Eich dewisiadau o ran cyngor cyfreithiol neu ariannol wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw

Os ydych chi a’ch partner yn gwahanu, efallai y byddwch yn medru rhoi trefn ar bethau heb geisio cyngor cyfreithiol neu broffesiynol arall. Ond os na fydd eich cyn bartner yn glynu at beth a gytunwyd rhyngoch, neu hoffech gael gwybod beth yw eich hawliau, gall fod o fudd i chi gael cyngor proffesiynol.

Defnyddio cyfryngwr ar gyfer gwahanu

Gall cyfryngwr roi cymorth i chi a’ch cyn bartner roi trefn ar faterion ynglŷn â’ch plant a materion ariannol. Nid ydynt yn ochri â neb nac yn rhoi cyngor. Yn hytrach, gallant roi cymorth i chi geisio dod i gytundeb. Mae nifer cynyddol o gyfreithwyr sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu yn gyfryngwyr hyfforddedig hefyd.

Mae cyfryngu’n gweithio’n well pan fydd cyplau yn ymddiried yn ei gilydd ac yn bod yn agored a gonest. Os na allwch chi a’ch cyn bartner siarad ynglŷn â phwy ddylai ofalu am y plant neu sut y byddwch yn rhannu’ch arian, efallai na fydd cyfryngu’n addas ar eich cyfer.

I’r rhan fwyaf o bobl, nid yw bellach yn bosibl i gael cymorth cyfreithiol ar gyfer ysgaru, gwahanu neu faterion cyfreithiol yn ymwneud â phlant, ond efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu os ydych yn gymwys. Felly, os ydych chi a’ch cyn partner yn fodlon ei ddefnyddio ac mae’ch materion yn syml gall fod yn ffordd o drefnu pethau rhwng eich gilydd.

Nid yw cyfryngu’n briodol ychwaith pan fu trais yn y cartref – gan gynnwys ble mae un partner yn rheoli neu’n fygythiol. Os ydych wedi bod yn ddioddefwr diweddar o drais yn y cartref, gallwch wneud cais am gymorth cyfreithiol.

Bydd cyfryngwr yn medru dweud wrthych a yw’ch sefyllfa’n addas ar gyfer cyfryngu

Manteision ac anfanteision cyfryngu

  • Gall fod yn gyflymach ac yn rhatach nag ysgariad neu ddiddymiad traddodiadol dan arweiniad cyfreithiwr. A gall cyplau deimlo mwy o reolaeth ar y cytundeb.
  • Mae'n hyblyg, felly gallwch ei ddefnyddio i gytuno ar rai meysydd o'ch ysgariad neu'ch diddymiad ond nid eraill.
  • Mae pob sesiwn yn gyfrinachol. Mae hynny'n golygu os na allwch ddod i gytundeb ac yn mynd i'r llys, ni all eich cyfreithiwr ddefnyddio'r hyn a ddywedwyd yn y sesiynau.
  • Ni all cyfryngwyr roi cyngor cyfreithiol. Mae hynny'n golygu ei bod yn bwysig gweld cyfreithiwr cyn i chi ddechrau cyfryngu fel eich bod yn gwybod eich hawliau.
  • Bydd angen cyfreithiwr arnoch i lunio cytundeb cyfreithiol i ffurfioli unrhyw beth rydych wedi cytuno arno.

Faint yw cyfryngwr?

Mae Cyfarfod Gwybodaeth ac Asesu Cyfryngu fel arfer yn costio tua £100 i £200. Os oes angen mwy o sesiynau arnoch, maent yn costio mwy. A gall ffioedd amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw.

Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i helpu talu am gostau cyfryngu, ond mae'n destun prawf modd.

Ar gyfer Cymru a Lloegrdarganfyddwch fwy am ffioedd ar wefan Family Mediation CouncilYn agor mewn ffenestr newydd

Ar gyfer Gogledd Iwerddon, gall rhieni sydd wedi gwahanu nad ydynt eto wedi dechrau achos llys ddefnyddio'r gwasanaeth cyfryngu am ddim. Darganfyddwch fwy am y gwasanaeth cyfryngu ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd neu drwy ymweld â The Law Society of Northern IrelandYn agor mewn ffenestr newydd

Ar gyfer Yr Albancysylltwch â Scottish Mediation i holi am y gostYn agor mewn ffenestr newydd

Defnyddio cyfreithiwr ar gyfer gwahanu

Gall cyfreithiwr roi cyngor i chi ar eich hawliau os dymunwch wneud hawliad yn erbyn eich cyn bartner am gyfran o’r cartref teuluol neu asedau eraill. Gallwch eu defnyddio:

  • i roi cyngor cyfreithiol annibynnol i chi – naill ai os ydych yn trafod setliad drwy gyfryngu neu’n ystyried dwyn achos llys
  • i negodi ar eich rhan yn uniongyrchol â chyfreithiwr eich partner
  • i lunio cytundeb cyfreithiol, yn seiliedig ar yr hyn a gytunwyd gennych yn annibynnol â’ch cyn partner.

Manteision ac anfanteision o ddefnyddio cyfreithiwr

  • Efallai y bydd cyfreithiwr yn rhoi gwybodaeth i chi am eich hawl ariannol na fyddech fel arall yn ymwybodol ohoni. Os na fydd eich cyn partner yn trafod â chi, gallai defnyddio cyfreithiwr fod yn fwy effeithiol na cheisio ei ddatrys yn uniongyrchol. Mae'r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn cynnig gwasanaethau ffi sefydlog neu gyfraddau wedi'u capio, a all fod yn gost-effeithiol.
  • Gall cyfreithiwr fod yn ddrud iawn, er y bydd costau'n amrywio yn dibynnu ar y cwmni cyfreithiol, ble mae wedi'i leoli a pha mor gymhleth yw'ch ysgariad neu'ch diddymiad.

Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr:

Defnyddio cymrodeddu

Mewn cymrodeddu teuluol, rydych chi a’ch partner yn penodi cymrodeddwr. Maent yn penderfynu ar anghydfodau eiddo neu rai materion yn ymwneud â phlant sy’n codi o berthnasau teuluol. Bydd y penderfyniad yn derfynol ac yn rhwymol.

Mae cymrodeddu teuluol yn galluogi cyplau sy’n profi chwalfa mewn perthynas deuluol i ddatrys anghydfodau yn gyflymach, yn gyfrinachol ac mewn cyd-destun mwy hyblyg a llai ffurfiol na’r llysoedd.

Defnyddio cyfreithiwr teulu cydweithredol

Gall cyfreithwyr teulu cydweithredol eich helpu i ddod i gytundeb drwy gyfres o gyfarfodydd â’ch cyn partner. Bydd gennych chi a’ch partner eich cyfreithiwr teulu cydweithredol eich hun.

  • Rydych i gyd yn llofnodi cytundeb i beidio â mynd i’r llys
  • Cytunwch i weithio â’ch gilydd i ddatrys y materion rhyngoch
  • Chynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb â’r pedwar ohonoch yn bresennol. 

Nid yw cyplau sy’n cyd-fyw fel arfer yn defnyddio'r rhain oherwydd y costau uchel.

Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr teulu cydweithredol:

Costau

I ddod o hyd i’r gost gyfartalog yng Nghymru a Lloegr am wasanaethau cyfreithiol, defnyddiwch ddangosfwrdd prisiau’r Bwrdd Gwasanaethau CyfreithiolYn agor mewn ffenestr newydd. Dewiswch ‘prisiau cyfartalog ysgariad’ ar frig y sgrin, yna dewiswch yr opsiwn sy’n berthnasol i chi.

Defnyddio cyfrifydd

Gallwch ddefnyddio cyfrifydd i roi gwerth i’ch asedau – busnes, er enghraifft.

Mae rhai cyfrifyddion yn arbenigo mewn asesu a yw un partner yn ceisio dibrisio gwerth busnes mae’n berchen arno. Maent yn cael eu galw’n ‘gyfrifyddion fforensig’.

Maent yn arbenigwyr mewn rhoi gwerth ar fusnes – rhywbeth na fyddai gan gyfreithiwr brofiad ohono. Serch hynny, gallnt for yn ddrud.

Gallwch ddod o hyd i gyfrifydd siartredig:

Defnyddio actiwari

Mae actiwari yn arbenigwr sy'n gallu darparu gwerthusiad cywir o beniwn cyflog terfynol neu bensiwn arall sy'n gysylltiedig â chyflog.

Os oeddech yn cyd-fyw ac yna’n gwahanu, mae’n annhebyg byddwch angen actiwari. Mae hyn oherwydd – yn wahanol i ysgariad neu ddiddymiad – nid yw’n ofynnol i un partner rannu ei bensiwn â’r llall

Ond os dymunwch i’ch pensiwn gael ei ystyried wrth rannu asedau, gall actiwari fod yn ddefnyddiol - yn ddibynnol ar y math o bensiwn.

Gallwch ddod o hyd i actiwari ar wefan Sefydliad a Chyfadran yr Actiwariaid

Defnyddio cynghorydd ariannol

Gall cynghorydd ariannol roi cyngor fel sut i rannu asedau yn y modd mwy cost effeithiol o safbwynt treth. Gallant hefyd rhoi cyngor i chi am sut i fuddsoddi’r enillion yn sgil gwerthu tŷ neu rywbeth tebyg.

Bydd rhaid i chi dalu am ei wasanaeth - fesul awr neu am ffi sefydlog fel arfer. Gall eu cyngor a’u harbenigedd ariannol fod yn werthfawr os yw’ch sefyllfa ariannol yn un gymhleth a bod gennych asedau ar y cyd.

Neu, ar gyfer cynghorwyr ariannol yng Nghymru neu Loegr sydd wedi’u hachredu fel arbenigwyr mewn ysgariad, ewch i wefan Resolution

Sut i dalu ffioedd cyfreithiol

Os byddwch yn gwahanu ac nid ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil, gallech orfod talu ffioedd cyfreithiol serch hynny.

Os na allwch dalu’r ffioedd hyn o’ch cynilion neu incwm, darganfyddwch pa opsiynau eraill sydd gennych yn ein canllaw Sut i dalu ffioedd cyfreithiol pan fyddwch yn gwahanu os oeddech yn cyd-fyw

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.