn darparu crynodeb o'r cyfnodau rhybudd troi allan cyfreithiolYn agor mewn ffenestr newydd

Mae bob amser yn werth gweld a allwch chi ddatrys unrhyw broblemau ar hyn o bryd, fel cytuno ar gynllun ad-dalu newydd os ydych ar ei hôl hi gyda'ch rhent (ôl-ddyledion). Gweler Sut i ddatrys anghydfod gyda’ch landlord.

Os na allwch ddod i gytundeb a bod eich landlord o hyd yn bwriadu eich troi allan, disgwylir i chi adael cyn y dyddiad ar y rhybudd troi allan – ond nid oes rhaid i chi wneud hynny. Bydd angen i’ch landlord fynd i’r llys i'ch cael chi i adael. 

Gweler Help os ydych yn cael eich troi allan am ragor o wybodaeth

A all landlordiaid wrthod anifeiliaid anwes mewn eiddo rhent?

Gallwch ofyn i’ch landlord ganiatáu i chi gadw anifail anwes yn eich eiddo, hyd yn oed os oes cymal “dim anifeiliaid anwes” yn eich cytundeb tenantiaeth. Mae’r dyletswydd ar y landlord i ystyried cais o’r fath o ddifrif, a’r rhesymau dros ei wrthod, yn dibynnu ar ble yn y DU rydych yn rhentu.

Lloegr

Os ydych chi'n rhentu yn breifat yn Lloegr, mae gennych hawl gyfreithiol i ofyn am gael anifail anwes yn eich eiddo rhent. Rhaid i'ch landlord ei ystyried o ddifrif, ac ni allant wrthod heb reswm da. 

Bydd angen i chi ofyn i'ch landlord yn ysgrifenedig a chynnwys disgrifiad o'ch anifail anwes, fel y math, maint, ac unrhyw fanylion perthnasol fel a oes angen amgaead arno. 

Ar ôl i chi wneud eich cais, mae gan eich landlord 28 diwrnod i ymateb yn ysgrifenedig. Gallant ofyn am ragor o wybodaeth yn ystod yr amser hwn. Os ydynt yn gwneud hynny, bydd angen i chi ymateb ac unwaith y byddwch wedi gwneud hynny, bydd ganddynt naill ai weddill y 28 diwrnod gwreiddiol neu 7 diwrnod ychwanegol i roi eu penderfyniad terfynol i chi, pa un bynnag sydd hwyraf.  

Os yw'ch landlord yn cytuno i gais anifail anwes, ni allant dynnu'r cytundeb hwnnw'n ôl. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi wneud cais newydd am bob anifail anwes newydd, a gall eich landlord ddweud na. 

Gall landlord wrthod os oes ganddynt reswm teg, megis:

  • mae gan denant arall alergedd
  • Mae'r eiddo yn rhy fach ar gyfer anifail anwes mawr neu sawl anifail anwes
  • mae'r anifail anwes yn anghyfreithlon i fod yn berchen arno
  • rydych chi'n rhentu eiddo lesddaliad, ac nid yw'r rhydd-ddeiliad yn caniatáu anifeiliaid anwes. 

Fel arfer, ni fyddai’n rhesymol gwrthod oherwydd: 

  • nad ydynt yn hoffi anifeiliaid anwes
  • pryderon ynghylch difrod posibl
  • eu bod wedi cael problemau gydag anifeiliaid anwes mewn tenantiaethau blaenorol.  
  • eu bod yn poeni am rentu yn y dyfodol. 

Ni all eich landlord ofyn i chi gymryd yswiriant ychwanegol fel amod o gadw anifail anwes. Fodd bynnag, cadwch mewn cof y gallant ddewis cadw rhan neu'r cyfan o'ch blaendal i dalu unrhyw gostau atgyweirio sylweddol. 

Os ydych chi'n teimlo bod eich landlord wedi gwrthod eich cais yn afresymol, gallwch fynd â'r achos i'r llys a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. 

Ewch i GOV.UK i ddarganfod mwy os ydych chi eisiau anifail anwes i fyw gyda chiYn agor mewn ffenestr newydd  

Cymru

Os ydych chi'n rhentu'n breifat yng Nghymru, nid oes gennych hawl gyfreithiol i ofyn am anifail anwes neu gadw anifail anwes. Fodd bynnag, gall eich landlord neu asiant gosod ychwanegu 'cymal anifeiliaid anwes' i'ch cytundeb tenantiaeth os yw'r ddau ohonoch yn cytuno iddo.  

Nid yw hyn wedi'i gynnwys yn templedi contract safonol Llywodraeth Cymru, felly efallai y bydd angen i chi ofyn i'ch landlord ei ychwanegu.

Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae cymalau 'Dim anifeiliaid anwes' yn dal i fod yn gyfreithlon ac yn gyffredin mewn tenantiaethau yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid yw hyn yn golygu na allwch ofyn i'ch landlord a allwch chi gael anifail anwes yn eich eiddo, ond gallant ddweud na ac nid oes angen rheswm 'teg'.

Yn yr Alban, mae hyn yn debygol o newid yn ystod y blynyddoedd nesaf gyda'r Ddeddf Tai (Yr Alban). Bydd hwn, gobeithio, yn rhoi hawliau tebyg i rentwyr fel y rhai a gyflwynwyd yn Lloegr trwy'r Ddeddf Hawliau Rhentwyr. 

Nol i’r brig

Gwiriwch pwy sy’n gyfrifol am dalu biliau a Threth Cyngor

Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn rhestru  unrhyw filiau sydd wedi’u cynnwys fel rhan o’ch taliad rhent arferol. Os nad yw, eich cyfrifoldeb chi yw talu'r holl filiau.

Mae'r rhain fel arfer yn cynnwys:

  • ynni (nwy a/neu drydan)
  • dŵr
  • Treth Cyngor neu Ardrethi
  • rhyngrwyd
  • Trwydded Deledu (os ydych yn gwylio teledu byw)
  • yswiriant cynnwys.

Siopwch o gwmpas am y bargeinion gorau

Oni bai bod rhywun arall yn gofalu am rai biliau, fel cytundeb ‘cynnwys biliau’, rydych chi’n rhydd i ddewis eich darparwyr eich hun.

Fel arfer nid oes angen caniatâd eich landlord i newid oni bai bod gennych unrhyw beth wedi’i osod yn ffisegol, fel cysylltiad band eang ffeibr newydd.

Gweler Sut i arbed arian ar filiau cartref am fwy o gymorth. Mae hefyd yn werth gwirio a ydych yn gymwys i gael gostyngiad Treth Cyngor neu ArdrethiYn agor mewn ffenestr newydd

Cynlluniwr cyllideb

I’ch helpu i reoli’ch arian, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr cyllideb rhad ac am ddim sy’n hawdd ei ddefnyddio

Ystyried yswiriant ychwanegol

Os caiff eitemau yn eich cartref eu dwyn, eu colli neu eu difrodi, mae yswiriant cynnwys wedi’i gynllunio i roi’r arian i chi i helpu i unioni pethau.

Mae polisi yn ddewisol serch hynny, felly chi sydd i ddewis os ydych yn cymryd un allan. Mae ein canllaw yswiriant cynnwys yn cynnwys help llawn, gan gynnwys sut i ddod o hyd i fargen rad.

Gelwir y math arall o yswiriant cartref yn adeiladau, sy'n cwmpasu strwythur yr eiddo, fel y to, y waliau a'r drysau. Ond cyfrifoldeb eich landlord yw hyn, felly dim ond y cynnwys sydd angen i chi ei ystyried.

Byddai llawer ohonom yn cael trafferth cadw ar ben ein gwariant hanfodol, fel rhent, pe baem yn colli incwm oherwydd salwch neu ddamwain, felly math arall o yswiriant dewisol i'w ystyried yw diogelu incwm. 

Mae diogelu incwm yn bolisi yswiriant hirdymor sy'n gwneud yn siŵr eich bod yn cael incwm rheolaidd nes i chi ymddeol neu allu dychwelyd i'r gwaith. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant diogelu incwm?

Rhannu biliau cartref

Os ydych chi’n rhentu gyda phobl eraill, fel rhannu tŷ, bydd angen i chi gytuno sut rydych chi’n mynd i rannu’r biliau.

Mae angen enwi o leiaf un person ar bob cyfrif, a elwir yn dalwr y bil. Os cymerwch hwn ymlaen, chi fydd yn gyfrifol am dalu’r bil hwnnw ar amser – hyd yn oed os nad yw eraill wedi talu eu cyfran i chi.

Os na allwch dalu, fe allech chi’n bersonol wynebu ffioedd hwyr a difrod i’ch statws credyd. Cyn methu taliad, cysylltwch â'ch darparwr a gofynnwch am help. Efallai y byddant yn cynnig cynllun ad-dalu mwy fforddiadwy i chi, er enghraifft.

Gweler Siarad â'ch credydwr a Rhentu gyda phartner neu gyd-letywyr am fwy o help.

Nol i’r brig

Mae gwarantwyr rhent yn talu'r rhent os na allwch chi

Cyn i chi gael eich derbyn ar gyfer eiddo, efallai y gofynnir i chi am warantwr rhent. Dyma rywun sy’n gyfreithiol gyfrifol am dalu eich rhent os na allwch.

Gallai hyn ddigwydd os oes gennych incwm isel, sgôr credyd gwael neu nad ydych erioed wedi rhentu yn y DU o’r blaen.

Fel arfer bydd eich gwarantwr yn rhywun rydych chi'n ei adnabod, fel aelod o'r teulu neu ffrind. Efallai y bydd yn rhaid iddynt hefyd fodloni meini prawf penodol, megis:

  • bod yn berchen ar eu cartref eu hunain
  • ennill swm penodol
  • pasio gwiriad credyd.

Gofynnwch i’ch gwarantwr beth fydden nhw’n ei ddisgwyl gennych chi pe bai’n rhaid iddynt dalu’ch rhent, yn ddelfrydol dylent roi rhywbeth yn ysgrifenedig. Er enghraifft, eu had-dalu dros gyfnod penodol.

Helpwch os na allwch ddod o hyd i warantwr

Os na allwch ddod o hyd i warantwr addas, efallai y byddwch yn gallu talu rhywfaint o rent ymlaen llaw yn lle hynny. Mae gan y gwefannau isod fwy o help.

Os ydych yn rhentu yn: Gweler help os na allwch ddod o hyd i warantwr ar:

Lloegr

Shelter EnglandYn agor mewn ffenestr newydd

Gogledd Iwerddon

Housing RightsYn agor mewn ffenestr newydd

Yr Alban

Shelter ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd

Cymru

Shelter CymruYn agor mewn ffenestr newyddOpens in a new window

Ydych chi’n cael trafferthion gyda thaliadau?

Defnyddiwch ein Teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion diduedd ac am ddim ar-lein, dros y ffon neu yn agos at le rydych yn byw.

Nol i’r brig

Eich cyfrifoldebau fel gwarantwr rhent

Os gofynnir i chi fod yn warantwr rhent, darllenwch y cytundebau tenantiaeth a gwarantwr bob amser i ddeall yr hyn rydych chi’n ymrwymo iddo.

Fel arfer byddwch yn gyfrifol am unrhyw daliadau rhent a fethwyd ar gyfer:

  • yr holl amser y mae'r tenant yn aros yn yr eiddo, neu
  • nes iddynt arwyddo cytundeb newydd.

Felly fe allech chi fod yn warantwr am lawer o flynyddoedd.

Os na fyddwch yn talu, gallech gael eich dwyn i’r llys am ddyled y tenant. Gallai hyn wedyn gael effaith negyddol ar eich statws credyd eich hun.

Cyn cytuno, cynlluniwch sut y byddech yn talu eu rhent bob mis pe bai rhywun yn galw arnoch - gall ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio helpu. Ystyriwch hefyd a allai'r cyfrifoldeb hwn niweidio'ch perthynas.

Os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus ag unrhyw beth, peidiwch â chytuno. Gweler Sut i gael sgwrs am arian am help.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Rhentu

Rhentu cartref

  • Cynllun Gosod Ystafell – sut mae'n gweithio a'r rheolau treth
  • Sut i ddod o hyd i gartref rhent gallwch chi ei fforddio
  • Esbonio hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid
  • Rhentu gyda phartner neu gyd-letywyr
  • Rhestr wirio symud tŷ ar gyfer rhentwyr preifat
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Rhentu cartref

  • Cynllun Gosod Ystafell – sut mae'n gweithio a'r rheolau treth
  • Sut i ddod o hyd i gartref rhent gallwch chi ei fforddio
  • Esbonio hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid
  • Rhentu gyda phartner neu gyd-letywyr
  • Rhestr wirio symud tŷ ar gyfer rhentwyr preifat
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc).

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012