Os ydych wedi derbyn gorchymyn troi allan neu mewn perygl o gael eich troi allan, dyma beth i'w wneud nesaf a ble i ddod o hyd i gymorth am ddim.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Rhesymau y gallwch chi gael eich troi allan
Efallai byddwch chi’n cael rhybudd i adael:
- Os byddwch yn torri unrhyw un o'r telerau yn eich cytundeb tenantiaeth, fel peidio â thalu'ch rhent.
- Os yw eich landlord eisiau'r eiddo yn ôl, er enghraifft i’w werthu neu i symud i mewn ei hun
- Ar ôl i gytundeb tymor penodol ddod i ben, neu yn ystod contract treigl heb rhoi rheswm penodol – sef troi allan heb fai – ond mae hyn ond wedi’i ganiatáu yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.
Bydd yr union reolau yn dibynnu ar:
- y math o gytundeb tenantiaeth sydd gennych
- pa mor hir rydych chi wedi byw yno, a
- ble yn y Deyrnas Unedig rydych chi'n byw?
Gall hyn wneud y rheolau ynghylch rhentu a throi allan yn eithaf cymhleth.
I helpu, mae'r canllaw hwn yn ymdrin â'r pwyntiau cyffredinol a'r dolenni i leoedd sy'n cynnig gwybodaeth fanwl – gan gynnwys llinellau cymorth am ddim
Rhesymau na allwch gael eich troi allan – troi allan anghyfreithlon
Oni bai bod eich landlord neu'ch sefydliad rydych chi'n rhentu wrtho yn dilyn y broses gywir, gallai eich troi allan fod yn anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys:
- peidio â chael y swm cywir o rybudd
- peidio â rhoi'r gwaith papur cywir i chi
- eich landlord heb y drwydded gywir
- cael eich gwahaniaethu – fel cael eich troi allan os ydych yn feichiog neu’n cael budd-daliadau
- eich troi allan fel dial am ofyn am atgyweiriadau neu wneud cwyn
- cael eich aflonyddu neu ddefnyddio grym i wneud i chi adael, a
- newid y cloeon neu dynnu'ch eiddo heb orchymyn llys.
Ni allwch hefyd gael eich troi allan am rent di-dâl blaenorol os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr ac ar hyn o bryd ar drefniant dyled Lle i Anadlu.
Os ydych chi'n amau y gallai eich troi allan fod yn anghyfreithlon, mae'n well cael cyngor cyfreithiol am ddim am help ar beth i'w wneud nesaf.
Troi allan heb fai yn y DU
Mae troi allan 'heb fai' - lle gall eich landlord ofyn i chi adael heb roi rheswm - yn dal yn gyfreithlon yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Mae angen i'ch landlord roi rhybudd ysgrifenedig i chi yn gyntaf, ond mae'r rheolau'n amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.
Yng Nghymru, mae gennych hawl i o leiaf chwe mis o rybudd, ac ni all hyn fod o fewn y 6 mis cyntaf o'ch contract. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'n rhwng pedair a 12 wythnos o rybudd, yn dibynnu ar ba mor hir rydych chi wedi bod yn denant.
Ond yn Lloegr a'r Alban, mae troi allan 'heb fai' ac Adran 21 bellach wedi'u gwahardd. Rhaid i'ch landlord roi rheswm cyfreithiol penodol i chi (a elwir yn 'sail') cyn gofyn i chi adael.
Bydd y cyfnod rhybudd y mae'n rhaid iddynt ei roi i chi adael yn dibynnu ar y rheswm a nodir ar yr hysbysiad troi allan.
Beth i'w wneud os oes gennych orchymyn troi allan
Dyma'r camau nesaf os ydych wedi cael gorchymyn troi allan.
1. Siaradwch â'ch landlord
Mae bob amser yn werth gweld os allwch chi ddatrys pethau drwy soared â'r person neu'r sefydliad rydych chi'n ei rentu yn y lle cyntaf - os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus i’w wneud.
Efallai y bydd camddealltwriaeth neu gamgymeriad y gallwch ei gywiro'n hawdd.
Gobeithio y gallwch gytuno ar ffordd ymlaen sy'n golygu y gallwch aros yn eich cartref, yn ysgrifenedig yn ddelfrydol. Er enghraifft, trefnu cynllun ad-dalu fforddiadwy ar gyfer rhent di-dâl.
Os ydych yn rhentu gan y cyngor, awdurdod lleol neu gymdeithas dai a bod gennych rent di-dâl, fel arfer mae'n ofynnol iddynt eich helpu i weithio pethau allan.
Am fwy o help, edrychwch ar Sut i ddatrys anghydfod gyda’ch landlord.
2. Gwiriwch fod eich gorchymyn troi allan yn ddilys
Rhaid i'ch landlord ddilyn proses caeth i'ch troi allan yn gyfreithlon. Rhan o hyn yw rhoi'r swm cywir o rybudd i chi.
Oni bai bod y troi allan oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu weithgaredd anghyfreithlon, byddwch yn aml yn cael o leiaf 28 diwrnod o rybudd. Ond gall hyn fod yn hirach yn dibynnu ar:
- y math o gytundeb tenantiaeth sydd gennych
- y rheswm dros droi allan (os oeddech ar fai ai peidio)
- ble yn y Deyrnas Unedig rydych yn rhentu, a
- pha mor hir rydych chi wedi byw yn yr eiddo?
Mae gan Which? grynodeb cyflym o'r cyfnodau rhybudd troi allan cyfreithiolYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer tenantiaid preifat ledled y DU.
| Os ydych chi'n rhentu yn: | Gwiriwch fod eich cyfnod rhybudd yn gywir gan ddefnyddio: |
|---|---|
|
Lloegr |
|
|
Gogledd Iwerddon |
|
|
Yr Alban |
|
|
Cymru |
| Os ydych chi'n rhentu yn: | Gwiriwch fod eich cyfnod rhybudd yn gywir gan ddefnyddio: |
|---|---|
|
Lloegr |
|
|
Gogledd Iwerddon |
|
|
Yr Alban |
|
|
Cymru |
3. Cael cyngor cyfreithiol am ddim
Os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr, gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim cyn gynted ag y byddwch yn cael gorchymyn troi allan.
Defnyddiwch y teclyn Dod o hyd i gynghorydd cyfreithiolYn agor mewn ffenestr newydd a dewis y ‘Housing Loss Prevention Advice Service’ i ddod o hyd i help yn agos atoch chi.
Os ydych yn byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac yn methu â thalu am gynghorydd cyfreithiol, gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Gall hyn eich helpu i gael y canlynol am swm is neu am ddim:
- cyngor ar eich opsiynau
- helpu i lenwi gwaith papur, a
- cynrychiolaeth gyfreithiol yn y llys.
| Os ydych chi'n rhentu yn: | Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar: |
|---|---|
|
Gogledd Iwerddon |
|
|
Yr Alban |
Os nad ydych yn gymwys, gweler manylion llinellau cymorth am ddim
Y broses troi allan
Os yw eich hysbysiad troi allan yn ddilys, bydd eich landlord eisiau i chi adael yr eiddo cyn y dyddiad a nodwyd – ond nid oes rhaid i chi.
Ni ellir eich gorfodi allan, newid y cloeon na symud eich eiddo heb orchymyn llys.
Os ydych chi'n hapus i adael, rhowch ddigon o amser i chi'ch hun i ddod o hyd i eiddo arall a pharhau i dalu eich rhent. Os ydych chi eisiau symud allan cyn eich dyddiad troi allan, cytunwch ar ddyddiad symud cynharach gyda'ch landlord.
Beth sy'n digwydd os nad ydych yn gadael
Os na fyddwch yn gadael ar neu cyn y dyddiad troi allan, bydd angen i'ch landlord fynd i'r llys neu dribiwnlys cyn i unrhyw beth arall ddigwydd.
Rhaid i'r llys gytuno â'r troi allan cyn y gellir trefnu beilïaid, siryf neu swyddogion llys i'ch symud chi. Fel arfer, bydd gennych yr opsiwn i apelio yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol.
Nid oes angen i chi adael yr eiddo nes bod hyn i gyd wedi digwydd, a all gymryd wythnosau neu fisoedd. Ond bydd angen i chi dalu eich rhent o hyd.
| Os ydych chi'n rhentu yn: | Cael help i atal gorchymyn llys gan: |
|---|---|
|
Lloegr |
|
|
Gogledd Iwerddon |
|
|
Yr Alban |
|
|
Cymru |
Cymorth i ddod o hyd i rywle arall i fyw
Gall fod yn anodd chwilio am gartref newydd, felly mae gennym ganllawiau i helpu:
- Sut i ddod o hyd i gartref rhent gallwch chi ei fforddio – gan gynnwys sut i wneud cais am dai cyngor
- Rhestr wirio symud ar gyfer rhentwyr preifat.
Gwiriwch a ydych chi'n gymwys ar gyfer tai brys
Os ydych yn wynebu cael eich troi allan ac y gallech fod yn ddigartref o fewn yr wyth wythnos nesaf, gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cymorth i'r digartref. Mae hyn fel arfer yn golygu nad ydych wedi gallu dod o hyd i gartref addas ar eich pen eich hun.
| Os ydych chi'n rhentu yn: | Darganfyddwch gymorth tai brys ar: |
|---|---|
|
Lloegr |
|
|
Gogledd Iwerddon |
|
|
Yr Alban |
|
|
Cymru |
Bydd y math o help rydych yn debygol o'i gael yn dibynnu ar eich sefyllfa. Er enghraifft, efallai y cewch eich ystyried yn flaenoriaeth uwch os ydych yn agored i niwed, os oes gennych blentyn neu os oes rhywun ar yr aelwyd yn feichiog.
Llinellau cymorth troi allan am ddim
Gallwch egluro'ch sefyllfa i gynghorydd gan ddefnyddio'r llinellau cymorth am ddim isod. Byddant yn gwrando ac yn rhoi cymaint o help ag y gallant.
| Os ydych chi'n rhentu yn: | Darganfyddwch fanylion llinell gymorth am ddim ar: |
|---|---|
|
Lloegr |
|
|
Gogledd Iwerddon |
|
|
Yr Alban |
|
|
Cymru |
Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion cynghorwyr lleol ar Advicelocal Yn agor mewn ffenestr newydd