Gobeithio y byddwch yn teimlo llai o straen os ydych yn dewis ffordd i gysylltu â’ch credydwr sy’n teimlo yn gyfforddus i chi. Dyma rhai pethau i feddwl am:
Dros y ffôn
Dewiswch ddiwrnod ac amser sy’n addas i chi, fel na fydd yn rhaid i chi adael y sgwrs i ddelio ag ymrwymiadau eraill.
Cofiwch, yn aml mae gan ganolfannau cyswllt amseroedd prysur, felly, os gallwch, yr amser orau i ffonio yw canol y bore neu ganol y prynhawn neu’n gynnar yn y noswaith yn lle amser cinio neu peth cyntaf yn y bore.
Gwesgwrs neu WhatsApp
Ystyriwch ddefnyddio gwesgwrs neu WhatsApp os nad ydych yn barod. Mae’n rhoi rheolaeth y sgwrs i chi a gallwch ymateb yn amser eich hun.
E-bost neu lythyr
Os byddai’n well gennych i ddanfon e-bost neu lythyr, mae gan Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd a StepChangeYn agor mewn ffenestr newydd llythyrau sampl y gallwch eu defnyddio, er enghraifft, os na allwch fforddio cadw lan â thaliadau neu i ofyn am gytundeb talu dros-dro.
Cofiwch, gall gymryd mwy o amser i dderbyn ymateb, felly’n well eu defnyddio os nad yw’ch ymholiad ar frys.
Edrychwch ar gefn eich bil neu ddatganiad am ffyrdd o gysylltu â’ch credydwr