Mae rhai costau, fel ffioedd llys, yn sefydlog. Bydd eraill, fel ffioedd cyfreithiol, yn dibynnu ar faint o gyngor cyfreithiol a gewch a beth mae'r cyfreithiwr yn ei godi. Efallai y gallwch gael help gyda'r gost o gael ysgariad neu ddiddymiad.
Faint yw ffioedd llys?
Os ydych yn ysgaru neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil, bydd yn rhaid i chi neu’ch cyn bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) dalu ffioedd llys.
Bydd yn rhaid i chi eu talu os ydych yn setlo’r ysgariad neu’r diddymiad eich hunan neu’n defnyddio cyfreithiwr i’ch helpu.
Mae ffioedd llys yn amrywio gan ddibynnu ymhle yn y DU rydych yn ysgaru neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil. Rydym wedi rhestru’r prif rai isod, ond efallai y bydd ffioedd eraill y bydd angen i chi eu talu.
Ffioedd llys yng Nghymru a Lloegr
- Os ydych chi eisiau ysgariad neu ddiddymiad, cost y cais i'r llys yw £652. Darganfyddwch fwy am ffeilio am ysgariad ar GOV.UK
- Os ydych chi am wahanu'n gyfreithiol ond nad ydych am ddod â'ch priodas neu'ch partneriaeth sifil i ben - er enghraifft, am resymau crefyddol - gallwch wneud cais am wahaniad barnwrol am £402. Darganfyddwch fwy am gael gwahaniad cyfreithiol ar GOV.UK
- Os gallwch gytuno sut i rannu'ch asedau, gallwch wneud y cytundeb yn gyfreithiol rwymol trwy wneud cais am orchymyn cydsynio. Mae hyn yn costio £58. Darganfyddwch fwy am gael gorchymyn cydsynio ar GOV.UK
- Os na allwch chi a'ch cyn-bartner gytuno ar sut i rannu'ch cyllid, gallwch ofyn i lys benderfynu sut y bydd asedau'n cael eu rhannu. Mae'r cais hwn am orchymyn ariannol yn costio £303. Darganfyddwch fwy am gael llys i benderfynu ar GOV.UK
(Ffigyrau 2024 GOV.UK)
Ffioedd llys yn yr Alban
Darganfyddwch fwy yn y Living Wage Foundation am gyfraddau cyflog y DU yn seiliedig ar gostau bywYn agor mewn ffenestr newydd
Yn yr Alban mae dwy ffordd o gael ysgariad:
- y broses sydd wedi’i symleiddio (a elwir hefyd yn ysgariad DIY)
- y drefn arferol.
Bydd y ffioedd a dalwch yn dibynnu ar ba un y byddwch yn ei ddewis. Dyma'r symiau y byddwch yn eu talu i gael ysgariad neu ddiddymiad yn yr Alban.
- I gwblhau eich ysgariad neu eich diddymiad, y ffi am y ‘minute for decree’ yw £53. Dyma'r term cyfreithiol ar gyfer y ddogfen sy'n cwblhau'r ysgariad neu'r diddymiad.
- I wneud cais am ysgariad neu ddiddymiad ‘cyffredin’ lle na ellir defnyddio’r weithdrefn ‘symlach’ - y ffi yw £165 mewn llys siryf neu £188 yn Llys y Sesiwn.
- I wneud cais am ysgariad neu ddiddymiad ‘symlach’ - y gost yw £137 (Llys y Siryf) neu £143 (Llys y Sesiwn). Efallai y gallwch ei ddefnyddio os nad oes gennych blant o dan 16 oed ac nad ydych chi a'ch cyn-bartner yn hawlio cyfandaliad neu daliadau parhaus gan eich gilydd.
(ffigyrau 2024 gan y ‘Scottish Courts and Tribunals Service’)
Ffioedd llys yng Ngogledd Iwerddon
Bydd angen i chi dalu'r costau canlynol yng Ngogledd Iwerddon.
- Os ydych chi eisiau ysgariad neu ddiddymiad, cost y cais i'r llys yw £284.
- I gwblhau'ch ysgariad neu'ch diddymiad, y ffioedd ffeilo ar gyfer archddyfarniad absoliwt neu derfynol yw £107. Mae hyn yn nodi bod eich ysgariad neu'ch diddymiad yn derfynol.
- I wneud cais am wrandawiad llys, y gost yw £426 yn yr Uchel Lys neu £356 mewn Llys Sirol. Os bydd eich ysgariad neu'ch diddymiad yn cael ei herio, dim ond yr Uchel Lys all ddelio ag ef.
- Os ydych chi am wneud cais am daliadau parhaus neu gyfran yn yr eiddo neu'r pethau rydych berchen arnynt, mae'r cais hwn am ryddhad ategol yn £373 yn yr Uchel Lys a £296 mewn Llys Sirol.
(2023 Y Weinyddiaeth Gyfiawnder)
Cymorth i dalu ffioedd llys
Yng Nghymru a Lloegr
Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd llys os ydych chi ar fudd-daliadau penodol neu os oes gennych gynilion ac incwm islaw swm penodol.
Darganfyddwch fwy am gael help i dalu ffioedd llys a thribiwnlys yn GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd
Yn yr Alban
Mae yna wybodaeth am help gyda ffioedd llys ar Scottish CourtsYn agor mewn ffenestr newydd
Yng Ngogledd Iwerddon
Bydd angen i chi lenwi ffurflen ER1 i gael help gyda ffioedd llys. Lawrlwythwch y ffurflen ar wefan y Department of Justice
Faint yw ffioedd cyfreithiol a phroffesiynol?
Mae’r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn cynnig gwasanaeth ysgariad neu ddiddymiad am ffi sefydlog, ond gallant hefyd godi ffi fesul awr.
Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint o waith y bydd angen i’r cyfreithiwr ei wneud ar eich rhan.
Gallwch gapio ffioedd neu’r gwaith y dymunwch i’ch cyfreithiwr ei wneud. Ceisiwch gytuno ymlaen llaw faint o gyswllt drwy e-bost neu dros y ffôn a ddymunwch.
Cyfreithiwr (yn codi cyfradd fesul awr): Mae cyfanswm y costau’n amrywio o £2,000 i £3,000 ar gyfer setliad ariannol a negodwyd. A £30,000 (a TAW) neu fwy ar gyfer setliad sy’n cyrraedd gwrandawiad olaf mewn llys. Bydd y costau’n dibynnu ar os ydych yn ceisio penderfynu ar ofal a chymorth i’ch plant neu roi trefn ar eich arian, neu’r ddau. Bydd hefyd yn dibynnu ar faint y gallwch chi a’ch cyn bartner gytuno ar bethau rhyngoch a pha mor gymhleth yw’ch amgylchiadau.
Cyfreithiwr (yn codi ffi sefydlog): Gallai cyfanswm y costau ar gyfer llunio gorchymyn caniatâd yn dilyn setliad ariannol diwrthwynebiad gychwyn ar £250 (a TAW). Bydd ffioedd llys yn ychwanegol i hyn yn ddibynnol ar yr hyn a gytunwch â’ch cyfreithiwr. Fel arfer ni fydd hyn yn cynnwys negodi sut y dylid rhannu asedau cymhleth, er enghraifft pensiwn neu waith ychwanegol os na allwch chi a’ch cyn bartner gytuno ar setliad.
Cyfreithiwr teulu cydweithredol: Gall y costau fod yn anodd eu hamcangyfrif, ond gallent fod oddeutu £8,000 i £15,000.
Gwasanaeth ysgaru neu ddiddymu ar-lein: Cyfanswm y costau hyd at £400 os bydd cyfreithiwr yn rheoli’ch ysgariad neu ddiddymiad. Rhwng £40 a £200 os nad oes cyfreithiwr ynghlwm â’r broses a bydd angen i chi dalu ffioedd y llys. Dylech wirio a yw’r gwasanaeth sydd ar gael ar gyfer gwaith papur yr ysgariad neu’r diddymiad yn unig, neu ar gyfer y setliad ariannol hefyd.
Cyfryngwr: Mae cyfryngwyr fel arfer yn codi o £100 yr awr fel arfer. Mae’r rhan fwyaf o gyplau yn cael rhwng tair a phedair sesiwn.
Os ydych am fynd â’ch achos i’r llys, fel rheol mae nawr yn ofyniad cyfreithiol i fynychu cyfarfod Cyfryngu Gwybodaeth ac Asesu (MIAM). Disgwylir i’r person arall sy’n rhan o’r broses fynychu MIAM hefyd, ond does dim rhaid iddynt fynd i’r un cyfarfod â chi.
Darganfyddwch fwy am MIAM:
- os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr, ar Family Mediation Council
- os ydych yn byw yn yr Alban, ar Scottish Mediation
- os ydych yn byw yng Ngogledd Owerddon, ar Family Mediation NI
Os byddwch yn mynd at gyfreithiwr yn gyntaf, mae’n nhw’n debygol o siarad â chi ynghylch a allai defnyddio cyfryngu yn gyntaf helpu
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ysgariad neu ddiddymiad DIY (ei wneud eich hun)
Help drwy gymorth cyfreithiol yng Nghymru neu Loegr
Ni allwch gael cymorth cyfreithiol bellach i dalu costau’ch cyfreithiwr oni bai bod tystiolaeth o
- trais domestig (gan gwynnws trais ariannol)
- trais neu os
- gipiwyd plentyn.
Ond efallai y byddwch dal yn gallu cael cymorth cyfreithiol i helpu i dalu costau cyfryngol.
Darganfyddwch os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Help drwy gymorth cyfreithiol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban
Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i dalu tuag at gostau cyfreithiol ysgariad neu ddiddymiad.
Fe'ch asesir ar faint o incwm, cynilion, buddsoddiadau a phethau gwerthfawr sydd gennych (heb gynnwys eich prif gartref).
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth cyfreithiol os ydych chi'n derbyn budd-daliadau penodol.
Gogledd Iwerddon
- Mae cyfreithwyr yn gyfrifol am gyfrifo a ydych chi'n gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Darganfyddwch fwy ar nidirect
- I gael gwybodaeth am help gyda ffioedd llys, ewch i' wefan y Department of Justice