Gall fod yn demtasiwn i fenthyca arian gan rywun rydych yn ei adnabod, yn enwedig os ydynt wedi cynnig. Ond mae llawer o bethau i'w hystyried, fel sut y byddant yn ymateb os ydych chi'n cael trafferth eu talu'n ôl. Darganfyddwch fwy am beth i'w ystyried cyn i chi fenthyca’ch arian.
Beth i'w feddwl amdano cyn benthyg arian gan bobl rydych chi'n eu hadnabod
Os yw cydweithiwr neu ffrind yn cynnig benthyg arian i chi, gallai ymddangos fel ateb delfrydol. Efallai y bydd yn ymddangos fel ffordd ddelfrydol o gael yr arian sydd ei angen arnoch yn gyflym. Efallai y bydd hefyd yn ymddangos yn rhatach na thalu'r cyfraddau llog a'r ffioedd sy'n aml yn gysylltiedig â mathau mwy ffurfiol o fenthyca, fel benthyciadau diwrnod cyflog a benthyca stepen drws (a elwir hefyd yn gredyd cartref).
Ond mae'n bwysig meddwl yn ofalus cyn i chi benderfynu ar unrhywbeth. Os ydynt yn rhywun rydych chi'n ei adnabod o'r gwaith, neu o grŵp cymunedol neu ffydd, pa mor dda ydych chi'n eu hadnabod mewn gwirionedd? Os ydych yn cael trafferth eu talu'n ôl neu'n cymryd mwy o amser i dalu'r swm cyfan yn ôl, a oes siawns y gallent roi pwysau arnoch i dalu?
Byddwch yn arbennig o wyliadwrus os ydynt wedi benthyg arian i bobl eraill hefyd, gan y gallent fod yn siarc benthyg (mwy o wybodaeth isod).
Os mai chi yw'r benthyciwr
Mae'n bwysig eich bod chi a'r person rydych chi'n ei fenthyg ganddo’n nodi cynllun clir ynglŷn â'r hyn y gallwch chi fforddio ei dalu'n ôl a phryd.
Gwnewch gyllideb a sefydlwch cynllun ad-dalu
Cyn i chi fenthyg arian, mae'n bwysig llunio cyllideb. Bydd hyn yn dangos beth sy'n dod i mewn, mynd allan a pha filiau a dyledion eraill sydd gennych. Rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim ac hawdd ei ddefnyddio
Bydd gosod cyllideb yn eich helpu i gyfrifo faint o arian sydd gennych ar ôl i'w ad-dalu ar ôl talu'ch holl filiau eraill. Mae'n bwysig blaenoriaethu eich dyledion, oherwydd gall biliau fel Treth Cyngor, Trwydded Deledu a nwy neu drydan arwain at ganlyniadau mwy difrifol os na fyddwch yn eu talu.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallwch fod yn hyderus y gallwch dalu'r hyn rydych yn ymrwymo iddo.
Ysgrifennwch gytundeb
Mae'n dda nodi, yn ysgrifenedig, faint fyddwch chi'n ei dalu a phryd. Mae hefyd yn bwysig cadw cofnodion o bryd yr ydych yn gwneud ad-daliadau, fel bod y ddau ohonoch yn gwybod faint sy'n ddyledus gennych.
Trafodwch beth fydd yn digwydd os byddwch yn methu taliadau
Mae angen i chi fod yn hyderus na fydd y benthyciwr yn rhoi pwysau arnoch i barhau i dalu, os byddwch yn cael trafferth gwneud taliad. Cyn i chi fenthyg arian, mae'n bwysig eich bod chi a'r benthyciwr yn cytuno, ar y posibilrwydd o lunio cynllun ad-dalu newydd os bydd eich sefyllfa'n newid.
Y peth olaf rydych chi ei eisiau yw benthyca o rywle arall i wneud ad-daliadau oherwydd eich bod yn cael eich rhoi dan bwysau.
Os mai chi yw'r rhoddwr benthyciadau
Os oes rhywun rydych chi'n ei adnabod yn cael trafferth gydag arian, efallai y byddai'n ymddangos yn hawdd cynnig cymorth. Ond meddyliwch yn ofalus cyn i chi fenthyg unrhyw beth iddynt. Ystyriwch a allai achosi problemau yn y gweithle os ydynt yn gydweithiwr, neu’n creu tensiynau os yw'r ddau ohonoch yn rhan o'r un gymuned neu grŵp ffydd.
Mae angen i chi fod yn hyderus y byddant yn gallu eich ad-dalu hyd yn oed os byddant yn colli eu swydd, er enghraifft. A fyddech chi'n fodlon ac yn gallu creu cynllun newydd os ydynt yn ei chael hi'n anodd gwneud ad-daliadau a rhoi'r amser y mae angen iddynt ei dalu? Neu a yw'n well awgrymu mathau eraill o fenthyca (mwy am hyn yn nes ymlaen).
Os oes llawer o arian i’w ad-dalu, mae'n bwysig cael cyngor gan gyfreithiwr neu gyfrifydd i drefnu cytundeb mwy ffurfiol. Bydd hyn yn helpu i'ch diogelu os yw'r person sy'n benthyca gennych yn marw ac mae angen i chi hawlio'r ddyled sydd heb ei thalu o'i ystad.
Byddwch yn wyliadwrus o ffrindiau ffug
Yn ôl Stop Loan Sharks roedd 62% o ddioddefwyr benthyciwr arian didrwydded yn credu eu bod yn ffrind pan wnaethant fenthyg arian.
Mae'n bwysig osgoi benthyca gan bobl nad ydych chi'n eu hadnabod yn dda, fel cydweithwyr, cydnabyddiaethau achlysurol, ffrind i ffrind, neu bobl rydych chi'n eu hadnabod yn eich cymuned leol neu grŵp ffydd.
Os yw rhywun nad ydych yn ei adnabod yn dda yn cynnig benthyg arian i chi, peidiwch a’i dderbyn – efallai eu bod yn fenthyciwr arian didrwydded
Os ydych wedi benthyca gan rywun a'u bod yn eich bygwth, yn codi gormod o log, neu wedi cymryd rhywbeth fel eich pasbort neu gerdyn banc oddi wrthych, gallai'r ymddygiad hwn eu gwneud yn fenthyciwr arian didrwydded. Os ydych yn y sefyllfa hon, mae'n bwysig cael cyngor. Rhowch wybod amdano drwy ffonio Stop Loan SharksYn agor mewn ffenestr newydd ar 0300 555 2222
Byddant yn cysylltu â chi ar amser sy'n addas i chi ac yn rhoi cyngor i chi ar gyfer delio â'r sefyllfa. Byddant hefyd yn esbonio beth fydd yn digwydd nesaf, ac yn eich helpu i gael y cymorth ariannol, tai neu ddyled y gallai fod ei angen arnoch.
Darganfyddwch a ydych chi'n gymwys i gael mwy o help
Os ydych yn cael trafferth gydag arian, mae'n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i wirio eich bod yn hawlio popeth rydych yn gymwys ar ei gyfer.
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau ychwanegol o incwm a chymorth yn ein hadran Help gyda chostau byw
Mathau eraill o fenthyca
Os oes gennych bryderon am fenthyg gan rywun rydych yn ei adnabod, mae yna opsiynau eraill - hyd yn oed os oes gennych sgôr credyd gwael.
Darganfyddwch fwy am yr hyn sydd ar gael yn ein canllaw Penderfynu ar y math gorau o gredyd i chi
Y camau nesaf
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i wirio eich bod yn hawlio popeth rydych yn gymwys ar ei gyfer.
Os ydych wedi methu taliadau ac angen rhywun i siarad â nhw am eich cyllid, dewch o hyd i gyngor cyfrinachol am ddim nawr gan ddefnyddio ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion.