Os byddwch yn gwahanu ac nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, nid oes rhaid i chi fynd trwy broses gyfreithiol ffurfiol. Ond os penderfynwch fynd â'ch partner i'r llys - er enghraifft, am gyfran o'r cartref neu oherwydd na allwch gytuno sut i rannu asedau neu feddiannau ar y cyd - bydd rhaid i chi dalu ffioedd cyfreithiol a ffioedd eraill. Os na allwch eu talu o'ch cynilion neu'ch incwm, mae opsiynau eraill.
Talu ffioedd eich cyfreithiwr
Cyn i chi feddwl am hawlio yn erbyn eich cyn partner, mae'n bwysig trefnu sut y byddech yn talu am unrhyw gyngor cyfreithiol. Os na allwch ei fforddio o'ch cynilion neu'ch incwm, mae'n bwysig meddwl yn ofalus ai achos llys yw'r opsiwn gorau. Mewn rhai achosion, gallai cost gweithredu costio mwy nag unrhyw fudd ariannol a gewch o ganlyniad.
Os nad oes gennych gynilion neu incwm, mae sawl ffordd y gallwch fenthyg arian. Ond meddyliwch yn ofalus cyn i chi fenthyca, a cheisiwch beidio â chymryd benthyciad cost uchel. Gallai hyn fod yn anodd ei ad-dalu, yn enwedig gan fod llawer o bobl yn wynebu costau ychwanegol pan fyddant yn gwahanu gyntaf.
Coronafeirws
Yn ystod yr achos o goronafeirws mae’r system llysoedd yn canolbwyntio ar achosion sydd â blaenoriaeth. Mae hyn yn golygu y bydd oedi â nifer o achosion ysgariad a theuluol. Darganfyddwch fwy am sut mae’r Gwasanaeth Llys a Thribiwnlysoedd yn gweithredu yn ystod yr achos ar wefan GOV.UK
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw A allwch fforddio benthyg arian?
Edrychwch ar ein canllaw Beth os na allwch fforddio cyfreithiwr
Benthyca gan deulu neu ffrindiau
Efallai y byddwch yn gallu benthyg gan ffrindiau neu deulu a gall hyn fod yn rhatach a llawer haws na benthyca gan fanc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr benthyciadau arall. Dylech hefyd fod yn siŵr y gallwch dalu’r arian yn ôl. Os na allwch, gallai niweidio’r cyfeillgarwch neu berthynas deuluol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw A ddylech gael benthyg arian gan eich teulu neu’ch ffrindiau?
Cerdyn credyd â llog 0%
Mae cerdyn credyd sy’n codi llog o 0% ar bryniannau yn golygu nad ydych yn talu llog ar eich gwariant am amser cyfyngedig – fel arfer rhwn tri a 12 mis.
Po hwyaf fydd y cynnig llog 0% ar gael, po hwyaf y bydd gennych i dalu’r arian rydych wedi ei wario ar eich cerdyn heb orfod talu llog.
Fel arfer dim ond os oes gennych statws credyd da iawn y byddwch yn gymwys ar gyfer y cardiau hyn.
Dylech fenthyg beth sydd angen arnoch yn unig a cheisio talu’r hyn rydych wedi ei fenthyca yn ôl cyn gynted â phosibl.
Darganfyddwch fwy yn ein Canllaw syml i gardiau credyd
Benthyciad personol
Efallai y byddwch yn gallu cael benthyciad personol gan fanc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr benthyciadau.
Bydd faint fyddwch yn gallu ei fenthyg a’r gyfradd llog yn ddibynnol ar eich amgylchiadau a’r darparwr benthyciadau yr ydych yn gwneud cais iddo.
Bydd y gyfradd llog a’r ad-daliadau misol yn sefydlog a bydd y benthyciad yn rhedeg am gyfnod sefydlog. Ond gallwch fel arfer wneud taliadau ychwanegol i dalu eich benthyciad yn gyflymach heb orfod talu ffioedd ad-dalu cynnar.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Benthyciadau personol
Undebau Credyd
Efallai y byddwch yn gallu benthyg arian gan undeb credyd, darparwr cynilion a benthyciadau cymunedol sy’n eiddo i ac yn cael ei redeg gan ei aelodau.
Mae’r llog y gallant godi wedi ei gyfyngu dan y gyfraith, felly bydd yn llawer rhatach na benthyciadau byrdymor eraill - fel benthyciwr stepen drws neu ddiwrnod cyflog.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Benthyca gan undeb credyd
Dewisiadau ariannu pellach
Mae’n werth gwirio eich polisi yswiriant cartref – gan y gallai gynnwys yswiriant i dalu am gostau cyfreithiol.
Os ydych yn aelod o undeb llafur, efallai y bydd yn darparu cefnogaeth ar gyfer ffioedd cyfreithiol.
Os oes gennych blant a’ch bod yn mynd i’r llys drostynt, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais i’r llys i gael eich cyn partner i gyfrannu i’ch ffioedd.