Gall diwedd perthynas fod yn un o'r newidiadau ariannol mwyaf y byddwch yn mynd drwyddynt yn ystod eich oes, a dyna pam ei bod mor ddefnyddiol cael cyngor proffesiynol pan ewch trwy ysgariad neu wahanu.
Mae pob gwahaniad yn wahanol, ac os oes eiddo, plant neu fusnesau a rennir, gall fod yn anodd deall yr opsiynau cyfreithiol ac ariannol sydd gennych. Gall gwahanu oddi wrth bartner neu gael ysgariad fod yn amser emosiynol, felly mae'n ddoeth cael ail farn wrth ddewis beth sydd orau i chi a'ch teulu.