Os caiff eitemau yn eich cartref eu dwyn, eu colli neu eu difrodi, dylai yswiriant cynnwys roi'r arian i chi i'ch helpu i unioni pethau. Dyma'r cyfan sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sut mae yswiriant cynnwys yn gweithio?
- Mae yswiriant cynnwys yn ddewisol, ond yn synhwyrol
- Sut i gyfrifo faint o yswiriant sydd ei angen arnoch
- Awgrymiadau i gael dyfynbrisiau yswiriant cynnwys rhad
- Sut i gael dyfynbrisiau yswiriant cartref
- Help os na allwch fforddio polisi
- Sut i ganslo yswiriant cartref
Sut mae yswiriant cynnwys yn gweithio?
Os aiff rhywbeth o'i le, fel byrgleriaeth, gollyngiad neu dân, gallwch wneud cais i'r yswiriwr am unrhyw eitemau sydd wedi'u difrodi, eu colli neu eu dwyn.
Yna byddant yn gwirio a yw eich sefyllfa wedi’i diogelu ac yn cyfrifo faint o arian y byddant yn ei roi i chi.
Fel arfer bydd angen i chi dalu rhywfaint o’r hawliad eich hun – a elwir yn ormodedd – sydd fel arfer rhwng £50 a £1,000. Rydych chi'n dewis y swm hwn pan fyddwch chi'n cymryd polisi allan.
Beth mae yswiriant cynnwys yn ei gynnwys
Os ydych chi'n troi'ch cartref wyneb i waered, mae yswiriant cynnwys fel arfer yn cynnwys popeth sy'n disgyn allan, gan gynnwys carpedi wedi'u gosod.
Mae’r union yswiriant yn amrywio rhwng yswirwyr a pholisïau, ond bydd y rhan fwyaf yn helpu i dalu am atgyweiriadau neu amnewidiadau oherwydd:
- lladrad
- tân
- llifogydd
- colled.
Gallwch hefyd dalu mwy i gynnwys yswiriant ar gyfer:
- eitemau a gollwyd neu sy’n cael eu dwyn y tu allan i'r cartref, gan gynnwys dramor
- eitemau gwerth uchel
- difrod damweiniol.
Yr hyn nad yw yswiriant cynnwys yn ei gynnwys
Ni fydd y rhan fwyaf o bolisïau yswiriant yn cynnwys pethau fel:
- traul arferol
- difrod bwriadol
- difrod i gyfrifiadur a achosir gan firws.
Byddai angen i chi ariannu’r atgyweiriadau hyn eich hun, felly mae’n werth agor cyfrif cynilo i helpu i dalu unrhyw gostau brys.
Gweler sut i sefydlu cronfa argyfwng am fwy o wybodaeth.
Er mwyn diogelu strwythur eich cartref megis y waliau, y to, a gosodiadau fel cypyrddau cegin sydd wedi’u gosod neu eich ystafell ymolchi, bydd angen yswiriant adeiladau arnoch.
Mae yswiriant cynnwys yn ddewisol, ond yn synhwyrol
Yn wahanol i yswiriant adeiladau, a all fod yn ofyniad i gael morgais, chi sydd i benderfynu a ydych yn cael yswiriant cynnwys.
Ond hebddo, byddai’n rhaid i chi dalu’r costau eich hun pe bai rhywbeth yn mynd o’i le – a allai fod yn filoedd o bunnoedd.
Fel arfer mae perchnogion tai angen yswiriant adeiladau a chynnwys
Dim ond yswiriant cynnwys fyddai ei angen ar rentwyr
Cyfrifoldeb eich landlord yw yswiriant adeiladau. Ond os ydych chi eisiau yswiriant ar gyfer eich eiddo, bydd angen i chi gael yswiriant cynnwys.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Dim ond os gallwch chi ei fforddio y dylech gael yswiriant
I weld a allwch chi fforddio polisi, defnyddiwch ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio.
Os ydych eisoes yn cael trafferth gyda biliau eraill, gweler ein Blaenoriaethwr biliau neu ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion os ydych eisoes wedi methu taliad.
Sut i gyfrifo faint o yswiriant sydd ei angen arnoch
Wrth gael dyfynbris yswiriant cynnwys, fel arfer gofynnir i chi faint y byddai'n ei gostio i adnewyddu holl gynnwys eich cartref. Mae hyn yn cyfrifo’r terfyn yswiriant y bydd ei angen arnoch – yr uchafswm y byddai yswiriwr yn ei dalu.
Gallwch gael polisïau gydag yswiriant diderfyn, ond mae’r rhain fel arfer yn ddrytach a gallech dalu am yswiriant nad oes ei angen arnoch.
Defnyddiwch gyfrifiannell cynnwys am ddim
I amcangyfrif faint y byddai'n ei gostio i adnewyddu eich eiddo, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell am ddim.
Mae gan y mwyafrif o yswirwyr nhw, ond dyma ddau i roi cynnig arnyn nhw:
Terfynau eitem sengl
Bydd gan lawer o bolisïau gyfyngiad eitem sengl, yn aml tua £1,500. Os ydych chi eisiau yswiriant llawn ar gyfer unrhyw beth sy’n werth mwy na’r swm hwn, fel gemwaith, fel arfer byddai’n rhaid i chi restru’r eitem(au) drud ar y polisi.
Awgrymiadau i gael dyfynbrisiau yswiriant cynnwys rhad
Rhaid i yswirwyr godi'r un tâl ar gwsmeriaid newydd a phresennol, ar sail debyg am debyg. Ond gwiriwch bob amser a allwch arbed trwy newid yswiriwr. Peidiwch fyth ag adnewyddu'n awtomatig.
Dyma awgrymiadau eraill i gael dyfynbrisiau rhad:
- Prynu yswiriant adeiladau a chynnwys ar un polisi, os ydych angen y ddau.
- Talu yn flynyddol os gallwch, fel arfer mae'n costio mwy i dalu'n fisol.
- Cynyddu’r gormodedd - os ydych chi'n hapus i dalu mwy o gost unrhyw gais eich hun.
- Gwella diogelwch eich cartref, fel gosod:
- Cloeon a gymeradwyir gan BSI ar ddrysau a ffenestri allanol
- Larymau lladron a mwg
- Ymuno â chynllun gwarchod cymdogaeth.
Mae hefyd yn werth gwirio pa yswiriant sydd gennych eisoes, ac a yw’n bodloni’ch anghenion. Er enghraifft, mae rhai pecynnau cyfrifon cyfredol yn cynnwys yswiriant ar gyfer ffonau symudol a theclynnau.
Gwiriwch a yw eich cyngor neu gymdeithas tai yn cynnig polisi am bris gostyngol
Os ydych yn rhentu gan eich cyngor, awdurdod lleol neu gymdeithas tai, gwiriwch a ydynt yn cynnig polisi cynnwys arbennig i breswylwyr. Efallai eu bod wedi gwneud bargen gydag yswiriwr i gynnig yswiriant rhad. Fel arfer byddwch naill ai’n talu’r yswiriwr yn uniongyrchol neu gellid ychwanegu’r gost at eich taliad rhent arferol.
Y naill ffordd neu'r llall, gwiriwch bob amser lefel yr yswiriant y mae'n ei gynnig ac a allech chi gael yswiriant rhatach neu well eich hun. Er enghraifft:
- faint y byddai angen i chi ei dalu pe baech yn gwneud hawliad (a elwir yn ormodedd)
- pa eitemau yn eich cartref sydd wedi'u cynnwys, fel arian parod neu gynnwys eich rhewgell
- a oes unrhyw derfynau hawlio uchaf.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Cronni gostyngiad dim ceisiadau
Os na fyddwch yn gwneud cais yn ystod blwyddyn bolisi, byddwch yn ennill ‘bonws dim ceisiadau. Mae hyn fel arfer yn golygu y byddwch yn cael gostyngiad ar gyfer y flwyddyn nesaf - hyd at uchafswm a bennir gan yr yswiriwr.
Sut i gael dyfynbrisiau yswiriant cartref
Gall yswirwyr godi prisiau cwbl wahanol, felly ceisiwch gael cymaint o ddyfynbrisiau â phosibl bob amser. Gallwch gael dyfynbrisiau yswiriant gan:
- safleoedd cymharu – rhowch eich manylion unwaith i gael dyfynbrisiau gan lawer o yswirwyr:
- Gweler ein rheolau euraidd gwefan gymharu
- Gweler trefn MoneySavingExpert o’r gwefannau cymharu rhatafYn agor mewn ffenestr newydd
- yswirwyr yn uniongyrchol – nid yw pob yswiriwr yn ymddangos ar safleoedd cymharu, fel Direct Line
- eich Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Tai – efallai y byddant yn cynnig bargen ratach nag y gallwch ddod o hyd iddo yn rhywle arall
- broceriaid yswiriant – am gyngor neu bolisi wedi'i deilwra. Gweler Pryd i ddefnyddio brocer yswiriant.
Peidiwch sgimpio ar yswiriant os gallwch chi fforddio gwneud hynny, nid y fargen rataf yw’r un orau o reidrwydd. Sicrhewch eich bod chi'n cael y polisi cywir, hyd yn oed os yw'n costio ychydig bunnoedd yn fwy os ydych chi wir ei angen.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Gall camgymeriadau ar ddyfynbris olygu nad yw cais yn cael ei dalu
Byddwch yn ofalus wrth lenwi ffurflenni, gallai gwall neu wybodaeth a fethwyd yn golygu na chaiff cais yn y dyfodol ei dalu. Mae gofyn i chi ymddwyn yn ddidwyll, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn:
- Ateb cwestiynau yn onest ac yn gywir.
- Deall beth sydd wedi'i gynnwys a beth sydd heb ei gynnwys cyn llofnodi i fyny - gofynnwch i'r yswiriwr neu'r brocer os nad ydych yn siŵr.
- Rhoi gwybod i’ch yswiriwr os bydd unrhyw beth yn newid - fel cael gwaith adeiladu wedi'i wneud, newid mewn manylion personol neu os oes angen i chi gynyddu terfyn yr yswiriant.
Help os na allwch fforddio polisi
Os ydych yn cael trafferth dod o hyd i bolisi fforddiadwy, rhowch gynnig ar y camau hyn i gynyddu eich incwm:
1. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i weld a ydych yn gymwys i gael unrhyw gymorth.
2. Defnyddiwch ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio i adolygu eich incwm a'ch gwariant.
3. Gweld a allwch chi dorri unrhyw gostau fel:
a. canslo tanysgrifiadau neu wasanaethau nad ydych yn eu defnyddio, neu y gallech fyw hebddynt
b. gweld a ydych yn gymwys i gael tariffau cymdeithasol incwm isel rhatach ar gyfer nwy a thrydan
c. gwirio a ydych yn gymwys i gael gostyngiad Treth Gyngor neu ArdrethiYn agor mewn ffenestr newydd
d. gwirio a allwch arbed drwy newid darparwr, fel rhyngrwyd a ffôn symudol
e. os ydych chi'n talu llog cerdyn credyd, ystyriwch ei symud i gerdyn trosglwyddo balans di-log
f. gweld a allwch chi gael biliau dŵr rhatach gyda mesurydd dŵr (yng Nghymru a Lloegr).
Wrth ganslo, gwiriwch delerau eich contract bob amser oherwydd efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i adael yn gynnar.
Os ydych chi eisoes yn cael trafferth gyda biliau eraill, peidiwch â chymryd polisi yswiriant newydd allan. Yn lle hynny, gweler ein Blaenoriaethwr biliau neu ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion os ydych eisoes wedi methu taliad.
Sut i ganslo yswiriant cartref
Gallwch ofyn i’ch yswiriwr ganslo’ch polisi unrhyw bryd, ond mae rhai pethau i fod yn ymwybodol ohonynt:
- ni fyddwch yn ennill bonws dim cais y flwyddyn gyfredol os byddwch yn canslo hanner ffordd drwodd
- fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu tâl canslo, oni bai:
- eich bod yn adnewyddu, neu
- o fewn y cyfnod callio (fel arfer y 14 diwrnod cyntaf) a heb wneud hawliad.
Os ydych wedi talu ymlaen llaw a heb wneud cais, byddwch yn derbyn ad-daliad am y misoedd sy’n weddill - minws unrhyw ffioedd canslo.
Gofynnwch i'ch yswiriwr am help os ydych chi'n cael trafferth talu
Os ydych yn ystyried canslo oherwydd cost neu fforddiadwyedd, mae'n bwysig peidio â chanslo yswiriant rydych ei angen - neu i fethu taliad. Yn hytrach, cysylltwch â'ch yswiriwr a dywedwch wrthynt eich bod chi'n cael trafferth.
Mae'n rhaid i yswirwyr gefnogi cwsmeriaid sydd mewn trafferthion ariannol, felly byddant yn esbonio'ch opsiynau a'r ffyrdd y gallant helpu. Er enghraifft, gallent sefydlu cynllun ad-dalu amgen neu addasu eich yswiriant i gyd-fynd â'ch anghenion a gostwng y gost.